skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2019/20.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2019/20.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2019/20.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2019/20.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Aled Ll. Evans a Charles Wyn Jones.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 149 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019, fel rhai cywir.

7.

CYNLLUN ARCHWILIO ALLANOL 2019

Cyflwyno adroddiadau yr archwiliwr allanol.

7a

CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 504 KB

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Archwilio Perfformiad (Swyddfa Archwilio Cymru).

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad a oedd yn manylu ar drefniadau archwilio Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a Deloitte ar gyfer 2019. Nodwyd mai Deloitte fyddai’n cynnal yr archwiliad ariannol ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru. Amlygwyd y prif risgiau archwilio ariannol, a thynnwyd sylw at yr archwiliadau perfformiad y gwneir ar lefel cenedlaethol, ac y rhai penodol i Wynedd. Nodwyd bod digwyddiadau Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn gyfle i rannu gwybodaeth a rhannu ymarfer da ar destun penodol a bod croeso i aelodau a swyddogion y Cyngor fynychu.

 

Nodwyd y byddai cyfrifydd dan hyfforddiant a oedd yn gyflogedig gan Swyddfa Archwilio Cymru yn mynd ar secondiad i Gyngor Gwynedd am y cyfnod rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mai 2020, a fyddai’n rhoi profiad gwerthfawr i’r swyddog o waith cyfrifo. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn gwerthfawrogi’r cydweithio a chynhelir trafodaethau o ran cyfle i hyfforddai Cyllid o’r Cyngor dderbyn cyfle cyffelyb am secondiad am gyfnod i Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Ymatebwyd i’r cwestiynau a sylwadau, fel a ganlyn:-

·         Bod y ffi ar gyfer archwiliad o gyfrifon GwE am y gwaith yn ei gyfanrwydd. Cyngor Gwynedd oedd yr awdurdod lletya, gyda threfn yn ei le i dderbyn cyfraniadau gan y cynghorau am holl gostau’r Cyd-Bwyllgor.

·         Bod amserlen prosiect archwilio perfformiad Gwasanaethau Hamdden, a oedd wedi ei gynnwys yng nghynllun 2018, wedi llithro. Cynhelir cyfweliadau ac fe adroddir ar y gwaith yn ogystal i gwmni Byw’n Iach, a oedd bellach yn gyfrifol am ganolfannau hamdden y Cyngor.

·         Edrychir ar eiriad paragraffau yng nghyswllt ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, ar dudalen 19 y cynllun.

7b

CRONFA BENSIWN GWYNEDD pdf eicon PDF 555 KB

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Archwilio Perfformiad (Swyddfa Archwilio Cymru). Manylodd ar gynnwys yr adroddiad a oedd yn nodi cynllun archwilio'r archwiliwr allanol o ran Cronfa Bensiwn Gwynedd, gan amlygu’r prif risgiau archwilio ariannol. Nododd mai Deloitte fyddai’n cynnal yr archwiliad ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cadarnhaodd yr edrychir ar eiriad paragraffau yng nghyswllt ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

 

Croesawodd y Pennaeth Cyllid y cynllun. Nodwyd diolch am yr adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau.

8.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 2/2/2019 - 31/3/2019 pdf eicon PDF 320 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 19 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau. Tynnwyd sylw o ran archwiliadau dilyniant, bod gweithrediad derbyniol ar 94.48% o’r camau cytunedig, sef 154 allan o 163. Amlygwyd ni dderbyniwyd ymateb i geisiadau i dderbyn gwybodaeth a thystiolaeth gan yr Unedau/Gwasanaethau perthnasol ar gynnydd gweithrediadau ar gyfer yr archwiliadau canlynol:

·         Manddaliadau (3 gweithrediad)

·         Trefniadau ar gyfer Plant yn Gadael Gofal (1 gweithrediad)

·         Targedau Ailgylchu (5 gweithrediad)

        

Nodwyd yn dilyn derbyn gwybodaeth, roedd adroddiadau'r archwiliadau isod wedi eu rhyddhau yn derfynol:

·         Cynlluniau Gofal a Chymorth (Plant) o dan Rhan 4 DGC (Cymru) 2014 (Plant a Theuluoedd)

·         Rheoli Llifogydd (Ymgynghoriaeth Gwynedd)

 

Cyfeiriodd aelod at y diffyg ymateb gan Unedau/Gwasanaethau i geisiadau i dderbyn gwybodaeth a thystiolaeth. Nododd y dylid un ai tynnu sylw’r Aelodau Cabinet perthnasol neu fod y swyddogion perthnasol yn ymddangos gerbron y Pwyllgor. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio pe byddai’r Pwyllgor yn dymuno gellid galw’r swyddogion perthnasol gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau. Cynigwyd i alw’r swyddogion perthnasol i’r archwiliadau gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau. Nododd aelod y dylid galw’r Aelodau Cabinet perthnasol gerbron y Gweithgor yn ogystal. Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio bod dyddiad wedi ei bennu ar gyfer cyfarfod o’r Gweithgor Gwella Rheolaethau lle trafodir archwiliadau a gyfeiriwyd at y Gweithgor yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Eiliwyd y cynnig, pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y prif faterion canlynol –

 

Polisi Chwythu’r Chwiban – Ysgolion Gwynedd

 

Nododd nifer o aelodau eu siom bod 34% o’r ysgolion heb ymateb i gadarnhau bod gan yr ysgolion bolisi cyfredol mewn lle a’i fod wedi ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Corff Llywodraethu, a bod gan bob aelod o staff fynediad rhwydd at y polisi o ystyried pwysigrwydd y polisi.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod canran yr ysgolion a oedd wedi ymateb yn eithaf da. Nododd nid oedd y ffaith bod rhai ysgolion heb ymateb yn golygu nad oedd y polisi wedi ei fabwysiadu. Eglurodd bod yr Adran Addysg wedi ymrwymo i ail anfon templed Polisi Chwythu’r Chwiban i’r ysgolion a oedd ddim yn defnyddio’r fersiwn gyfredol ac i’r rhai wnaeth ddim ymateb. Nododd ers cwblhau’r archwiliad y derbyniwyd cadarnhad gan ychwaneg o ysgolion bod y Corff Llywodraethu wedi mabwysiadu’r polisi.

 

Nododd aelod bod y polisi yn hynod bwysig yng nghyd-destun ysgolion ac er bod ysgolion wedi mabwysiadu’r polisi bod dealltwriaeth staff o’r polisi yn fater pellach. Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Archwilio mai pwrpas yr archwiliad oedd sicrhau bod polisi cyfredol wedi ei fabwysiadu gan Gyrff Llywodraethu ysgolion, nid oedd ymwybyddiaeth staff o’r polisi o fewn cwmpas yr archwiliad ond ei fod yn fater i’w ystyried yng nghyd-destun risg.

 

Pwysleisiodd aelod ei fod yn bwysig derbyn cadarnhad gan yr holl ysgolion y mabwysiadwyd y polisi cyfredol pan gwblheir gwaith dilyniant gan y Gwasanaeth Archwilio Mewnol.

 

Statws Cyflogaeth – GwE

 

Tynnodd aelod sylw bod GwE yn dilyn yr archwiliad wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2018/19 pdf eicon PDF 131 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio. Ar sail gwaith Archwilio Mewnol a gwblhawyd yn ystod 2018/19, roedd y swyddog yn fodlon bod gan Gyngor Gwynedd fframwaith gadarn o reolaeth fewnol.  

 

Adroddwyd bod 60 darn o waith wedi eu cynnwys yng nghynllun archwilio addasedig terfynol 2018/19. Nodwyd bod 58 o’r aseiniadau wedi eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2019, a oedd yn cynrychioli 96.67% o’r cynllun.

 

Nodwyd bod cynnydd yn nifer y dyddiau cynhyrchiol oedd ar gael ar gyfer archwiliadau Cyngor Gwynedd o 707 diwrnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018 i 913 diwrnod am yr un cyfnod yn 2018/19, cynnydd o 206 diwrnod. Ymhelaethwyd bod hyn o ganlyniad i benodi Arweinydd Archwilio a phenodi Archwilwyr dros dro.

 

Tynnwyd sylw at fesur perfformiad newydd ar gyfer 2018/19, sefCyfran o’r archwiliadau mewnol yn derbyn lefel sicrwyddDigonolneu well (mesur corfforaethol)’. Nodwyd bod y perfformiad ar gyfer 2018/19 yn 88.46%.

