skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Aled Ll. Evans a Mr John Pollard.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 245 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2015, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2015, fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB REFENIW 2015/16 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER pdf eicon PDF 181 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad monitro’r Pennaeth Cyllid a’r Uwch Reolwr Cyllid ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a gyflwynir i’r Cabinet ar 16 Chwefror.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Adnoddau y cyd-destun ac ymhelaethodd yr Uwch Reolwr Cyllid ar gynnwys yr adroddiad. Cyfeiriwyd at sefyllfa gorwariant tebygol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a nodwyd bod gostyngiad sylweddol o’r lefel gorwariant a ragwelwyd ar ddiwedd yr ail chwarter. Nodwyd bod rhaglen arbedion effeithlonrwydd yr Adran wedi llithro ac y byddai oddeutu £725k heb ei gyflawni eleni. Ymhelaethwyd y bydd rhaid i’r arbediad gael ei wireddu maes o law, ond yn y cyfamser bod angen trefniadau pontio priodol yn eu lle.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed gorwariant yr Adran, nodwyd bod camau ariannol a rheolaethol da wedi eu cymryd a bod y sefyllfa yn fwy derbyniol erbyn hyn.

 

         PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau; ac argymell i’r Cabinet dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion.

 

6.

RHAGLEN GYFALAF 2015/16 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER pdf eicon PDF 180 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn rhoddi manylion am y rhaglen ddiwygiedig a’r ffynonellau ariannu perthnasol.

 

Gosododd yr Uwch Reolwr Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet ar 16 Chwefror.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·        O ran gwariant isel Tai hyd yn hyn, bod gwariant megis grantiau ardaloedd adnewyddu yn ddibynnol ar nifer o ffactorau ac nad oedd y sefyllfa yn peri pryder;

·        Yr anfonir neges i’r Adran bod angen hyrwyddo’r benthyciadau/grantiau tai sydd ar gael i’r cyhoedd;

·        Bod y Cyngor yn blaen gynllunio ar gyfer y cyfnod ar ôl y rhaglen Ysgolion Ganrif 21 presennol, gyda’r Adran Addysg yn cychwyn ar y broses o flaenoriaethu a fyddai’n bwydo i Gynllun Asedau nesaf y Cyngor a fydd yn weithredol o 2019-20 ymlaen.

 

PENDERFYNWYD nodi sefyllfa rhaglen gyfalaf y Cyngor; ac argymell i’r Cabinet dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion.

7.

MATERION CYLLIDEBOL

7a

STRATEGAETH ARIANNOL 2016/17 – 2019/20 A CHYLLIDEB 2016/17 pdf eicon PDF 136 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau ar y gyllideb er mwyn rhoddi cyfle i’r Pwyllgor Archwilio graffu’r wybodaeth o ran ei briodoldeb ariannol cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Cabinet ar 16 Chwefror.

 

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Aelod Cabinet Adnoddau. Nododd bod Llywodraeth Cymru ar 10 Chwefror 2016  wedi hysbysu byddai grant y Cyngor yn llai o £39,440, ac felly bod argymhelliad 1 a roddir gerbron y Cabinet wedi ei ddiwygio fel a ganlyn, cyn ystyried  yr eitemToriadau i Gyfarch y Bwlch Ariannol’:

 

Sefydlu cyllideb o £226,954,990 ar gyfer 2016/17, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £166,950,760 a £60,004,230 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.5%.”

 

Manylodd y Pennaeth Cyllid ar gynnwys yr adroddiad gan nodi yr adolygir cronfeydd y Cyngor erbyn Mehefin 2016, gan symud unrhyw adnoddau a ryddheir i gwrdd â’r anghenion am adnodd i bontio tua £2 miliwn o doriadau ni ellir cyflawni ar unwaith o Ebrill 2016. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

·         Bod yr hyn a argymhellir yn rhesymol;

·         Yn gweld y rhesymeg tu ôl cynyddu Treth y Cyngor ar gyfer 2016/17 ond ei fod yn effeithio unigolion nad yw eu cyflogau’n cynyddu a dylid ystyried yr effaith ar unigolion pan fo gwasanaethau’n lleihau.

 

7b

TORIADAU I GYFARCH Y BWLCH ARIANNOL pdf eicon PDF 132 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr, nododd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus Her Gwynedd ar y toriadau yn ystod yr Hydref, y cynhaliwyd cyfres o weithdai i holl aelodau’r Cyngor i graffu’r farn a fynegwyd gan y cyhoedd. Nodwyd bod yr hyn a argymhellir i’r Cabinet yn cymryd i ystyriaeth y sylwadau a wnaed gan yr aelodau yn y gweithdai.

