Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr David Cowans (Cyngor Bwrdeistref Conwy) a John Brynmor Hughes.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 84 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 08.11.2018 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 8fed o Dachwedd 2018 fel rhai cywir

5.

IS GRONFA INCWM SEFYDLOG pdf eicon PDF 58 KB

I ofyn i’r Pwyllgor Pensiynau ystyried a phenderfynu cytuno gyda’r opsiynau incwm sefydlog ar gyfer Cronfa Pensiwn Gwynedd yn Pŵl Cymru

 

Mae atodiad A ar wahân ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig

 

Mae’r ddogfen yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol ( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r atodiad ynglŷn â threfniadau buddsoddi sydd yn fasnachol sensitif a chyfrinachol i’r cwmni dan sylw. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu tanseilio hyder darparwyr i ddod a phrisiau ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i fuddsoddi yn llwyddiannus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn, mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried is-gronfeydd ar gyfer asedau ‘incwm sefydlog’ fel opsiynau er mwyn i Gronfa Bensiwn Gwynedd fuddsoddi drwy Bartneriaeth Pensiynau Cymru. Eglurwyd, fel mesur wrth gefn, fod gan Cronfa Bensiwn Gwynedd       fynediad at asedau ‘incwm sefydlog’ goddefol drwy’r cytundeb buddsoddiadau goddefol.

         

Nodwyd, mewn cyfarfod o’r Panel Buddsoddi ar 15/11/2018 cyflwynwyd gwybodaeth ac arweiniad i aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ynglŷn ag is-gronfeydd Partneriaeth Pensiynau Cymru ar gyfer asedau ‘incwm sefydlog’ a thrafodwyd yr opsiynau posib. Awgrymwyd y byddai cyfle i drosglwyddo asedau i bortffolios gweithredol y Bartneriaeth ar ddechrau Haf 2019.

 

Gyda dewis posib o ddosbarthu asedau rhwng pedwar math o is-gronfa incwm sefydlog, casgliad aelodau’r Panel Buddsoddi oedd y byddai’r Gronfa Dychweliadau Absoliwt a Chronfa Credyd Aml Ased o ddiddordeb i Wynedd ar adeg lansio’r is-gronfeydd Partneriaeth Pensiynau Cymru.

         

Cyflwynwyd crynodeb o’r opsiynau posib fel atodiad eithriedig i’r adroddiad ac felly, fel bod modd i’r aelodau eu trafod mewn manylder, penderfynwyd, CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD oherwydd bod budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd            bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen             trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Roedd yr atodiad ynglŷn â threfniadau      buddsoddi sydd yn fasnachol sensitif a chyfrinachol i’r cwmni dan sylw. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu tanseilio hyder darparwyr i ddod a phrisiau ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i fuddsoddi yn llwyddiannus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth;

 

·         Roedd  aelodau’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi barn swyddogion ac arbenigwyr Hymans a Russell yn y maes, ac am ddilyn yr awgrym gyflwynwyd.

·         Roedd  aelodau’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r cyfle i weithio gyda rheolwyr newydd, ynghyd a’r posibilrwydd o gadw asedau gydag un o reolwyr cyfredol Cronfa Gwynedd.

·         Er nad oes bwriad i Gronfa Gwynedd drosglwyddo asedau i Gronfa Credyd Byd Eang, gofynwyd i’r Cadeirydd amlygu egwyddorion buddsoddi cyfrifol perthnasol yng nghyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor Partneriaeth Pensiynau Cymru.

 

          PENDERFYNWYD –

a)    Yn unol â’r cynnig, yn gyffredinol i ail-fuddsoddi asedau incwm sefydlog cyfredol Cronfa Gwynedd yn is-gronfa Dychweliadau Absoliwt Partneriaeth Pensiynau Cymru, ac i ail-fuddsoddi asedau ecwiti neilltuwyd am y tro er mwyn lleihau risg yn is-gronfa Credyd Aml Ased Partneriaeth Pensiynau Cymru.

b)    Gan nad oedd holl reolwyr buddsoddi is-gronfeydd Partneriaeth Pensiynau Cymru wedi eu cadarnhau’n derfynol eto, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i benderfynu ar y dyraniadau terfynol rhwng yr is-gronfeydd, gan dilyn barn ac arweiniad pellach gan arbenigwyr, fel bo angen.

 

          Gwahoddwyd y wasg ar cyhoedd yn ôl i’r cyfarfod

 

6.

BENTHYG GWARANT pdf eicon PDF 52 KB

I ofyn i’r Pwyllgor Pensiynau ystyried a phenderfynu cytuno i fenthyg gwarantau yn Pŵl Cymru.

 

Mae atodiad B ar wahân ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig

 

Mae’r ddogfen yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol ( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r atodiad ynglŷn â threfniadau buddsoddi sydd yn fasnachol sensitif a chyfrinachol i’r cwmni dan sylw. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu tanseilio hyder darparwyr i ddod a phrisiau ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i fuddsoddi yn llwyddiannus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn, mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor gytuno i Bartneriaeth Pensiynau Cymru gytuno i fenthyg gwarant fel cyfle i gynyddu incwm o ecwiti yn y cronfeydd.

 

Amlygwyd byddai raid i bob cronfa Cymreig sydd yn rhan o Bartneriaeth Pensiynau Cymru gytuno i’r cynnig cyn gweithredu.

 

Cyfeiriwyd at ddogfen gan Hymans Robertson oedd ynghlwm â’r adroddiad, yn rhoi trosolwg ac eglurhad o’r broses, pam y byddai buddsoddwyr yn benthyg stoc, a’r risgiau      sydd ynghlwm â hynny

 

Nododd yr aelodau bod y cynnig yn gyfle diddorol gyda risg isel, yn fodd o dderbyn ychydig o enillion i’r gronfa tra’n lleddfu’r risg drwy warant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfyngu swm buddsoddiad perthnasol y Gronfa, ac os           oes uchafswm wedi ei osod, nodwyd y byddai modd gofyn y cwestiwn yng nghyfarfod nesaf Cydbwyllgor Partneriaeth Pensiynau Cymru.

 

PENDERFYNWYD, bod Cronfa Bensiynau Gwynedd yn cytuno i Bartneriaeth Pensiynau Cymru fenthyg stociau o’r is gronfeydd.

 

7.

BWRDD YMGYNGHOROL Y CYNLLUN: RHEOLI COSTAU pdf eicon PDF 132 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad yn crynhoi argymhellion arfaethedig Bwrdd Cynghori’r Cynllun fyddai’n dychwelyd cyfanswm cost y cynllun at ei darged gost o 19.5% (amcangyfrifir mai 19.0% yw gwir gost y cynllun ar hyn o bryd). Nodwyd bod rhaid      gwneud newidiadau i fuddion os am gyrraedd 19.5% a chyflwynwyd pecyn o argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol ym mis Tachwedd 2018. Ategwyd bod cyngor cyfreithiol a barn Actiwari’r Llywodraeth wedi ei ystyried gan y Bwrdd cenedlaethol.

 

Amlygwyd y prif newidiadau a thynnwyd sylw at effeithiau ariannol y pecyn. Byddai’r penderfyniad terfynol ar y pecyn o welliannau yn cael ei wneud gan y Weinyddiaeth Tai,      Cymunedau a Llywodraeth Leol, gydag ymgynghoriad byr yn debygol o gael ei’ gynnal ar ddechrau’r Gwanwyn, er mwyn i’r gwelliannau fod yn effeithiol erbyn Ebrill 2019.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gosodiad targed o 19.5%, nodwyd bod y targed wedi ei osod gan Lywodraeth San Steffan mewn cytundeb cenedlaethol gydag Undebau llafur perthnasol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth;

·         Er y gost i’r gronfa ac i’r cyflogwyr, byddai’r addasiadau o fudd i’r cyfranwyr.

·         Pryder am yr effaith ar gyflogwyr bychain.

·         Pryder na all cyflogwyr bychain fforddio’r newidiadau, ac felly yn cael eu rhoi dan bwysau i ganfod cynllun gwahanol.

·         Pryder y byddai’r gronfa yn colli aelodau.

·         Derbyn mai arweiniad cenedlaethol sydd yma, ond rhaid pwyso a mesur yn ofalus.

 

PENDERFYNWYD gwneud cais i’r Pennaeth Cyllid a’r Cadeirydd gyflwyno      sylwadau am bryderon yr aelodau i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth San Steffan ac i’r Bwrdd Cynghori cenedlaethol ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, pryd bydd ymgynghoriad ar hyn.

 

 

8.

STAFFIO UNED GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 64 KB

Cymeradwyo adnoddau ychwanegol i alluogi'r Adran Gyllid i sefydlu strwythur staff mwy gwydn ar gyfer yr Uned Bensiynau

 

Cofnod:

Ymneilltuodd Meirion Jones (Uwch Swyddog Cyfathrebu (Pensiynau) o’r ystafell yn ystod y drafodaeth ganlynol.

 

Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo adnoddau ychwanegol i alluogi’r Uned Gyllid i sefydlu strwythur staff gwydn ar gyfer yr Uned Bensiynau mewn ymateb i ofynion cynyddol i weinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Ategwyd bod y strwythur arfaethedig yn cyd-fynd gyda strwythur rheolaethol y Cyngor a bod y swyddi wedi eu harfarnu. Nodwyd bod canran staff yr Uned yn hŷn a bod angen sefydlu cynllun dilyniant.

 

          Sylwadau yn codi o’r drafodaeth;

·         Bod graddfeydd cyflog yr Uned yn is na rhai cronfeydd eraill.

·         Bod y tîm yn llai na’r hyn sydd gan gronfeydd eraill.

·         Bod y strwythur presennol yn un hanesyddol.

·         O ran rheoli risg, rhaid cynllunio dilyniant.

 

          PENDERFYNWYD,

·         Cymeradwyo’r cynnydd mewn gwariant a gyllidwyd er mwyn galluogi’r Adran Gyllid i sefydlu strwythur staff mwy cadarn ar gyfer yr Uned Bensiynau ar gost ychwanegol o £121,120.

·         Gofyn i’r Pennaeth Cyllid weithredu strwythur staffio diwygiedig priodol ar gyfer yr Uned Bensiynau cyn gynted â phosib sy’n ymarferol, er mwyn rheoli risgiau busnes a phwysau gwaith.