Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2016/17

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn gadeirydd am y flwyddyn 2016 – 2017

 

Diolchodd y Cynghorydd Stephen Churchman i’r Cynghorydd Tudor Owen am ei waith a’i gefnogaeth fel cyn-gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau.

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2016/17

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn is-gadeirydd am y flwyddyn 2016 – 2017

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Seimon Glyn, John P. Roberts a  Glyn Thomas

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 216 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17.03.16 fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17fed o Fawrth 2016 fel rhai cywir

7.

ADRODDIAD ECWITI PREIFAT pdf eicon PDF 184 KB

Ystyried  adroddiad y Rheolwr Buddsoddi 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor Pensiynau gadarnhau buddsoddiad uniongyrchol gyda’r Partners Group Direct Equity 2016 Fund yn unol â barn y Panel Buddsoddi a gynhaliwyd 19.5.16.

 

Yn dilyn cyflwyniad a thrafodaeth gyda Hymans Robertson yn  y Panel Buddsoddi ynglŷn ar opsiynau posib ar gyfer ymrwymiad pellach i ecwiti preifat i gyrraedd y meincnod strategol o 5%, barn y panel oedd buddsoddi £25 miliwn mewn cronfa uniongyrchol ecwiti gyda Partners Group.

 

Adroddwyd bod y mater eisoes wedi ei drafod gan y Panel Buddsoddi, ond bod angen penderfyniad ffurfiol y Pwyllgor Pensiynau.

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ffioedd sydd yn cael eu talu am y buddsoddiad, adroddwyd bod y ffi yn seiliedig ar sŵm y buddsoddiad. Ategwyd y byddai’r ffi wedi ei drafod wrth i’r cytundeb gael ei gytuno, ond derbyniwyd yr awgrym i rannu gwybodaeth perthnasol. Awgrymwyd gwneud cais i Hymans Robertson ddarparu’r wybodaeth am y ffioedd ac i’r Rheolwr Buddsoddi rannu hynny yn uniongyrchol gyda’r Cynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Pensiynau yn cadarnhau buddsoddiad uniongyrchol gyda Partners Group Direct Equity 2016 Fund yn unol â barn y Panel Buddsoddi

 

 

8.

PWLIO BUDDSODDIADAU AR GYFER CRONFEYDD PENSIWN CPLlL MEWN LLOEGR A CHYMRU pdf eicon PDF 361 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn rhoi diweddariad ar y prosiect pwlio buddsoddiadau ar gyfer cronfeydd pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod cynnig am Pŵl Cymru wedi ei  gyflwyno i’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (ACLlL) (Department for Communities and Local Government (DCLG) yn Chwefror 2016. Nodwyd bod y cynnig hwnnw yn ymateb i’r meini prawf ag eithrio maint, gan fod y DCLG wedi nodi y byddent yn rhagweld pwls gydag isafswm o £25bn o asedau (cyfanswm asedau cronfeydd Cymru oedd tua £12-13bn ym mis Mawrth 2015). Ychwanegwyd bod y cynnig hefyd yn pwysleisio'r gwaith sylweddol a wnaed hyd yma ynghyd a chreu sefyllfa unigryw o gydweithio ledled Cymru.

 

Adroddwyd bod ymateb DCLG i’r cynnig yn rhoi cefnogaeth gref i'r defnydd arfaethedig o gerbyd rheoleiddio ffurfiol ac yn cydnabod nodweddion unigryw  Pŵl Cymru. Anogwyd y cronfeydd i weithio ymhellach ar fanylion y cynnig a chyflwyno cynnig manylach ym mis Gorffennaf.

 

Nodwyd bod y Cynghorydd Stephen Churchman a’r Pennaeth Cyllid wedi mynychu  cyfarfod o Gadeiryddion Pŵl Cymru yng Nghaerdydd ar 13 Mai. Rhoddwyd diweddariad cryno ar rai o’r materion a drafodwyd.

 

·         Cadarnhau’r bwriad i symud ymlaen i ddefnyddio gweithredwr trydydd parti ar gyfer cyd-fuddsoddi

·         Cadarnhawyd y byddai cronfeydd unigol yn parhau gyda rheolaeth dros eu strategaethau buddsoddi eu hunain (dyrannu i gategorïau o asedau)

·         Trafodaethau trosglwyddo buddsoddiadau angen eu cynnal i ystyried trefniadau  a gweithredu

·         Bod angen ymgysylltu ynglŷn â rôl Byrddau Pensiwn, ac os bydd angen Bwrdd Pensiwn i Gymru

·         Bydd Cyd-bwyllgor (yn cynnwys Cadeiryddion Pwyllgorau Pensiwn a Phrif Swyddogion Cyllid) yn cael ei sefydlu i fonitro a herio gwaith y gweithredwr

·         Ni fydd cyfarwyddyd gan y Llywodraeth o ran % o’r gronfa i’w fuddsoddi mewn isadeiledd - disgwylir i’r Pŵl wneud datganiad o uchelgais (5% - 10%).

·         Anodd adnabod arbedion o’r broses - ni fydd y Llywodraeth yn mynnu bod y Pŵl yn cadw at ei amcangyfrif o arbediad

 

Adroddwyd y byddai Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd, gyda dau swyddog arall o Pŵl Cymru a chefnogaeth Hymans, yn cyflwyno i Panel y Llywodraeth yn Swyddfa Trysorlys EM yn Llundain, ar y 16eg o Fehefin. 

 

Nodwyd hefyd byddai Cadeirydd Pwyllgor Pensiynau Gwynedd a’r Pennaeth Cyllid yn mynychu cyfarfod nesaf Cadeiryddion Pŵl Cymru yng Nghaerdydd ar 27 Mehefin i gytuno’r ffordd ymlaen, ac yn mynychu cyfarfod o’r Bwrdd Pensiwn Gwynedd ar 29 Mehefin i adrodd ar gynnydd perthnasol.

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fydd costau ‘tynnu allan’ o fuddsoddiadau cyfredol y Gronfa, adroddwyd y byddai hyn yn ddibynnol ar y gweithredwr, y rheolwyr buddsoddi, a’u portffolio buddsoddiadau.

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy fydd yn dewis rheolwyr y Pŵl, (fund managers), adroddwyd mai'r gweithredwr fydd yn dethol a dewis y rheolwyr, gyda’r cyd-bwyllgor yn dylanwadu wrth fonitro a herio gwaith y gweithredwr.

 

ch)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fydd y canran tebygol o arian y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.