 

Tynnwyd sylw yr argymhellir cynnydd o 3.97% yn Nhreth y Cyngor yn 2016/17, uwchben y 3.5% cynlluniedig, er mwyn osgoi gwireddu’r toriadau ym Mand 5.

 

Eglurwyd mai priodoldeb ariannol y cynigion oedd angen derbyn sylw'r Pwyllgor ac y byddai cyfle i’r holl aelodau roi eu barn o ran cynlluniau unigol yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth 2016 lle gosodir y gyllideb ar gyfer 2016/17.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·      Bod rhaid i’r gyllideb fod yn gytbwys felly os ni chynyddir Treth y Cyngor 3.97% y byddai’n rhaid cynnwys cynlluniau o fandiau 6-10;

·      Bod y cynnydd yr argymhellir yn Nhreth y Cyngor yn agos at gyfartaledd cynnydd mewn Treth Cyngor cynghorau eraill yng Nghymru;

·      Yr argymhellir cynnwys yn y toriadau cynllun 20 ‘Cadw’r Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) ond dileu’r adnodd sy’n cadw golwg parhaus arno’ ac y dylid ceisio gwireddu’r arbediad drwy leihau cyfraniad y Cyngor a gwneud unrhyw newidiadau gweithredu y gellid eu gwneud heb amharu ar effeithioldeb y gyfundrefn;

·      Gan fod y Cyngor wedi gweithredu’r gyfundrefn cofrestru awtomatig yng nghyswllt pensiynau, ers rhai blynyddoedd, na fyddai cost ychwanegol i’r Cyngor.

 

7c

ARGYMHELLIAD I'R CABINET - CYLLIDEB A TRETH CYNGOR 2016/17

Cofnod:

PENDERFYNWYD argymell i’r Cabinet y dylid:

(i)    Sefydlu cyllideb o £227,227,120 ar gyfer 2016/17, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £166,950,760 a £60,276,360 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.97%;

(ii)   Sefydlu rhaglen gyfalaf o £22.141m yn 2016/17 a £12.286m yn 2017/18 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yng nghymal 9.4 o’r atodiad;

(iii)  Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Adnoddau, i drefnu i ariannu swm addasedig o gronfeydd, fel bo angen, er mwyn amddiffyn penderfyniadau’r Cyngor ar y gyllideb a’r dreth pe bai newidiadau ymylol mewn grant Llywodraeth, yn dilyn penderfyniadau Llywodraeth Cymru, fydd yn arwain at ddatgan setliad grant terfynol ar gyfer llywodraeth leol ar 2 Mawrth, a phleidlais yn y Cynulliad ar 9 Mawrth 2016 i’w gadarnhau.

 

8.

RHEOLAETH TRYSORLYS - DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS, STRATEGAETH DARPARIAETH LLEIAFSWM REFENIW A STRATEGAETH FUDDSODDIAD FLYNYDDOL AR GYFER 2016/17 pdf eicon PDF 233 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor argymell i’r Cyngor Llawn ar 3 Mawrth fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2016/17, y Dangosyddion Darbodus, y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw a’r trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol.

 

Gosododd y Rheolwr Buddsoddi y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad. Tynnwyd sylw y byddai ‘Tabl 1: Crynodeb Mantolen a’r Rhagolwg’ ar dudalen 3 Atodiad A yn cael ei ddiwygio i nodi £177,006 yn y golofn ‘Benthyca CFR’ o dan ‘31.3.19 Amcangyfrif £’000’ pan cyflwynir yr adroddiad gerbron y Cyngor Llawn.

 

Nodwyd gwerthfawrogiad o’r cyfarfod briffio a gynhaliwyd ar 28 Ionawr, 2016 i aelodau’r Pwyllgor gydag ymgynghorydd arbenigol o gwmni Arlingclose ac ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Llawn ar 3 Mawrth fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2016/17 (Atodiad A), y Dangosyddion Darbodus (Atodiad B), y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (Atodiad C) a’r trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol.

9.

HAWLIADAU YSWIRIANT YN ERBYN Y CYNGOR pdf eicon PDF 465 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg a oedd yn manylu ar drefniadau’r Cyngor o ran delio â hawliadau yswiriant. Tynnwyd sylw at yr atodiad a oedd yn rhoi darlun llawn o’r holl hawliadau Atebolrwydd Cyhoeddus ac Atebolrwydd Cyflogwr a setlwyd yn ystod 2013-14 a 2014-15

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·      Bod y Gronfa Yswiriant Fewnol yn cyfarch cost rhedeg y gwasanaeth ac os yw maint y gronfa yn cynyddu i lefel uwch nag sydd ei angen ym marn y swyddogion, yna fe ddychwelir yr arian yn ôl i falansau’r Cyngor;

·      Gan fod ‘excesses’ polisiau Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac Atebolrwydd Cyflogwr yn cynyddu i £50,000 o fis Ebrill 2016 ymlaen, y gallai olygu fwy o alw ar y Gronfa Yswiriant Fewnol ac fe asesir y sefyllfa yn rheolaidd;

·      Y rhoddir cyngor i’r adrannau o ran eu cofrestrau risg er mwyn ceisio lliniaru’r risgiau a allai godi o ganlyniad i’r toriadau;

·      O ran talu costau hawlydd, ers 2013 dim ond costau sefydlog y gellir eu hawlio;

·      Os gwelir patrwm cynyddol yn y math o hawliadau a wneir yn erbyn adrannau fe adroddir yn ôl a rhoddir argymhellion o ran gwersi i’w dysgu;

·      Yr edrychir ar drefn bosib o wobrwyo neu gosbi adrannau o ran eu cyfraniad i’r Gronfa Yswiriant Fewnol er mwyn gyrru ymddygiad;

·      Er bod nifer uchel o hawliadau yn cael eu gwneud yn erbyn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, fe amddiffynnwyd llawer o’r hawliadau oherwydd trefniadau da o ran arolygu ffyrdd.

    

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

10.

BIL LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) DRAFFT – YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 361 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg yng nghyswllt ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft 2015 a ddisgwylir i ddod yn Ddeddf yn 2017.

 

Gwahoddwyd sylwadau’r pwyllgor ar:

·        Rhan 1 (Ardaloedd Llywodraeth Leol a Chynghorau Sir), Pennod 3 (Sefydlu’r Cynghorau ar Gyfer y Siroedd Newydd), Adran 16 (ac Atodlen 3) sy’n ymwneud a Chynghorau Newydd: Cyllid;

·        Rhan 5 (Cynghorau Sir: Llywodraethu yn Well), Pennod 7 sy’n ymwneud a Phwyllgorau Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio.

 

PENDERFYNWYD cyflwyno’r sylwadau a ganlyn, i’w hystyried fel rhan o baratoi ymateb corfforaethol i’r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft 2015:

(i)     Cynnig Atodiad 1 fel ymateb i gwestiynau 1.7, 1.8, 1.9 a 1.10;

(ii)    Cynnig sylwadau yn seiliedig ar baragraffau 3.5 a 3.6 fel ymateb i gwestiwn 1.12;

(iii)  Cadarnhau bod y pwyllgor yn cytuno â’r sylwadau aeth gerbron y Pwyllgor Craffu Corfforaethol ar 4 Chwefror fel ymateb i gwestiwn 5.4 gan ychwanegu’r sylwadau a ganlyn:

 

“Barn bendant Pwyllgor Archwilio Cyngor Gwynedd yw bod cael traean o aelodau’r Pwyllgor Archwilio yn aelodau lleyg yn ormodol.  Barn y Pwyllgor yw bod hyn yn erbyn egwyddorion democrataidd, a bod cynghorwyr presennol yn meddu ar y ddealltwriaeth ac adnabyddiaeth o’r Cyngor na all aelodau lleyg eu cynnig.  Mae Cynghorwyr hefyd yn cynrychioli traws doriad eang o gymdeithas ac ystod o sgiliau. Nodwyd hefyd nad oes aelodau lleyg ar bwyllgorau’r Cynulliad.

 

Mae’r Pwyllgor Archwilio hefyd yn gwrthwynebu’r egwyddor fod rhaid i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio fod yn aelod lleyg, gan nad oes rhesymeg amlwg y tu ôl i’r cynnig yma.”

 

11.

ADRODDIAD Y GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU pdf eicon PDF 496 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor yn cyflwyno adborth o gyfarfod y Gweithgor ar 19 Ionawr, 2016.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar gyfarfod o’r gweithgor uchod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2016 i ystyried archwiliad ymatebol a gynhaliwyd ar Ganolfan y Gwystl ynghyd a tri archwiliad a dderbyniodd gategori barn C yn ystod y cyfnod rhwng 14 Medi 2015 a 31 Hydref 2015 sef -

a)   Canolfan Hamdden Plas Ffrancon

b)   Cefn Rodyn, Dolgellau

c)   Trafnidiaeth Gyhoeddus

        

Gwahoddwyd swyddogion i fynychu’r cyfarfod er mwyn trafod y materion sy’n codi o’r archwiliadau a’r gwaith a wnaed ers cyhoeddi’r adroddiadau archwilio er mwyn cryfhau’r rheolaethau mewnol dan sylw.    

 

Nododd aelod o’r gweithgor ei fod yn arferiad i wahodd Uwch Reolwyr i drafod y materion sy’n codi o’r archwiliadau ond bod aelodau’r gweithgor wedi gweld budd mewn gwahodd swyddogion oedd yn gweithredu o ddydd i ddydd wrth drafod archwiliad Canolfan Hamdden Plas Ffrancon.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed archwiliadau Canolfannau Hamdden yn derbyn categori barn C yn rheolaidd, nododd y Rheolwr Archwilio bod canllawiau a llawlyfr gan yr Adran Economi a Chymuned i gynorthwyo swyddogion y canolfannau ond bod angen newid diwylliant yn y Canolfannau Hamdden. Nodwyd bod y Gwasanaeth Archwilio yn fwy na bodlon i gynorthwyo swyddogion ac i gynnig cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

12.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 707 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Tachwedd a 31 Ionawr 2016.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Tachwedd 2015 a 31 Ionawr 2016. Nodwyd bod 15 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol gyda’r categori barn berthnasol yn cael ei ddangos wedi ei gwblhau yn ystod y cyfnod, 6 adolygiad grant a 3 archwiliad dilyniant.

                                   

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol.

 

PENDERFYNWYD:

(a)    derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Tachwedd 2015 i 31 Ionawr 2016 a chefnogi’r argymhellion a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol er gweithrediad.

(b)   bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y pwyllgor, ynghyd â’r Cynghorwyr E. Selwyn Griffiths, Aeron M. Jones ac W. Tudor Owen i wasanaethu ar y Gweithgor i ystyried yr archwiliadau oedd wedi derbyn categori barn ‘C’.

(c)    mai cyfrifoldeb unrhyw aelod na allai fod yn bresennol yn y Gweithgor oedd trefnu eilydd.

 

 

13.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2015/16 pdf eicon PDF 487 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2015/16.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau cynllun archwilio mewnol 2015/16.

 

Adroddwyd bod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol hyd at 31 Ionawr 2016 wedi cwblhau 56.76% o’r cynllun gyda 42 o’r 74 archwiliad unigol wedi eu rhyddhau yn derfynol.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2015/16.

 

14.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL DRAFFT 2016/17 pdf eicon PDF 403 KB

Cyflwyno Cynllun Archwilio Mewnol Drafft ar gyfer y flwyddyn 1 Ebrill 2016 – 31 Mawrth 2017.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi manylion am gynllun drafft o waith y Gwasanaeth Archwilio Mewnol am y flwyddyn ariannol 2016/17 er sylwadaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor. Nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal eisoes gyda’r Penaethiaid Adran a rheolwyr perthnasol gyda’u hawgrymiadau yn seiliedig ar yr hyn yn eu tyb hwy sydd yn risg uchel wedi eu hymgorffori yn y cynllun.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Archwilio drafft ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017.

 

 

15.

HUNANASESIAD O DREFNIADAU LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 235 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg yng nghyswllt adolygiad y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu o drefniadau llywodraethu’r Cyngor yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2015.

 

Amlygwyd newidiadau i benawdau a sgoriau effeithiolrwydd rhai elfennau o’r fframwaith llywodraethu ers yr hunanasesiad diwethaf, a wnaed gan y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu, yn Mai 2015.

 

Adroddwyd bod y Grŵp Rheoli Corfforaethol wedi ystyried yr adroddiad ac wedi gwneud y sylwadau canlynol:

·        y dylid gwella sgôr effeithiolrwyddDiwylliant y Cyngori 5 a’i roi yn yr oren;

·        y dylid rhoi sgôr effeithiolrwydd o 4 i ‘Y Drefn Craffua’i roi yn yr oren;

·        y dylid newid y pennawd ‘Protocol Cyswllt Aelod/Swyddogi Gydberthynas Aelodau a Swyddogion.

 

Nododd aelod bod gwell dealltwriaeth yn y Cyngor o roi’r person yn y canol a bod y diwylliant yma yn dechrau gwreiddio.

 

Nododd aelod er bod y Cyngor wedi derbyn adroddiad beirniadol gan Swyddfa Archwilio Cymru, nad oedd tystiolaeth mewn gwirionedd fod ‘Y Drefn Craffuwedi gwaethygu, gan fod elfennau da yn y drefn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r asesiad o drefniadau llywodraethu yn ddarostyngedig i’w addasu yn unol â sylwadau’r Grŵp Rheoli Corfforaethol.