Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2015/16. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Trevor Edwards yn Is-gadeirydd
y Pwyllgor am 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau
am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Aled Ll. Evans a Glyn
Thomas. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad
o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall
sydd yn teilyngu
sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 24 Medi 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 24 Medi 2015, fel rhai cywir. |
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL PDF 92 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad. Nodwyd bod yr adroddiad yn
rhoi diweddariad o ran adroddiadau archwilio allanol gyda’r atodiad yn rhestru
adroddiadau arolygiadau a dderbyniwyd dros y tair blynedd diwethaf
gan nodi eu cynigion ar
gyfer gwella, y cynlluniau gweithredu a’r cynnydd hyd
yn hyn. Nododd y Cadeirydd oherwydd swmp y wybodaeth y dylid ystyried cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor i
roi sylw priodol i’r adroddiad. PENDERFYNWYD cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor
i ystyried yr adroddiad. |
|
EFFEITHLONRWYDD TREFNIADAU CRAFFU'R CYNGOR PDF 233 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth
a Chyflawni. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr
Democratiaeth a Chyflawni yr adroddiad gan
nodi bod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cynnal adolygiad
o effeithlonrwydd craffu yng Ngwynedd. Adroddwyd
bod SAC yn awgrymu tri phrif faes y dylid
rhoi sylw iddynt er mwyn
gwella craffu yng Ngwynedd, sef:- • Delio â’r diffyg cyswllt
sydd yn ymddangos
rhwng gwaith y Cabinet a'r pwyllgorau craffu trwy edrych,
ymysg pethau eraill, ar fwy
o graffu cyn penderfyniad ar waith y Cabinet • Gwella ar eglurder argymhellion
craffu fel bod modd adnabod yr
hyn sy'n digwydd o ganlyniad i graffu yn
haws • Gwella ansawdd cwestiynu mewn pwyllgorau craffu er mwyn
cynnig mwy o ffocws ac ansawdd i'r craffu Nodwyd gan mai’r Pwyllgor
Archwilio sydd â chyfrifoldeb i edrych ar drefniadau
llywodraethu’r Cyngor ac, yn benodol, ar
Gyfansoddiad y Cyngor, daethpwyd i’r casgliad
y byddai’n briodol i’r Pwyllgor hwn
drafod y mater. Nodwyd y gofynnir i’r Pwyllgor
edrych ar y mater gan ddod i
gasgliadau ar y ffordd ymlaen ac i sicrhau bod Cynllun
Gweithredu cadarn yn ei le i
gyfarch argymhellion SAC. PENDERFYNWYD
trafod y mater yng nghyfarfod arbennig y Pwyllgor. |
|
CYFRIFON TERFYNOL 2014/15 PDF 190 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid gan nodi
y cyflwynwyd datganiadau ariannol statudol diwygiedig y Cyngor a’r Gronfa Bensiwn
am gymeradwyaeth y Pwyllgor
yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2015. Atgoffwyd yr aelodau y nodwyd
yn y cyfarfod y byddai oedi cyn ardystio’r
cyfrifon, gan fod un aelod o’r
cyhoedd wedi lleisio gwrthwynebiad i’r cyfrifon yn
ymwneud â mater ymylol, sef gwariant ar
gynllun Asiantaeth Cefnffyrdd yn y flwyddyn flaenorol. Tynnwyd sylw at lythyr gan Swyddfa Archwilio
Cymru yn cadarnhau eu bod wedi cwblhau eu
gwaith ar y mater hwn ac wedi ymateb
i'r etholwr yn datgan nad
ydynt yn cynnig unrhyw gamau
pellach. PENDERFYNWYD: (i)
derbyn yr adroddiad; (ii)
awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo
set ‘glân’ o’r un cyfrifon. |
|
CYLLIDEB REFENIW - ADOLYGIAD AIL CHWARTER 2015/16 (MEDI 2015) PDF 185 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth
Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth
Cyllid, a oedd yn nodi yn
unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor
Archwilio graffu adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol. Gosododd yr Uwch Reolwr Cyllid y cyd-destun ac
ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad
a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 24 Tachwedd 2015. Cyflwynodd y penderfyniadau canlynol i sylw’r
pwyllgor i’w craffu - “1.
Derbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd yr ail chwarter
(sefyllfa 30 Medi 2015) o’r Gyllideb Refeniw,
ac wedi ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran/gwasanaeth, gofyn i’r Aelodau
Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol
ynglŷn â materion o dan eu harweiniad/rheolaeth. 2.
Nodi'r amrywiol adolygiadau o drefniadau crybwyllwyd yn yr adroddiad
a’r camau i’w cymryd gan
adrannau i gadw rheolaeth ar eu cyllidebau. 3.
Wedi ystyriaeth o’r sefyllfa, cymeradwyo, yn benodol, yr
addasiadau a throsglwyddiadau
argymhellwyd mewn perthynas â’r Adrannau
Addysg, Economi a Chymuned, Rheoleiddio a Chyllidebau Corfforaethol.” Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau yr atgoffwyd
Aelodau Cabinet o’u cyfrifoldebau o ran adolygu cyllidebau. Cyfeiriodd at sefyllfa gyllidol
yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r tebygrwydd
y byddai angen adnoddau pontio ar gyfer eleni
oherwydd annhebygrwydd o wireddu arbedion yn llawn yn
y flwyddyn ariannol.
Nododd y cymerir camau pendant i ddelio â’r sefyllfa
er mwyn ei
gadw o dan reolaeth a bod penderfyniad y
Cabinet i neilltuo adnodd wrth gefn
yn galluogi’r Cabinet i ymateb i’r
sefyllfa ariannol o ran yr Adran erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r
aelodau fel a ganlyn: ·
O ran ‘Diswyddo ac
Ymddeol Cynnar’ yn yr Adran
Addysg, mai cyrff llywodraethu ysgolion oedd yn
caniatáu ymddeol yn gynnar gyda’r
costau yn disgyn ar yr
Awdurdod Addysg. Nodwyd yr adolygir
y sefyllfa o ran rhyddhau pensiwn gan ail-edrych ar hawl
yr unigolyn o ran swm, sefyllfa’r ysgol i gyfrannu
at y taliad a’r dull talu i’r dyfodol
er mwyn ymateb
i’r gorwariant; ·
Bod yr Adran Addysg wedi
rhagweld y sefyllfa gorwariant ac wedi neilltuo tanwariant mewn cronfa wrth
gefn i ariannu’r
gwariant; ·
Mai penderfyniad y
Cyrff Llywodraethu oedd ail-gyflogi athrawon a oedd wedi ymddeol fel
athrawon llanw gyda phrofiad yr
athro/athrawes yn cael ei
gymryd i ystyriaeth; ·
Mai cost un tro oedd diswyddo ac fel rhan o’r
cynllun trefniadaeth ysgolion yr edrychir
ar arbedion refeniw blynyddol; ·
O ran gorwariant Ymgynghoriaeth Gwynedd, bod camau
wedi’u cymryd i foderneiddio a bod yr Adran yn
ceisio denu gwaith ac uchafu cyflawniad o fewn yr adnoddau staffio
cyfredol. Ychwanegwyd y gwneir adolygiad blynyddol o ran incwm yr Adran a’u
bwriad i ddefnyddio adnodd wrth gefn i
liniaru’r sefyllfa pe byddai’r darlun
yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nododd aelod bod gorwariant blynyddol hanesyddol o ran gwasanaethau pobl hŷn a bod tueddiad demograffi yn golygu mwy o alw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
RHAGLEN GYFALAF - ADOLYGIAD AIL CHWARTER 2015/16 (MEDI 2015) PDF 185 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth
Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid, a oedd yn nodi yn
unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor
Archwilio graffu adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol. Gosododd yr Uwch Reolwr Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd
ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 24 Tachwedd 2015. Cyflwynodd y penderfyniadau canlynol i sylw’r
pwyllgor i’w craffu - “Derbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2015) o’r rhaglen gyfalaf,
a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 2.2 – 2.8 o’r adroddiad, sef: · cynnydd
£965,000 mewn defnydd o fenthyca heb gefnogaeth, · cynnydd
£3,278,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, · cynnydd
£154,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf, · cynnydd
£300,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw, · lleihad
£17,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, · cynnydd
£847,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu, · trosglwyddo
£200,000 rhwng cynllun Llyfrgell Bala a chynllun Ysgolion dalgylch y Berwyn.” Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r
aelodau fel a ganlyn: ·
O ran yr Adran Addysg, bod yr ail-broffilio o ran gwariant blynyddol ers y chwarter diwethaf yn gysylltiedig
â’r rhaglen Ysgolion Ganrif 21; ·
Bod y Cabinet wedi
cymeradwyo trosglwyddo
£200,000 rhwng cynllun Llyfrgell Bala a chynllun Ysgolion dalgylch y Berwyn i ariannu symud y llyfrgell i safle’r
ysgol newydd; ·
O ran rhagolygon ariannol y rhaglen Ysgolion Ganrif 21, bod trefniadau mewn lle ar gyfer
y cynlluniau presennol a
bod y Cyngor yn ceisio uchafu derbyniadau
grant am y ddwy flynedd nesaf gyda ffynonellau
ariannu amgen i’w ystyried i’r
dyfodol gyda grantiau yn lleihau. PENDERFYNWYD
nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol
yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor. |
|
STRATEGAETH ARIANNOL Y CYNGOR 2016/17 - 2019/20 PDF 187 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd
y Pennaeth Cyllid adroddiad yn manylu
ar Strategaeth Ariannol y Cyngor am y pedair blynedd nesaf. Adroddwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi
eu cyllideb drafft ar 8 Rhagfyr,
a’r setliad amodol ar gyfer
ariannu llywodraeth leol ar 9 Rhagfyr. Tynnwyd sylw at dabl oedd
yn manylu ar senarios posib
o ran y setliad y gallai’r Cyngor dderbyn gan Lywodraeth Cymru a greuwyd gan yr Adran
Gyllid mewn cydweithrediad efo’r Uned Ymchwil a Dadansoddeg. Nodwyd y disgwylir toriad mewn grant a bod y Cyngor wedi ymagweddu yn gyfrifol wrth
gynnal ymgynghoriad Her
Gwynedd ar y toriadau posib i wasanaethau. Adroddwyd
bod y Cabinet wedi ystyried
yr adroddiad ar 24 Tachwedd 2015, cyflwynwyd y penderfyniadau canlynol i sylw’r
pwyllgor i’w craffu - “Derbyn y diweddariad a’r crynodeb o Strategaeth Ariannol 2016/17 – 2019/20 a pharhau
gyda’r cynllun ymateb cyfredol, ‘Her Gwynedd’, ar gyfer 2016/17 – 2017/18, gan ddatgan – a) Bod
Cabinet Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’r toriadau yn ei dyraniad
grant sy’n cael ei orfodi ar
y Cyngor gan Lywodraethau San Steffan a Chymru. b) Y
bydd Cabinet Cyngor Gwynedd
yn gwireddu ei chyfrifoldeb statudol i gytuno
ar gyllideb gytbwys rhag iddi,
yn y pen draw, redeg allan o arian a methu talu ei
gweithwyr a’i chyflenwyr.” Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau bod oddeutu 75% o gyllid y Cyngor
yn ddibynnol ar grant. Amlygodd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu
setliad fesul blwyddyn, heb unrhyw
ffigyrau mynegol ar gyfer y blynyddoedd
dilynol a oedd yn ei gwneud
yn anymarferol i’r Cyngor weithredu
strategaeth ariannol dros 4 blynedd. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r aelodau fel
a ganlyn: ·
Pe byddai adolygiad o fformiwla Barnett na fyddai sicrwydd o ran ei ganlyniad; ·
Bod cyhoeddiad y Canghellor George Osborne ar 25 Tachwedd y gosodir llawr ar fformiwla
Barnett, yn golygu y byddai’r arian a ddyrannir i Lywodraeth
Cymru o gwmpas faint y dyrannir yn bresennol; ·
Mai’r Cyngor Llawn yn
ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2016 fyddai’n gosod Treth Cyngor ar
gyfer 2016/17. Nodwyd bod cwestiwn wedi ei
gynnwys yn ymgynghoriad Her Gwynedd ar gyfer casglu barn pobl Gwynedd ar gynnydd yn Nhreth
Cyngor; ·
Bod dyddiad cau ymgynghoriad Her Gwynedd wedi ei ymestyn
tan 4 Rhagfyr 2015 a gofyn i’r aelodau annog
eu hetholwyr i gymryd rhan; ·
Bod dros 2,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad
wedi eu derbyn
hyd yn hyn
a bod yr ymateb ymysg yr
uchaf o ran ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd gan y Cyngor; ·
I gyfarch y sefyllfa ariannol byddai angen oddeutu
12% o gynnydd yn Nhreth Cyngor
2016/17 pe na fyddai’r Cyngor yn gwneud toriadau.
Nid oedd hyn am gael ei
ganiatáu. ·
Y trafodir efo’r Adrannau perthnasol o ran eu targedau incwm ar gyfer 2016/17 a byddai newidiadau i ffioedd yn
ystyriaeth wrth sefydlu cyllidebau. Diolchodd
y Cadeirydd am yr holl waith a wnaed
gan y swyddogion ar Strategaeth Ariannol y Cyngor. PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
TREFNIADAU RHEOLI RISG PDF 391 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg. Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg. Tynnwyd sylw at y grwpiau o risg adnabuwyd gan y Cyngor a’r gweithrediad o
ran delio â’r risgiau o fewn y grwpiau. Adroddwyd y sefydlir trefn ym Mehefin 2016 lle cyflwynir adroddiad i’r
Pwyllgor ar y maes Rheoli Risg yn crynhoi’r gwaith a wnaed yn y meysydd hyn yn
y cyfnod blaenorol. Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed cynnydd mewn risg oherwydd lleihad
mewn adnoddau, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod lleihad mewn adnoddau yn
anorfod, ond o weithredu strategaeth Ffordd Gwynedd, y blaenoriaethir risgiau yn well gan ganolbwyntio adnoddau’r Cyngor ar liniaru’r prif
risgiau, yn hytrach na mân
fygythiadau. PENDERFYNWYD: (i)
derbyn yr adroddiad; (ii)
cymeradwyo trefniadau adrodd i’r Pwyllgor
er mwyn cyflawni
ei rôl statudol
i adolygu ac asesu trefniadau'r awdurdod ar gyfer
rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol. |
|
GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU PDF 450 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr
Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 14 Medi a 31 Hydref 2015. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar gyfarfod o’r
gweithgor uchod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2015 i ystyried dau archwiliad
a dderbyniodd gategori barn
C yn ystod y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2015 a 11 Medi 2015 sef - a) Terfynu Gweithwyr oddi ar Systemau TG b) Arwystl ar Eiddo Preswylwyr
Cartrefi Gwahoddwyd Uwch Reolwyr i
fynychu’r cyfarfod ynghyd â’r Aelod
Cabinet Adnoddau er mwyn trafod y materion
sy’n codi o’r archwiliadau a’r gwaith a wnaed
ers cyhoeddi’r adroddiadau archwilio er mwyn cryfhau’r
rheolaethau mewnol dan sylw. Nodwyd
y cafwyd sicrwydd yn y Gweithgor bod y materion a amlygwyd
gan Archwilio Mewnol yn cael
sylw teilwng a bod camau yn cael
eu cymryd. Nododd
y Cadeirydd y dylid anfon llythyr at yr Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol a’r Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn nodi’r
angen i ddelio
a chadarnhau trefniadau o
ran terfynu gweithwyr oddi ar systemau
TG ar fyrder. Mewn ymateb i sylw
gan aelod yng nghyswllt y dirwyon sylweddol y gellir eu derbyn
o ran diogelu data, nododd
y Pennaeth Cyllid bod ap MobileIron
yn galluogi’r Cyngor i ddileu
gwybodaeth oddi ar declynnau symudol. PENDERFYNWYD: (i)
derbyn yr adroddiad; (ii)
anfon llythyr at yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn nodi’r angen
i ddelio a chadarnhau trefniadau o ran terfynu gweithwyr oddi ar systemau
TG ar fyrder. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL PDF 508 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun
Archwilio Mewnol 2015/16. Cofnod: Gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod hyd at 31 Hydref 2015 Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu
gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 14 Medi 2015 a 31 Hydref 2015. Nodwyd bod 6 adroddiad am archwiliadau
o’r cynllun gweithredol gyda’r categori barn berthnasol yn cael ei
ddangos wedi ei gwblhau yn
ystod y cyfnod, 1 archwiliad dilyniant a 1 archwiliad ymatebol. Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn
ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y materion canlynol – Trafnidiaeth Gyhoeddus Mewn ymateb i ymholiad
gan aelod, nododd yr Uwch
Reolwr Refeniw a Risg mai trefniadau
mewnol y Cyngor oedd prif ffrwd
y gwaith ac nad
oedd yn cwmpasu
materion sydd wedi arwain at achos llys ac ymchwiliad
heddlu i gwmnïau bysiau. Archwiliad Ymatebol Canolfan y Gwystl Nododd aelod y dylid ystyried yr archwiliad yma
yng nghyfarfod y Gweithgor Gwella Rheolaethau.
PENDERFYNWYD: (a)
derbyn yr adroddiadau ar waith Archwilio
Mewnol am y cyfnod o 14 Medi i 31 Hydref
2015 a chefnogi’r argymhellion
a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau
perthnasol er gweithrediad. (b)
bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y pwyllgor, ynghyd â’r Cynghorwyr John B. Hughes,
Michael Sol Owen a Angela Russell i wasanaethu ar y Gweithgor i ystyried
yr archwiliadau oedd wedi derbyn
categori barn ‘C’ ac archwiliad
ymatebol Canolfan y Gwystl. (c)
mai cyfrifoldeb unrhyw aelod na allai
fod yn bresennol
yn y Gweithgor oedd trefnu eilydd. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2015/16 PDF 367 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun
Archwilio Mewnol 2015/16. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi
diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau cynllun archwilio mewnol
2015/16. Adroddwyd bod yr Uned Archwilio Mewnol hyd at 31 Hydref
2015 wedi cwblhau 32.31% o’r cynllun gyda 21 o’r 65 archwiliad unigol wedi eu
rhyddhau yn derfynol. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad
fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2015/16. |
|
BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR ARCHWILIO PDF 178 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch
Reolwr Refeniw a Risg oedd yn
amlinellu rhaglen waith y Pwyllgor am y cyfnod hyd at Medi
2016. Nodwyd y byddai’r blaenraglen
yn addasu yn ystod y cyfnod
i ymateb i ofynion/materion
ychwanegol. Nododd aelod yr angen
i flaenoriaethu eitemau er mwyn
sicrhau y rhoddir sylw teilwng i
faterion. PENDERFYNWYD nodi’r
wybodaeth. |