Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018 - 2019 Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd John Pughe Roberts
yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2018/19. Cofnod: Penderfynwyd ethol
y Cynghorydd Peredur Jenkins yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2018/19. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid dystysgrifau i’r Cynghorwyr Simon Glyn ac Aled W Jones am
gwblhau hyfforddiant sylfaenol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
15.3.18 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 15fed o Fawrth
2018 fel rhai cywir. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYNHADLEDDAU PDF 43 KB I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
gwybodaeth am gynadleddau perthnasol er mwyn dewis cynrychiolwyr i’w mynychu.
Adroddwyd bod y Cyngor yn anfon cynrychiolwyr ar sail rota i nifer o gynadleddau
yn ystod y flwyddyn er mwyn cynnal a gwella sgiliau a gwybodaeth. PENDERFYNWYD
anfon y cynrychiolwyr isod i’r cynadleddau: ·
Fforwm Buddsoddi Strategol LAPF, Swydd Hertford
Gorffennaf 2018 Cynghorwyr Simon Glyn a Peter Read i wirio os
gallasent fynychu, gyda’r Cynghorydd Stephen Churchman wrth gefn, heb swyddog. ·
Seminar Buddsoddi’r LGC, Casnewydd Medi 2018 Cynghorwyr John Pughe Roberts a Peredur Jenkins i
fynychu, gyda’r Pennaeth Cyllid. ·
Cynhadledd flynyddol Fforwm Cronfa Pensiwn Awdurdod
Lleol, Bournemouth Rhagfyr 2018 Cynghorydd John Pughe Roberts a Caroline Roberts
(Rheolwr Buddsoddi) i fynychu, gyda chynrychiolydd o’r Bwrdd. ·
Cynhadledd Llywodraethu’r CPLlL, Bryste Ionawr
2019 Cynghorwyr John Brynmor Hughes a Robin Williams i
fynychu, gyda swyddog a chynrychiolwyr o’r Bwrdd, a gyda’r Cynghorydd John
Pughe Roberts wrth gefn. ·
Uwchgynhadledd flynyddol Russell Investments,
Llundain Tachwedd 2018 Cynghorwyr John Pughe Roberts a Peter Read i fynychu, gyda’r Pennaeth Cyllid.
|
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD PENSIYNAU PDF 60 KB I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: Cyflwynwyd er
gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn amlygu dyddiadau cyfarfodydd
pensiynau ar gyfer y flwyddyn 2018 / 2019 fel bod modd i’r aelodau nodi’r dyddiadau
yn eu dyddiaduron a chynllunio ymlaen yn briodol. Amlygwyd bod
Cynhadledd Llywodraethu’r CPLlL yn cael ei gynnal ym Mryste ar y 17-18 o Ionawr
2019 oedd yn gwrthdaro gyda chyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau. Cynigiwyd newid
dyddiad y Pwyllgor Pensiynau i Ionawr 21ain 2019 fel bod modd i Aelodau a Swyddogion
fynychu’r gynhadledd. Cyfeiriwyd at
ddyddiadau’r Panel Buddsoddi sydd yn cael eu cynnal yn chwarterol i graffu
perfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn. Nodwyd bod y rhain yn cael eu cynnal
yn Llundain a Caernarfon a chadarnhawyd mai’r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd Caernarfon
fydd 21ain Chwefror 2019 a 16eg o Fai 2019. PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth ac i addasu dyddiad Pwyllgor Pensiynau mis Ionawr 2019 i’r 21ain. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 14 o Atodiad 12A
o Deddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglyn a trafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol (yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â bwriadau buddsoddi a phenderfyniadau am ddewis cwmnïau buddsoddi yn gallu
effeithio yn niweidiol ar weithgareddau
masnachol sensitif. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd
gorau . Am y rhesymau yma y mater yn gaeedig er y budd
cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 -
Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol
(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus
fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi
gwybodaeth ynglŷn â bwriadau
buddsoddi a phenderfyniadau am ddewis cwmnïau buddsoddi yn gallu effeithio yn
niweidiol ar weithgareddau masnachol sensitif. Byddai hyn yn groes i’r budd
cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau. Am y
rhesymau yma roedd y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. |
|
DYRANIAD ASEDAU I GRONFEYDD ECWITI BYD-EANG PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid (Copiau arwahan i aelodau’r Pwyllgor yn unig) Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r Pwyllgor am yr hawl i weithredu, mewn
ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor ar ddyrannu asedau i gronfeydd ecwiti
byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru. Amlygwyd bod
diweddariadau cyson rheolaidd wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar gynnydd Partneriaeth
Pensiwn Cymru (PPC) wrth sefydlu pwl buddsoddi, yn unol â gofynion San Steffan. Eglurwyd mai amcanion y Llywodraeth
oedd gwell deilliannau buddsoddi, lleihau risg a lleihau costau wrth alluogi
pob awdurdod cyfansoddol i weithredu ei strategaeth fuddsoddi eu hunan. Yn dilyn cyngor
gan Weithredwr PPC ac i arddangos graddfa’r pwlio i’r
Llywodraeth, dewiswyd ecwiti byd eang wedi ei reoli’n weithredol fel math o
asedau ar gyfer y cronfeydd cyntaf, a nodwyd bu cyflwyniad gan Link a Russell i aelodau’r Pwyllgor ar 15 Mawrth, a
chyfarfodydd anffurfiol ar 30 Ebrill a 17 Mai, lle derbyniwyd cyngor arbenigol ymgynghorydd
Hymans Robertson ar y mater. PENDERFYNWYD: ·
Yn unol ag argymhelliad A, bod y Pwyllgor Pensiynau yn cefnogi Partneriaeth Pensiwn Cymru mewn sefydlu 2 gronfa
ac i gynnwys y rheiny yn y prosbectws fydd yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod
Ymddygiad Ariannol. ·
Yn unol ag
argymhelliad B, bod y Pwyllgor Pensiynau yn dirprwyo grym i’r Pennaeth Cyllid
ail-ddyrannu 80% o asedau ecwiti byd-eang wedi’i reoli’n weithredol y Gronfa,
yn gyfartal rhwng Cronfa 1 a Chronfa 2 Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dechreuodd y cyfarfod am
2:00pm a daeth i ben 2:30pm |