skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 431 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29.9.17 fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 29 o Fedi 2017 fel rhai cywir.

 

5.

CYSONI ISAFSWM PENSIYNAU GWARANTEDIG (IPG pdf eicon PDF 201 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Pensiynau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo cyfanswm costau ychwanegol i’r Uned Weinyddu Pensiynau barhau gyda’u gwaith i gysoni Isafswm Pensiynau Gwarantedig (IPG) aelodau unigol yn unol â  CThEM (Cyllid a Thollau EM). Adroddwyd bod oediad yn ymateb y CThEM i ymholiadau a gyda bwriad gan y CThEM i gau’r holl waith cysoni 31.12.18, nodwyd y byddai ymestyn cyfnod y tîm prosiect i ymateb i’r gwaith ychwanegol yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen.

 

Amlygwyd bod Awdurdodau eraill yn defnyddio cwmnïau allanol a bod cyfle yma yng Ngwynedd i barhau i fanteisio ar arbenigedd yr adnoddau mewnol ac osgoi defnyddio ymgynghorwyr allanol, costus.

 

Eglurwyd wrth yr Aelodau beth oedd y rhesymau dros y gwaith ychwanegol a bod cysoni isafswm pensiynau gwarantedig yn waith technegol iawn gyda’r angen i sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol, bod anghysondebau wedi eu cywiro a bod risgiau wedi eu datrys.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i gymeradwyo'r gwariant ychwanegol a diolchwyd i’r tîm prosiect am eu gwaith trylwyr

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo £50,994 o gyllideb ychwanegol i’r Uned Weinyddu Pensiynau, er mwyn ariannu parhad y tîm tan 31 Rhagfyr 2018 (dyddiad terfyn CThEM)

 

 

 

6.

BWRDD PENSIWN - AD-DALU TREULIAU, TÂL A LWFANSAU pdf eicon PDF 182 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid (mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol)

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried talu lwfans i Gynrychiolwyr Cyflogwyr a Chynrychiolwyr Aelodau’r Cynllun am fynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi'r Bwrdd Pensiwn. Nodwyd y byddai cyfraddau'r lwfans yn unol â’r cyfraddau a osodwyd ar gyfer Aelodau Annibynnol Pwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd ac Aelod Lleyg Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu Cyngor Gwynedd. Amlygwyd y byddai’r costau yn cael eu codi ar y Gronfa Bensiwn a bod grym rheolaeth cyllideb y Gronfa gyda’r Pwyllgor Pensiynau.

 

Mewn ymateb, nodwyd bod yr argymhelliad yn un teg ac y byddai talu lwfans yn adlewyrchu cyfraniad gwerthfawr a gwaith da'r Bwrdd Pensiwn.

 

PENDERFYNWYD

 

              i.   Talu lwfans i Gynrychiolwyr Cyflogwyr a Chynrychiolwyr Aelodau'r Cynllun am fynychu cyfarfodydd yn ymwneud â busnes y Bwrdd Pensiwn (gan gynnwys mynychu hyfforddiant) ar y cyfraddau gosodwyd ar gyfer aelodau annibynnol o Bwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd a’r aelod lleyg o Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu Cyngor Gwynedd.

 

            ii.   Ni fydd unrhyw lwfans yn cael ei dalu os yw'r aelod o'r Bwrdd yn cyflawni'r rôl hon o fewn eu diwrnod gwaith arferol heb ostyngiad mewn tâl.  Ar gyfer Cynghorwyr sydd wedi'u penodi i'r Bwrdd, byddai'r rôl yn rhan o wahanol benodiadau'r cyngor y maen nhw'n eu cymryd.  Felly, mae'n fater i'r Cyngor penodol sy’n gwneud y penodiad i ystyried sut y dylid ymdrin â chyfrifoldebau aelodaeth fel rhan o'u Cynllun Lwfans Aelodau perthnasol.

 

           iii.   Bydd gan bob aelod o'r Bwrdd Pensiwn hawl i hawlio lwfansau teithio a chynhaliaeth ar gyfraddau gosodwyd i aelodau annibynnol Pwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd a’r aelod lleyg o Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu Cyngor Gwynedd.  Bydd yr holl gostau (lwfans am fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn, lle’n briodol, ynghyd â lwfansau teithio a chynhaliaeth) yn cael eu codi ar y Gronfa Bensiwn.

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Deddf Llywodraeth Leol 1972  - Gwybodaeth ynglyn a trafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae'r Adroddiad Dethol Gweithredwr yn darparu crynodeb o'r ymarferiad caffael i benodi gweithredwr ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, a gyflawnwyd gan yr wyth cronfa bensiwn yng Nghymru. Mae'r gwybodaeth yma yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif am gryfderau a gwendidau cymharol yr ymgeiswyr a'u cynigion, a'r sgoriau a arfarnwyd i'r ymgeiswyr.

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

Cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae’r Adroddiad Dethol Gweithredwr yn darparu crynodeb i’r ymarferiad caffael i benodi gweithredwr ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru a gyflawnwyd gan yr wyth cronfa bensiwn yng Nghymru. Mae’r wybodaeth yma yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif am gryfderau a gwendidau cymharol yr ymgeiswyr a’u cynigion a’r sgoriau a arfarnwyd i’r ymgeiswyr.

 

8.

ARGYMHELLIAD CAFFAEL Y BARTNERIAETH PENSIWN CYMRU

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

 

(Copiau arwahan i aelodau’r Pwyllgor yn unig)

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth y Cyllid yn adrodd ar y cynnydd a wnaed gyda chaffael gwasanaethau gweithredwr ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru  i reoli asedau buddsoddi’r wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  yng Nghymru ar sail gydweithredol. Amlygwyd y byddai yn bidiwr llwyddiannus yn cael ei argymell i Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ac y byddai gofyn i’r wyth cynllun pensiwn gadarnhau drwy eu proses gymeradwyo lleol, eu bod yn ymrwymo i’r contract gyda’r Gweithredwr.

 

Adroddwyd y byddai enw'r bidiwr llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd y Cydbwyllgor Llywodraethu yn cadarnhau'r penodiad yn swyddogol.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i dderbyn argymhelliad 1 a 3 o’r adroddiad (argymhelliad 2 wedi ei ddileu oherwydd yr angen am eglurhad pellach).

 

Derbyniwyd bod y broses caffael wedi bod yn un hir a chymhleth, ond yn broses hanfodol a gwerthfawr. 

 

                PENDERFYNWYD

                 

·                     penodi Bidiwr 1 fel y bidiwr llwyddiannus ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru (rhif cyfeirnod OJEU 2017/S 050-092093), ac

·                     yn amodol ar gwblhau'r cyfnod segur ac addasu'r Cytundeb Gweithredwr yn briodol, i symud ymlaen i benodi Bidiwr 1 fel y Gweithredwr dan y Cytundeb Gweithredwr.