skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

 

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 84 KB

 

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.06.2018 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 19eg o Fehefin 2018 fel rhai cywir

5.

DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI pdf eicon PDF 50 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi Diwygiedig. Nodwyd bod y Pwyllgor Pensiynau eisoes wedi mabwysiadu’r Datganiad ym mis Mawrth 2017 yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd. Amlygwyd bod y datganiad bellach yn cynnwys yr egwyddorion buddsoddi yr oedd y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiynau wedi eu trafod a chytuno mewn cyfarfodydd blaenorol, yn sgil y sesiwn datblygol gydag ymgynghorwyr Hymans Robertson.  Ategwyd bod yr egwyddorion yn amlygu dyheadau’r Gronfa yn glir, fydd y eu tro yn gosod arweiniad i Reolwyr Asedau’r Gronfa, yn ogystal â gosod cyfeiriad i drafodaethau gyda chydymarferwr Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhawyd, yn unol â’r ail egwyddor yn y papur, y byddai’r Gronfa yn edrych i fuddsoddi o fewn ardal Cymru pan fydd buddiannau anariannol yn deillio o hynny, yn amodol ar fodloni gofynion y dyletswydd ymddiriedol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi.

 

6.

RHEOLAETH TRYSORLYS - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN 2018-2019 pdf eicon PDF 181 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 30ain 2018 bod gweithgarwch benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

7.

CYSONI ISAFSWM PENSIYNAU GWARANTEDIG pdf eicon PDF 68 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Pensiynau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, ddiweddariad i’r Pwyllgor o’r gwaith sydd wedi cael ei wneud            i gysoni’r Isafswm Pensiwn Gwarantedig. Atgoffwyd yr aelodau bod tîm o dri wedi ei sefydlu yn Ionawr 2016 o dan arweiniad y cyn Reolwr Pensiynau Mr Gareth Jones. Gyda’r           broses yn dod i ben Rhagfyr 2018, hysbyswyd y Pwyllgor bod sefyllfa Gwynedd yn un cymharol dda a chanmolwyd y tîm am eu gwaith da. Nodwyd bod arbenigedd y cyn Reolwr wedi sicrhau arbediad sylweddol i’r Cyngor o ddeall bod cronfeydd pensiwn eraill yn cyflogi ymgynghorwyr arbenigol drud yn y maes, neu heb weithredu o gwbl ac felly yn agored i risg ariannol.

 

Edliw'r sefyllfa bresennol bod gan Cronfa Bensiwn Gwynedd 119 o achosion a ddynodir fel stalemate lle mae’r Cyngor ac Adran Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn anghytuno gyda’r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno. Cadarnhaodd y Rheolwr Pensiynau nad oedd gan CThEM unrhyw sail i herio gwybodaeth y Cyngor a bod y Cyngor yn gwbl bendant bod eu gwybodaeth yn gywir gyda thystiolaeth i brofi hynny. Cadarnhaodd y swyddogion bydd stalemates Gwynedd yn cael eu datrys yn 2019 - 2020, ond fod y sefyllfa gyffredinol gydag Isafswm Pensiwn Gwarantedig a stalemates ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad gan Lywodraeth San Steffan.

 

Gyda’r broses ffurfiol yn dod i ben 31 Rhagfyr 2018, nodwyd y byddai unrhyw waith sydd heb ei ddatrys yn trosglwyddo i waith dydd i ddydd yr Adran Bensiynau.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth ac awgrymwyd anfon llythyr ar ran y  Pwyllgor i ddiolch i Mr Gareth Jones am waith arwrol y Tîm Cysoni.

 

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a derbyn cynnig penodol ar gyfer cost trwydded meddalwedd sydd yn wybodaeth fasnachol sensitive. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu tanseilio hyder darparwyr i ddod a prisiau ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i gaffael yn llwyddianus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma ystyri’r y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus

 

Cofnod:

Penderfynwyd bod budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabuwyd fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen      trafod   gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â derbyn cynnig penodol ar gyfer cost trwydded meddalwedd sydd yn wybodaeth fasnachol sensitif. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math    yma yn            gallu tanseilio hyder darparwyr i ddod a phrisiau ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i gaffael yn llwyddiannus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma ystyriwyd y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

9.

SYSTEM HUNAN WASANAETH AR GYFER AELODAU'R CYNLLUN PENSIYNAU

I ysytired adroddiad y Rheolwr Pensiynau

 

(Copiau arwahan i aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn gwneud cais i’r Pwyllgor gymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer gweithredu a rhedeg system newydd Hunan Wasanaeth Aelodau. Amlygwyd y prif         resymau dros yr angen i ddiweddaru’r system a cafwyd cyflwyniad byr yn cymharu'r hen a’r newydd, a nodwyd byddai Gwynedd yn dewis llwyfannu’r meddalwedd newydd ar galedwedd o fewn y Cyngor. Ategwyd bod negodi gyda’r darparwr yn parhau er mwyn     isafu’r pris.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol cytunwyd y byddai system newydd yn cynnig gwerth am arian ac yn cyfarch gofynion Polisi Iaith y Cyngor. Anogwyd y swyddogion i barhau i negodi’r pris a pwyso i gael rhedeg y system ar weinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyllid hyd at y cyfanswm nodwyd yn yr adroddiad