Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr H. Eifion Jones (Cynrychiolydd Cyngor Sir Ynys Môn) a John P. Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Rheolwr Buddsoddi a’r Dirprwy Reolwr Buddsoddi ar gyfer eitem 11. Ymneilltuodd y swyddogion o’r ystafell yn ystod y drafodaeth |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Atgoffwyd yr Aelodau o’r drafodaeth a gafwyd
yng nghyfarfod Medi 2015 ar y Prosiect Cydweithio Pensiynau Cymru ynglŷn
ag adroddiad gan ymgynghorwyr busnes Mercer a oedd yn archwilio i’r posibilrwydd o uno asedau'r
wyth gronfa yng Nghymru. Eglurwyd mai datganiadau answyddogol yn unig sydd wedi
eu cyhoeddi hyd yma, ond ymddengys efallai y bydd angen ymateb i ymgynghoriad cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor
Pensiynau (26.01.16). Er mwyn sicrhau ymateb gan Wynedd
i’r buddion awgrymwyd i’r Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi adolygu’r
buddion gan ymgynghori gyda Cadeirydd y Pwyllgor Pensiwn. PENDERFYNWYD
DERBYN YR AWGRYM. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Medi 2015 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 8fed o Fedi 2015 fel rhai
cywir. |
|
DATGANIAD O EGWYDDORION BUDDSODDI PDF 226 KB Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Buddsoddi yn amlygu’r angen
i adolygu Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi (DEB) y Gronfa Bensiwn ynghyd a chytuno ar broses ymgynghori lawn gyda buddgyfranogwyr erbyn mis Mawrth
2016. Atgoffwyd
yr Aelodau o’r penderyniad a wnaed ym Mhwyllgor Pensiynau
23.03.2012 i gynyddu rhai cyfyngiadau i’r uchafsymiau a ganiateir o dan y rheoliadau fel a ganlyn: • Cynyddu’r swm y gellir ei fuddsoddi
mewn unrhyw gontract yswiriant unigol yn cael
ei godi i 35%. • Cynyddu’r cyfyngiad ar gyfer holl
gyfraniadau i bartneriaeth unigol i 5%. • Cynyddu’r cyfyngiad ar gyfer holl
gyfraniadau i bartneriaethau
i 15%. a
byddai’r penderfyniadau hyn yn cael
eu hadolygu o fewn tair blynedd. Gyda chyfnod y tair blynedd yn agosáu,
amlygwyd yr angen i adolygu’r penderfyniadau a wnaethpwyd ac ystyried os ydynt
yn parhau yn addas ar gyfer y Gronfa Bensiwn.
Wrth benderfynu ar y cynnydd bydd gofyn cydymffurfio gyda gofynion
priodol ac fel ymateb i hynny derbyniwyd cyngor gan Paul Potter, ymgynghorydd y
Gronfa. Nodwyd y bydd
adolygiad cychwynnol o’r Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi yn cael ei
gynhyrchu gan y swyddogion gyda drafft yn cael
ei gylchredeg i fuddgyfranogwyr yn ystod mis Tachwedd
a mis Rhagfyr 2015. Y bwriad yw cyflwyno
fersiwn terfynol, yn dilyn yr
ymgynghoriad, i’r Pwyllgor Pensiynau ym mis
Mawrth 2016 er trafodaeth a chymeradwyaeth. PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD A
CHEFNOGI’R CYFYNGIADAU (35% / 5% / 15%) YN UNOL Â’R ARGYMHELLION, YNGHYD Â
THREFNIADAU’R YMGYNGHORIAD |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2014/15 PDF 400 KB Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd cefndir yr adroddiad er
gwybodaeth, gan y Pennaeth Cyllid a
eglurwyd ei bod yn ofynnol dan Gôd Ymarfer CIPFA i
adrodd ar ganlyniadau gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor ar ran y
Gronfa Bensiwn, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn erbyn y disgwyliadau.
