Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Stephen Churchman, Peredur Jenkins a John P. Roberts.

 

Croesawyd Osian Richards, aelod o’r  Bwrdd Pensiwn i’r cyfarfod, fel sylwebydd.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dyddiadau er gwybodaeth;

 

27 – 28 Mehefin 2016               Hyfforddiant Aelodau yn Llundain

 

23 – 24 o Fehefin 2016             Cynhadledd ‘In at the Deep End’. Penderfynwyd bod y Cynghorwyr Trevor Edwards a Glyn Thomas yn mynychu gyda chynnig hefyd i ddau aelod o’r Bwrdd Pensiwn.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 202 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11.2.16 fel rhai cywir   . 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11eg o Chwefror 2016 fel rhai cywir.

 

5.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH FUDDSODDI FLYNYDDOL AR GYFER 2016/17 pdf eicon PDF 194 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eglurwyd, yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, ei bod yn ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys, baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyrir y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r Pwyllgor Pensiynau gymeradwyo Datganiad  Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi am 2016/2017. Eglurwyd bod Datganiad  Cyngor Gwynedd eisoes  wedi ei graffu gan y Pwyllgor Archwilio (Chwefror 11.2.16) ac wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ar y 3ydd o Fawrth 2016.

 

Yn ychwanegol, gofynnwyd i’r Pwyllgor Pensiynau wneud cais i’r Cyngor, i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif arian cyffredinol yr Awdurdod o’r 1af o Ebrill ymlaen. Eglurwyd bod cronni y llif arian yn denu llog uwch, isafu costau bancio, ac yn osgoi dyblygu gwaith o fewn y Cyngor.

 

O ystyried cynnydd yn y risgiau a’r parhad yn yr enillion isel o fuddsoddiadau byrdymor ansicredig, nodwyd bwriad yr Awdurdod yn ystod 2016/17,  i arallgyfeirio i ddosbarthiadau o asedau sydd yn fwy sicr a/neu sydd yn cynnig enillion uwch. Ar hyn o bryd mae’r rhan helaeth o’r arian parod sydd dros ben gan yr Awdurdod wedi’i fuddsoddi mewn adneuon banc anwarantedig, tystysgrifau adneuon a chronfeydd marchnadoedd arian. Ategwyd bod Arlingclose, ymgynghorwyr trysorlys yr Awdurdod yn cynnig dulliau buddsoddi creadigol ac felly bydd yr arallgyfeirio’n cynrychioli newid sylweddol yn y strategaeth dros y flwyddyn i ddod.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD

·         Cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol atodol am 2016/17, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn

 

·          Gwneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2016 ymlaen. 

6.

DATGANIAD O EGWYDDORION BUDDSODDI pdf eicon PDF 188 KB

Ystyried  adroddiad y Rheolwr Buddsoddi  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor fabwysiadu’r Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi. Nodwyd bod y ddogfen ddiwygiedig yn cynnwys y newidiadau a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2015. Adroddwyd, yn dilyn cyfnod ymgynghori o wyth wythnos, bod angen i’r Pwyllgor fabwysiadu’r fersiwn terfynol yn ffurfiol. (Amlygwyd, er mai ychydig iawn o  addasiadau sydd i’r Datganiad,  bod yn ofynnol eu gweithredu).

 

Tynnwyd sylw at gyfrifoldeb y Rheolwyr Buddsoddi ac amlinellwyd mai'r datganiad sydd yn gosod ffiniau  a chyfrifoldebau.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i fabwysiadu’r  Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r  Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi yn ffurfiol.

 

7.

DIWEDDARIAD AR YMGYNGHORIADAU LLYWODRAETH WESTMINSTER (DCLG) pdf eicon PDF 101 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

Mewn adroddiad gan y Pennaeth Cyllid atgoffwyd yr Aelodau bod ymatebion wedi eu cyflwyno i ddau ymgynghoriad diweddar gan y DCLG sef:

 

a)           Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: Meini Prawf Diwygiad Buddsoddiadau ac Arweiniad.

 

b)           Diddymu a Disodli’r Rheoliadau Cynllun Bensiwn Llywodraeth Leol (Rheolaeth A Buddsoddi Cronfeydd) 2009

 

Adroddwyd nad oedd ymateb i’r ymgynghoriadau wedi eu cyhoeddi gan y Llywodraeth a bod y cronfeydd yn parhau i aros penderfyniad. Nodwyd bod dau ymateb posib - ynteu ganiatáu UN gronfa i Gymru neu uno â chronfa dros y ffin.

 

Amlygwyd bod y sefyllfa yn un bregus ac annhebygol y bydd arweiniad yn cael ei gynnig ar y mater gan Lywodraeth San Steffan. Petai Gwynedd i uno gyda chronfeydd dros y ffin, bydd gofyn i’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid gynnal trafodaethau gyda chronfeydd i geisio’r budd gorau i’r gronfa bensiwn yng Ngwynedd. Gwnaed cais i ymateb Llywodraeth San Steffan gael ei rannu pan fydd cyhoeddiad. Petai'r angen yn codi i rannu gwybodaeth ymhellach, yna gwnaed penderfyniad i alw cyfarfod arbennig.

 

Derbyniwyd y sylwadau.