skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Peter Read a Robin Williams (Cyngor Ynys Môn)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

·         Cynhadledd Llywodraethu’r CPLlL, Gwesty’r Principal, York

23 – 24 Ionawr 2020

 

Nodwyd nad oedd y Cynghorydd Peredur Jenkins ar gael i fynychu’r gynhadledd yn York. Enwebwyd y Cynghorydd Aled Wyn Jones i fynychu yn ei le.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 71 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Mai 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Mai 2019 fel rhai cywir.

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2019 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 58 KB

 

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth gyfrifon terfynol cronfa bensiwn Gwynedd. Nodwyd bod y datganiad yn cynnwys manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2019. Ynghyd a’r cyfrifon, fuodd yn destun archwiliad gan gwmni Deloitte, cyflwynwyd adroddiad ISA260 ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn manylu ar ddarganfyddiadau’r archwilwyr. Adroddwyd bod y cyfrifon wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r llythyr cynrychiolaeth wedi ei awdurdodi gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Pennaeth Cyllid yng nghyfarfod o’r Pwyllgor 29ain Gorffennaf 2019.

 

Cyfeiriwyd at ddau o strategaethau allweddol y Gronfa, y datganiad strategaeth cyllido a’r datganiad strategaeth buddsoddi.

 

Tynnwyd sylw at gyfrif y Gronfa, oedd yn nodi gwerth y Gronfa fel ag yr oedd 31 Mawrth 2019. Gwelwyd cynnydd o £143 miliwn yn yr asedau net dros y flwyddyn 2018-2019 oedd yn dod a gwerth y Gronfa i dros £2biliwn.

 

Eglurwyd y cynnydd mewn gwariant ar ffioedd rheoli asedau, ac mewn ymateb i sylw, eglurwyd y gostyngiad mewn cyfraniadau rhwng 2017-2018 a 2018-2019, oherwydd bod 2017-2018 wedi bod yn flwyddyn pryd talwyd gwerth 3 blynedd o gyfraniadau adfer diffyg (cyfeiriwyd at nodyn 7 yn yr adroddiad).

 

PENDERFYNWYD derbyn

-       Y Datganiad o’r Cyfrifon 2018 -19 (ôl archwiliad)

-       Yr Adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd

-       Y Llythyr Cynrychiolaeth

 

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2018/19 pdf eicon PDF 183 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd oedd yn darparu adolygiad o’r flwyddyn 2018–2019, adroddiad rheoli a manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa. Eglurodd y Pennaeth Cyllid bod amserlen archwilio’r cyfrifon wedi newid ac o ganlyniad wedi rhoi cyfle i gwblhau’r adroddiad yn gynt na’r arfer. Roedd hyn yn rhoi cyfle i’r aelodau gynnig sylwadau cyn cyflwyno yn ffurfiol i’r holl gyflogwyr yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gronfa Bensiwn 24.10.2019. Pwysleisiwyd bod y cyfrifon eisoes wedi eu cymeradwyo ac felly dim modd eu haddasu.

 

Amlygwyd bod gwerth y gronfa ar y 31ain o Fawrth 2019, bellach yn fwy na £2 biliwn a bod cynnydd cyson wedi bod i werth y gronfa ers 2000. Cyfeiriwyd at ystadegau aelodaeth, gan adrodd bod nifer y pensiynwyr ynghyd a nifer y cyfranwyr wedi cynyddu. Mewn ymateb i sylw bod hyn efallai yn groes i ystyriaeth yng nghyd-destun niferoedd staff o ystyried yr hinsawdd bresennol, awgrymwyd bod cytundebau gwaith rhan amser v llawn amser yn un esboniad.

 

Dros y 12 mis diwethaf, eglurwyd bod perthynas gyda chyflogwyr y gronfa wedi gwella, gyda gweithdai hyfforddi wedi ei cynnal i sicrhau  bod data yn cael ei dderbyn yn gywir ac amserol ar gyfer y cyfrifon.

 

Diolchwyd i’r staff am eu gwaith a chyfeiriwyd at y gydnabyddiaeth a dderbyniwyd yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru am safon y gwaith.

 

Cymerodd y Pennaeth Cyllid y cyfle i gyhoeddi bydd Caroline Roberts (Rheolwr Buddsoddi) a Nicholas Hopkins (Rheolwr Pensiynau) yn ymddeol cyn diwedd y flwyddyn. Diolchwyd i’r ddau am eu gwaith caled dros y blynyddoedd.

 

PENDEFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

 

7.

BUDDSODDIAD YN Y BARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) pdf eicon PDF 91 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi’r angen i’r Pwyllgor wneud penderfyniad swyddogol i drosglwyddo’r Gronfa Bond Dychweliad Absoliwt Insight sydd gan Gronfa Bensiwn Gwynedd. Adroddwyd bod Hymans Robertson, mewn cyfarfod diweddar o’r Panel Buddsoddi (16 Mai 2019) wedi cyflwyno a thrafod yr opsiynau  ac mai barn y panel oedd trosglwyddo’r holl asedau o Insight i Gronfa Bond Dychweliad Absoliwt Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Eglurwyd hefyd, pan drosglwyddwyd ecwiti i’r Bartneriaeth Pensiwn Cymru, daliwyd cyfran o asedau yn ôl, er mwyn lleihau’r risg trwy ei fuddsoddi yng Nghronfa Credyd Aml-Asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Ategwyd y byddai’r trosglwyddiad yma o Fidelity yn digwydd yn yr un cyfnod â’r trosglwyddiad o Insight.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â barn y Panel Buddsoddi, gadarnhau’r buddsoddiadau yng nghronfeydd canlynol Partneriaeth Pensiwn Cymru:

 

-       Cronfa Bond Dychweliad Absoliwt (holl asedau o Insight).

