Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd John Pughe Roberts a Gethin Glyn Williams. |
|||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts fuddiant personol, yn eitem 5 ar y
rhaglen - ‘Amodau Gwaith Lleol’ oherwydd bod ei wraig wedi derbyn y llythyr a
bod y newidiadau yn effeithio arni yn ariannol. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 10 Mai 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mai 2018, fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nododd y Cadeirydd bod
yr eitem gerbron y Pwyllgor mewn ymateb i gais a dderbyniwyd gan ddau aelod o’r
Pwyllgor, y Cynghorwyr John Brynmor Hughes ac Angela Russell, i drafod y
llythyr a anfonwyd at staff y Cyngor yn eu hysbysu o benderfyniad Cabinet y
Cyngor ar 13 Mawrth 2018 i fabwysiadu addasiadau i amodau gwaith y Cyngor. Cyflwynodd y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol yr adroddiad, gan nodi yr anfonwyd llythyr i staff ar
26 Mawrth i’w hysbysu o benderfyniad y Cabinet, yn ei enw ef fel Pennaeth yr
Adran efo cyfrifoldeb am weithredu’r penderfyniad. Eglurodd yr anfonwyd llythyr
dilynol ar 3 Ebrill yn ymddiheuro i staff am dôn y llythyr a’r dewis o eiriau a
ddefnyddiwyd. Nododd bod yr ymddiheuriad yn un diffuant a oedd angen ei wneud.
Pwysleisiodd bod gwers bwysig wedi ei ddysgu am yr angen i fod yn barchus. Nododd y Cynghorydd
Angela Russell ei diolch am onestrwydd y Pennaeth. Nododd ei bod yn poeni o ran
effaith y llythyr ar forâl staff. Holodd a oedd y camgymeriad wedi ei wneud
oherwydd effaith y toriadau gyda dim digon o staff i wneud y gwaith a’r pwysau
arnynt. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, fel ag y bu
iddo adrodd i gyfarfod herio perfformiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol, nad oedd am guddio tu ôl i ddiffyg capasiti a’i fod yn
cydnabod bod camgymeriad wedi ei wneud.
Pwysleisiodd na fyddai’n digwydd eto a bod camau mewn lle i sicrhau hynny. Nododd y Cynghorydd
John Brynmor Hughes ei fod yn bresennol yng nghyfarfod herio perfformiad yr
Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a’i fod yn derbyn eglurhad y Pennaeth
a’r ffaith bod gwersi wedi eu dysgu a’r addewid
na fyddai sefyllfa o’r fath yn codi eto. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod o ran pwy oedd wedi gweld y llythyr cyn ei anfon at staff, nododd y
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol bod cyfreithiwr yn arbenigo yn y maes
cyflogaeth, a oedd yn cynrychioli’r Swyddog Monitro, wedi edrych ar y llythyr i
wirio ei fod yn ffeithiol gywir. Eglurodd bod tôn y llythyr yn fater iddo ef
fel Pennaeth. Holodd aelod os oedd y
Prif Weithredwr wedi gweld y llythyr. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol nad oedd y Prif Weithredwr wedi gweld y llythyr gan ei fod yn
fater gweithredol. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod o ran faint o staff oedd wedi ymateb i’r llythyr, nododd y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol bod 50% wedi ymateb i’r llythyr. Eglurodd bod y
llythyr ymddiheuriad a anfonwyd at staff yn nodi os nad oedd staff yn ymateb
i’r llythyr, a’u bod yn bresennol yn y gwaith pan ddaw’r newidiadau i’r amodau
gwaith i rym ar 1 Gorffennaf 2018, byddai eu presenoldeb yn cadarnhau eu bod yn
derbyn y newidiadau. Nododd aelod ei fod wedi derbyn copi o’r llythyr fel Clerc Llywodraethwyr ysgol er nad oedd yn y swydd ers 4 mlynedd. Holodd beth oedd effaith y llythyr ar forâl staff. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ei fod wedi dod i’r amlwg ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||||||||||||
ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL PDF 58 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosododd Rheolwr
Cefnogi Busnes y Cyngor y cyd-destun, gan nodi mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni
ei hun bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod cynigion gwella
adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gweithredu, ac ni ddylai’r Pwyllgor
ail-gynnal ymchwiliad i faterion a oedd o fewn maes gwaith y pwyllgorau craffu
eraill. Cyfeiriodd at Atodiad 1
i’r adroddiad a oedd yn cynnwys rhestr gronolegol o’r arolygiadau a gynhaliwyd
gan archwilwyr allanol rhwng 2012/13 a 2017/18 ynghyd â’u cynigion ar gyfer
gwella, a’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn y cynigion hynny ers i’r
Pwyllgor drafod y mater yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2017. Eglurodd mai sylwadau
gan yr Adran berthnasol y nodir o dan y pennawd ‘Cynnydd yn erbyn y cynigion
gwella’, gyda barn annibynnol swyddogion o Uned Cefnogi Busnes y Cyngor yn cael
ei nodi o dan y pennawd ‘Casgliad’. Nododd mai mater i’r Pwyllgor oedd barnu os
oeddent yn cytuno efo’r casgliad bod y gwaith o wireddu’r argymhelliad ‘wedi’i
gwblhau’ neu yn parhau ‘ar waith’. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau: ·
Bod adroddiad ‘Gwerthusiad
Perfformiad Blynyddol yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
(AGGCC) 2013/14’ wedi ei gyflwyno gryn amser yn ôl. Pwy oedd yn cwblhau’r
asesiadau iechyd ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal ac oedd diffyg doctoriaid
yn rheswm am y gostyngiad yn y ganran perfformiad ar gyfer cofrestru gyda
Meddyg Teulu cyn pen 10 diwrnod? ·
Bod y cynnydd o ran y cynigion
gwella yn yr adroddiad a nodir uchod yn fater oedd angen sylw; ·
Dylid gofyn i’r Pwyllgor
Craffu Gofal ystyried craffu’r materion a amlygwyd gan adroddiadau 2013/14 a
2014/15 yr AGGCC, adroddiad ‘Helpu Pobl i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n
Gwneud Digon?’, ynghyd ag adroddiad ‘Arolygiad Cenedlaethol o ofal a chymorth i
bobl sydd ag anableddau dysgu (Arolygiad ar y cyd gan AGGCC ac Arolygiaeth
Gofal Iechyd), a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella; ·
Dylid gofyn i’r Pwyllgor
Craffu Cymunedau ystyried craffu’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad
‘Cyflawni â Llai – yr effaith ar wasanaethau iechyd yr amgylchedd a
dinasyddion’, a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella; ·
Dylid derbyn cadarnhad o ran
pa bwyllgor ddylai rhoi ystyriaeth i adroddiad ‘Rheoli asedau [Tir ac
Adeiladau]’; ·
O ran yr adroddiad ‘Diogelwch
Cymunedol yng Nghymru’, os oedd y mater yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, fe
ddylai’r Pwyllgor dderbyn adroddiad ar y mater; ·
Dylid derbyn eglurhad pam nad
oedd 3 cynnig gwella o dan yr adroddiad ‘Strategaeth Pobl’ wedi eu cwblhau. Holodd aelod os oedd amserlen o ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r cynigion
gwella. Nododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor y byddai ystyriaeth i amserlen o
ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r argymhellion pan gyflwynir diweddariad i’r
Pwyllgor mewn 6 mis. Cymerodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyfle i ddiweddaru’r aelodau o ran y cynnydd yn erbyn yr argymhellion yng nghyswllt yr adroddiad ‘Rheoli Risg - Asesiad sy’n seiliedig ar risg o drefniadau corfforaethol y Cyngor’. Cadarnhaodd y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL 2017/18 – ALLDRO REFENIW PDF 119 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 22 Mai 2018. Nododd bod sefyllfa ariannol
derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18 yn cadarnhau y bu rheolaeth ariannol
effeithiol gan yr Aelodau Cabinet perthnasol, penaethiaid adrannau a rheolwyr
cyllidebau. Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet: “1.1 Ystyried a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18. 1.2 Cymeradwyo’r
symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad
yn Atodiad 1), sef –
1.3 Cymeradwyo’r argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol
(sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) – ·
Trosglwyddo £457k, cyfwerth â grant
cefnogi gwasanaethau cymdeithasol dros y gaeaf i gronfa benodol er mwyn cefnogi
hyblygrwydd a hwyluso trawsffurfio yn y maes Oedolion i'r dyfodol. ·
Cynaeafu (£37k) o'r tanwariant sef y swm
uwchlaw (£100k) Oedolion, Iechyd a Llesiant, i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r
adrannau sydd yn gorwario eleni. ·
Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn
cymorth ariannol un-tro o £676k i leddfu rhan helaeth o orwariant 2017/18, gan
ganiatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2018/19. ·
Trosglwyddo £207k ei ddileu
gorwariant yr Adran Addysg, tra bod polisïau a threfniadau cludiant yn cael eu
hadolygu. ·
Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £203k i gyfyngu lefel y gorwariant
sydd i'w gario mlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i
wynebu her 2018/19. ·
Trosglwyddo £378k o danwariant 2017/18
yr Adran Amgylchedd i gronfa benodol, yn ymwneud â bysus a chost llwybrau, i'w
ddefnyddio yn 2018/19. ·
Cynaeafu (£89k) o danwariant yr Adran
Amgylchedd sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau
sydd yn gorwario eleni. ·
Cynaeafu (£894k) o'r tanwariant
net ar gyllidebau Corfforaethol (ar Ostyngiad Treth Cyngor, bidiau a
chyllidebau a ddychwelwyd gan adrannau ac ar benawdau eraill), a’i drosglwyddo
i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2017/18. ·
Trosglwyddo £66k o'r Gronfa Cynorthwyo'r
Strategaeth Ariannol, sef y balans sydd angen, i gynorthwyo’r adrannau sydd yn
gorwario. 1.4
Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o
gronfeydd penodol fel a amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn
adolygiad o’r cronfeydd, sef: ·
Cynaeafu (£2.915m). ·
Neilltuo £2.749m ar gyfer Cynllun y
Cyngor. ·
Neilltuo £166k ar gyfer materion
gwastraff.” Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y sefyllfa ariannol yn gyffredinol yn un
derbyniol iawn. Eglurodd bod yr Aelodau Cabinet perthnasol wedi egluro’r
rhesymau am y gorwariant yn yr Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol yng nghyfarfod y Cabinet ar 22 Mai 2018. Cadarnhaodd y derbyniwyd
sicrwydd yn y cyfarfod bod y gorwariant yn derbyn sylw. Nododd y Pennaeth Cyllid bod y tanwariant yn yr Adran Addysg, Adran Amgylchedd ac Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, oherwydd bod y Cyngor wedi derbyn arian grant gan Lywodraeth Cymru yn niwedd y flwyddyn ariannol. Cadarnhaodd bod yr arian ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF 2017/18 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN PDF 112 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn rhoddi
manylion ar adolygiad diwedd y flwyddyn o’r rhaglen gyfalaf. Gosododd yr Uwch Reolwr Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 22 Mai 2018. Nodwyd bod y Cyngor wedi
llwyddo i wario dros £23m yn 2017/18 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £11m wedi’i
ariannu trwy ddenu grantiau penodol. Cadarnhawyd y byddai £15.6m o gyllideb
gwariant yn llithro o 2017/18, o’i gymharu â llithriad o £9.9m ar ddiwedd
2016/17. Ni achoswyd unrhyw golled ariannu grant i’r Cyngor ble gwelwyd
cynlluniau yn llithro. Holodd aelod os oedd rhaid
i’r Cyngor wario’r derbyniadau grant ar gyfer adnewyddu ffyrdd a chludiant a
dderbyniwyd yn chwarter olaf 2017/18 yn syth. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid
bod cynghorau yn cael cario arian drosodd ac fe fyddai rhan fwyaf o’r arian yn
cael ei wario yn 2018/19. Mewn ymateb i gwestiwn gan
