Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw G. Wyn Jones

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

 

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 76 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17 Hydref 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17eg o Hydref 2019, fel rhai cywir.

 

 

5.

ADOLYGIAD O DREFNIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 1 MB

I ystyried adroddiad Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith, yn amlinellu canlyniadau adolygiad diweddar i drefniadau craffu'r Cyngor. Eglurwyd bod gweithgor wedi ei sefydlu o Aelodau a Swyddogion i adolygu’r trefniadau craffu cyfredol yn dilyn sylwadau nad oedd craffu yn ychwanegu gwerth, fod y trefniadau yn araf yn dwyn ffrwyth a theimlad y gellid gwneud pethau yn well. Ategwyd bod ceisio gwelliant parhaus trwy adolygu a herio’r drefn yn cyfrannu at yrru gwelliant mewn gwasanaethau i bobl Gwynedd.

 

Lluniwyd tri opsiwn gan y Gweithgor yn wreiddiol, ac yn dilyn gwaith ymgynghori gydag aelodau a’r Fforwm Craffu addaswyd yr opsiynnau hynny er ystyriaeth y Pwyllgor.Ystyriwyd

-          Tri Pwyllgor Craffu (mân addasiadau i’r trefniadau cyfredol)

-          Un Prif Bwyllgor Craffu

-          Dau Bwyllgor Craffu

 

Trafodwyd yr opsiynau gan gyfeirio at fanteision ac anfanteision pob opsiwn yn unigol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried os oedd un opsiwn yn rhagori a chyflwyno’r opsiwn dewisol fel argymhelliad i’r Cyngor Llawn ar 19.12.19.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau Unigol:

-          Nad oes capasiti gan un Aelod i gadeirio Un Pwyllgor – pryder bod hyn yn ormod o gyfrifoldeb i un Cadeirydd

-          Derbyn yr angen i adolygu’r drefn

-          Pryder na fyddai materion ar bwnc penodol yn cael eu cofnodi mewn cyfarfodydd anffurfiol / rhannu gwybodaeth

-          Bod angen ystyried sut mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno

-          Bod angen edrych yn fwy strategol ar eitemau yn hytrach na materion cyffredinol ar draws y Sir.

-          Pa bynnag drefn neu opsiwn sydd yn cael ei ddewis nid yw’n golygu y bydd y craffu yn gwella – angen  miniogi trefniadau a blaenoriaethu yn well

-          Opsiwn Un Pwyllgor yn cau allan gormod o Aelodau

-          Opsiwn Un Pwyllgor – yn rhoi cyfle i rai Aelodau fagu arbenigedd drwy arwain

-          A’i craffu sydd yn wallus ynteu diffyg aelodau i adnabod eu rôl? Angen ystyried addysgu Cynghorwyr o’u cyfrifoldebau

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwy fydd yn Cadeirio'r Pwyllgor Craffu be fyddai opsiwn Un Pwyllgor Craffu yn rhagori, mynegodd y Swyddog Monitro bod fformiwla statudol mewn lle i benderfynu hyn yng nghyd-destun y balans gwleidyddol. Byddai’r fformiwla hefyd yn cael ei  defnyddio petai opsiwn Dau Bwyllgor Craffu yn rhagori.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd opsiwn 1 – Tri Pwyllgor Craffu

 

Gwnaed cais hefyd i’r Pwyllgor ystyried pa bwyllgor craffu ddylai graffu materion yr Adran Tai ac Eiddo yn dilyn ail strwythuro’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal yn y Fforwm Craffu, yng nghyfarfod anffurfiol y Pwyllgor Craffu Gofal a gyda Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu Cymunedau a Gofal. Daethpwyd i’r farn yn y trafodaethau hyn mai’r Pwyllgor Craffu Gofal oedd y lle gorau i graffu materion tai ac eiddo gan fod materion iechyd a gofal bellach yn cael eu cysylltu gyda thai.

 

            Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol gan Aelodau Unigol:

-          Bod cyswllt amlwg rhwng Tai /Ansawdd Tai ac Iechyd

-          Bod y berthynas rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd yn datblygu

-          Bod capasiti gan Pwyllgor Craffu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNIGION ARBEDION YR ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL, ADRAN GYLLID A'R TÎM RHEOLI CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL I DDYGYMOD GYDA'U CYFRAN O'R BWLCH £2M POSIB YNG NGHYLLIDEB 2020/21. pdf eicon PDF 50 KB

Aelodau Cabinet – Cynghorwyr Nia Jeffreys ac Ioan Thomas

 

I ystyried yr adroddiad

 

 

 

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar gynigion arbedion fyddai’n cyfrannu tuag at y bwlch ariannol posib yng nghyllideb 2020/21. Atgoffwyd yr Aelodau nad yw’r grant blynyddol, a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddigonol ers y 12 mlynedd diwethaf ac o ganlyniad wedi arwain  at sefyllfa lle mae’r Cyngor yn gorfod cynllunio ar gyfer llenwi’r bwlch ariannol. Ar gyfer 2020/21 penderfynwyd cynllunio ar gyfer bwlch £2m gan ofyn i’r holl adrannau ddarganfod eu cyfraniad hwy i’r swm. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynigion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, Adran Gyllid a’r Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol ynghyd a’r goblygiadau.

 

Ymhelaethodd yr Aelodau Cabinet a Phenaethiaid yr Adrannau ar gynnwys yr adroddiad, gan  ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr Aelodau.

 

Arbedion Adran Cefnogaeth Gorfforaethol

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gostyngiad mewn gwariant ar argraffu dogfennau corfforaethol  a’r awgrym y dylai Cynghorwyr weithredu yn ddi-bapur,  adroddwyd bod arbediad eisoes wedi ei wneud drwy gyflwyno cyfarpar technoleg gwybodaeth i Gynghorwyr, ond derbyn bod modd gwneud mwy. Ategwyd bod angen hyrwyddo defnydd technoleg yn well, cynyddu hyder mewn defnydd a diwallu’r problemau o ddefnyddio fideo gynhadledd / mynychu o bell.

 

Mewn ymateb i sylw bod yr Adran yn tanwario yn hanesyddol ar angen am gyllideb realistig i’r dyfodol, mynegwyd bod yr adran yn cynllunio a pharatoi ymlaen llaw ar gyfer toriadau/arbedion ac mai hynny sydd yn bennaf gyfrifol am unrhyw dan-wariant o flwyddyn i flwyddyn. 

 

 

Arbedion yr Adran Gyllid

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â denu incwm drwy gytundebau newydd a hynny fel awdurdod lletyol / arweiniol, nodwyd bod hyn yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo oherwydd hyder awdurdodau eraill yn ansawdd gwaith Cyngor Gwynedd.

 

 

Arbedion Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymdopi gyda 2 aelod o’r Tîm Rheoli yn hytrach na 3, mynegwyd bod y swydd yn cael ei chadw’n wag ar hyn o bryd ar sefyllfa yn cael ei fonitro o ran effaith. Ategwyd, petai’r rhaglen arbedion yn parhau yna byddai modd ystyried y swydd fel arbediad i’r dyfodol.

 

Sylwadau cyffredinol:

-       Y dylid amcangyfrif y swm i’r cannoedd ac nid i’r punnoedd

-       Croesawu nad oedd yr arbedion yn creu effaith ar drigolion Gwynedd

-       Bod y cynigion yn rhai synhwyrol

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo cynigion yr adrannau i gwrdd â’u cyfran o arbedion perthnasol

 

 

7.

LLYTHYR ARCHWILIO BLYNYDDOL 2018 - 2019 GAN YR ARCHWILWYR ALLANOL pdf eicon PDF 182 KB

 

 I nodi a derbyn y Llythyr Archwilio Blynyddol ar gyfer 2018-19

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn crynhoi’r prif negeseuon allweddol sydd yn deillio o gyfrifoldebau statudol yr Archwilydd o dan y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a’r cyfrifoldebau adrodd o dan Còd Ymarfer Archwilio. Ym Medi 2019, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn archwilio ddiamod ar ddatganiadau cyfrifyddu Cyngor Gwynedd 2018/2019 gan gadarnhau eu bod yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol a thrafodion y Cyngor.

