Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2015/16

Cofnod:

Penderfynwyd ail - ethol y Cynghorydd Tudor Owen yn gadeirydd y pwyllgor am 2015/16

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2015/16

Cofnod:

Penderfynwyd ail - ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn is-gadeirydd y pwyllgor am 2015/16

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Margaret Lyon (Cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) a Peter Read

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Diweddariad ar sefydlu Bwrdd Pensiwn Cyngor Gwynedd.

 

(a)       Yn dilyn proses cyfweld, adroddwyd bod chwe aelod wedi eu penodi ar gyfer y Bwrdd Pensiwn : Anthony William Deakin ( Cartrefi Conwy), Victoria Louise Hallaron (Cartrefi Cymunedol Gwynedd), Osian Richards (Cyngor Gwynedd), Huw Trainor (Heddlu Gogledd Cymru), Sharon Warnes (wedi ymddeol - Cyngor Gwynedd gynt) a bod enwebiad un aelod etholedig o Gyngor Gwynedd i’w gadarnhau yn fuan.  Bydd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Pensiwn yn cael ei gynnal 13eg o Orffennaf 2015. Cyfrifoldeb y Bwrdd Pensiwn fydd cynorthwyo’r awdurdod gweinyddol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r holl reoliadau, deddfwriaethau  a gofynion sydd yn berthnasol i’r cynllun. Bydd y Bwrdd hefyd yn cynorthwyo’r awdurdod i sicrhau llywodraethu a gweinyddiaeth effeithiol ac effeithlon ar gyfer y gronfa.

 

(b)       Mewn ymateb i gwestiwn nodwyd bydd aelodau'r Bwrdd Pensiwn yn cynnwys tri chynrychiolydd y cyflogwyr a thri chynrychiolydd o aelodau’r cynllun.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 207 KB

 

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 15 fel rhai cywir

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24ain o Fawrth 2015 fel rhai cywir.

 

7.

CYFARFODYDD Y PANEL BUDDSODDI pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn cynnig addasiadau i drefniadau cyfarfodydd y Panel Buddsoddi. Ers Chwefror 2014 nodwyd bod cyfarfodydd Chwefror a Mai yn cael eu cynnal yn Llundain a chyfarfodydd Gorffennaf a Thachwedd yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon. Yn seiliedig ar y cyfnod prawf, amlygwyd bod cynnal cyfarfodydd Chwefror a Mai yn Llundain yn anamserol i’r swyddogion oherwydd pwysau gwaith yn y cyfnod yma gyda’r Strategaeth ariannol / Cyllideb yn mis Chwefror a chau cyfrifon y Cyngor a’r Gronfa Bensiwn yn mis Mai. Awgrymwyd y byddai yn gwneud mwy o synnwyr i drefnu cyfarfodydd Chwefror a Mai yng Nghaernarfon a chyfarfodydd Gorffennaf a Thachwedd yn Llundain.

 

(b)       Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad

 

(c)       Mewn ymateb i sylw nodwyd bod bwriad dechrau’r trefniant newydd ym mis Tachwedd 2015 a pharhau gyda’r cylch blynyddol hyd nes adroddir yn wahanol.

 

          PENDERFYNWYD DERBYN ADRODDIAD Y PENNAETH  CYLLID

 

8.

CYSONI ISAFSWM PENSIWN GWARANTEDIG (IPG) pdf eicon PDF 80 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Pensiynau

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Pensiynau er gwybodaeth a chefnogaeth i ariannu meddalwedd ychwanegol arbenigol i gynorthwyo gyda phrosesau gwaith newydd. Ymhelaethwyd ar gefndir y cais gan nodi newid i drefniadau gweinyddu a chyfiroldeb am Isafswm Pensiwn Gwarantedig. Nodwyd bod nifer sylweddol o aelodau cynllun pensiwn Gwynedd yn parhau yn destun asesiad IPG ar gyfer codiadau pensiwn blynyddol neu fel rhan o gyfrifiad trosglwyddiadau. Bydd angen gweithredu yr asesiadau hyn a chysoni’r isafswm yma cyn Mawrth 2018.

(b)       Cyllid a Thollau EM (CthEM) sydd yn gyfrifol am gyfrifo a hysbysu cynlluniau am lefelau IPG, ond y bwriad yw trosglwyddo’r gyfrifoldeb i gynlluniau erbyn Mawrth 2018. Cyn trosglwyddo, bydd angen cysoni’r IPG er mwyn sicrhau bod yr holl IPG sydd ganddynt yn cyd fynd â chofnodion CThEM. Nodwyd bod arolygon cenedlaethol yn dangos lefel uchel o wallau / anghysondebau fydd yn golygu swmp o waith cymhleth,  ychwanegol i staff lefel uwch ei weithredu. Amcangyfrifir cost o £300k (costau staff ac adnoddau). Bydd angen tîm o staff i ddechrau ar y gwaith yn ystod Gwanwyn 2016.

 

(c)          Gofynnwyd i’r aelodau,

·         nodi’r broses cysoni IPG, y gost debygol a’i effaith ar adnoddau’r uned bensiynau.

·         Cytuno’n ôl-weithredol i ariannu’r meddalwedd ychwanegol ar gost oddeutu £8,300 y flwyddyn lawn neu rannol.

·         nodi y cyflwynir adroddiadau diweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith o dro i dro a all gynnwys cais ariannu staff dros dro a chais i benderfyniadau ar oddefiant gwallau a lefela diddymu dyled.

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd yn unol â’r argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD A’R ARGYMHELLION A RESTRWYD GAN Y RHEOLWR PENSIYNAU

 

Dechreuodd y cyfarfod am 2pm a daeth i ben 2:30pm