skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2019 - 2020

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd John Pughe Roberts yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2019 - 20

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr David Cowans (Cyngor Bwrdeistref Conwy) a Simon Glyn

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 96 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Mawrth 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 14 Mawrth 2019 fel rhai cywir.

 

7.

BUDDSODDIADAU ISADEILEDD pdf eicon PDF 83 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Yn dilyn cyflwyniad a thrafodaeth yng nghyfarfod chwarterol Panel Buddsoddi Cronfa  Bensiwn Gwynedd ar yr 21ain o Chwefror 2019, amlygwyd yr angen i’r Pwyllgor gadarnhau buddsoddiad uniongyrchol gyda Partners Group Global Infrastructure 2018 Fund, yn unol â barn y Panel Buddsoddi, er mwyn ffurfioli’r cytundeb. Barn y Panel oedd buddsoddi £25 miliwn mewn cronfa uniongyrchol ecwiti gyda Partners Group.

 

PENDERFYNWYD buddsoddi £25miliwn mewn cronfa uniongyrchol ecwiti gyda Partners Group Global Infrastructure 2018 Fund.

 

8.

POLISI AMGYLCHEDDOL, CYMDEITHASOL A LLYWODRAETHOL (ESG) pdf eicon PDF 46 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd cais gan Bartneriaeth Pensiynau Cymru i bob Cronfa o fewn y bartneriaeth  ystyried a chymeradwyo cynnwys eu Polisi Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol drafft arfaethedig. Amlygwyd bod Cronfa Gwynedd wedi mabwysiadu egwyddorion sylfaenol ynghylch buddsoddi cyfrifol gan bwysleisio y dylai ffactorau ‘ESG’ gael eu mewnblannu ym mhrosesau buddsoddi a phrosesau penderfynu rheolwyr y Gronfa. O safbwynt Gwynedd, nodwyd bod y polisi arfaethedig wedi ei ddrafftio wedi i Wynedd fabwysiadau eu hegwyddorion eu hunain. Ategwyd bod y polisi yn cynnwys materion sydd yn unol â pholisi Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys Polisi Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol Partneriaeth Pensiynau Cymru

 

9.

CAP AR DALIADAU YMADAEL Y SECTOR CYHOEDDUS pdf eicon PDF 55 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad yn amlygu bod Llywodraeth San Steffan yn ymgynghori ar gyfyngu taliadau ymadael yn y sector gyhoeddus – gweithredu cap taliad ymadael o £95k.

 

Nodwyd bod manylion bwriad Llywodraeth San Steffan ychydig yn amwys, gyda mwy o gwestiynau nac atebion yn amlygu eu hunain ar hyn o bryd, ac nid oedd Llywodraeth Cymru wedi rhannu eu safbwynt ar y mater. Amlygwyd bod gan Weinidogion Cymru bwerau i lacio’r cyfyngiadau, ac un awgrym o fewn llywodraeth leol Cymru yw na ddylai ‘cap ymadael’ ar gyfer Cymru gynnwys ‘straen’ pensiwn. Nodwyd gall Llywodraeth Cymru lacio’r gofyn yn briodol, gan hefyd ystyried lleihau'r trothwy £95k.

 

Eglurwyd bod yr ymgynghoriad yn cau ar y 3ydd o Orffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD annog cyflogwyr Cronfa Gwynedd i ymateb i’r ymgynghoriad.

 

 

10.

YMGYNGHORIAD POLISI'R WEINYDDIAETH TAI, CYMUNEDAU A LLYWODRAETH LEOL (MHCLG) - 'CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL: pdf eicon PDF 47 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad yn amlygu bod Polisi’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) yn cynnal ymgynghoriad - Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Newidiadau i’r cylch prisio lleol a pholisi rheolaeth risg cyflogwyr. Amlygwyd bod Llywodraeth San Steffan yn ceisio diwygio rheolau fel bod diwygiadau i brisiadau’r gronfa leol yn newid o gylch tai blynedd i gylch pedair blynedd.