 

Amlygodd Aelod Cabinet Cyllid bod cynnwys y llythyr yn gadarnhaol. Diolchwyd a llongyfarchwyd yr holl staff am eu gwaith

 

PENDERFYNWYD derbyn y Llythyr Archwilio ar gyfer 2018 - 2019

 

8.

STRATEGAETH ARIANNOL - CYLCH GWAITH CYLLIDEB 2020 - 2021 pdf eicon PDF 187 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn rhoi amlinelliad o drefn llunio cyllideb am y flwyddyn 2020 / 2021, yn unol â blaen raglen y Pwyllgor. Amlygwyd bod cynllunio’r  gyllideb wedi bod yn heriol gan nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei chyhoeddi ac nad oes bwriad gwneud hynny tan ar ôl etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig (16.12.19 yw dyddiad cyhoeddi setliad drafft 2020/21). O ganlyniad, gan nad yw manylion y setliad ar gael, amcangyfrifwyd arbedion o £2m wrth gynllunio’r gyllideb ond rhagrybuddiwyd y gall hyn newid.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet bod Seminarau Cyllideb i Aelodau yn cael eu trefnu ym mis Ionawr i rannu a thrafod y wybodaeth yn fanylach a phwysleisiodd yr angen i’r hol Aelodau fynychu. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y gwahoddiad hefyd yn agored i’r aelod lleyg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr amserlen ar gyfer cynllunio ariannol 2020/2021

 

9.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2019-20 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 344 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn manylu ar wir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Eglurwyd, rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2019, arhosodd gweithgarwch benthyca a buddsoddi’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol. Nid oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu a amcangyfrifir y bydd gwir incwm buddsoddi’r Cyngor yn rhagori ar yr incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2019/20.

 

Cyfeiriwyd at y Strategaeth Fenthyca ynghyd a rhoi diweddariad byr ar y Gyfradd Sicrwydd Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB). Nodwyd, yn Hydref 2019 cododd cyfradd safonol llog o 1% ac nid yw’r Cyngor yn rhagweld unrhyw angen benthyca PWLB ar hyn o bryd. Wrth gyfeirio at y gweithgareddau buddsoddi, amlygwyd bod y Cyngor yn buddsoddi mewn cronfeydd cyfun lle mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn llai o ystyriaeth, ac yn hytrach, yr amcanion yw incwm refeniw rheolaidd a sefydlogrwydd prisiau hirdymor. Yng nghyd-destun cydymffurfio, cadarnhawyd bod yr holl weithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio’n llawn â chod ymarfer CIPFA a Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.

 

O ran rhagolygon ar gyfer gweddill 2019/20 nodwyd bod twf y farchnad yn arafu yn sgil yr ansicrwydd gyda Brexit ond eto ni ragwelir effaith sylweddol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad cywir a chadarnhaol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lle i fenthyg os oes angen, nododd y Pennaeth Cyllid, er bod y gyfradd llog wedi codi ym mis Hydref, nid oedd ymgynghorwyr y trysorlys yn rhagweld llogau yn codi ymhellach. Nid yw’r Cyngor mewn sefyllfa ar hyn o bryd o fod angen benthyg.

 

Mewn ymateb i awgrym y gall y Cyngor fod mewn sefyllfa i gynnig morgeisi / fenthyca arian i brynu tŷ, nodwyd bod y Cyngor yn cefnogi nifer o gynlluniau Tai ar hyn o bryd. Un cynllun yw neilltuo arian premiwm treth cyngor ar gyfer amrediad o gyfleoedd  a chynlluniau dod a thai gwag yn ôl i ddefnydd. Ategwyd nad oedd rhedeg morgeisi yn flaenoriaeth ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

 

10.

ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 81 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn amlygu’r camau gweithredu a grëwyd mewn ymateb i wireddu argymhellion adroddiadau archwilio. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifoldeb arnynt i ystyried adroddiadau archwilio allanol (Cenedlaethol a lleol i Wynedd), yr argymhellion a gynhwysir ynddynt ynghyd a goblygiadau rhain i lywodraethu, rheoli risg neu reolaeth. Rhaid i’r Pwyllgor fodloni eu hunain bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod y cynigion gwella yn cael eu hystyried a’u gweithredu.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol ar gynigion gwella adroddiadau archwilwyr allanol 2013 - 19 (rhan 1)

·         Bod angen ystyried fformat mwy effeithiol i adrodd ar yr argymhellion i’r dyfodol – ymddengys mwy o fanylder mewn rhai adroddiadau

·         Cais i amlygu tuedd

·         Bod angen croesgyfeirio adroddiadau a phenderfyniadau sydd wedi bod mewn Pwyllgorau eraill (e.e., Pwyllgorau Craffu)

·         Bod gormod o wybodaeth am brosesau – angen canolbwyntio ar yr allbynnau ar hyn sydd wedi ei gwblhau

·         Awgrym i osod amserlen ac amlygu’r prif gerrig milltir

·         Bod angen canolbwyntio ar y cynnydd

 

Trafodwyd pob un o’r cynigion gwella yn eu tro ac fe heriwyd rhai o’r casgliadau.

·         Cynigiwyd addasu casgliad ‘Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol yr Arolygaeth  Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) 2013/2014’ i  “ar waith” yn hytrach na “wedi ei gwblhau” gan y nodir bod ‘perfformiad wedi gostwng oherwydd diffyg i gyrraedd yr holl ofynion o fewn yr amserlenni statudol’.

·         Cynigiwyd addasu casgliad ‘Rheoli Asedau [Tir ac Adeiladau]’ i “ar waith” yn hytrach na “wedi ei gwblhau” gan y nodir bod ‘angen ailagor trafodaethau â phartneriaid lleol a rhanbarthol ynghylch datblygu dull systematig o gynllunio asedau ar y cyd...’.

 

Yn ddarostyngedig i’r cynigion uchod, roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda chasgliadau cynigion gwella adroddiadau lleol neu ranbarthol sydd yn asesu gwaith Cyngor Gwynedd (rhan 1)

 

Yng nghyd-destun adroddiadau cenedlaethol neu gyffredinol sydd yn berthnasol i Lywodraeth Leol (rhan 2), gwnaed sylw ynglŷn ag adroddiad ‘Craffu Da? Cwestiwn Da’ ac o ystyried adolygiad presennol Cyngor Gwynedd ar drefniadau Craffu, a ddylai’r archwiliad gael ei nodi fel ‘ar waith’? Nodwyd bod yr adroddiad ‘Craffu Da? Cwestiwn Da’ bellach wedi dyddio a'r gwaith wedi ei drosglwyddo i adroddiad o dan yr enw ‘Trosolwg Craffu’  ac felly cytunwyd bod y casgliad “wedi ei gwblhau” yn dderbyniol.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod  y camau gweithredu a grëwyd mewn ymateb i’r argymhellion yn gywir, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a gynigiwyd i gasgliadau Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol yr Arolygaeth  Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) 2013/2014’ a ‘Rheoli Asedau [Tir ac Adeiladau]’.

 

 

11.

TREFNIADAU GWRTH DWYLL, GWRTH LYGREDIGAETH A GWRTH LWGRWOBRWYO pdf eicon PDF 160 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth Cynorthwyol Cyllid (Refeniw a Risg)

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn diweddaru’r Pwyllgor ar drefniadau atal twyll ac atal llygredd y Cyngor, cynnydd ar y rhaglen waith am y tair blynedd nesaf ynghyd a datblygiadau cenedlaethol yng nghyd-destun twyll yn erbyn y sector gyhoeddus. Atgoffwyd yr Aelodau bod rhaglen waith Strategaeth Gwrth-dwyll, Gwrthlygredd a Gwrth  Lwgrwobrwyo Cyngor Gwynedd ar gyfer 2019 - 2022 wedi ei mabwysiadu gan y Pwyllgor ar y 14eg o Chwefror 2019.

