skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Fideo Gynadledda Siambr Hywel Dda, Caernarfon / Dolgellau / Pwllheli

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Annwen Hughes a Sian Gwenllian, a Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Gofynnwyd i’r holl Aelodau ddatgan buddiant ar gyfer  eitem 6, Ymgynghoriad  Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ond amlinellwyd nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 371 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Medi, 2015 fel rhai cywir

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Medi, 2015 fel rhai cywir. 

5.

Y PWYLLGOR SAFONAU - ADRODD AR FAES GWAITH Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 119 KB

Derbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)   Croesawyd Dr Einir Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r Pwyllgor i gyflwyno adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau am 2014/15.

Manylodd Dr Einir Young ar brif bwrpas a swyddogaethau’r pwyllgor o hybu a chynnal safonau uchel o ymddygiad cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig Cyngor Gwynedd a chynghorau cymuned a thref Gwynedd. Cyfeiriodd at  aelodaeth y pwyllgor a’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2014/15. Ategodd eu bod yn mesur llwyddiant drwy anogaeth a hyfforddiant yn hytrach nag ymdrin â chwynion. Diolchodd i Gwilym Ellis Evans, fu’n Gadeirydd y Pwyllgor am 10 mlynedd, am ei waith diwyd a’i ymroddiad; i Sam Soysa, fu’n Is-gadeirydd, cyn i’w gyfnod ar y pwyllgor ddod i ben ac am gefnogaeth Ms Linda Byrne a fu’n aelod o’r Pwyllgor  Diolchodd hefyd i’r Swyddog Monitro a’r swyddogion eraill sy’n rhoi cefnogaeth i’r pwyllgor.

 

Diolchwyd i Dr Einir Young am gyflwyno’r adroddiad.

 

b)   Ategodd y Cynghorydd Michael Sol Owen, oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Safonau, bod eu gwaith yn heriol ac yn gosod canllawiau da ar gyfer y Cyngor a Chynghorau Cymunedau.

 

c)   Mewn ymateb i sylw ynglŷn â rhannu neges glir gyda chynghorau cymuned parthed ‘datganiad o fuddiant’, nodwyd bod cyfres o gyrsiau hyfforddiant wedi eu cynnal yn yr Hydref gyda chynghorau cymuned i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o ystyr y côd ymddygiad. Gwnaed sylw pellach bod cynghorau cymuned, yn eu cyfarfod blynyddol,  yn derbyn y côd ymddygiad - cyfle blynyddol felly i’w hatgoffâ, ond amlwg nad ydy hyn yn ymarfer cyson.

 

d)   O gofio rôl benodol y Pwyllgor o edrych ar  wasanaethau i aelodau, gofynnwyd a oedd mwy y gellid ei wneud o ran cefnogaeth i aelodau’r Cyngor yng nghyd destun ymddygiad, neu a oedd digon wedi ei wneud yn barod.

 

Mewn ymateb, amlygodd y Swydd Monitro ddau ddatblygiad diweddar

-       Prawf Budd Cyhoeddus 

-       Y cysyniad o hawl i rwydd hynt i siarad mewn fforwm Gwleidyddol  lle gellid derbyn trafodaeth a beirniadaeth gadarn.

 

Nododd bod bwriad i gynnal gweithdy hyfforddiant yn y Gwanwyn i hyrwyddo'r datblygiadau hyn. O safbwynt gwaith y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, y bwriad oedd amlygu rôl y Pwyllgor Safonau a chreu perthynas mwy amlwg gyda’r aelodau drwy godi ymwybyddiaeth o’r gwaith a chynnal rhaglen ymgysylltiol i rannu gwybodaeth i gadw'r côd yn fyw yn y meddwl.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a diolch i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor am eu gwaith pwysig.

 

 

6.

YMGYNHGORIAD Y PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL pdf eicon PDF 202 KB

Derbyn adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i ysgogi

trafodaeth ar gynigion drafft  y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol. O ran cefndir yr adroddiad, eglurwyd mai Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sydd yn gyfrifol am bennu cyflogau a chostau sydd yn daladwy i gynghorwyr yn rhinwedd eu dyletswyddau. Yn flynyddol, bydd y Panel yn cyhoeddi cynigion drafft ac yn ymgynghori arnynt, ond yn hanesyddol, nid oes llawer o destun trafod ar yr argymhellion gan ei fod yn cymryd agwedd gyffredin at y cyflogau a’r costau a delir i bob cynghorydd. Ategwyd bod angen sylw pellach i rai o’r cynigion eleni, a thynnwyd sylw at yr awgrymiadau hynny yn yr adroddiad - y peth sylfaenol oedd na fydd cynnydd yn y cyflog sylfaenol.

 

b)    O ran y newidiadau eraill, nodwyd eu bod yn amrywio  o ran barn, ond bod

angen trafodaeth ynglŷn ag awgrym o gyflwyno dwy haen i’r  Cabinet; awgrym o ddwy  haen  i gadeiryddion Pwyllgorau ac awgrym bod arweinydd yr wrthblaid fwyaf i’w osod ar yr un lefel o ail haen y cadeiryddion.

 

c)    Nodwyd eleni, mai un peth oedd wedi achosi pryder, a bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi tynnu sylw ato, yw bod Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ysgrifennu at y Panel yn tynnu sylw at yr angen i gadw llygad

a lleihau gwariant cyhoeddus. Ategwyd anfodlonrwydd Cymdeithas Llywodraeth Leol tuag at hyn a dadleuwyd y byddai’n ymddangos bod  ymyrraeth wleidyddol

ar  y penderfyniad. Cydnabuwyd y llythyr, ond  gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth fydd y Panel.

 

d)    Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

 

-       Awgrymwyd bod y drefn bresennol yn dderbyniol

-       Derbyn bod cyfrifoldeb cadeiryddion yn amrywio o ran amlder

cyfarfodydd ac felly ystyriwyd bod cynnig y Panel yn un rhesymol

-       Y dylid ceisio cydnabyddiaeth i Is Gadeirydd sydd yn sefyll i mewn dros y Cadeirydd am gyfnod

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac awdurdodi’r swyddogion i gyfleu’r sylwadau yn yr adroddiad i’r Panel

 

7.

E-BYST CYNGHORWYR pdf eicon PDF 369 KB

Derbyn adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Cofnod:

 

 

a)   Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn argymell y Pwyllgor i gadarnhau'r weledigaeth a’r penderfyniad gwreiddiol o ddefnydd  e-byst Cynghorwyr.  Atgoffwyd yr aelodau bod y weledigaeth honno wedi cael ei mabwysiadau gan Bwrdd y Cyngor 27.3.2012 lle penderfynwyd  ei bod yn orfodol i Aelod Etholedig dderbyn a defnyddio e-bost corfforaethol y Cyngor. Cyfeiriwyd at y rhesymau dros ddefnyddio cyfeiriad corfforaethol yn hytrach na chyfeiriad e-bost personol. Amlinellwyd mai'r defnydd o dechnoleg electroneg yw prif ddull gohebu gydag Aelodau  - yn rhan o frand y Cyngor ac yn gyfle i Aelodau Etholedig weithredu dan yr un faner a staff y Cyngor.

 

b)   Nodwyd yn ddiweddar bod ambell Aelod wedi gwneud cais i dderbyn gohebiaeth drwy gyfeiriadau e-bost personol ac nad oedd hyn wedi ei ganiatau hyd yma (yn bennaf oherwydd nad oedd unrhyw sicrwydd o ddiogelwch gyda defnydd e-bost personol). Ategwyd hefyd, bod cyfrif e-byst corfforaethol  y Cynghorwyr yn  cau os na fydd yr aelod wedi ei ddefnyddio o fewn 12 mis.

 

c)   Mewn ymateb i  gwestiwn ynglŷn â  sut mae cysylltu gydag aelod sydd ddim yn defnyddio e-byst, eglurwyd bod y rhai hynny sydd wedi ein hysbysu o’u penderfyniad  yn derbyn pob dim drwy lythyr / copi papur. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae cyfrifon ebyst aelodau wedi eu cau yn awtomatig gan nad ydynt wedi eu defnyddio am gyfnod o dros 12 mis, ac nid oedd yr Adran yn ymwybodol o’r diffyg defnydd, ac felly nad oedd aelodau yn derbyn gohebiaeth o gwbl.  Mewn ymateb pellach at newidiadau a chyfyngiadau diweddar o ran defnydd e-byst ar gyfrifiadur personol, nodwyd bod nodyn wedi ei yrru i bob aelod trwy Rhaeadr i gyfarch hyn a bod yr Adran Technoleg wedi ymateb yn hwylus ac effeithiol. Yng nghyd destun cael mynediad at e-byst o ffôn symudol, nodwyd bod yr Adran Dechnoleg yn gweithio ar declyn all alluogi hyn (diweddariad i’w gyflwyno ym mis Chwefror).

 

d)   Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

 

-       pryder nad oedd rhai Aelodau yn defnyddio cyfrif e-bost y Cyngor

-       anodd deall sut mae Cynghorydd yn gwneud ei gwaith yn effeithiol heb   ddefnyddio / derbyn gwybodaeth drwy e-byst

-       cyfrif e-bost corfforaethol yn sicrhau cyfathrebu teg a chywir

-       derbyn bod fframwaith cadarn a diogel yn ei lle

 

 

PENDERFYNWYD cadarnhau eto benderfyniad gwreiddiol y Cyngor ynghylch gweledigaeth a chyfeiriadau e-bost swyddogol y Cynghorwyr:

-       pwysleisio wrth y nifer fechan  hynny sydd ddim yn defnyddio eu cyfrif e-bost  corfforaethol y dylid gwneud hynny ac

-       annog y rhai hynny sydd wedi penderfynu peidio defnyddio’r dechnoleg i ail ystyried eu penderfyniad.

 

 

 

 

8.

GWE-DDARLLEDU pdf eicon PDF 230 KB

Derbyn adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Cofnod:

a)   Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i rannu gwybodaeth ar y defnydd o’r system we-ddarlledu sydd bellach wedi bod yn weithredol ers 2015. Nodwyd bod y Cyngor bellach wedi gwe ddarlledu 23 o gyfarfodydd gyda chyfanswm nifer y gwylwyr oddeutu 3400.

Adroddwyd ei bod yn briodol bellach i asesu i ba raddau y mae’r Cyngor am barhau gyda’r drefn o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Nodwyd bod y niferoedd gwylio yn gymharol fach o gymharu gyda chynghorau eraill a bod gwahaniaethau amlwg rhwng Cyfarfodydd. Ymddengys hefyd, wrth ddadansoddi'r ffigyrau fesul cyfarfod, mai'r ‘pwnc’ sydd yn gyrru’r gwylio ac felly, os am barhau, bod  llawer eto y gellid ei wneud i godi ymwybyddiaeth a chynyddu diddordeb.

Ategwyd mai arian grant sydd wedi bod yn cyfarch cost y system hyd yma a bod y grant yn dirwyn i ben. Yn dilyn arolwg diweddar, nodwyd bod rhai cynghorau wedi amlygu gwahaniaeth barn ynglŷn â pharhau gyda'r ddarpariaeth a hyn oherwydd cyfnod lle mae toriadau mewn gwasanaethau yn bwnc dadleuol. Yng Ngwynedd, amlygwyd  bod cyfle  i geisio gwella’r cyswllt rhwng y ddarpariaeth fideo gynadleddau ar gallu i fynychu o bell i arbed costau i’r Cyngor drwy ail gyfeirio adnoddau presennol i barhau gyda’r gwasanaeth gwe-ddarlledu.

 

b)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chost y system, nodwyd mai un cwmni sydd yn gwasanaethu’r mwyafrif o Gynghorau a bod modd negodi pris am eu gwasanaeth.

c)   Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       cefnogi'r angen i barhau ond pryder am y gost

-       angen codi ymwybyddiaeth a diddordeb

-       Megis dechrau mae'r broses ac felly cynnig buddsoddiad pellach am flwyddyn arall o leiaf

PENDERFYNWYD parhau gyda System Gwe-ddarlledu y Cyngor gan negodi pris o ran costau a chynnal trafodaethau pellach ar sut i gynyddu’r diddordeb.

 

9.

ADRODDIADAU BLYNYDDOL 2014 / 2015 pdf eicon PDF 465 KB

Derbyn adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Cofnod:

 

a)   Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru’r aelodau ar y nifer o adroddiadau blynyddol a gyhoeddwyd yn 2014/2015 ynghyd a chais am sylwadau i hwyluso trefniadau ar gyfer 2015/2016.

 

Amlygwyd bod y nifer o Aelodau etholedig sydd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 39 wedi cwblhau eleni.

 

b)   Mewn ymateb i’r adroddiad nodwyd bod angen sicrhau mai adroddiad ffeithiol yw'r adroddiad am y Cynghorydd. I sicrhau hyn rhaid cadw at y canllawiau cyfreithiol er mwyn osgoi’r posibilrwydd o orfod golygu'r hyn gall ei gynnwys a’r hyn y dylid ei adael allan. Cynigiwyd hefyd y dylid dosbarthu’r canllawiau gyda’r templed er mwyn hwyluso’r drefn. Ategwyd, er y gall adroddiad ymddangos yn ddi fflach, cyhoeddiad y Cyngor ydyw o waith y Cynghorydd ac nad oed unrhyw beth yn rhwystro cynghorydd rhag cyhoeddi adroddiad eu hun, ar gyfryngau cymdeithasol eraill er enghraifft.

