Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Peredur Jenkins, Glyn Thomas a Gethin Glyn Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

 

 

(a)       Derbyniwyd nodyn gan y Cynghorydd Peter Read yn mynegi ei ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Pensiynau, a’r swyddogion perthnasol, am eu caredigrwydd a’u hiwmor dros y blynyddoedd  tra roedd yn aelod o’r Pwyllgor Pensiynau. Mewn ymateb, dymunwyd gwellhad buan i’r Cynghorydd Peter Read, cyn-gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau, sydd wedi sefyll i lawr ac yn dioddef ag anaf. Penderfynwyd anfon cerdyn o ddiolch iddo am ei wasanaeth.

 

(b)       PRESENOLDEB YN CYNHADLEDD ‘LOCAL AUTHORITY PENSION FUND FORUM (LAPFF) 2 – 4 RHAGFYR 2015

 

Cyflwynwyd cais gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor enwebu cynrychiolydd i fynychu’r gynhadledd yn Bournemouth. Cynigiwyd bod Cadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd W Tudor Owen yn mynychu. Derbyniodd y cais.

 

PENDERFYNWYD Y BUASAI CADEIRYDD Y PWYLLGOR PENSIYNAU YN MYNYCHU CYNHADLEDD LAPFF 2 - 4 RHAGFYR 2015.

 

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 207 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2015  fel rhai cywir

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16eg o Fehefin 2015 fel rhai cywir

5.

CYNLLUNIAU PENSIWN LLYWODRAETH LEOL CYMRU - GWEITHIO GYDA'N GILYDD pdf eicon PDF 212 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Pensiynau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd adroddiad gan  y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau ar y Prosiect Cydweithio Pensiynau Cymru ynghyd ag adroddiad gan ymgynghorwyr busnes Mercer a oedd yn archwilio i’r posibilrwydd os oedd manteision / gwerth i uno asedau'r wyth gronfa yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i gais gan y Llywodraeth mae angen sicrhau bod cronfeydd yn buddsoddi  ar y cyd er mwyn lleihau costau yn sylweddol, wrth gynnal perfformiad buddsoddi cyffredinol. Bydd y Llywodraeth yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion eu hunain i gwrdd â’r meini prawf cyffredinol o gyflawni arbedion. Cyhoeddir ymgynghoriad pellach ymlaen eleni a bydd yn gosod y meini prawf mewn manylder yn ogystal â deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod yr awdurdodau gweinyddol sydd heb gyflwyno   cynlluniau  digon  uchelgeisiol  yn  gorfod  cronni. Mae’r gwaith a ymgymerwyd gan gronfeydd Cymru wedi dangos mai buddsoddi ar y cyd yw’r ffordd ymlaen a bydd datblygiad pellach o’r cydweithio ar achosion busnes yn arddangos yr ymrwymiad disgwylir gan y Llywodraeth.

 

Y cam nesaf yw sefydlu fframwaith cydgyfrannu ar gyfer Cronfeydd Cymru gyda’r nod o leihau ffioedd ac i ganolbwyntio ar fuddsoddiadau ecwiti yn gyntaf.

 

(b)       Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion

 

(c)       Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol

 

  • Pe bai penderfyniadau buddsoddi i’w gwneud ar y cyd, o ganlyniad byddai’r Pwyllgor Pensiynau yn colli ychydig o reolaeth
  • Cytuno ar yr elfen bod angen arbed ffioedd, ond rhaid ystyried beth fydd goblygiadau hyn i Gronfa Gwynedd (sydd ymysg y gorau yn y wlad ar hyn o bryd).
  • Rhaid ystyried y gorau i Wynedd, ond hefyd rhaid cael y gorau ar gyfer aelodau’r gronfa a pheidio cael ein gwthio gan y Llywodraeth i wneud penderfyniadau a all fod yn risg i’r gronfa.
  • Bod gwerth lleihad mewn ffioedd am fod yn llai sylweddol na’r newid mewn lefel enillion gwerth buddsoddi os am dderbyn enillion llai?
  • Dylid canolbwyntio ar un elfen o gydweithio yn gyntaf e.e., buddsoddiadau goddefol
  • O ran yr elfennau rheolaeth buddsoddi sydd yn weddill, angen asesu mwy ar y sefyllfa.

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Pennaeth Cyllid byddai opsiwn i ymuno mewn fframwaith ehangach fis Tachwedd ar yr elfen buddsoddiadau goddefol .O ran y rheolaeth buddsoddi sydd yn weddill, bod gennym ni gyfrifoldeb i barhau i edrych yn fanylach ar yr achos busnes.

 

(d)       Cytunwyd i gefnogi gwaith pellach a derbyn yr argymhellion, gan ychwanegu bod angen i’r achos busnes adnabod materion llywodraethu mewn fframweithiau a awgrymir gan gynnwys trefn dewis cwmnïau buddsoddi.

 

PENDERFYNWYD cefnogi gwaith pellach, yn benodol i:

 

1.    Ymchwilio mewn i gyfleoedd i leihau ffioedd ar gyfer buddsoddiadau goddefol

 

2.    Cyd-asesu’r achos busnes manwl ar gyfer fframweithiau cronni a awgrymir..

 

3.      I’r achos busnes adnabod materion llywodraethu mewn fframweithiau a awgrymir.

 

 

6.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2014/15 pdf eicon PDF 379 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd adroddiad  gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar sut fuddsoddwyd arian parod y Gronfa Bensiwn ar y cyd gydag arian y Cyngor yn 2014/15. Roedd yr adroddiad yn cyflawni gofynion Cyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

(b)       Amlinellwyd yn yr adroddiad sut roedd yr arian yn cael ei reoli er mwyn uchafu’r budd. Yn ychwanegol, rhoddwyd diweddariad ar y sefyllfa ar adennill y buddsoddiadau a wnaed gyda Banc Heritable. Adroddwyd bod 98% o’r buddsoddiadau bellach wedi eu hadennill, a mwy i ddilyn.

 

(c)       Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad

 

DERBYNIWYD ADRODDIAD Y RHEOLWR BUDDSODDI ER GWYBODAETH

 

 

7.

'KNOW YOUR ONIONS' - CYNHADLEDD YMDDIRIEDOLWYR Y CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Cyllid

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd adroddiad  gan y Pennaeth Cyllid yn hysbysu’r Aelodau o gynnwys a gwerth cynhadledd Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2015. Tynnwyd sylw penodol at gymhlethdodau cysoni ymrwymiadau’r cynllun pensiwn (GMP) gyda chofnodion CaTHeM fydd yn dasg enfawr i staff gweinyddol y Gronfa Bensiwn sydd angen ei gwblhau erbyn Ebrill 2018. Ategwyd bod trafodaethau mewnol yn cael eu cynnal i geisio datrysiad i’r sefyllfa.

 

          DERBYNIWYD ADRODDIAD Y PENNAETH CYLLID ER GWYBODAETH

.

 

Dechreuodd y cyfarfod am 3pm a daeth i ben 3:30pm