 

Amlygwyd nad oedd swyddogion y Cyngor yn ymchwilio i honiadau o dwyll yn ei erbyn ar hyn o bryd. Er hynny, ers Ebrill 1af 2019, adroddwyd bod y Gwasanaeth Budd-dal wedi cyfeirio 22 o achosion Budd-dal Tai i’r Adran Gwaith a Phensiynau (Llywodraeth DU) am ymchwiliad pellach. Nodwyd nad yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymchwilio i dwyll Gostyngiad Treth Cyngor, a felly fod camau pendant wedi eu cymryd i ddatblygu sgiliau yn fewnol i ymchwilio i’r twyll yma. Ategwyd bod 3 o swyddogion budd-dal a 3 o swyddogion trethi yn gweithio ar gymhwyster CIPFA Accredited Counter Fraud Technician ar hyn o bryd sydd yn fuddsoddiad arwyddocaol i weithdrefnau atal twyll y Cyngor.

 

Yng nghyd-destun defnyddio data, cyfeiriwyd at y gweithrediad i asesu’r posibilrwydd o ddefnyddio data’n well er mwyn adnabod ac ymchwilio i dwyll. Ategwyd mai’r cynllun cyfredol i adnabod ac ymchwilio i dwyll yw ymarferiad y Gwasanaeth Trethi i adolygu rhai o’r disgowntiau ac eithriadau a ganiateir i gyfrifon Treth Cyngor y Sir. Amlygwyd , mewn ymchwil diweddar, mai hawliadau ffug am Ddisgownt Person Sengl yw’r trydydd math mwyaf cyffredin o dwyll sydd yn cael ei weithredu gan oedolion yng Nghymru. Nodwyd bod 18,000 o gartrefi Gwynedd yn derbyn disgownt person sengl Treth Cyngor ac er mwyn sicrhau bod pob eithriad a disgownt a ganiateir yn gywir, bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda chwmni Datatank i adolygu hawlwyr disgownt. Os darganfyddi’r hawliadau anghywir bydd y Cyngor yn diweddu’r hawliadau, ysgrifennu at y trethdalwyr ac yn ceisio adennill y gostyngiad.

 

Tynnwyd sylw at adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a gafodd ei gyhoeddi ym Mehefin 2019 sydd yn rhoi darlun o’r mathau o dwyll y gellid eu cyflawni yn erbyn y sector gyhoeddus yng Nghymru. Nodwyd mai cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol  oedd darparu’r adroddiad fel bod modd adrodd ar y trefniadau sydd yn ei lle o fewn y gwahanol fathau o gyrff cyhoeddus. Cymeradwywyd cynnig yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal adolygiad pellach (cam 2) i archwilio pa mor effeithiol yw trefniadau atal twyll yn ymarferol ac i wneud argymhellion ar gyfer gwella. Adroddwyd bod bwriad cyhoeddi cam 2 o’r adolygiad ym mis Mehefin 2020 gydag awgrym i adrodd i’r Pwyllgor ganlyniad y gwaith ac unrhyw faterion sydd yn benodol i Wynedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a thwyll yn ymwneud â throsglwyddo eiddo hunan-ddarpar allan o’r Gyfundrefn Treth Cyngor, nodwyd mai cyfrifoldeb Asiantaeth Swyddfa’r Prisiwr yw casglu gwybodaeth a dod i benderfyniad ar faterion twyll o’r math yma. Mewn sylw ynglŷn â’r angen i wirio gwaith a phenderfyniad y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 164 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod 7 Hydref hyd 15 Tachwedd 2019. Amlygwyd bod 8 o archwiliadau’r cynllun wedi eu cwblhau. Tynnwyd sylw ar lefel sicrwydd perthnasol archwiliadau'r cynllun, gan nodi bod y canlyniadau yn galonogol gyda’r lefelau yn syrthio i’r ddau gategori uchaf sef digonol (rheolaethau mewn lle i gyflawni amcanion ond bod agweddau lle gellir tynhau ar y trefniadau i liniaru’r risgiau ymhellach) ac uchel (gellir datgan sicrwydd o briodoldeb gan y gellir dibynnu ar y rheolaethau mewnol mewn lle i gyflawni amcanion).

 

Cyfeiriwyd at Gynllun Cytundeb Adran 106 - lefel sicrwydd digonol. Archwiliwyd i drefniadau addas mewn lle wrth osod rhwymedigaethau cynllunio adran 106 er mwyn lliniaru effeithiau negyddol datblygiadau. Detholwyd sampl o rwymedigaethau a chyfraniadau ariannol at e.e., darpariaeth addysg, llecynnau agored a thrafnidiaeth yn ogystal â ble nad oedd cyfraniadau ariannol.  Amlygwyd mewn rhai sefyllfaoedd bod arian wedi ei dderbyn ar gyfer sawl datblygiad heb ei wario er gwaethaf ymdrechion yr Adran Cynllunio i annog mudiadau megis Cynghorau Cymuned i’w wario. Ategwyd y gall hyn greu risg o orfod talu'r arian yn ôl i’r datblygwyr gyda llog.

 

Cyfeiriwyd ar Gynllun Costau Gwely a Brecwast - lefel sicrwydd digonol. Bwriad yr archwiliad oedd sicrhau bod trefniadau addas mewn lle ar gyfer gweinyddu ceisiadau digartrefedd lle lleolir ymgeiswyr mewn llety gwely a brecwast. Adroddwyd bod cynnydd o 36% yn y galw am y gwasanaeth ers 2014 / 15 ac yn fwy diweddar yn sgil effaith credyd cynhwysol. Amlygwyd bod y gyllideb wedi gostwng yn y tair blynedd diwethaf oherwydd toriadau o fewn y Cyngor i arbed arian yn ogystal â cholled mewn staff, yn benodol yn Arfon ble mae’r ganran fwyaf o ymgeiswyr a diffyg lleoliadau ar gael.

 

Cyfeiriwyd at Cynllun Cartrefi Plas Pengwaith, Bryn Blodau a  Llys Cadfan - lefel sicrwydd digonol. Bwriad yr archwiliadau oedd sicrhau bod trefniadau rheoli a chynnal y cartrefi yn briodol ac yn unol â rheoliadau safonau perthnasol. Amlygwyd bod y cartrefi wedi ymrwymo i weithredu’r camau i liniaru’r risgiau a amlygwyd gan yr Archwilwyr. 

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen i sicrhau bod y Cartrefi yn cael ei rheoli yn effeithiol,

mynegwyd bod gwellhad yn y rheoli gyda mesurau yn eu lle i wella. Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod tystiolaeth a chofnodion ar gael ar faterion megis hyfforddiant staff. Ategwyd bod y sefyllfa yn parhau i gael ei monitro ac os na fydd cynnydd bydd modd nodi ‘diffyg gweithrediad’

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

13.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2019 - 20 pdf eicon PDF 119 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2019/20. Amlygwyd bod 18 cynllun allan o’r 54 archwiliad sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun wedi eu rhyddhau yn derfynol. Er mwyn adlewyrchu effaith ar addasiadau ac ychwanegiadau pellach i’r cynllun blaenoriaethwyd y gwaith ar sail risg a daethpwyd i’r canlyniad i ganslo 7 archwiliad pellach. Yn unol â chais a wnaed yng nghyfarfod Hydref 2019, cafwyd rhesymeg gryno dros y penderfyniad ar gyfer pob archwiliad a ganslwyd.

 

Mewn ymateb i sylw bod y nifer a ganslwyd yn ymddangos yn uchel, nodwyd bod y drefn yn ei chyfanrwydd a'r cynllun blynyddol wedi ei hystyried ar y cyd gyda’r Pennaeth Cynorthwyol Cyllid - Refeniw a Risg. Ategwyd nad yw’r 14 archwiliad yn ‘disgyn allan’ o’r cynllun tymor-canol, gan  y byddant yn flaenoriaeth yng nghynllun Archwilio Mewnol 2020/21. Nodwyd hefyd bod 40 diwrnod o waith wedi ei glustnodi ar gyfer Byw’n Iach a bod hyn yn ofyniad ychwanegol  sydd maes o law yn creu effaith ar y niferoedd archwiliadau sydd yn cael eu cynnal i Gyngor Gwynedd.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad