Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Trevor Edwards, Margaret Lyon (Cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), John P. Roberts  a Tudor Owen

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 196 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20.10.16 a 10.11.16 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 20fed o Hydref a’r 10fed o Dachwedd 2016 fel rhai cywir.

 

5.

DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO 2017/18 - 2019/20 pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn dilyn cyhoeddiad y Prisiad Actiwaraidd yn Tachwedd 2016, amlygodd y Rheolwr Buddsoddi ei bod yn ofynnol i’r Cyngor  adolygu a chyhoeddi Datganiad Strategaeth Cyllido (DSC) teirblynyddol erbyn 31 Mawrth 2017 (nodwyd bod  DSC cyfredol Gwynedd wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau ar 17 Mawrth 2014). Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi oedd yn barod i’w rannu am gyfnod ymgynghori gyda’r cyflogwyr sy'n rhan o'r cynllun, yr actiwari ac ymgynghorydd y gronfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyflwyno’r strategaeth, nodwyd mai ffurfioli'r trafodaethau a gynhaliwyd 10 Tachwedd 2017 oedd y strategaeth - yn crynhoi'r penderfyniadau a wnaed gyda’r cyflogwyr. Adroddwyd,  er bod  y ddogfen yn un dechnegol a swmpus ei bod wedi ei pharatoi mewn ymgynghoriad a chefnogaeth Hymans.

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD  A CADARNHAWYD Y RHAGDYBIAETHAU A’R POLISÏAU A AMLINELLWYD YN YR ADRODDIAD AR GYFER YMGYNGHORI’N BRIODOL

 

 

6.

DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI 2017/18 - 2019/20 pdf eicon PDF 192 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r Datganiad (drafft) Strategaeth Buddsoddi (sydd yn cymryd lle, mewn enw yn unig, y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi - yn unol â gofynion deddfwriaeth newydd) ar gyfer ymgynghoriad gyda'r holl bartïon a diddordeb erbyn Mawrth 31ain 2017.

 

Adroddwyd bod y strategaeth yn seiliedig ar drefniadau buddsoddi ar hyn sydd angen ei wneud i ddelio â Rheolwyr Buddsoddiadau. Petai y trefniadau buddsoddi angen eu newid, byddai angen ail adolygu'r strategaeth yma.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Phrydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r angen i addasu dulliau buddsoddi, amlygwyd gyda portffolios byd-eang na fyddai angen addasu dulliau buddsoddi gan mai'r cwmnïau fydd yn cael eu heffeithio yn uniongyrchol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â buddsoddiadau moesegol, amlygwyd mai prif gyfrifoldeb ac amcan y gweinyddwr yw sicrhau’r dychweliadau gorau i’r gronfa a bod angen rhesymau pendant ac amddiffynadwy am ddilyn strategaeth fuddsoddi ‘wleidyddol’ fyddai’n gallu peryglu hyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â buddsoddi mewn isadeiledd lleol, nodwyd nad oedd cyfleoedd rhanbarthol cyffrous yn cynnig eu hunain i Ogledd Cymru a bod buddsoddi mewn isadeiledd nad oedd yn cynnig ei hun, yn risg o ran enillion. Wrth ystyried cronfeydd Pŵl Cymru, awgrymwyd y posibilrwydd o annog trafodaethau a chyfleu barn ar fuddsoddi mewn isadeiledd, gan roi ystyriaeth lawn i fentrau posib yng Ngogledd Cymru. Awgrymwyd y byddai Pŵl Cymru efallai, gyda’r hyblygrwydd i fuddsoddi mewn isadeiledd mwy lleol gan fod maint yn galluogi buddsoddiad uniongyrchol mewn isadeiledd.

 

Nodwyd, petai yr angen yn codi i  adolygu buddsoddiadau'r Gronfa, byddai angen addasu cytundebau gyda Rheolwyr Buddsoddi. Y cam rhesymegol fyddai cynnig sylwadau i gynrychiolwyr Pŵl Buddsoddi Cymru. Awgrymwyd cynnal trafodaeth yn y panel buddsoddi cyn cynnig unrhyw beth ffurfiol.

 

Gwnaed awgrym hefyd y dylai’r rheolwyr buddsoddi barchu'r angen i gadw  buddsoddiadau yn gyfreithiol, ac ymddwyn yn gyfrifol.  Atebwyd y gellid herio eu gweithredoedd i sicrhau eu bod yn ddigon doeth i beidio â buddsoddi mewn rhywbeth amheus.

