Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr John B. Hughes, Aeron M. Jones, Dilwyn Morgan a W. Tudor Owen. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2016, fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL 2015/16 PDF 138 KB Cyflwyno’r datganiadau ariannol statudol ar
gyfer 2015/16. a) Cyflwyno’r datganiadau ariannol
statudol diwygiedig gan y Pennaeth Cyllid am gymeradwyaeth y pwyllgor (ynghlwm) b)(i) Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260”
i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar
ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar Ddatganiadau Cyfrifon 2015/16 Cyngor
Gwynedd (ynghlwm) b)(ii)
Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor a’r
Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” ar ran y Pwyllgor
Archwilio, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng nghyswllt cymeradwyo datganiadau
ariannol statudol y Cyngor (copi i ddilyn fel Atodiad 1 i adroddiad gan yr
archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn (b)(i)
uchod) c)(i) Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260”
i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar
ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar Ddatganiadau Cyfrifon 2015/16 y Gronfa
Bensiwn (ynghlwm) c)(ii)
Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor a’r
Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” ar ran y Pwyllgor
Archwilio, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng nghyswllt cymeradwyo datganiadau
ariannol statudol y Gronfa Bensiwn (copi i ddilyn fel Atodiad 1 i adroddiad gan
yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn (c)(i)
uchod). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: i) Datganiad o’r Cyfrifon Cyflwynodd
y Pennaeth Cyllid y datganiadau ariannol statudol diwygiedig am gymeradwyaeth y
pwyllgor. Nododd bod yr adroddiadau gan Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol
Cymru yn nodi’r prif newidiadau yn y cyfrifon ers cyflwynwyd y fersiwn
cyn-archwiliad i gyfarfod 14 Gorffennaf o’r Pwyllgor. ii) Adroddiad yr Archwilydd
Penodedig ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol a) Cyfrifon y Cyngor Yn unol â’r drefn
Archwilio Flynyddol, sef adroddiad yr Archwilydd Penodedig i’r rhai sy’n
llywodraethu, cyflwynwyd adroddiad Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru
gan Ian Howse, Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte. Adroddwyd bod y gwaith
archwilio wedi ei gwblhau a bod yr Archwilydd
Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar gyfrifon Cyngor
Gwynedd am 2015/16. Nodwyd y prif sylwadau
canlynol: ·
Bod un camddatganiad na gywirwyd o ran
cam-ddosbarthu arian parod a dderbyniwyd wedi ei ddarganfod ond gan ei fod yn
fater o ran amseru ac nid oedd yn newid y sefyllfa ariannol roedd yr archwilwyr
yn fodlon nad oedd yn cael ei gywiro; ·
Bod un camddatganiad a
gywirwyd i’w boddhad; ·
Nid oedd unrhyw faterion oedd angen sylw wedi eu
hamlygu gan y tîm archwilio yng nghyswllt y risgiau sylweddol a brofwyd; ·
Bod y cyfrifon yn rhagorol a’i ddiolch i’r tîm
cyfrifo am eu gwaith ac ansawdd y cyfrifon a oedd yn hwyluso eu gwaith o’u
harchwilio. Mewn ymateb i
ymholiad gan aelod parthed y camddatganiad a gywirwyd yng nghyswllt
cam-ddosbarthu darpariaeth cyflog cyfartal, nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn
fater cyfrifyddu technegol ac fe gywirwyd i adlewyrchu’r defnydd o’r arian. b) Cyfrifon Cronfa Bensiwn
Gwynedd Nododd Arweinydd
Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte bod yr Archwilydd Cyffredinol yn
bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd am
2015/16. Nodwyd y prif
sylwadau canlynol: ·
Yng nghyswllt camddatganiadau na gywirwyd, o ran
prisio buddsoddiadau eiddo ei fod yn fater o farn felly roeddent yn fodlon nad
oedd yn cael ei gywiro gan nad oedd yn ystyriaeth faterol; ·
Bod un camddatganiad na gywirwyd o ran
camddosbarthu arian parod a dderbyniwyd wedi ei ddarganfod ond gan ei fod yn
fater o ran amseru ac nid oedd yn newid y sefyllfa ariannol roedd yr archwilwyr
yn fodlon nad oedd yn cael ei gywiro; ·
Nid oedd unrhyw faterion oedd angen sylw wedi eu
hamlygu gan y tîm archwilio yng nghyswllt y risgiau sylweddol a brofwyd; ·
Bod cyfrifon y Gronfa Bensiwn yn gymhleth iawn a’u
bod yn gyfrifon rhagorol. Nododd aelodau eu
gwerthfawrogiad o waith y swyddogion wrth baratoi’r cyfrifon. Nododd y Pennaeth
Cyllid ei werthfawrogiad o gyd-weithrediad yr archwilwyr. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Archwilio, gyda’r grym a
ddirprwywyd gan y Cyngor i fod “y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” yng
nghyswllt cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol a’r archwiliad perthnasol,
yn cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol diwygiedig, yn derbyn adroddiadau
perthnasol Deloitte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac yn awdurdodi’r
Pennaeth Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor i arwyddo’r “llythyrau cynrychiolaeth”
a’u cyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2016/17 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN PDF 525 KB Cyflwyno, er gwybodaeth,
adroddiad y Pennaeth Cyllid ar wir
weithgarwch benthyg a buddsoddi’r Cyngor hyd yma yn
y flwyddyn ariannol gyfredol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosodwyd cefndir a
chyd-destun i’r adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi ar weithgaredd rheolaeth trysorlys y flwyddyn gyfredol. Nodwyd oherwydd y sefyllfa
ariannol yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr
Undeb Ewropeaidd a phenderfyniad banc Lloegr i leihau
cyfradd sylfaenol i 0.25%, y rhagwelir y bydd cyfraddau yn lleihau a byddai
effaith ar y llog a dderbynnir fel cyfanswm yn
erbyn y gyllideb. O ganlyniad, ni
ellir adrodd ar hyn o bryd
y cyrhaeddir y targed a osodwyd yn y strategaeth
ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ond fe adroddir
pan ddaw’r sefyllfa yn gliriach. Nodwyd bod y perfformiad
yn unol â’r
hyn a ddisgwylir yn y cyfnod at 31 Awst 2016. Dosbarthwyd copi
o’r wybodaeth ar gyfer y tabl
ar dudalen 139 o’r rhaglen. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod,
cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid nid oedd
y Cyngor yn buddsoddi tramor. Ychwanegodd bod y sefyllfa
ychydig yn wahanol o ran y Gronfa Bensiwn gyda buddsoddiadau
trawsffiniol. Eglurodd y Pennaeth Cyllid mai’r strategaeth hirdymor oedd lleihau’r
hyn a fenthycir a lleihau’r hyn a fuddsoddir. Nodwyd os byddai
llogau yn codi fe ailymwelir a’r strategaeth ac fe adroddir ar y mater i’r Pwyllgor. Holwyd os
byddai’r aelodau efo diddordeb mewn
cynnal sesiwn efo cwmni Arlingclose,
ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor i drafod
Rheolaeth Trysorlys.