 

Adroddwyd bod cylch tair blynedd yn addas ar gyfer cynlluniau cronnol fel Cronfa Gwynedd a mynegwyd mai’r ddadl gychwynnol yw mai esgeulus fyddai newid i gyfnod 4 blynedd, oherwydd rhesymau cyfleustra a chysoni trefniadau gweithredol ar lefel genedlaethol. Ategwyd nad oedd rhesymau clir dros y cynnig ac nad oedd cynllun busnes wedi ei  gynnwys.

 

Eglurwyd bod yr ymgynghoriad yn cau ar y 31ain o Orffennaf 2019 ac y byddai’r swyddogion yn ceisio arweiniad gan actiwari’r Gronfa a chyrff proffesiynol eraill. Nodwyd mai’r bwriad yw paratoi ymateb drafft mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau a chyflwyno’r ymateb hwnnw i’r Pwyllgor Pensiynau ei gymeradwyo ar y 29ain o Orffennaf 2019. Yn y cyfamser, anogwyd yr aelodau i gyflwyno unrhyw sylwadau at y Pennaeth Cyllid.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a chefnogi’r swyddogion yn eu hymateb i’r ymgynghoriad

 

11.

PRESENOLDEB MEWN CYNADLEDDAU pdf eicon PDF 40 KB

I ddewis cynrychiolwyr o’r Pwyllgor Pensiynau i fynychu digwyddiadau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn hysbysu’r aelodau am gynadleddau a digwyddiadau perthnasol er mwyn ceisio enwebiadau ar gyfer mynychu ar ran Cronfa Bensiwn Gwynedd. Adroddwyd bod digwyddiad ychwanegol, nad oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, i’w fynychu yng Nghaeredin ar y 10fed o Hydref 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Summit Buddsoddi’r LGC, Celtic Manor Resort, Casnewydd

4 – 6 Mehefin 2019

 

Cynghorwyr John P Roberts a John Brynmor Hughes

 

·         Summit blynyddol Russel Investments, Portland Place, Llundain

13 Tachwedd 2019

 

Cynghorwyr John Pughe Roberts, Stephen Churchman a Robin Williams

 

·         Cynhadledd Flynyddol LAPFF, Gwesty’r Hilton, Bournemouth

4 – 6 Rhagfyr 2019

 

Cynghorydd Stephen Churchman

 

·         Cynhadledd Llywodraethu’r CPLlL, Gwesty’r Principal, York

23 – 24 Ionawr 2020

 

Cynghorwyr Peredur Jenkins a John Brynmor Hughes

 

·         ‘LAPF Strategic Investment Forum’, The Grove, Hertfordshire

2 – 4 Gorffennaf 2019

 

Cynghorwyr John Pughe Roberts ac Aled Wyn Jones

 

·         LGC Investment Seminar’, Carden Park, Swydd Gaer

27   – 28 Chwefror 2020

 

Cynghorwyr Robin Williams, Peter Read a John Brynmor Hughes

 

·         Cynhadledd Baillie Gifford, Caeredin

10 Hydref 2019

 

Y Cynghorwyr John Pughe Roberts a Stephen Churchman

 

 

 

12.

DYDDIADAU CYFARFODYDD PENSIYNAU pdf eicon PDF 85 KB

I ystyried gwybodaeth i’r aelodau o ddyddiadau perthnasol ar gyfer cyfarfodydd

 

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth ddyddiadau cyfarfodydd Pensiynau hyd at Fai 2020 er mwyn galluogi’r aelodau i gynllunio’n briodol.

 

Tynnwyd sylw at addasiad i un o’r dyddiadau. Adroddwyd bod posibilrwydd byddai Cydbwyllgor Partneriaeth Pensiwn Cymru bellach yn cyfarfod ar y 4ydd o Fedi 2019 yn wahanol i’r 20fed o Fedi a nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.