Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18.01.18 fel rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn a Peter Read |
|
I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth
Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor,
fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, i baratoi Strategaeth
Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd
(y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor
Gwynedd am 2018/19, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT
Cyngor Gwynedd am 2018/19 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 8 Mawrth 2018. Yn ychwanegol, gofynnwyd i’r Pwyllgor Pensiynau
wneud cais i’r Cyngor, i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i
gael ei gronni gyda llif arian cyffredinol yr Awdurdod o’r 1af o Ebrill ymlaen.
Eglurwyd bod cronni'r llif arian yn denu llog uwch ac yn isafu costau bancio. Amlygwyd
bod yr arian yma yn cael ei fuddsoddi gyda gwrthbartion yn unol â’r DSRhT er mwyn uchafu dychweliadau. Tynnwyd sylw at y
prif amcanion gan amlygu bod Cod CIPFA a Chanllaw LlC yn ei gwneud yn
ofynnol i’r Awdurdod fuddsoddi ei gronfeydd yn ddarbodus,
gan roi ystyriaeth i ddiogelwch a hylifedd ei fuddsoddiadau cyn ceisio’r gyfradd enillion uchaf, neu’r cynnyrch
uchaf. Nodwyd bod cyfraddau llog bellach yn isel iawn ac
felly dulliau creadigol eraill o fuddsoddi yn cael eu hystyried. Cadarnhawyd
hefyd mai cadw'r Gronfa yn saff a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid
cymryd risg. Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion. Awgrymodd un aelod yr angen am ddatganiad gan y
Swyddog Monitro ar ddechrau’r adroddiad yn mynegi bod y trefniant yn
gyfreithiol gywir ac eglurhad ar sut mae’r broses yn cael ei rheoli. PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth
Buddsoddi Flynyddol am 2018/19, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. - Gofyn i’r Cyngor ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael
ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2018 ymlaen. |
|
BUDDSODDI A LLYWODRAETHU CYFRIFOL PDF 184 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: Yn dilyn sesiwn hyfforddiant a gynhaliwyd ar y cyd ag aelodau’r Bwrdd ar
18.1.2018, adroddwyd bod Paul Potter o Hymans wedi paratoi adroddiad oedd yn
amlinellu egwyddorion buddsoddi cytunedig aelodau a swyddogion Gwynedd ar sail
ymatebion i holiadur a gwblhawyd ar gyfer y sesiwn. Nodwyd fod yr adroddiad
hwnnw, ‘Cytuno Credau Buddsoddi Cyfrifol’ wedi’i drafod yn y Panel Buddsoddi a
gynhaliwyd ar yr 28ain o Chwefror, a chyflwynwyd prif ystyriaethau'r Panel i’r
Pwyllgor er mwyn cymeradwyo’r egwyddorion. Y cam nesaf fydd cyflwyno’r egwyddorion a restrwyd i’r Bwrdd Pensiwn
(12.4.18) i’w graffu. Os bydd y Bwrdd yn gytûn bydd modd ymgorffori’r
egwyddorion fel rhan swyddogol o Ddatganiad Strategaeth Buddsoddi’r Gronfa. Mewn ymateb i’r adroddiad, amlygwyd bod derbyn yr egwyddorion yn
amserol yng nghyd – destun Partneriaeth
Pensiwn Cymru. Bydd gan Wynedd farn glir am eu hegwyddorion buddsoddi. Croesawyd yr egwyddor o edrych i fuddsoddi mewn asedau cynaliadwy, gan
gynnwys buddsoddi o fewn ardal Cymru pan fydd
‘buddiannau anariannol’ yn deillio o hynny. Ategwyd bydd y Gronfa yn
ystyried buddsoddi mewn asedau Cymru pan fydd y meini prawf yn caniatáu hynny.
Sicrhau'r enillion gorau fydd prif flaenoriaeth y Gronfa. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â geiriad egwyddorion 2.1 a 2.2 a’r
awgrym bod y datganiadau yn gwrth-ddweud ei gilydd, nodwyd yr angen i ystyried
yr egwyddorion yn eu cyd-destun llawn, heb dorri'r brawddegau i fyny a
chanolbwyntio ar eiriau unigol. Eglurodd y Pennaeth Cyllid fod dehongliad cyfreithiol y “SAB” o’r
“dyletswydd ymddiriedol” wedi’i gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor cyn cyfarfod y
Panel Buddsoddi. PENDERFYNWYD mabwysiadu'r egwyddorion
sylfaenol ynghylch buddsoddi cyfrifol fel bod modd eu cynnwys yn Natganiad
Strategaeth Buddsoddi’r Gronfa. 2.1 Yn unol â dyletswydd ymddiriedol y
Pwyllgor, dylai ystyriaethau ariannol gario mwy o bwysau nac ystyriaethau
anariannol wrth wneud penderfyniadau buddsoddi, er gall faterion amgylcheddol,
cymdeithasol a llywodraethu (‘ESG’) gael effaith materol ar risg a
dychweliadau. Felly, dylai ffactorau ‘ESG’ gael eu mewnblannu yn y prosesau
buddsoddi a phrosesau penderfynu’r rheolwyr penodwyd gan y Gronfa. 2.2 Bydd Pwyllgor y Gronfa yn edrych i
fuddsoddi mewn asedau cynaliadwy, gan gynnwys buddsoddi o fewn ardal Cymru pan
fydd buddiannau anariannol yn gallu deillio o hynny, yn amodol ar fodloni
gofynion y ddyletswydd ymddiriedol. 2.3 Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod ganddynt
ddyletswydd i fod yn fuddsoddwr cyfrifol. Disgwylir y bydd ymgysylltu gyda
chwmnïau, yn hytrach na pheidio buddsoddi, yn fwy effeithiol i newid ymddygiad
corfforaethol a lleihau risg. Lle’n bosib, mae gweithrediad cydweithredol yn
cynnig y ffordd fwyaf llwyddiannus er mwyn dylanwadu ar allbynnau. 2.4 Fel buddsoddwr hirdymor, mae’r Gronfa yn
agored i risgiau systematig megis newid yn yr hinsawdd a’r disgwyliad i
drawsnewid i economi carbon-isel. Gellir gwella deilliannau ariannol wrth reoli
pa mor agored i risgiau o’r fath y mae’r Gronfa. 2.5 Gellid gwella dealltwriaeth rhanddeiliad a
gwella deilliannau trwy ddatgelu ar hyd pob cam o’r gadwyn ychwanegu gwerth. |