 

Cyfeiriwyd at fesur newydd ar gyfer 2019/20, sefCyfran o’r gweithrediadau cytunedig lefel risg uchel neu uchel iawn sydd wedi eu gweithredu yn unol â’r amserlen (mesur corfforaethol)’. Nodwyd bod yr uchelgais perfformiad yn 100%, a pe byddai diffyg ymateb amserol gan Unedau/Gwasanaethau i gais am wybodaeth neu dystiolaeth byddai’r mater yn dod gerbron y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd aelod at fesur perfformiadCyfran o’r archwiliadau mewnol yn derbyn lefel sicrwyddDigonolneu well’, holodd os oedd yr uchelgais perfformiad o 65% ar gyfer 2019/20 yn ddigonol o ystyried perfformiad o 88.46% yn 2018/19. Ychwanegodd bod y perfformiad yn ddibynnol ar Adrannau’r Cyngor ac nid oedd yn mesur perfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod y mesur yn fesur corfforaethol a bod perfformiad yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly nid oedd rheswm i gynyddu’r uchelgais perfformiad o ystyried bod lefel sicrwydd archwiliadau ar y cyfan yn uchel. Ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn fesur cyrhaeddiad ar gyfer y Cyngor, gellir edrych ar eiriad y mesurydd ond roedd y mesurydd yn dangos ardrawiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed gwaith archwilio cyfrifon Cynghorau Cymuned a Thref, nododd y Rheolwr Archwilio bod y Gwasanaeth wedi cwblhau gwaith archwilio ar gyfer oddeutu 75 Cyngor Cymuned a Thref yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Ymhelaethodd nad oedd elw sylweddol yn deillio o’r gwaith a bod gwersi wedi eu dysgu wrth sefydlu trefniadau yn 2018/19 a fyddai’n galluogi cwblhau’r gwaith yn gynt yn 2019/20.

 

Nodwyd gwerthfawrogiad o waith y Rheolwr Archwilio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel adroddiad blynyddol ffurfiol y Pennaeth Archwilio Mewnol yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y flwyddyn ariannol 2018/19.

10.

SIARTER ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 235 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio y Siarter Archwilio Mewnol i’r Pwyllgor gan nodi bod ychydig o newidiadau i gynnwys y Siarter i gyd-fynd â gofynion Nodyn Gweithredu Llywodraeth Leol (2019) a gyhoeddwyd gan CIPFA.

 

Tywysodd yr aelodau trwy’r Siarter gan dynnu sylw bod newidiadau i deitlau swyddi a bod y Siarter yn adlewyrchu modd gweithredu'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ddarparu lefel sicrwydd ar archwiliadau.

 

Holodd aelod a fyddai’n syniad i egluro rôl y Gwasanaeth Archwilio Mewnol o ran cwblhau gwaith archwilio pan fo’r Cyngor yn awdurdod lletya i Gyd-Bwyllgor mewn gwaith partneriaeth. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid nid oedd o’r farn bod angen cynnwys cyfeiriad at rôl y Gwasanaeth, oherwydd nid oedd y rôl yn wahanol yn y cyd-destun yma. Ymhelaethodd bod rôl y Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn wahanol yng nghyd-destun gwaith archwilio Cynghorau Cymuned a Thref.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol.

11.

CYFRIFON TERFYNOL 2018/19 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 51 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet ar 21 Mai 2019. Diolchodd i’r Cynghorydd Peredur Jenkins, y cyn Aelod Cabinet Cyllid, am ei waith a’i ymrwymiad i sicrhau sefyllfa ariannol y Cyngor mewn adeg anodd. Pwysleisiodd bod yr Aelodau Cabinet yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i gadw at y gyllideb. Nododd nad ellid parhau i orwario ar Wasanaethau Plant ac yn y maes cludiant ysgolion.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad. Nododd yn gyffredinol, bu rheolaeth ariannol effeithiol, yn wyneb y gofynion i gyflawni arbedion.

 

Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet:

 

1.1   Nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2018/19.

 

1.2   Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1) sef –

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

15

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

100

Economi a Chymuned

28

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(59)

Tîm rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(76)

Cyllid

(59)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(61)

1.3   Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2)

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,544k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2019/20.

·         Yr Adran Addysg i dderbyn cymorth ariannol rhannol un-tro o £16k gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k.

·         Digolledu'r Adran Economi a Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o ganlyniad i lithriad yn yr amserlen sefydlu cwmni Byw'n Iach i redeg y cyfleusterau hamdden, sydd felly yn cyfyngu lefel y gorwariant i'w gario ymlaen gan yr Adran i £28k.

·         Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £518k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2019/20.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£392k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19.

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo:

                    - (£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i gronfa benodol i'w

                      ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

- (£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

- (£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.

·         Defnyddio (£1,843k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19.