Roedd yr aelodau yn
awyddus i gynnal sesiwn. Mewn ymateb i ymholiad
gan aelod parthed faint oedd y Cyngor yn hunan fenthyca, nododd y Pennaeth Cyllid bod y Cyngor yn hunan fenthyca
tua £40miliwn. Eglurodd nad oedd
yn bosib i’r Cyngor hunan
fenthyca mwy nag isafswm y llif arian ar y pryd
gan y byddai’r Cyngor yn talu
crocbris o ran gorddrafft. Nodwyd nad
oedd yn cael
ei ddatgan fel arbediad yn
yr atodlen arbedion ond ei
fod yn osgoi
costau sylweddol, ystyrir cynnwys y swm yn yr
adroddiad blynyddol i adlewyrchu faint y byddai’r Cyngor wedi talu mewn
llog pe bae wedi benthyg. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod,
nodwyd bod y Cyngor wedi adennill 98% o’i fuddsoddiadau ym manc Heritable a rhagwelir derbyn dosraniadau pellach. Nodwyd yn gyson
â’r hyn adroddwyd
ers 2008, fe
ddylid adennill y swm llawn, ond
nid yw’r amseriad wedi ei
gadarnhau gan ei fod yn
ddibynnol ar ganlyniad achos llys sy’n parhau. PENDERFYNWYD: (i)
derbyn yr adroddiad
er gwybodaeth; (ii)
cynnal sesiwn
efo cwmni Arlingclose, ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor i drafod Rheolaeth
Trysorlys. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 1/7/16 - 16/9/16 PDF 448 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith
Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 8 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi ei gwblhau
a 3 archwiliad dilyniant. Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn
ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y materion canlynol – Rheoli Gwybodaeth Mewn ymateb i sylw gan aelod
parthed hyfforddiant, nododd y Rheolwr Archwilio bod y Cyngor yn darparu hyfforddiant
ar-lein a dogfennau yn y ganolfan bolisi
yng nghyswllt rheoli gwybodaeth. Nodwyd y gobeithir bod Rheolwyr
ac Uwch Reolwyr yn annog swyddogion
i gwblhau’r hyfforddiant ond bod hefyd cyfrifoldeb ar yr unigolyn
i gwblhau’r hyfforddiant. Mewn ymateb i sylw dilynol
gan yr aelod
o ran defnyddio llarpiwr yn hytrach na sachau dinistrio data, nododd y Rheolwr Archwilio bod y Cyngor yn symud
i ffwrdd o ddefnyddio sachau dinistrio gan ddefnyddio
llarpiwyr fwy. Ychwanegwyd bod symudiad i fuddsoddi mewn
llarpiwyr a fyddai’n rhatach yn y pendraw
na gweinyddu’r
drefn o ddefnyddio sachau dinistrio data. Gwyliau Gofalwyr Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod, eglurodd y Rheolwr Archwilio y derbyniwyd cais gan y 3 Rheolwr
Ardal i edrych
ar hawliau gwyliau Gofalwyr Cymunedol gan fod
y gweithwyr yn teimlo nad
oedd y gwyliau ychwanegol yr oeddent
yn derbyn yn wir adlewyrchu
eu hawl o bosib. Nodwyd ei fod yn faes cymhleth
a bod llawer o waith dadansoddi a gwirio wedi ei gwblhau
fel rhan o’r archwiliad a daethpwyd i’r casgliad
bod hawliau gwyliau Gofalwyr Cymunedol yn cael eu
cyfrifo’n gywir. Holodd aelod pam nad
oedd categori barn wedi ei nodi
ar yr archwiliad
hwn. Mewn ymateb, nododd
y Rheolwr Archwilio oherwydd mai ar
gais y rheolwyr y cynhaliwyd yr archwiliad
y rhoddir sylwadau i’r Adran eu
hystyried. Cartref Preswyl
Plas Gwilym, Penygroes Mewn ymateb i sylwadau
gan aelodau o ran eu pryderon bod themâu yn amlygu
yn rheolaidd mewn archwiliadau o gartrefi preswyl y Cyngor, nododd y Rheolwr Archwilio bod yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant wedi ymrwymo o ran hyfforddiant yn y maes gofal a rheoli
meddyginiaeth. Nodwyd nad oedd
gan weithwyr mewn cartrefi gofal
fynediad at fodiwlau e-ddysgu ar hyn
o bryd ond bod symudiad at eu galluogi i gael
mynediad i’r modiwlau. Pwysleisiwyd mai cyfrifoldeb y Rheolwyr Ardal oedd sicrhau bod y trefniadau priodol mewn lle ac fe obeithir bod y materion a godir yn yr archwiliadau
yn derbyn ystyriaeth yn holl
gartrefi preswyl y Cyngor. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar
waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Gorffennaf 2016 hyd at 16 Medi 2016 a chefnogi’r argymhellion a gyflwynwyd eisoes i reolwyr
y gwasanaethau perthnasol er gweithrediad. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2016/17 PDF 475 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr
Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun
Archwilio Mewnol 2016/17. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y
Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau
cynllun archwilio mewnol 2016/17. Adroddwyd bod yr Uned
Archwilio Mewnol hyd at 16 Medi 2016 wedi cwblhau 26.5% o’r cynllun, gyda 22
o’r 83 archwiliad yng nghynllun 2016/17 wedi eu rhyddhau yn derfynol. PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad fel
diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2016/17. |