Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Peter Read a John Pughe Roberts.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at eitem 10 ar y rhaglen ‘Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Dewisol’. Nododd bod nifer o aelodau wedi ymholi o ran yr angen i ddatgan buddiant personol yng nghyswllt yr eitem hon. Eglurodd nad oedd yr eitem yn cyffwrdd trethi busnesau masnachol, a bod yr adroddiad yn ymwneud â sefydlu gweithgor i adolygu rhyddhad elusennol yn  gyffredinol ac ond petai trafodaeth am gategori penodol o gyrff elusennol perthnasol iddynt y byddai gofyn ar yr aelodau i ddatgan buddiant.

 

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 247 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir.

5.

CYFRIFON TERFYNOL 2016/17 pdf eicon PDF 138 KB

Cyflwyno’r datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2016/17.

 

a)         Cyflwyno’r datganiadau ariannol statudol diwygiedig gan y Pennaeth Cyllid am gymeradwyaeth y pwyllgor.

 

b)(i)     Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar Ddatganiadau Cyfrifon 2016/17 Cyngor Gwynedd.

 

b)(ii)     Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” ar ran y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Cyngor (Atodiad 1 i adroddiad gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn (b)(i) uchod)

 

c)(i)      Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar Ddatganiadau Cyfrifon 2016/17 y Gronfa Bensiwn

 

c)(ii)     Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” ar ran y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Gronfa Bensiwn (Atodiad 1 i adroddiad gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn (c)(i) uchod).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

i)       Datganiad o’r Cyfrifon

           

         Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid y datganiadau ariannol statudol diwygiedig am gymeradwyaeth y pwyllgor. Nododd bod yr adroddiadau gan Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi’r prif newidiadau yn y cyfrifon ers cyflwynwyd y fersiwn cyn-archwiliad i gyfarfod 13 Gorffennaf o’r Pwyllgor.

 

ii)      Adroddiad yr Archwilydd Penodedig ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol

                                   

a)      Cyfrifon y Cyngor

        

         Yn unol â’r drefn Archwilio Flynyddol, sef adroddiad yr Archwilydd Penodedig i’r rhai sy’n llywodraethu, cyflwynwyd adroddiad Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Ian Howse, Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte.

        

         Adroddwyd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar gyfrifon Cyngor Gwynedd am 2016/17.

 

         Nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Nad oedd camddatganiadau heb eu cywiro i’w hadrodd;

·         Bod un camddatganiad a gywirwyd i’w boddhad;

·         Nid oedd unrhyw faterion oedd angen sylw wedi eu hamlygu gan y tîm archwilio yng nghyswllt y risgiau sylweddol a brofwyd;

·         Cymeradwyo’r tîm cyfrifo am ansawdd y cyfrifon a diolch am eu cydweithrediad efo tîm archwilio Deloitte.

 

          Nododd aelod ei fod yn falch o’r gymeradwyaeth a roddir i waith y tîm cyfrifo.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed darpariaeth drwg-ddyledion, nododd y Pennaeth Cyllid bod y cyfrifon yn dangos ciplun o’r sefyllfa ar  ddiwrnod cau’r cyfrifon. Eglurodd bod tebygolrwydd is o gasglu dyledion hŷn  a bod  y Cyngor  yn defnyddio canran cynyddol uwch o “golled” am ddyledion flynyddoedd blaenorol. Nododd bod y swyddogion yn cytuno efo argymhelliad yr archwiliwr, sef - “…bod y canrannau a ddefnyddir i gynhyrchu’r ddarpariaeth mân ddyledion yn cael eu hadolygu’n ffurfiol bob blwyddyn ac y defnyddir dull o ddadansoddi cyfraddau casglu er mwyn llywio’r canrannau a bennir.”

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte bod lefel darpariaeth drwg-ddyledion y Cyngor yn lled gyson efo cynghorau eraill.

 

b)      Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd

 

Nododd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd am 2016/17.

 

Nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         Yng nghyswllt camddatganiadau na gywirwyd, bod profion yr archwilwyr wedi dod i’r canfyddiad bod gorddatganiad barniadol ar yr eiddo a’r buddsoddiadau ecwiti preifat. Roedd yn fater o farn felly roeddent yn fodlon nad oedd yn cael ei gywiro;

·         Nid oedd unrhyw argymhellion newydd yn deillio o waith archwilio ariannol 2016/17 a bod manylion o ran y gwaith dilynol ar argymhellion 2015/16 yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

 

Nododd y Cadeirydd ei fod yn falch bod y Cyngor mewn sefyllfa dda ac yn cyflawni’r gofynion.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid ei werthfawrogiad o waith tîm archwilio Deloitte. Ychwanegodd ei fod yn falch bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau archwilio diamod a oedd yn adlewyrchu gwaith da'r swyddogion wrth baratoi’r cyfrifon. Nododd ei werthfawrogiad o’r gwaith.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Archwilio, gyda’r grym a ddirprwywyd gan y Cyngor i fod “y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” yng nghyswllt cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol a’r archwiliadau perthnasol, yn cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol diwygiedig, yn derbyn adroddiadau perthnasol Deloitte ar ran Archwilydd Cyffredinol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2017/18 – ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 520 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Pennaeth Cyllid ar wir weithgarwch benthyg a buddsoddi’r Cyngor hyd yma yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi ar weithgaredd rheolaeth trysorlys y flwyddyn gyfredol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid nad oedd unrhyw fanc yr oedd y Cyngor wedi buddsoddi â nhw mewn perygl a bod arian y Cyngor yn ddiogel. Amlygodd bod buddsoddiadau yn gallu amrywio a bod y Cyngor yn cloriannu o ran hyblygrwydd buddsoddi tymor byr a denu llog uwch wrth fuddsoddi am dymor hir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed y lleihad o £2.2m ers 31 Mawrth 2017 mewn benthyciadau, nododd y Rheolwr Buddsoddi bod y lleihad oherwydd bod y Cyngor wedi ad-dalu benthyciadau hanesyddol ac yn defnyddio’r llif arian parod, yn hytrach na benthyg yn unol â pholisi presennol y Cyngor i beidio benthyg mwy o arian.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid y cynhelir cyfarfod briffio ar 24 Ionawr 2018 gan gwmni Arlingclose, Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor, ar gyfer aelodau'r Pwyllgor. Nodwyd byddai’n gyfle euraidd er mwyn trafod ac egluro  Strategaeth Rheolaeth Trysorlys y Cyngor  ar gyfer 2018/19.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed y symudiad o £3m i £1m ers 31 Mawrth 2018 mewn benthyciadau tymor byr ac ariannu tymor byr yn fewnol, nododd y Pennaeth Cyllid bod y Cyngor yn obeithiol y gellir ariannu tymor byr yn fewnol. Eglurodd y byddai’r Prif Weithredwr a’r Aelod Cabinet Cyllid yn dod â Strategaeth Asedau gerbron y Pwyllgor, Y Cabinet ynghyd â’r Cyngor Llawn o ran Strategaeth Rheoli Asedau, fyddai’n adnabod  anghenion benthyca yn y dyfodol. Nododd bod y symudiad yn dangos bod rhai benthyciadau tymor byr wedi dod i ddiwedd eu cyfnod.

 

Holodd aelod pwy oedd yn gyfrifol am osod y gyfradd o ran Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB). Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid bod y PWLB yn rhan o Lywodraeth San Steffan ond yn asiantaeth ar wahân. Ychwanegodd bod y Trysorlys yn ystyried rheolau mwy caeth oherwydd bod cynghorau yn Lloegr wedi masnacheiddio gan fenthyg ar draul y wlad, ond nid oedd y pŵer yma wedi ei ddatganoli i gynghorau Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed lefel benthyg y Cyngor, tynnodd y Pennaeth Cyllid sylw at y cyfyngiadau dyled gan egluro bod ganddo ef yr hawl i fuddsoddi i fyny at £180m yn ystod 2017/18 sef y ffin weithredol, gyda ffin awdurdodol o £190m lle'r oedd angen cymeradwyaeth gan y Pwyllgor. Eglurodd bod y Cyngor yn benthyg £109m ac yn hunan fenthyca £51m ar hyn o bryd, ac roedd yn ddewis strategol o ran pryd i fenthyg. Nododd byddai faint roedd y Cyngor angen ei fenthyg yn ddibynnol ar y Strategaeth Asedau.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod yng nghyswllt PFI (Private Finance Initiative), nododd y Pennaeth Cyllid nad oedd yn annog PFI’s am sawl rheswm,  a bod costau ynghlwm os penderfynir eu diddymu. ‘Roedd un prosiect hanesyddol wedi ei ariannu yn y modd hwn yng Ngwynedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

 

 

7.

ADRODDIAD Y GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU pdf eicon PDF 470 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cyflwyno adborth o gyfarfod y Gweithgor ar 11 Medi 2017.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfarfod o’r gweithgor uchod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2017 i ystyried archwiliadTrefn Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol’ a dderbyniodd categori barn B ynghyd ag archwiliadau a dderbyniodd gategori barn C, sef -

a)   Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS)

b)   Gweithwyr Cefnogol (Oedolion).

 

Gwahoddwyd swyddogion i fynychu’r cyfarfod er mwyn trafod y materion sy’n codi o’r archwiliadau a’r gwaith a wnaed ers cyhoeddi’r adroddiadau archwilio er mwyn cryfhau’r rheolaethau mewnol dan sylw. 

 

Nododd aelodau’r Gweithgor eu pryder o ran y risg ariannol i’r Cyngor oherwydd y nifer o asesiadau DoLS oedd wedi ôl-gronni gyda’r gosb o beidio gweithredu ar asesiad DoLS fod gymaint â £1,000 fesul unigolyn yr wythnos.

 

Holodd aelod oes oedd rhaid i Wasanaethau Cymdeithasol gwblhau asesiadau DoLS ynteu oedd cyrff eraill yn gallu. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfrifol am gwblhau asesiadau DoLS, dim ond mewn achosion lle'r oedd unigolyn yn yr ysbyty roedd y Gwasanaeth Iechyd yn cwblhau asesiadau. Ychwanegodd bod y Cyngor yn cynnal hyfforddiant ar gyfer cartrefi preswyl preifat a bod hynny yn arwain at gynnydd mewn nifer o gyfeiriadau am asesiadau DoLS.

 

Nododd aelod o’r Gweithgor bod y cyfarfod wedi bod yn agoriad llygad o ran y gwaith gydag asesiadau yn cael eu cwblhau tu allan i’r Sir pan fo preswylydd o Wynedd angen asesiad DoLS gan gynyddu amser y cymerir i gwblhau asesiad oherwydd yr angen i deithio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed capasiti yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i gwblhau asesiadau DoLS, nododd y Rheolwr Archwilio bod dwy swydd wedi eu llenwi yn ddiweddar a bod cytundeb ar hyn o bryd lle mae disgwyliad i 25 Gweithiwr Cymdeithasol oedd efo’r achrediad Best Interest Assessors (BIA) i gwblhau un asesiad y mis. Ychwanegodd nad oedd llawer o’r Gweithwyr Cymdeithasol yn cyflawni un asesiad y mis.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod y maes hwn yn faes risg uchel a dylai’r Gweithgor, yn unol â’r hyn a nodir yn yr adroddiad, dderbyn diweddariad gan yr Uwch Reolwyr perthnasol o fewn 6 mis. Dylid rhoi rhybudd digonol hefyd i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant bod perfformiad yn erbyn y targed a roddwyd i Weithwyr Cymdeithasol gydag achrediad BIA wedi ei drafod ac ystyried gofyn i’r Pennaeth ddod gerbron.

 

Nododd aelod y dylai’r Pennaeth a’r Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant ddod gerbron y Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2017 gyda’r Gweithgor yn derbyn diweddariad gan yr Uwch Reolwyr perthnasol o fewn 6 mis.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad;

(ii)    gwahodd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant a'r Aelod Cabinet dros Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyfarfod y Pwyllgor ar 30 Tachwedd 2017 i drafod trefniadau DoLS;

(iii)  bod y Gweithgor Gwella Rheolaethau yn derbyn diweddariad gan yr Uwch Reolwyr perthnasol o fewn 6 mis ar drefniadau DoLS.

8.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 1/7/17 - 15/9/17 pdf eicon PDF 477 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 10 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi ei gwblhau.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith dilyniant. Amlygwyd, yn ystod 2016/17, daethpwyd i gytundeb ar 205 o gamau gweithredu i’w cyflawni erbyn 31 Mawrth 2018. Nodwyd bod gweithrediad derbyniol ar 26.83% o’r camau cytunedig. Adroddwyd bod cais am gynnydd ar weithrediad 104 o gamau cytunedig wedi eu hanfon hyd yn hyn, a bod 86 wedi eu gweithredu yn dderbyniol, sef 82.5%. Eglurwyd bod trefniadau dilyn i fyny mewn lle os ni dderbynnir ymateb o ran gweithrediad ar y camau cytunedig.

                        

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y materion canlynol

 

Hyfforddi Aelodau Newydd

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd y Rheolwr Archwilio bod rhaglen gynhwysfawr wedi ei lunio ar gyfer aelodau newydd gyda’r cyfle i aelodau gysylltu efo’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu i wneud cais am hyfforddiant ychwanegol.

 

Nododd aelod ei fod, fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, wedi mynychu cyfarfod efo Cadeiryddion Pwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd ynghyd â Swyddogion arweiniol yn y maes lle'r oedd y Cyngor yn amlygu ei hun fel un o’r rhai gorau am drefniadau hyfforddi aelodau newydd. Cadarnhaodd bod cyfle i aelodau gysylltu efo’r Gwasanaeth Dysgu a Datblygu i wneud cais am hyfforddiant ychwanegol ac efallai’n fyddai’n fater a gellir ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd o ran hyrwyddo’r cyfle.

 

Canolfan Hamdden Glan Wnion

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed pryder o ran ymwybyddiaeth staff o drefniadau Diogelu Plant ac Oedolion, nododd y Rheolwr Archwilio yn unol â chais gan y Grŵp Gweithredol Diogelu y cynhelir archwiliad ar ymwybyddiaeth gweithwyr maes o drefniadau diogelu. Eglurodd bod llawer o staff tu allan i’r prif swyddfeydd heb gyfeiriad e-bost a heb fynediad i fodiwlau dysgu ar-lein ac felly’n derbyn gwybodaeth gan eu rheolwr ac mewn cyfarfodydd ardal. Nododd mai trwy rannu pamffled a chynnal sgwrs gan drafod enghreifftiau efallai fyddai’r opsiwn gorau o ran gwella dealltwriaeth o’r trefniadau diogelu.

 

Plas Maesincla

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod pam nad oedd yr archwiliad wedi derbyn categori barn C yn hytrach na B oherwydd bod materion pwysig yn cael eu hamlygu, nododd y Rheolwr Archwilio mai dyna’r farn a roddwyd gan yr archwiliwr a’i bod yn ei gefnogi. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod angen derbyn a pharchu barn yr archwiliwr ac fe all y Pwyllgor pe dymunent ystyried yr archwiliad yn y Gweithgor Gwella Rheolaethau neu roi sylw i’r archwiliad ar ôl i’r gwaith dilyniant cael ei gwblhau.

 

Nododd aelod bod y materion a nodir yn yr archwiliad hwn yn codi yn gyson mewn archwiliadau ar gartrefi preswyl gyda’r un problemau yn cael eu hamlygu.

 

Tynnodd aelod sylw bod nifer o faterion yn amlygu o ran hyfforddiant ac fe ddylai anghenion hyfforddiant gweithwyr fod yn rhan o’u hadolygiad blynyddol. Mewn ymateb,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2017/18 pdf eicon PDF 459 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2017/18.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau cynllun archwilio mewnol 2017/18.

 

Adroddwyd bod yr Uned Archwilio Mewnol hyd at 15 Medi 2017 wedi cwblhau 18.75% o’r cynllun, gyda 12 o’r 64 archwiliad yng nghynllun 2017/18 wedi eu rhyddhau yn derfynol a’i fod yn ddisgwyliedig y bydd y ganran yn cynyddu i 26.5% erbyn 30 Medi 2017. Tynnwyd sylw at yr addasiadau i’r Cynllun.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed capasiti staff yr Uned, nododd y Rheolwr Archwilio bod yr Uned efo capasiti llawn.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2017/18.

10.

ARDRETHI ANNOMESTIG – RHYDDHAD DEWISOL pdf eicon PDF 265 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg yr adroddiad gan nodi bod Adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn cynnwys darpariaeth ddewisol i awdurdodau bilio addasu ardrethi annomestig (heblaw am mewn achosion penodol megis eiddo awdurdod lleol), yn ychwanegol i’r rhyddhad mandadol a ganiateir trwy Adran 43. Nododd bod rhaid i’r Cyngor ystyried pob cais am ryddhad o’r fath yn ôl ei haeddiant, ond lluniwyd fframwaith polisi er mwyn rhoi arweiniad gwrthrychol wrth ystyried os am ganiatáu rhyddhad dewisol lle nad yw’r trethdalwr yn elusen neu Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC), neu er mwyn cynyddu’r rhyddhad oedd ar gael i elusen / CASC o’r 80% mandadol i hyd at 100%.

 

Nododd bod Polisi’r Cyngor ar gyfer caniatáu Rhyddhad Dewisol i Dalwyr Ardrethi Annomestig wedi ei sefydlu ers sawl blwyddyn, ac wedi derbyn mân addasiadau. Eglurodd ei fod felly’n amserol i’r Cyngor gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r Polisi Rhyddhad Dewisol nid yn unig er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n addas yn sgil newidiadau deddfwriaethol ond hefyd i ystyried os oedd y rhyddhad roedd y Cyngor yn ei ganiatáu wedi ei anelu i’r mannau cywir ac yn fforddiadwy yng ngŵydd yr angen parhaus i ddarganfod arbedion.

 

Nododd y gofynnir i’r Pwyllgor ystyried sefydlu Gweithgor i ymchwilio i Bolisi’r Cyngor ar ganiatáu rhyddhad dewisol, a chynnig arweiniad wrth lunio polisi newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran yr amserlen, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y rhagwelir cynnal 2 neu 3 gyfarfod o’r Gweithgor. Eglurodd mai’r Cabinet a fyddai’n mabwysiadu polisi newydd, ac anelir i gyflwyno’r polisi addasedig i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr 2017.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Sefydlu Gweithgor i ymchwilio i Bolisi’r Cyngor ar ganiatáu rhyddhad dewisol;

(ii)    Bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y pwyllgor, ynghyd â’r Cynghorwyr Aled Wyn Jones, Huw G. Wyn Jones, Dewi Wyn Roberts a Angela Russell i wasanaethu ar y Gweithgor.