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD A CHYMERADWYWYD Y DATGANIAD DRAFFT AR GYFER CYFNOD YMGYNGHORI

 

7.

PWL BUDDSODDI CYMRU pdf eicon PDF 287 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn hysbysu Aelodau’r Pwyllgor o’r cynnydd gyda datblygu Pŵl Buddsoddi Cymru i reoli asedion buddsoddi'r wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru ar sail gydweithredol; ac i geisio cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer y Cytundeb Rhwng-Awdurdodau i’w argymell i’r Cyngor llawn dderbyn, er mwyn ymrwymo i sefydlu Pŵl Cymru Gyfan a llywodraethu'r Cydbwyllgor perthnasol.

 

Nodwyd mai cwmni Burges Salmon oedd wedi llunio’r Cytundeb Rhwng –Awdurdodau  gyda chyfraniad gan swyddogion cyllid a swyddogion cyfreithiol yr wyth gronfa. Roedd y cytundeb yn adlewyrchu'r hyn oedd wedi ei drafod dros y misoedd diwethaf.

 

Amlygwyd nad oedd y ddogfen yn derfynol, ond gofynnwyd i’r aelodau ddirprwyo hawl i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyfreithiol â’r Cadeirydd i gytuno unrhyw newidiadau i’r Cytundeb Rhwng-Awdurdod cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn am gymeradwyaeth ar 2 Mawrth 2017. Nodwyd bod angen gwneud mân addasiadau cyn ei gyflwyno, ond bod y cytundeb, o ran ffurf, yn eithaf agos i’w le.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Dylid anelu i sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i waith y Pŵl

·         Bydd angen i’r awdurdod lletya drefnu bod dogfennau ar gael yn ddwyieithog a bydd cyfarfodydd ffurfiol, cyhoeddus yn cael eu cynnal yn ddwyieithog

·         Bod angen lleoliad addas ar gyfer cyfarfodydd Cydbwyllgor y Pŵl

 

Mewn ymateb i’r sylw, nodwyd bod y materion iaith wedi eu hamlygu mewn cyfarfod o Gadeiryddion y Pŵl ar 11/1/2017 ac wedi ei ‘dderbyn fel dealltwriaeth’. Amlygodd y Cyfreithiwr bod posib ychwanegu hyn i’r cytundeb. Cydnabuwyd bod safonau darpariaeth iaith yn amrywio dros Gymru.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid sicrhau bod cyfarfodydd swyddogol ffurfiol Cydbwyllgor y Pŵl yn dilyn trefn dwyieithrwydd llawn, ac y dylid cynnwys cymalau priodol yn y cytundeb.

 

Wrth fynegi diolch am y gwaith oedd wedi ei wneud i lunio’r cytundeb, gwnaed cais i'r swyddogion nodi, pe byddent yn anghyfforddus gydag unrhyw sefyllfa, eu bod yn adrodd yn ôl i’r  Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Cyfreithiwr, wrth sefydlu Partneriaethau, rhaid peidio gosod elfennau caeth. Amlygwyd bod materion allweddol, lefel uchel yn parhau ar lefelau lleol a bod hyn yn rhan o’r cytundeb. Nodwyd hefyd y byddai’r cydbwyllgor yn mabwysiadu rheolau lleol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwahaniaethau mewn rheoliadau cynghorau mewn aelodaeth pwyllgorau, ac yn benodol y cyfnod Cadeiryddiaeth, nodwyd na fyddai trefniadau Gwynedd yn cael eu haddasu i gydymffurfio â rheolau a threfniadau cynghorau eraill.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â Gwynedd yn cynnig eu hunain fel awdurdod lletya, derbyniwyd bod y sylw yn fater trafodaeth a bod modd cynnig hyn i’r cydbwyllgor petai hyn oedd dymuniad y Pwyllgor. Amlygodd y Cyfreithiwr bod Gwynedd yn arwain ar nifer o brosiectau, ac felly byddai angen sicrhau bod adnoddau yn eu lle cyn mentro - byddai angen adolygu hyd a lled y gwaith i gyfarch y gofynion. Eglurwyd y byddai’r adnodd lletya yn cael ei gyllido gan yr wyth gronfa ac felly gellid ystyried y sylw fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.