Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Trevor Edwards, Seimon Glyn, Glyn Thomas a H. Eifion Jones (Cynrychiolydd Cyngor Sir Ynys Môn)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

PWL BUDDSODDI CYMRU pdf eicon PDF 212 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Cyflwynwyd adroddiad  gan y Pennaeth Cyllid yn hysbysu’r Aelodau o’r cynnydd oedd wedi ei wneud yn datblygu Pŵl Buddsoddi Cymru i reoli asedau buddsoddi wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol yng Nghymru ar sail gydweithredol. Nodwyd bod y prosiect wedi symud yn ei flaen ers cytuno sefydlu Cerbyd Buddsoddi Cyffredin yn Medi 2015, gyda gwybodaeth ychwanegol o’r broses wedi ei gyflwyno yn Chwefror 2016 (ar yr hyn oedd i’w gyflwyno i’r DCLG) ac yn ddiweddarach ym Mehefin 2016 (ar y cyflwyniad  i’r Trysorlys a’r DCLG).

 

(b)          Amlygwyd bod angen adrodd yn gyson ar y bwriad o gyd-fuddsoddi gan rannu gwybodaeth gyfredol i sicrhau cysondeb. Adroddwyd bod gweinyddiaeth Cronfa Gwynedd yn aros yng Ngwynedd  gyda’r buddsoddi yn digwydd yn rhannol gan Wynedd a’r Pŵl Buddsoddi Cymru. Cadarnhawyd y byddai’r Pwyllgor Pensiynau yn parhau i osod y Strategaeth Fuddsoddi ac yn penderfynu faint o asedau fydd angen eu rhoi mewn categorïau. Wedi cytuno ar y portffolio, bydd yr elfennau hynny yn cael eu  trosglwyddo i’r rheolwr (operator) weithredu arnynt, gan benodi rheolwyr (cwmnïau) i fuddsoddi ar ran yr wyth cronfa yng Nghymru.

 

(c)          Ategwyd bod yr wyth cronfa yng Nghymru yn gyson a chytûn bod angen sefydlu  Cydbwyllgor ar y Cyd fyddai’n gosod trefn llywodraethu i sicrhau atebolrwydd a herio penderfyniadau. I weithredu hyn, awgrymwyd bod  un cynrychiolydd o bob un o’r wyth gronfa yn cael ei gynnwys ar y Cydbwyllgor yma.

 

Cyfeiriwyd at gynnwys yr adroddiad ynghyd a’r memorandwm o ddealltwriaeth (drafft) a oedd yn egluro sut fyddai’r drefn yn gweithredu yn y tymor byr ac i’r dyfodol.

 

ch)    Wrth ystyried y camau nesaf, eglurodd y Pennaeth Cyllid  bydd adroddiad ffurfiol i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym Mawrth 2017 fydd yn argymell i’r Cyngor addasu cyfansoddiad y Cyngor i’r dyfodol, fel bydd y Cydbwyllgor ar y Cyd yn cael rhywfaint o’r grym fu gan y Pwyllgor Pensiynau.

 

(d)          Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, wrth symud ymlaen i drefn ffurfiol o sefydlu Cydbwyllgor Cenedlaethol ar y Cyd, bod angen sefydlu camau cychwynnol i ddechrau proses caffael ar gyfer trefn buddsoddi newydd. O ganlyniad, amlygwyd mai priodol oedd cael fframwaith llywodraethu glir. Nodwyd nad oedd y memorandwm o ddealltwriaeth yn clymu'r Cyngor yn gyfreithiol i’r broses, ond yn creu fframwaith i sicrhau mewnbwn Cadeiryddion a Phrif Swyddogion Cyllid i’r broses a chaniatáu i’r gwaith cychwynnol ddechrau. Ychwanegwyd nad oedd gan y Cydbwyllgor  hawliau i wneud penderfyniadau, dim ond hawl i argymell a chefnogi’r broses gan roi cyfeiriad yn ôl yr angen.

 

(dd)    Amlygodd y Cadeirydd bod llawer o waith ychwanegol wedi cael ei wneud gan  Adran Cyllid ac Adran Gyfreithiol Cyngor Gwynedd a diolchwyd i’r holl swyddogion oedd ynghlwm a’r gwaith hynny.

 

PENDERFYNWYD

 

i.              bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd yn natblygiad Pŵl Buddsoddi Cymru.

ii.            bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Memorandwm o Ddealltwriaeth drafft.

iii.           bod y Pwyllgor yn dirprwyo hawl i’r Pennaeth Cyllid gytuno unrhyw newidiadau i’r Memorandwm o Ddealltwriaeth, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd.

iv.           bod y Pwyllgor yn penodi  y Cadeirydd, y Cynghorydd Stephen Churchman,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.