Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr H. Eifion
Jones (Cynrychiolydd Cyngor
Sir Ynys Môn), Peredur Jenkins a Glyn Thomas (sylwebydd). Croesawyd Sharon Warnes, Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn i’r cyfarfod,
fel sylwebydd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym
marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2015 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 10fed o Dachwedd 2015 fel rhai cywir. |
|
Ymgynghoriad Rheoliadau Buddsoddi PDF 340 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Buddsoddi Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn
amlinellu cynnig o fewn ymgynghoriad cyfredol gan Lywodraeth San Steffan ar
ddiddymu a disodli rheoliadau cynllun pensiwn llywodraeth leol 2009.
Amlygwyd mai'r rheswm dros hyn yw galluogi’r cronfeydd gymryd rhan mewn cyfuno
buddsoddiadau heb dorri cyfyngiadau cyfredol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynigion
fydd i’w gynnwys yn yr ymateb gan Cyngor Gwynedd. Y ddau gynnig dan
ystyriaeth 1.
Mabwysiadu dull lleol i fuddsoddi 2.
Cyflwyno amddiffyniad - ysgrifennydd gwlad hawl i
ymyrryd b)
Mewn ymateb i’r cynnig cyntaf - i fabwysiadu dull
lleol i fuddsoddi, amlygwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol, ond nad oedd digon o
fanylder ar sut fydd yn cael ei weithredu; bydd angen sicrhau bod datganiadau
clir a diffiniadau priodol yn eu lle cyn mabwysiadu yn llawn. Wrth ystyried
sefydlu a buddsoddi mewn un gronfa ar draws Cymru, nodwyd bod y rheoliadau
newydd yn ymarferol ac yn rhoi mwy o ryddid i gronfeydd weithio gyda eu gilydd. Derbyniwyd cynnig
un a chytunwyd paratoi ymateb. c)
Mewn ymateb i’r ail gynnig - cyflwyno amddiffyniad,
amlygwyd nad oedd eglurhad cyflawn yma ac y buasai angen deall beth yw
strwythur yr ymyrraeth dan sylw. Amlygwyd y gall ymyrraeth newid fesul
llywodraeth ac felly hanfodol fuasai sicrhau rheolaeth gyllidol ar y rheoliadau
ac nid rheolaeth wleidyddol. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid drwy nodi nad
oedd yn pryderu yn ormodol am unrhyw ymyrraeth gan fod y gronfa yn cael ei
gweinyddu yn effeithiol, ond bod angen
proses a strwythur penodol yn ei lle i amlygu o dan ba amgylchiadau y
bydd ymyrraeth yn debygol - angen eglurder. Penderfynwyd neilltuo barn ar y cynnig yma,
ond cynnwys y cwestiynau yn yr ymateb PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Rheolwr
Buddsoddi, y Pennaeth Cyllid a’r Cadeirydd baratoi ymateb i’r ddau gynnig. |
|
Ymgynghoriad Adolygiad Buddsoddi - ymateb cronfeydd Cymru PDF 277 KB Cyflwyno adroddiad
Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a)
Rhoddwyd diweddariad gan y Rheolwr Buddsoddi ar y
gwaith a ymgymerwyd gan Is Grŵp Pensiynau Cymdeithas Trysoryddion Cymru ar
sefydlu UN cerbyd cyd fuddsoddi i geisio gwell ffioedd. Ategwyd bod yr wyth cronfa wedi derbyn
cefnogaeth eu Pwyllgorau, ond rhagwelwyd mai cronfa gwerth oddeutu £12bn oedd
yma ac nid un sydd gydag o leiaf £25bn fel y mae’r Canghellor wedi ei gyhoeddi.
Amlygwyd er hynny, y bydd yr ymgynghorwyr yn parhau i roi cynnig ymlaen ar ran
yr wyth gronfa yng Nghymru. Mewn ymateb i gyhoeddiad y Canghellor,
amlygwyd bod trefniadau da eisoes yn eu lle yng Nghymru a phetai'r
gronfa yn mynd yn fwy, yna’r pryder amlycaf yw y byddai’r llinell atebolrwydd
yn mynd yn bell ynghyd a’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol. b)
Adroddwyd bod Hymans
Robertson wedi cael eu penodi (drwy broses caffael) fel yr ymgynghorwyr fyddai
yn gweithredu ar ran yr wyth gronfa drwy asesu’r achos busnes a darparu ymateb
i’r ymgynghoriad ar eu rhan. Ategwyd, fel rhan o’r briff, bod Hymans hefyd yn cynnig sylwadau ar y trefniadau
llywodraethu. c)
Dosbarthwyd yr ymateb cychwynnol, sydd hefyd wedi
ei gylchredeg ar draws yr wyth
cronfa yng Nghymru, i’r Aelodau. Amlygwyd mai’r gobaith yw ei
gefnogi fel UN cynnig. Er nad oes sicrwydd beth fydd ymateb San Steffan
i’r cynnig, y gobaith yw parhau fel wyth neu/ac
efallai ymuno a grŵp arall. ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd i gyflwyno’r ymateb fel un gronfa i Gymru
a derbyn ymateb San Steffan (pan gaiff ei gyflwyno). Os caiff y cynnig ei
wrthod, yna bydd rhaid trafod ymhellach ac ystyried yr opsiynau posib. PENDERFYNWYD
cefnogi cynigion Hymans Robertson i’r ymgynghoriad |
|
Buddsoddiadau Ecwiti Preifat ac Isadeiladwaith PDF 185 KB Cyflwyno adroddiad
Rheolwr Buddsoddi Cofnod: a)
Mewn cyfarfod chwarterol
o’r Panel Buddsoddi diweddar yn Llundain trafodwyd Adroddiad Hyman Robertson ar opsiynau ar gyfer ymrwymiadau pellach i
fuddsoddiadau Ecwiti Preifat a buddsoddiadau is adeiladwaith. Daethpwyd i’r canlyniad y dylid buddsoddi
mewn cronfeydd uniongyrchol. b)
Mewn ymateb, nodwyd bod y drafodaeth eisoes wedi ei
chynnal yn Llundain ar 19.11.15 ac felly’r Pwyllgor
yn barod i gadarnhau’r buddsoddiadau uniongyrchol hyn gyda -
€20m
gyda Partners Group Direct Equity 2016 Fund -
$43.6m
gyda Partners Group Direct Infrastructure 2015 Fund yn unol â barn y Panel
Buddsoddi. PENDERFYNWYD derbyn yr argymhelliad |
|
Strwythur yr Uned Weinyddu Pensiynau PDF 208 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Pensiynau Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn
gofyn i’r aelodau gymeradwyo cynnydd gwariant ar newid strwythur yr Uned
Weinyddu ynghyd a chytuno ar strwythur staff diwygiedig fydd yn weithredol o
Mawrth1af 2016. b)
Amlygwyd y byddai’r addasiad yn lledaenu’r
cyfrifoldeb goruchwylio o fewn yr uned, fydd maes o law, yn cryfhau’r haenau
rheolaethol o fewn y strwythur gan
sicrhau gwasanaeth mwy effeithiol a gwella cyfathrebu. PENDERFYNWYD derbyn yr argymhelliad. |