Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Simon Glyn |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o Dachwedd 2017 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar
yr 9fed o Dachwedd 2017 fel rhai cywir yn ddarostyngedig ar nodi bod y
Cynghorydd John Brynmor Hughes yn bresennol. |
|
BUDDSODDI CYFRIFOL Eitem ar lafar ar gasgliadau consensws (aelodau'r Pwyllgor Pensiynau a’r
Bwrdd Pensiwn Lleol o'r sesiwn anffurfiol yn y bore gydag ymgynghorwyr y
Gronfa) ynghylch ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG), er
mwyn cyfarwyddo Cadeirydd y Pwyllgor a swyddogion y Gronfa, i'w galluogi i
gynrychioli safbwynt Cronfa Gwynedd mewn trafodaethau perthnasol rhwng
Partneriaeth Pensiwn Cymru a’r Gweithredwr ar sefydlu is-gronfeydd buddsoddi
cyfun priodol Cofnod: Adroddodd y Pennaeth Cyllid bod Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ynghyd ag
aelodau’r Bwrdd Pensiwn wedi mynychu sesiwn hyfforddiant Buddsoddi Cyfrifol gan
Paul Potter a Simon Jones o Hymans Robertson. Nodwyd y byddai modd ymateb yn ymarferol i faterion tymor byr drwy drafod
gyda’r Rheolwyr Buddsoddi yn y Panel Buddsoddi ar yr 28ain o Chwefror 2018 y
camau maent yn gweithredu arnynt wrth ystyried ‘perchnogaeth weithredol’. Yng nghyd-destun Partneriaeth Pensiynau Cymru bydd
angen i’r Gweithredwr adrodd ar eu bwriad o fod yn atebol i fuddsoddiadau
cyfrifol wrth i’r bartneriaeth ddatblygu. Mewn ymateb i’r sylw, amlygodd yr aelodau bod angen
paratoi yn well cyn mynychu’r cyfarfodydd Panel Buddsoddi er mwyn cael cyfle i
ystyried y wybodaeth sydd yn cael ei rannu ymlaen llaw. Awgrymwyd y dylid
cynnal cyfarfod anffurfiol o oddeutu 1 awr, heb gynrychiolydd o unrhyw gwmni, i
drafod y wybodaeth a chyfle i lunio cwestiynau. Cytunwyd bod hyn yn drefniant
priodol. Cynigiwyd i’r Pennaeth Cyllid wneud cais am
wybodaeth gan y Rheolwyr Buddsoddi ymlaen llaw, a threfnu cyfarfodydd
anffurfiol cyn cyfarfod y Panel. Y trefniant i’w dreialu ar gyfer 28ain o
Chwefror 2018. Ychwanegwyd bod bwriad gwahodd cwmni Blackrock i
gyfarfod buan o’r Panel er mwyn egluro’r dewisiadau gwahanol o fuddsoddiadau
goddefol maent yn cynnig, gan gynnwys cronfa newydd “MSCI Low
Carbon”. Derbyniwyd bod hyn yn gyfle i dderbyn gwybodaeth ychwanegol fyddai yn
ehangu gorwelion aelodau’r Pwyllgor. Ategodd y Pennaeth Cyllid bod Paul Potter o Hymans wedi cynnig paratoi adroddiad, i’w drafod yn y Panel
Buddsoddi, fyddai yn amlinellu egwyddorion buddsoddi cytunedig aelodau a
swyddogion Gwynedd ar sail ymatebion i’r holiaduron ar gyfer y sesiwn
hyfforddiant. Y bwriad yw i’r Panel argymell sylwadau o’r adroddiad ymlaen i’r
Pwyllgor nesaf. PENDERFYNWYD: Treialu cynnal cyfarfodydd paratoi anffurfiol cyn y Paneli Buddsoddi. Gwahodd cwmni Blackrock i gyfarfod buan o’r Panel
Buddsoddi. Gwneud cais i Hymans
ddarparu adroddiad ar egwyddorion buddsoddi Gwynedd. |
|
PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU Derbyn diweddariad ar lafar gan y Pennaeth Cyllid ar ddatblygiadau diweddar Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Pennaeth Cyllid ar ddatblygiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Yn dilyn datganiad
i’r wasg, cadarnhawyd bod Link Asset Services wedi ei penodi fel gweithredwr i gronfa’r bartneriaeth yn dilyn proses
gaffael drylwyr gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'r ymgynghorwyr, Hymans
Robertson a Burges Salmon. Adroddwyd y byddai Link yn
sefydlu ac yn cynnal cyfrwng buddsoddi ar y cyd fyddai’n dreth-effeithlon ar
ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Ategwyd bod Link, gyda chymorth Russell Investments (mewn rôl ymgynghorydd buddsoddi),
ac mewn ymgynghoriad â'r wyth cronfa awdurdod lleol unigol, wedi dechrau cynllunio'r
broses o benodi cwmnïau rheolwyr buddsoddi. Amlygwyd bod
penodi Link yn gam cadarnhaol ac yn garreg filltir ar y daith o sefydlu Cerbyd
Buddsoddi Cyfunol, yn unol â gofynion Llywodraeth San Steffan. Adroddwyd bod y
broses bellach mewn cyfnod sefydlu gyda chynllun prosiect wedi ei raglennu. Y bwriad yw y
byddai Link, gyda chefnogaeth Partneriaeth Pensiynau Cymru, yn sefydlu un
is-gronfa Ecwiti Byd-Eang i ddechrau, er mwyn arddangos eu bod yn ‘weithredol’
yn amserol, ac yna gwneud gwaith manwl ar strwythurau cyn lansio is-gronfeydd
eraill. Byddai modd treialu'r un is-gronfa er mwyn cael cyfle i addasu ac
adolygu’r swm i’w fuddsoddi ynddo fel yn briodol. Bydd Link yn cyflwyno papur
i’r Cydbwyllgor Llywodraethu ym mis Mawrth,
fydd yn manylu ar yr holl is-gronfeydd eraill a’u hamserlenni. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |