Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Seimon Glyn a Tudor Owen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
15.09.16 fel rhai cywir . Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15fed o Fedi 2016 fel rhai cywir. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2016/17 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN PDF 451 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: Rhoddwyd cyflwyniad a chefndir yr
adroddiad, er gwybodaeth, gan y
Rheolwr Buddsoddi yn egluro ei bod yn ofynnol dan Gôd Ymarfer
CIPFA i gynghorau adrodd ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys o leiaf
ddwywaith y flwyddyn. Amlygwyd yn yr adroddiad weithgareddau’r trysorlys ynghyd
a’r monitro risg a rheolaeth risg gysylltiedig. Nodwyd bod cyfraddau llog y Banc cyfradd
sylfaenol wedi lleihau i 0.25% ym mis Awst a byddai effaith hyn yn cymryd amser
i weithio drwy’r system. Awgrymwyd hefyd y byddai’r cyfraddau llog yn debygol o
leihau ymhellach gyda sylw yn cael ei wneud ar gyflwyno cyfraddau llog
negyddol. Amlygwyd bod seminar yn cael ei gynnal ym mis Ionawr gydag
Arlingclose (Ymgynghorwyr Trysorlys y Cyngor) i drafod rheolaeth trysorlys -
nodwyd bod aelodau’r Pwyllgor Archwilio
eisoes wedi cael cynnig a bod y gwahoddiad hynny yn cael ei ymestyn i aelodau’r
Pwyllgor Pensiynau. Yng nghyd-destun buddsoddiadau Banc
Heriatable, nodwyd bod yr awdurdod bellach wedi adennill 98% o fuddsoddiadau
gyda’r tebygolrwydd y bydd dosraniadau pellach. PENDERFYNWYD
DERBYN YR ADRODDIAD ER GWYBODAETH |
|
PRISIAD ACTIWARAIDD 2016 - DIWEDDARIAD AR Y BROSES PDF 200 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Yn dilyn derbyn cyfraddau unigol cyfraniadau
cyffredinol cyflogwyr bore'r 10fed o Dachwedd, adroddwyd bod y sefyllfa yn un
dda. O ran lefel cyllido ar sail ariannu cytunedig, nodwyd bod y diffyg ariannu
wedi ei leihau o 85% yn 2013 i 91% yn 2016. Adroddwyd mai'r prif reswm dros y
newid oedd bod y dychweliadau buddsoddi wedi bod yn well na’r hyn a ragwelwyd.
Nodwyd y byddai lefel cyfraniadau pensiwn cyflogwr i ariannu ymrwymiadau
gwasanaeth y gorffennol yn lleihau. Fodd bynnag, bydd prisiad ymrwymiadau gwasanaeth
y dyfodol, a lefel cyfraniadau pensiwn cyflogwyr bydd ei angen er mwyn ariannu’r ymrwymiadau
hynny, yn cynyddu. PENDERFYNWYD
DERBYN YR ADRODDIAD |
|
DIWEDDARIAD PWLIO BUDDSODDIADAU PDF 195 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Buddsoddi yn
darparu diweddariad ar y sefyllfa o pŵlio buddsoddiadau
yng Nghymru. Atgoffwyd yr aelodau bod yr
8 gronfa CPLlL yng Nghymru wedi cyflwyno cynnig i Lywodraeth y DU er mwyn
galluogi pwlio eu buddsoddiadau o £13bn. Prif amcan y fenter yw cyflawni
arbedion ar gostau rheolaeth buddsoddiadau trwy ddarbodion maint a darparu
mynediad i’r cronfeydd at gyfleoedd buddsoddi dichonol ystod eang. Adroddwyd bod y fenter yn creu gwaith
ychwanegol, manwl a chymhleth e.e., -
trefniadau cydweithio, ymofyn cyngor cyfreithiol a sefydlu cytundebau. Er
hynny, bydd llwyddiant y fenter yn sicrhau dychweliadau gwell i’r gronfa. Mewn ymateb i gwestiwn, adroddwyd y byddai
Cronfa Gwynedd yn parhau fel cronfa unigol ac y byddai’r Pwyllgor Pensiynau yn
parhau i ddewis y rhaniad o’r portffolio rhwng y categoriau o fuddsoddiadau,
ond bod y cwmniau sy’n rheoli’r buddsoddiadau hynny yn opsiynau o fewn y pwl. PENDERFYNWYD
DERBYN YR ADRODDIAD ER GWYBODAETH |
|
DIWEDDARIAD AR YR YMARFERIAD CYSONI ISAFSWM PENSIWN GWARANTEDIG (IPG) PDF 228 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Pensiynau Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Pensiynau ar
yr ymarferiad o gysoni Isafswm Pensiwn Gwarantedig (IPG). Atgoffwyd yr aelodau
bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar y 15fed o Dachwedd 2015 wedi cymeradwyo
sefydlu tîm mewnol i gysoni'r IPG yn unol ag argymhellion CThEM. Er mwyn
cwblhau'r dasg erbyn 31 Mawrth 2018, eglurwyd bod angen ymestyn cytundebau
gwreiddiol aelodau’r timau er mwyn ymateb i’r cynnydd yn y gwaith (cyfanswm
costau o Ionawr 2017 - Mawrth 2018 = £81,972). Amlygwyd byddai'r gost yn
rhesymol iawn o gymharu â chronfeydd eraill Cymru gan fod rhai yn ystyried
allanoli’r gwaith, ar gost a amcangyfrifwyd yn £500k. Yn ychwanegol, nodwyd bod y Trysorlys, i
symleiddio’r broses o gysoni data, wedi argymell bod y swm IPG wythnosol a
delir gan y Cynllun Pensiwn Sector Gyhoeddus a CThEM, o fewn lefel goddef o £2
yr wythnos. Nodwyd bod y Llywodraeth yn awgrymu y dylid sicrhau cymeradwyaeth y
Pwyllgor ar gyfer y lefel goddef yma. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau
ymestyn cytundebau, adroddwyd bod arbenigrwydd unigryw yn bodoli o fewn y tîm,
ac felly synnwyr cyffredin fyddai defnyddio'r adnodd werthfawr yma. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lefel
goddef o £2 yr wythnos, amlygwyd bod yr ymarfer yn galluogi ein staff i gau
ffeil, yn hytrach na chanolbwyntio yn ormodol
a’r fanylion mân. PENDERFYNWYD
DERBYN YR ADRODDIAD i.
CYMERADWYO
PARHAU I ARIANNU’R PROSIECT CYSONI HYD AT DDIWEDD MAWRTH 2018, ER MWYN CANIATÁU
I’R PENNAETH CYLLID YMESTYN CYTUNDEBAU Y STAFF DROS DRO. ii.
CYMERADWYO LEFEL
GODDEFIANT O £2 YR WYTHNOS ER MWYN SYMLEIDDIO’R BROSES O GYSONI GWYBODAETH. |