·         Bydd gweddill tanwariant Corfforaethol (£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.

 

1.4   Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef:

·                     Cynaeafu (£3.931m) o gronfeydd a (£69k) o ddarpariaethau.

·                     Trosglwyddo £3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun y Cyngor.

·                     Trosglwyddo £1m i Falansau Cyffredinol y Cyngor.

·                     Neilltuo £262k am gyfnod o flwyddyn o’r gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i bontio’r ffynhonnell ariannu ymrwymiadau perthnasol i’r Gronfa

Bensiwn.”

 

Nododd bod yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

RHAGLEN GYFALAF 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (31 MAWRTH 2019) pdf eicon PDF 45 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 21 Mai 2019 a oedd yn rhoddi manylion ar adolygiad diwedd y flwyddyn o’r rhaglen gyfalaf. Nodwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario dros £22.8 miliwn ar gynlluniau cyfalaf yn 2018/19, gyda £12.5 miliwn ohono, sef 55%, wedi’i ariannu trwy ddenu grantiau penodol. Cadarnhawyd y byddai cyfanswm o £12.7 miliwn yn llithro o 2018/19, o’i gymharu â llithriad o £15.6 miliwn ar ddiwedd 2017/18. Ni achoswyd unrhyw golled ariannu grant i’r Cyngor ble gwelwyd cynlluniau yn llithro. Tynnwyd sylw at daflen benderfyniad y Cabinet.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod denu grantiau yn elfen bwysig o ariannu a’i bryder bod Adrannau yn colli capasiti o ran cwblhau ceisiadau grant mewn ffenestr fechan o amser gan ystyried mai grantiau ariannodd 55% o’r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2018/19.

 

Nododd aelod bod sgil i baratoi cais am grant a’i fod yn bwysig bod adnoddau staffio yn ei le ar gyfer paratoi a chyflwyno ceisiadau grant. Ategodd aelod y sylw gan nodi bod y Cyngor dan risg o beidio denu cymaint o grantiau. Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cyllid bod cydweithio ar draws adrannau i ddenu grantiau ac er bod lleihau adnoddau staffio yn ei wneud yn anoddach, nid oedd y Cyngor wedi cyrraedd y pwynt lle collir allan ar ddenu grantiau.

 

Amlygodd aelod bod y Cyngor yn llwyddiannus o ran denu grantiau. Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau i benawdau penodol ond nid oedd yn ffordd dderbyniol o ariannu ac fe ddylid edrych ar y ffordd yr ariennir Llywodraeth Leol. Ategodd aelod y sylw gan longyfarch y swyddogion a oedd wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor.

13.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 45 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 21 Mai 2019 a oedd yn adrodd ar sefyllfa ddiweddaraf gwireddu cynlluniau arbedion. Nododd bod dros 96% o arbedion 2015/16 – 2017/18 wedi’u gwireddu erbyn Mawrth 2019.

 

Tynnodd sylw bod cynlluniau arbedion gwerth £2.5 miliwn wedi ei gynllunio yn Strategaeth Ariannol 2018/19. Amlygodd bod 73% o’r 30 cynllun wedi’u gwireddu yn amserol, ond bu llithriad mewn gwireddu 7 cynllun. Nododd yn gyffredinol, bod y cynnydd a wnaed i wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 yn dderbyniol, ond bod arwyddion fod rhai trafferthion cyflawni yn cael eu hamlygu.

 

Nododd bod cynlluniau arbedion gwerth £6.4 miliwn ar gyfer 2019/20 ymlaen. Ymhelaethodd y byddai’r cynlluniau unigol yn cael eu monitro yn ystod y flwyddyn, ond ei fod yn gynamserol i adrodd. Tynnodd sylw at daflen benderfyniad y Cabinet a oedd yn nodi’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod cynnydd derbyniol i wireddu’r cynlluniau arbedion gan nodi ei bryder pe na fyddai’r holl gynlluniau arbedion yn cael eu gwireddu y byddai rhaid gwneud toriadau.

 

Cyfeiriodd aelod at ddiffyg trosolwg anghenion ar draws gwasanaethau cyhoeddus gyda chyrff yn gweithredu mewn seilos.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y trosolwg arbedion.

14.

CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD 2018/19 pdf eicon PDF 61 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Cyllid adroddiad yng nghyswllt cyfrifon terfynol Harbyrau Gwynedd am y flwyddyn 2018/19 yn unol â’r gofynion statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964. Nodwyd bod y cyfrifon yn cynnwys harbyrau Aberdyfi, Abermaw, Porthmadog a Pwllheli. 

 

Nodwyd yr ystyrir Harbyrau Gwynedd, oherwydd trosiant is na £2.5m, i fod yn gorff llywodraeth leol lai o faint. Eglurwyd bod cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cwrdd â’r gofynion statudol.

 

Tynnwyd sylw bod £2,875 o danwariant ar ddiwedd y flwyddyn, roedd y pennawd incwm £38k yn fyr, ond roedd swyddi wedi eu cadw’n wag i geisio gau y bwlch yn yr incwm. Ymhelaethwyd bod gwariant sylweddol wedi bod ar ‘Arwyddion a Rhybuddion’ yn dilyn digwyddiad angheuol ar draeth Abermaw.

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn destun archwiliad allanol gan Deloitte, a pe byddai newidiadau yn dilyn archwiliad, cyflwynir fersiwn diwygiedig i gyfarfod y Pwyllgor ar 29 Gorffennaf 2019.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd yr Uwch Reolwr Cyllid bod y gorwariant o dan y pennawd ‘Offer Diogelwch’ yn deillio o wariant angenrheidiol yn dilyn y digwyddiad ar draeth Abermaw. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod y datganiadau cyfrifon wedi eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor yn ei rôl llywodraethu ar gyfer eu cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth yn yr atodiadau, sef -

·         Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2018/19 – Atodiad A; a

·         Ffurflen datganiadau cyfrifon 2018/19, ar gyfer archwiliad – Atodiad B.

(ii)    awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo’r ffurflen datganiadau cyfrifon 2018/19.

15.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2018/19 pdf eicon PDF 92 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Pennaeth Cynorthwyol – Refeniw a Risg.

 

Nodwyd bod y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu wedi ystyried yr Egwyddorion Craidd a’r Is-egwyddorion yn Fframwaith CIPFA / SOLACE Delivering Good Governance in Local Government 2016, ac wedi llunio Cofrestr Risg Llywodraethu. Tynnwyd sylw bod y Gofrestr Risg Llywodraethu yn adnabod risgiau mewn 22 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r rheolaethau a oedd yn eu lle er mwyn lliniaru’r risgiau hyn.

 

Tynnwyd sylw bod un maes llywodraethu a oedd wedi ei ddynodi yn risg uchel, sef Diwylliant. Ymhelaethwyd bod gwelliant wedi bod yn y maes hwn, ond bod gwaith pellach i’w wneud. Amlygwyd bod sgôr pedwar o’r risgiau wedi newid yn ystod blwyddyn 2018/19, gyda’r sgoriau risg wedi lleihau ym mhob achos.

 

Cyfeiriodd aelod at faes llywodraethu Arweinyddiaeth, gan holi os oedd yn gynamserol i leihau’r sgôr risg o ystyried bod yr adolygiad rheolaethol wedi ei gymeradwyo yn ddiweddar a bod angen amser i weld effaith swydd ddisgrifiadau newydd ar gyfer rheolwyr a phenaethiaid.

 

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg bod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 7 Mai 2019 o ran yr adolygiad rheolaethol yn benllanw llawer o waith; er enghraifft, roeddswydd-ddisgrifiadau newydd yn rhoi eglurder o ran rôl i reolwyr a phenaethiaid. Ymhelaethodd bod hyn hefyd yn gysylltiedig â’r gwaith o newid diwylliant yn unol â Ffordd Gwynedd i fod yn un “arwain” (yn hytrach na “rheoli”), a sicrhau bod aelodau a swyddogion yn deall eu rôl.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan yr Aelod Lleyg, nododd y Pennaeth Cynorthwyol – Refeniw a Risg y byddai’n anfon deunyddiau hyfforddiant Ffordd Gwynedd at yr aelod.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2018/19;

(ii)    argymell bod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn arwyddo’r datganiad.

16.

MONITRO PERFFORMIAD

I enwebu aelod i fynychu Cyfarfodydd Herio Perfformiad Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

Cofnod:

Gwahoddwyd Aelodau i fynegi diddordeb ar gyfer mynychu cyfarfodydd monitro perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Dewi Wyn Roberts i fynychu cyfarfodydd monitro perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

17.

BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU 2019-2020 pdf eicon PDF 33 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg oedd yn amlinellu rhaglen waith y Pwyllgor am y cyfnod hyd at Fehefin 2020.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.