Amlygwyd crynodeb o le fuddsoddwyd yr arian cyfunedig yn ystod y flwyddyn 2014
- 2015 ac yn unol ag arweiniad diwygiedig Lywodraeth Cynulliad Cymru ar
Fuddsoddiadau, yr elfennau diogelwch a hylifedd oedd yn cael y flaenoriaeth yn
hytrach nag enillion. Eglurwyd hefyd bod cyfraddau llog wedi bod yn isel iawn,
ond nad oedd awgrym i ystyried newid y penderfyniad i gyfuno arian y gronfa
gyda llif arian cyffredinol y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy
oedd yn rhoi trosolwg ar gydsyniadau CIPFA, nodwyd mai Swyddfa Archwilio Cymru oedd yn gwirio hyn ac
ailadroddwyd y pwysigrwydd o flaenoriaethu diogelwch yn hytrach nag elw. PENDERFYNWYD DERBYN
YR ADRODDIAD ER GWYBODAETH |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2015/16 – ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN PDF 463 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: Rhoddwyd cyflwyniad a chefndir yr
adroddiad er gwybodaeth, gan y Pennaeth
Cyllid gan egluro ei bod yn ofynnol dan Gôd Ymarfer CIPFA i gynghorau adrodd ar berfformiad y
swyddogaeth rheoli trysorlys o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Amlygwyd yn yr
adroddiad weithgareddau’r trysorlys ynghyd a’r monitor risg a rheolaeth risg
gysylltiedig. Yng nghyd-destun
buddsoddiadau Banc Heriatable,
nodwyd bod yr awdurdod bellach wedi adennill 98% o fuddsoddiadau y Manc Heritable gyda’r tebygolrwydd y bydd dosraniadau pellach. PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD ER
GWYBODAETH |
|
GWYBODAETH A SGILIAU PDF 260 KB Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Buddsoddi yn hysbysu’r Aelodau am
drefniadau hyfforddi. Atgoffwyd yr
aelodau fod y Gronfa Bensiwn wedi
mabwysiadu datganiad Sgiliau a Gwybodaeth i sicrhau bod gan yr holl staff a’r
aelodau sydd yn gyfrifol am weinyddiaeth gyllidol ac am wneud penderfyniadau o
ran y cynllun pensiwn, yr holl wybodaeth a’r sgiliau i ymgymryd â’r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a ddyrannwyd arnynt. O ganlyniad bydd y sefydliad yn darparu
hyfforddiant priodol i’r unigolion hynny
er mwyn iddynt
gynnal lefel briodol o arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau. Amlygwyd y bydd y Cyngor, yn ymgymryd ag
asesiad anghenion hyfforddiant. Y bwriad yw cyflwyno holiadur hunanasesiad i
aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ac aelodau’r Bwrdd Pensiwn iddynt nodi eu
hanghenion hyfforddiant. Bydd
canlyniadau’r holiadur yn amlygu’r anghenion hyfforddi a’r wybodaeth fydd ei
angen arnynt. Y wybodaeth yn sicrhau hyfforddiant priodol i’r unigolion drwy
gyfarfodydd presennol, sesiynau penodol
neu gyrsiau allanol. Y bwriad yw dosbarthu'r holiadur ar ôl y Nadolig ac
anogwyd yr aelodau i gydweithredu. PENDERFYNWYD DERBYN Y WYBODAETH A
CHYDYMFFURFIO A GOFYNION POLISI GWYBODAETH A SGILIAU |
|
CYNNIG GWEITHREDU SYSTEM DELWEDDU INTEGREDIG GYDAG ALTAIR PDF 20 KB Cyflwyno
adroddiad Rheolwr Pensiynau Cofnod: Cyflwynwyd cais gan y Rheolwr Pensiynau am
gymeradwyaeth y Pwyllgor i ariannu pryniant system rheoli dogfennau integredig
i storio dogfennau ac i ymateb i ofynion adfer swyddfa weinyddu pensiynau
modern. Defnydd o’r system rheoli EDRMS corfforaethol, oedd y datrysiad
gwreiddiol, ond amlygwyd na fyddai EDRMS yn cyflawni gofynion llawn yr Uned
Bensiynau fel y rhagwelwyd. Er mwyn addasu a gweithio yn effeithlon i ymateb i
ofynion cadw cofnodion unigol ar gyfer pob aelod presennol a blaenorol o’r
cynllun pensiwn, cynigiwyd symud i system ‘Altair Image’ gan Heywood sydd yn system
gwbl integredig gyda system llif gwaith cysylltiedig. Yn unol ag aelodaeth y gronfa gyfan (sydd ar
hyn o bryd yn fwy na 38,000), cynigiwyd y prisiau canlynol ar gyfer gweithredu
a rhedeg y meddalwedd arbenigol yma. Costau am drwydded gychwynnol - £58,525 ynghyd a ffi gweithredu ac
ymgynghori o £20,560. Cyfanswm o £79,085. Nodwyd bod y sŵn yn sylweddol,
ond argymhellwyd yr angen am fuddsoddiad mewn system er mwyn i’r Uned Bensiynau
symud ymlaen a gweithio yn fwy effeithiol. Mewn ymateb i gwestiwn, nodwyd y byddai’r
arian yn cael ei ryddhau o gostau gweinyddol y Gronfa Bensiwn. Anodd oedd rhoi
swm ar arbedion effeithlonrwydd ond
rhagwelwyd arbediad o hanner swydd. Nodwyd hefyd y byddai angen ymgyfarwyddo
a’r system cyn gweld enillion ac felly awgrymwyd ail asesu'r sefyllfa mewn dwy
flynedd. Mewn ymateb i gwestiwn petai’r Uned
Bensiynau yn gallu ymdopi heb y feddalwedd, nodwyd mai gwaethygu buasai’r
gwasanaeth. PENDERFYNWYD
CYMERADWYO’R CAIS I ARIANNU PRYNIANT MEDDALWEDD ‘ALTAIR IMAGE’ A’R FFIOEDD
TRWYDDEDU BLYNYDDOL. Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle ar ran y
Pwyllgor i ddiolch i Mr Gareth Jones,
Rheolwr Pensiynau am ei wasanaeth i’r Uned Bensiynau a dymunwyd yn dda iddo ar
ei ymddeoliad wedi 42 o flynyddoedd i’r Cyngor. Ategodd y Pennaeth Cyllid bod
Mr Gareth Jones wedi bod yn rheolwr dibynadwy iawn ac yn aelod allweddol i’r Adran ac i’r Gronfa
Bensiwn. |
|
DISGRESIYNAU'R AWDURDOD GWEINYDDU PDF 592 KB Cyflwyno
adroddiad Rheolwr Pensiynau Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau
am gais i adolygu a newid polisïau yng nghyd-destun y Rheoliadau Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol 2014. Amlygwyd y wybodaeth a oedd yn rhestru disgresiynau sydd ar
gael o dan brif reoliadau’r Cynllun Pensiwn ynghyd a rhestr o’r disgresiynau sydd ar gael o dan ddarpariaeth i’r rheoliadau
trosiannol a diogelu. Amlygwyd hefyd bod y wybodaeth yn ffurfioli'r drefn. PENDERFYNWYD CYTUNO POLISÏAU’R AWDURDOD
GWEINYDDU YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD. |
|
STAFFIO'R UNED WEINYDDOL O IONAWR 2016 PDF 204 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: (Ymneilltuodd
Mr Gareth Jones a Mr Nicholas Hopkins o’r ystafell) Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid i
gymeradwyo gwariant ar gyfer sefydlu tîm i gysoni Isafswm Pensiwn Gwarantedig
(IPG) a derbyn strwythur newydd i’r adain weinyddu - cost a ragwelir o £53,573 yn y 12 mis cyntaf. Adroddwyd ym
mhwyllgor Pensiwn Mehefin 2015 bod angen i Gronfa Bensiwn Gwynedd gysoni IPG
aelodau unigol yn erbyn yr hyn a delir gan CThEM. Yn
y cyfarfod hynny cytunwyd ariannu £8,300 y flwyddyn am feddalwedd pwrpasol i
ddechrau'r gwaith rhagarweiniol o gymharu’r ffigyrau CThEM
gyda data’r gronfa. Mewn ymateb i gais Pwyllgor Pensiynau Llywodraeth Leol
amcangyfrifwyd cost yr ymarferiad o £200,000 yn seiliedig ar waith ymchwil
sylfaenol cronfeydd eraill oedd eisoes wedi dechrau ar yr ymarferiad, a’r nifer
o gofnodion sydd angen eu cysoni gan Wynedd. Mewn ymateb i’r gofynion heriol hyn o
gysoni’r IPG a Phrisiant 2016, gwnaed cais i’r Rheolwr Pensiynau (sydd yn
ymddeol ym mis Rhagfyr), ddychwelyd am ddau ddiwrnod yr wythnos i sefydlu ac arolygu
tîm i ymgymryd â’r gwaith cysoni ac i rannu ei
brofiad a’i arbenigedd gyda'i olynydd. Yn ychwanegol, nodwyd yr angen am ddau
aelod arall o staff i ymuno a’r tîm. Adroddwyd y byddai’r dasg yn cymryd o
leiaf dwy flynedd i’w chyflawni, gyda rôl yr ‘Arolygwr yn diweddu ar ôl 12 mis
wedi sefydlu’r gweithdrefnau . Amlygwyd bod yr amserlen yn dynn a bod cyfle
agored yma i ymgynghorwyr allanol
fanteisio ar y sefyllfa gan fod adnoddau annigonol o fewn awdurdodau i
gwblhau'r gwaith. Nodwyd bod y Rheolwr Pensiynau yn fodlon parhau am flwyddyn
ac ategwyd bod hyn yn gyfle euraidd i fanteisio ar brofiad unigolyn yn hytrach
na thalu mwy petai cwmni ymgynghorol yn ymgymryd â’r
gwaith. Mewn ymateb i’r adroddiad nodwyd y dylid
manteisio ar yr adnoddau mewnol ac osgoi defnyddio ymgynghorwyr allanol,
costus. Derbyniwyd yr argymhelliad fel opsiwn da ac i adolygu’r sefyllfa ymhen
6 mis. PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R GWARIANT I ARIANNU
ADNODDAU STAFF AR GYFER CYSONI ISAFSWM PENSIWN GWARANTIEDIG. |