-       Cronfa Credyd Aml-Asedau (asedau ecwiti byd-eang o Fidelity).

 

8.

BUDDSODDIAD ECWITI CARBON ISEL pdf eicon PDF 83 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi’r angen i’r Pwyllgor gadarnhau buddsoddiadau carbon isel. Mewn cyfarfod diweddar o’r Panel gyda Hymans Robertson trafodwyd yr opsiynau posib ar gyfer buddsoddiad carbon isel er mwyn cyrraedd y meincnod strategol o 12% sydd o fewn y dyraniad o 29% o'r ecwiti goddefol cyfredol sydd gan Gronfa Gwynedd. Barn y Panel oedd buddsoddi 12% o gyfanswm y gronfa yng nghronfa ecwiti Carbon Isel y Byd BlackRock. Gan fod cronfeydd BlackRock yn rhan o broses o gaffaeliad ecwiti goddefol 2016 a gynhaliwyd gan Gronfeydd Pensiwn Cymru, eglurwyd nad oedd angen mynd trwy broses gaffael ffurfiol.

 

Ategwyd bod y buddsoddiad yma yn un cyfrifol ac yn ymateb i ofynion y Cyngor ynghyd ag egwyddorion buddsoddi'r Pwyllgor Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â barn y Panel Buddsoddi, bod 12% o Gronfa Bensiwn Gwynedd yn symud o’r dyraniad ecwiti goddefol cyffredinol cyfredol gyda BlackRock i gronfa ecwiti goddefol carbon isel gyda BlackRock.

 

9.

PRISIAD ACTIWARAIDD TEIR-BLYNYDDOL 2019 pdf eicon PDF 360 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er  gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn darparu gwybodaeth gyffredinol a throsolwg o’r broses prisio gyfredol ar gyfer cynnal prisiad actiwaraidd teir-blynyddol, ynghyd ag amserlen arfaethedig.

 

Eglurwyd bod data’r prisiant wedi ei gyflwyno i’r actwari ar y 16eg o Orffennaf a bod gwaith eisoes wedi ei ddechau ar yr ymateb i ymholiadau pellach a gafwyd gan Hymans.

 

Nodwyd mai cyfrifoldeb y cyflogwyr yw cyflwyno gwybodaeth gywir ac amserol i swyddogion yr Uned Pensiynau. Adroddwyd bod ansawdd y data eleni yn dderbyniol ar yr olwg cyntaf, a bod pob cyflogwr wedi cwrdd gyda’r gofynion amser. Gwerthfawrogwyd gwaith y cyflogwyr a staff yr Uned Pensiynau.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

 

10.

RHAGDYBIAETHAU PRISIAD 2019 pdf eicon PDF 62 KB

I ystyried adroddiad y Penaneth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried a chymeradwyo rhagdybiaethau arfaethedig er mwyn gosod targed ariannu ar gyfer prisiad teir-blynyddol cyfredol y Gronfa fel ar 31 Mawrth 2019. Cyfeiriwyd at fanylion llawn y rhagdybiaethau mewn adroddiad a dderbyniwyd gan Actwari’r Gronfa oedd wedi ei gynnwys fel atodiad i’r adroddiad. Amlygwyd nad oedd rhagdybiaethau wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor o’r blaen ac ystyriwyd mai priodol fyddai rhannu’r wybodaeth er mwyn sicrhau tryloywder. Ategwyd mai prif flaenoriaeth y Pwyllgor yw sicrhau bod buddiannau'r gronfa yn saff, ond bod gwaith hefyd yn cael ei wneud i gadw balans buddiannau cronfa bensiwn yn erbyn costau cyflogwr.

 

Adroddwyd mai un newid yn unig oedd i’r rhagdybiaethau, sef rhagdybiaeth codiadau cyflog. Yn dilyn cyngor gan Hymans penderfynwyd addasu’r ffigwr i CPI +0.3% fyddai’n ymateb i ddisgwyliadau codiadau cyflog tymor byr uwch, gan adlewyrchu’r tueddiad diweddar. Bydd ymgynghoriad ffurfiol gyda’r cyflogwyr ar y rhagdybiaethau ynghyd â diwygiadau eraill i’r Datganiad Strategaeth Gyllido o brisiad 2019 yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i sylw y gall gormod o wybodaeth fod yn gymhleth ac mai gweld gwerth yn unig yw dyhead y trethdalwr, nodwyd bod rhannu’r wybodaeth yn briodol a bod eisiau amlygu'r angen am gynigion o’r newydd i geisio gwell buddiannau i’r gronfa.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhagdybiaethau arfaethedig er mwyn gosod y targed ariannu ar gyfer prisiad teir-blynyddol cyfredol y Gronfa fel ar 31 Mawrth 2019.