 

c)   Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       angen gosod mwy o gyd- destun

-       angen ail edrych ar y  canrannau presenoldeb

-       cynnig gosod niferoedd cyfarfodydd mewn blwyddyn v presenoldeb

-       a oes sylwadau / ymateb  wedi eu derbyn gan y cyhoedd

-       a oes modd cynnwys rhesymau dros absenoldeb?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd nad oedd ymateb gan y cyhoedd wedi ei dderbyn ond bod posib gwneud ymholiadau pellach. O ran presenoldeb, amlygwyd y bydd system Mod Gov hefyd yn cofnodi canrannau presenoldeb fydd yn cael eu cyhoeddi ar y wefan - bydd modd caniatáu cynnwys rhesymau dros absenoldeb ar y templed ond nid ar y system Mod Gov.

PENDERFYNWYD diwygio’r templed i gyfarch y sylwadau uchod ynghyd a dosbarthu'r canllawiau gyda’r templed.

 

10.

ADRODDIAD DIWEDDARU IS-GRWP AMRYWIAETH pdf eicon PDF 391 KB

Derbyn adroddiad Cadeirydd yr Is Grŵp Amrywiaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)   Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd yr  Is-grŵp Amrywiaeth ar waith diweddar  yr is-grŵp ynghyd a’r wybodaeth y maent wedi ei gasglu i lunio rhaglen waith. Atgoffwyd yr aelodau bod yr Is-grŵp wedi ei sefydlu ym mis Chwefror 2015 mewn ymateb i adroddiad cenedlaethol ac arweiniad yn Neddf Llywodraeth Leol 2012 i geisio cynnydd amrywiaeth mewn llywodraeth Leol.

 

b)   Nodwyd bod yr is-grŵp wedi bod yn edrych ar sefyllfa gyfredol Gwynedd o gymharu proffiliau Aelodau etholedig Gwynedd gyda phroffiliau  trigolion y Sir - edrychwyd ar ystadegau yn ymwneud ag oedran, rhyw, cefndir ethnig ac anabledd. Yn dilyn dadansoddiad o’r sefyllfa lluniwyd rhaglen waith er mwyn ceisio gwahaniaeth ar gyfer Etholiad 2017.

c)   Trafodwyd y rhaglen waith fesul pennawd.

 

d)   Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

 

-          Cyfle yma i hybu / annog /rhannu gwybodaeth / hyfforddi ieuenctid y Sir drwy Glybiau Ieuenctid, Clybiau Ffermwyr Ifanc ayyb

-          Angen hybu ymarfer da

-          Cyflwyno pobl drwy faterion penodol i annog diddordeb

-          Awgrym  i annog ymweliadau â Phwyllgorau / gwylio gweddarllediad

-          Cyngor Ysgolion - derbyn eu bod yn bwysig ond angen cynyddu eu dealltwriaeth o Ddemocratiaeth

-          Annog cyflogwyr i fod yn hyblyg i ryddhau unigolion sydd yn ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth

-          Awgrym i ystyried cyfarfodydd gyda’r nos

-          Awgrym i gynnig hyfforddiant i rai sydd yn ystyried bod yn gynghorydd

 

e)   Mewn ymateb, nodwyd bod y Llywodraeth wedi adnabod rhwystr o ran hyblygrwydd gan gyflogwyr ac yng nghyd desun cyfarfodydd gyda'r nos, bydd y Cyngor yn ymgynghori ar hyn yn flynyddol.

 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r rhaglen waith arfaethedig

11.

SIARTER AELODAU - swydd ddisgrifiadau pdf eicon PDF 201 KB

Derbyn adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

 

Cofnod:

a)   Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi diweddariad ar gyfer ennill Siarter Aelodau i Gyngor Gwynedd. Argymhellwyd y dylid gweithredu mewn dau gam. Y cam cyntaf fydd i swyddogion sicrhau eglurder o’r sefyllfa gyfredol ac yn ail i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd sefydlu grŵp bychan o Gynghorwyr i edrych ar y gwaith o ennill y Siarter i Gyngor Gwynedd, gan gychwyn gyda’r gwaith ar y swydd ddisgrifiadau.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad gan awgrymu y dylid parhau i geisio ennill Breinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr Cymru