aelod, nododd y Pennaeth Cyllid bod tystiolaeth y derbynnir mwy o arian ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol, os nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwario’r holl
arian a glustnodwyd ar gyfer prosiectau penodol byddent yn trosglwyddo’r arian
i’r cynghorau lleol. Nododd yr Aelod Cabinet
Cyllid ei ddiolch am y gwaith a llongyfarchodd adrannau’r Cyngor ar eu
llwyddiant i ddenu grantiau er budd trigolion Gwynedd. PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||
TROSOLWG ARBEDION 2017/18: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 113 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid a oedd yn
adrodd ar sefyllfa ddiweddaraf gwireddu cynlluniau arbedion. Gosododd yr Uwch Reolwr
Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r
Cabinet ar 22 Mai 2018. Nododd bod 108 o 122 o gynlluniau arbedion 2017/18 wedi
eu gwireddu’n llawn neu’n rhannol yn amserol. Cadarnhaodd yn nhermau ariannol
bod 81% o’r arbedion wedi’u gwireddu. Nododd bod y Cabinet ar 13
Chwefror 2018 wedi penderfynu cyfuno amryw o gynlluniau unigol yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant i ffrydiau gwaith oedd yn cyflawni arbedion o’r un
cyllidebau. Rhagwelwyd y byddai hyn yn galluogi’r Adran yn ystod 2018/19 i
wneud cynnydd sylweddol tuag at wireddu’r arbedion a oedd wedi llithro. Adroddodd bod rhagolygon o
wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 yn gyffredinol addawol. PENDERFYNWYD nodi’r
sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y trosolwg arbedion. |
|||||||||||||||||||||||
DATGANIAD O GYFRIFON 2017/18 PDF 73 KB Cyflwyno, er
gwybodaeth, y datganiadau ariannol statudol (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer
2017/18. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosodwyd cefndir a
chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid. Tynnwyd sylw mai cyfrifon
drafft heb eu harchwilio a gyflwynir yma er gwybodaeth, gyda’r fersiwn terfynol
i’w gyflwyno er cymeradwyaeth y Pwyllgor yng nghyfarfod 27 Medi 2018. Adroddwyd
bod linc i’r datganiad wedi ei anfon i holl aelodau’r Cyngor ar 20 Mehefin a
bod y datganiad yn destun archwiliad gan gwmni Deloitte,
archwilwyr allan y Cyngor a benodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, ers 18
Mehefin. Manylodd yr Uwch Reolwr
Cyllid ar gynnwys y Datganiad o Gyfrifon. Cyfeiriodd yr Aelod
Cabinet Cyllid at y Gronfa Trawsffurfio / Buddsoddi i Arbed gan nodi ei fod yn
gronfa strategol ar gyfer cyflawni yn unol â Chynllun y Cyngor gydag oddeutu
£5m wedi ei glustnodi eisoes. Eglurodd bod y Gronfa Cefnogi’r Strategaeth
Ariannol ar gyfer pontio gwariant cyn cyflawni rhai o’r cynlluniau arbedion. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod yng nghyswllt y Gronfa Trawsffurfio / Buddsoddi i Arbed, eglurodd y
Pennaeth Cyllid bod yr arian ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor a nodwyd yng
Nghynllun y Cyngor. Ymhelaethodd bod £50,000 wedi ei ddyrannu ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2018-19 er mwyn gwireddu’r cynllun ‘Cynyddu Budd Digwyddiadau
Mawrion i Wynedd’. Eglurodd bod Adrannau’r Cyngor yn dod gerbron y Cabinet efo
syniadau i gyflawni blaenoriaethau’r cynllun efo mwy o fanylder. Nododd y Pennaeth
Cyllid bod yr Uwch Reolwr Cyllid a’r tîm o gyfrifwyr wedi gwneud llawer o’r
gwaith ar y Datganiad o Gyfrifon, a’i fod ef wedi gwirio’r Datganiad. Adroddodd
y byddai Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017/18 cyn archwiliad
yn dod gerbron y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 19 Gorffennaf 2018. Diolchodd yr Aelod
Cabinet Cyllid i swyddogion yr Adran Gyllid am eu gwaith cywir a manwl gan nodi
bod Swyddfa Archwilio Cymru yn canmol cyfrifon y Cyngor a’i fod yn obeithiol y
