skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn, John Griffith (Cynrychiolydd Cyngor Sir Ynys Môn), John Brynmor Hughes a Peredur Jenkins,

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

i.              Trefniadau Buddsoddiadau Ecwiti Preifat / Dyraniad Asedau rhwng Cronfeydd

 

Eglurwyd bod y dewis rhwng wahanol gronfeydd a gynigir gan Partners Group fel arfer yn cael eu cyflwyno i dderbyn sêl bendith y Pwyllgor, ond gan nad oedd y wybodaeth gerbron y pwyllgor, awgrymwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo i ddirprwyo grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd, wneud y penderfyniad ac adrodd yn ôl ar hynny i’r Pwyllgor yn mis Tachwedd.

 

Penderfynwyd dirprwyo grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd, wneud y penderfyniad ac adrodd yn ôl ar hynny i’r Pwyllgor yn mis Tachwedd.

 

ii.            Proses Caffael Gweithredwr

 

Adroddwyd bod Partneriaeth Pensiynau Cymru yn y broses o benodi Gweithredwr, ond gan fod y broses caffael cymhleth wedi cymryd amser, adroddwyd nad oedd y cyd-bwyllgor wedi cyfarfod i wneud yr argymhelliad i’r Cynghorau unigol, am y tro.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

iii.          Cynrychiolydd newydd ar Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Llywodraeth   Leol

 

Yn dilyn ymddeoliad Mary Barnett, o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol adroddwyd bod y Gymdeithas bellach wedi enwebu Clive Lloyd (Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe) i gynrychioli Cymru (yr 8 gronfa yng Nghymru) ar Fwrdd Ymgynghorol y Cynllun.
 
Derbyniwyd y wybodaeth

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 213 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12.6.17 fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 12 o Fehefin 2017 fel rhai cywir.

 

5.

MARKETS IN FINANCIAL INSTRUMENTS DIRECTIVE II (MiFID II) pdf eicon PDF 200 KB

I’r pwyllgor ethol am statws cleient proffesiynol a cymeradwyo cais gyda’r holl sefydliadau perthnasol er mwyn sicrhau gellir parhau i weithredu strategaeth buddsoddi effeithiol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eglurwyd bod awdurdodau lleol o dan y Ddeddf gyfredol yn y Deyrnas Unedig yn cael eu categoreiddio yn awtomatig fel cleientiaid ‘proffeshiynol per se’ o ran busnesau nad ydynt o fewn sgôp MiFID. Maent hefyd yn cael eu categoreiddio fel cleientiaid ‘proffeshiynol per se’ o ran busnes o fewn sgôp MiFID os ydynt yn bodloni prawf Large Undertakings MiFID. Yn unol a chyflwyniad gan MiFID, o Ionawr y 3ydd 2018, ni fydd modd i gwmnïau gategoreiddio awdurdod cyhoeddus lleol nad ydyw yn rheoli dyled gyhoeddus fel ‘cleient proffesiynol per se’ ac felly bydd angen dosbarthu pob awdurdod lleol fel cleientiaid manwerthu oni bai bod cwmnïau yn symud i fyny i statws proffesiynol detholus.

I symud i fyny i statws cleient detholus gall awdurdodau lleol, lle nad ydynt yn bodloni’r Large Undertaking MiFID, ddewis gwneud hynny drwy gwblhau ‘meini prawf symud i fyny’ penodol.

 

Adroddwyd bod MiFID yn caniatáu i gleientiaid manwerthu sy’n dewis cael eu trin fel cleientiaid proffeshiynol fodloni dau brawf wrth gael eu hasesu – prawf meintiol a phrawf ansoddol.

 

Er mwyn i Cyngor Gwynedd gael eu trin fel corff proffesiynol a ‘symud i fyny’ bydd angen cwblhau camau priodol erbyn y 3ydd o Ionawr. Bydd angen cwblhau holiadur safonol meintiol ac ansoddol i’r diwydiant ynghyd a llythyru pob cwmni a rheolwr buddsoddi.

 

Ategwyd bod y broses yn ffurfioli y drefn bresennol a bod cyfathrach broffesiynol eisoes yn bodoli rhwng y Gronfa a’r cwmnïau. Byddai peidio ‘symud i fyny’ yn  debygol o greu problemau masnach.

 

 

PENDERFYNWYD

 

i)              Nodi'r effaith bosib ar y strategaeth fuddsoddi o ddod yn gleient manwerthu o 3 Ionawr 2018 ymlaen.

 

ii)             Cymeradwyo bwrw ati yn syth i wneud cais am statws cleient proffesiynol detholus gyda'r holl sefydliadau perthnasol er mwyn sicrhau y gall barhau i weithredu strategaeth fuddsoddi effeithiol.

 

iii)           Wrth ymgeisio am statws cleient proffesiynol, bod y pwyllgor yn cydnabod ac yn cymeradwyo ei fod yn ildio'r warchodaeth sydd ar gael i gleientiaid manwerthu.

 

iv)           Dirprwyo i'r Swyddog Adran 151 y caniatâd perthnasol er dibenion cwblhau'r ceisiadau a phenderfynu ar y seiliau priodol ar gyfer y cais hwnnw.

 

6.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2017 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 132 KB

 

 Cyflwyno er gwybodaeth

·         Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ôl-Archwiliad;

·          Adroddiad ‘ISA260’ Deloitte.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth ddatganiad o gyfrifon y Gronfa Bensiwn ôl-Archwiliad ynghyd ag adroddiad ISA260 gan Deloitte. Amlygwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu eisoes wedi cymeradwyo'r cyfrifon yn eu cyfarfod ar y 28ain o Fedi a bellach wedi eu hardystio yn derfynol. Nodwyd mai arfer dda fyddai cyflwyno'r wybodaeth i’r Pwyllgor Pensiynau.

 

Tynnwyd sylw at Adroddiad Deloitte (Swyddfa Archwilio Cymru) gan nodi bod yr Archwilydd yn bwriadu cyhoeddi adroddiad diamod ar y datganiadau ariannol yn amodol ar ddatrys mân faterion oedd heb eu cwblhau. Nodwyd bod partner cwmni Deloitte wedi datgan bodlonrwydd ynghylch y materion hyn a bod dogfennau perthnasol bellach wedi ei lofnodi yn sgil y drafodaeth yn y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

Mewn ymateb i’r adroddiadau, nododd yr Aelodau eu diolch i’r tîm am eu gwaith calonogol.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn y Datganiad o Gyfrifon ac Adroddiad Deloitte / Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

7.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2017/18 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 443 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth Cyllid

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth yr adolygiad canol blwyddyn sef agweddau perthnasol i’r Gronfa Bensiwn o’r adroddiad oedd eisoes wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 28ain o Fedi 2017. Amlygwyd bod Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Rheoli Trysorlys (Cod TM CIPFA) yn ei gwneud yn ofynnol bod cynghorau yn adrodd ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys wrth osod y strategaeth (mis Mawrth yn y flwyddyn ariannol flaenorol), ar ôl y flwyddyn (mis Mai yn y flwyddyn ariannol ganlynol), ac ar ganol y flwyddyn (ym mis Medi eleni).

 

Amlygwyd yn yr adroddiad ar weithgareddau’r trysorlys, ynghyd â’r monitro risg a rheolaeth risg gysylltiedig. Nodwyd, bod yr hyblygrwydd yn cael ei reoli ac mai’r flaenoriaeth yw cadw arian y gronfa yn saff, a bod ceisio'r llog gorau yn eilradd i’r diogelwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwerth y bunt Brydeinig yn sgil trafodaethau Brexit, nodwyd bod pryderon wedi codi, ond bod ymateb  y marchnadoedd yn dilyn canlyniad yr etholiad wedi bod yn ddistaw gyda hyder busnes yn ddibynnol ar gynnydd (neu ddim) trafodaethau Brexit. Nodwyd bod buddsoddiadau wedi perfformio yn well yn nhermau'r bunt, ond fod gwerth buddsoddiadau yn ddibynnol ar berfformiad asedau mewn gwledydd byd eang.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth