Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Seimon Glyn a H. Eifion Jones (Cynrychiolydd Cyngor Sir Ynys Môn)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 225 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9.6.2016 fel rhai cywir   .

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9fed o Fehefin 2016 fel rhai cywir.

 

5.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2015/16 pdf eicon PDF 378 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

(a)          Cyflwynwyd adroddiad  gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar sut fuddsoddwyd arian parod y Gronfa Bensiwn ar y cyd gydag arian y Cyngor yn 2015/16. Roedd yr adroddiad yn cyflawni gofynion Cyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

 

(b)        Amlinellwyd mai diogelwch y buddsoddiad oedd prif amcan buddsoddi yr Awdurdod ac fe eglurwyd sut roedd yr arian wedi cael ei fuddsoddi er mwyn uchafu’r budd. Nodwyd bod cyfuno’r cronfeydd yn ceisio gwell dychweliadau.

 

(c)        Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad

 

DERBYNIWYD ADRODDIAD Y RHEOLWR BUDDSODDI ER GWYBODAETH

 

 

6.

FFIOEDD FIDELITY pdf eicon PDF 102 KB

Consider the Head of Finance Report

Cofnod:

 

(a)          Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn argymell y Pwyllgor i dderbyn cynnig gan Fidelity o raddfeydd ffioedd newydd er mwyn ceisio cwtogi costau. Gyda’r gronfa wedi sicrhau arbedion sylweddol o’r gostyngiad yn ffioedd Blackrock yn sgil pwlio buddsoddiadau ecwiti goddefol y cronfeydd Cymreig, roedd cyfle i adolygu ffioedd Fidelity. Nodwyd bod y risgiau wedi eu hystyried a bod cyngor wedi ei dderbyn gan Hymans (a oedd wedi ei gylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor), yn argymell symud i raddfa ffioedd newydd. Ategwyd mai pwlio cronfeydd oedd wedi arwain at y cynnig a oedd yn debygol o fod yn fanteisiol i’r Gronfa.

 

(b)          Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhelliad

 

PENDERFYNWYD DERBYN CYNNIG FIDELITY O RADDFEYDD FFIOEDD NEWYDD YN DDI-OED