byddent yn gwneud eleni hefyd. Cymerodd y cyfle i ddiolch i swyddogion y Cyngor
o ran eu hymateb i ofynion ariannol anodd. Ategodd y Cadeirydd y
sylwadau uchod gan ddiolch am y gwaith. PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar
archwiliad) am 2017/18. |
|||||||||||||||||||||||
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2017/18 PDF 91 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan
yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg. Nodwyd bod y Grŵp
Asesu Trefniadau Llywodraethu wedi ystyried yr Egwyddorion Craidd a’r
Is-egwyddorion yn Fframwaith CIPFA / SOLACE Delivering Good Governance in Local Government
2016, ac wedi llunio Cofrestr Risg Llywodraethu. Tynnwyd sylw bod y
Gofrestr Risg Llywodraethu yn adnabod risgiau mewn 22 o feysydd llywodraethu
gwahanol, gan nodi’r rheolaethau er mwyn lliniaru’r risgiau. Nodwyd bod camau
gweithredu ar gyfer y meysydd oedd â blaenoriaeth uchel neu ganolog wedi eu
nodi yn y datganiad. Nododd aelod ei diolch am y
gwaith. Cyfeiriodd at yr asesiad effaith o dan y pennawd ‘Cyfreithlondeb’,
nododd er ei bod yn cydnabod bod y ddogfen ar lefel strategol uchel ei bod o’r
farn bod yr asesiad yn eithaf cyfyng gan ganolbwyntio ar rôl y Swyddog Monitro
a phenderfyniadau ffurfiol. Nododd bod nifer o faterion yn cael eu codi yng
nghyfarfodydd y Pwyllgor o ran cydymffurfio a deddfau ar draws y Cyngor, er
enghraifft, yn y meysydd Iechyd a Diogelwch a Diogelu Plant ac Oedolion Bregus. Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y ceisir peidio dyblygu gwybodaeth
o dan benawdau amrywiol. Eglurodd bod materion yn y meysydd Iechyd a Diogelwch
a Diogelu Plant ac Oedolion Bregus yn cael sylw o dan y pennawd ‘Rheoli Risg’.
Pwysleisiodd mai Datganiad Llywodraethu oedd gerbron a bod materion perfformiad
yn cael eu cynnwys yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg at y pennawd ‘Rheolaeth Fewnol’, gan nodi bod y ffin o ran rôl
aelodau o ran craffu ac archwilio yn aneglur gyda’r angen i ddatblygu rhaglen
hyfforddi er mwyn i’r aelodau dderbyn arweiniad. Nododd y byddai adroddiad ar y
mater gerbron y Pwyllgor ar 19 Gorffennaf. PENDERFYNWYD: (i) cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar
gyfer 2017/18; (ii) argymell bod Arweinydd y Cyngor a’r Prif
Weithredwr yn arwyddo’r datganiad. |
|||||||||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD 2017/18 PDF 61 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Uwch
Reolwr Cyllid adroddiad yng nghyswllt cyfrifon terfynol Harbyrau
Gwynedd am y flwyddyn 2017/18 yn unol â’r gofynion statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964. Nodwyd bod y cyfrifon yn cynnwys harbyrau Aberdyfi, Abermaw, Porthmadog a Pwllheli. Nodwyd yr ystyrir Harbyrau Gwynedd, oherwydd trosiant is na £2.5m, i fod yn
gorff llywodraeth leol lai o faint yn unol â’r diffiniad yn y Rheoliadau
Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018. Eglurwyd bod cwblhau ffurflen datganiadau
cyfrifon a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cwrdd â’r gofynion
statudol ac nid oedd rhaid cynhyrchu datganiadau ariannol statudol llawn. Adroddwyd y byddai’r
cyfrifon a’r ffurflen yn destun archwiliad buan gan Deloitte,
archwilwyr allanol Cyngor Gwynedd a apwyntiwyd gan Archwilydd Cyffredinol
Cymru, ac os byddai newidiadau, cyflwynir fersiwn diwygiedig i gyfarfod y
Pwyllgor ar 27 Medi 2018. PENDERFYNWYD: (i) derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth yn yr atodiadau, sef - ·
Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2017/18 –
Atodiad A; a ·
Ffurflen datganiadau cyfrifon 2017/18, ar gyfer
archwiliad – Atodiad B. (ii) awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo’r ffurflen datganiadau cyfrifon 2017/18. |