skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2016/17.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Trevor Edwards yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2016/17.

 

Cymerodd y cyfle i ddiolch i’r cyn Gadeirydd a llongyfarch y Cynghorwyr Dilwyn Morgan ac Angela Russell am ennill cymhwyster cenedlaethol wedi iddynt gwblhau Rhaglen Arweinyddiaeth Academi Cymru.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2016/17.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen J. Davies, Gweno Glyn, W. Tudor Owen, Gethin Glyn Williams a Dyfrig Siencyn (Dirprwy Arweinydd).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Angela Russell fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Cyfrifon Terfynol Harbyrau Gwynedd 2015/16 oherwydd bod ei merch yn gweithio yn Harbwr Pwllheli.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a chymerodd ran lawn yn y drafodaeth ar yr eitem.

 

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 225 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Mai 2016, fel rhai cywir.        

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Mai 2016, fel rhai cywir.

7.

ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 63 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosododd yr Uwch Swyddog Polisi y cyd-destun, gan dynnu sylw’r aelodau at yr ymatebion a dderbyniwyd i’r hyn a godwyd gan yr aelodau yng nghyfarfod 21 Ionawr 2016. Atgoffodd y Rheolwr Cynllunio Strategol, Perfformiad a Phrosiectau mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni eu hunain o’r cynnydd sydd wedi digwydd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau ar yr adroddiad a’r atodiad a oedd yn nodi’r arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol dros y blynyddoedd diwethaf ynghyd â’u cynigion ar gyfer gwella, eu cynlluniau gweithredu â’r cynnydd hyd yn hyn.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Paragraff 2.3 Ymwybyddiaeth a defnydd o wasanaethau eiriolaeth - angen derbyn cadarnhad os yw’r Panel Rhiant Corfforaethol yn fodlon bod pob unigolyn yn derbyn cyngor a chymorth boed hynny’n swyddogol neu answyddogol;

·         Tudalen 28 Pobl Ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant - angen derbyn cadarnhad o’r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;

·         Tudalen 38 (10) Amseroldeb cynhadledd-au amddiffyn plant - angen derbyn cadarnhad pam fod hi’n anodd cael cworwm mewn cynadleddau o ystyried pwysigrwydd y maes diogelu plant;

·         Tudalen 40 (11) Codi ymwybyddiaeth o oblygiadau a gofynion Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) a gweithredu’r trefniadau llywodraethu ar gyfer gweithredu’r gweithdrefnau – angen derbyn cadarnhad o beth sydd yn digwydd o ystyried bod 119 ar y rhestr aros.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Derbyn yr adroddiad;

(ii)    Gofyn i’r adrannau perthnasol am ymatebion i’r pwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth.

 

8.

CYFRIFON TERFYNOL 2015/16 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 119 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Adnoddau, nododd bod sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2015/16 yn cadarnhau y bu rheolaeth ariannol effeithiol gan yr Aelodau Cabinet perthnasol, penaethiaid adrannau a rheolwyr cyllidebau, er gwaethaf y gofynion parhaus i gyflawni arbedion heriol. Nodwyd bod y sefyllfa gyllidebol yn well na’r rhagolygon a gyflwynwyd yn yr ail a trydydd chwarter. Adroddwyd bod gwelliant sylweddol yn sefyllfa gyllidebol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

Tynnwyd sylw at y trosglwyddiadau ariannol a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 7 Mehefin.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod tanwariant 2015/16 yn fwy na’r disgwyl, oherwydd bod sefyllfa'r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi gwella, ond bod sefyllfa’r Adran yn 2016/17 dal yn ddyrys. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn wynebu cyfnod heriol gydag ansicrwydd cyffredinol o ran cyllidebau Llywodraeth Leol. Tynnwyd sylw at Atodiad 3, lle manylir ar waith cynaeafu o gronfeydd penodol sydd, ynghyd â’r tanwariant, wedi golygu y bydd balansau cyffredinol y Cyngor wedi gostwng dim ond £833k o £6.4m i £5.6m ar 31/3/16.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, ymatebodd y swyddogion iddynt fel a ganlyn:

·         Mai dim ond gohirio gweithrediad ar benderfyniad yn unig fyddai peidio gweithredu ar doriadau, megis ar Doiledau Cyhoeddus, gan y rhagwelir gorfod darganfod mwy o arbedion;

·         Bod gorwariant Ymgynghoriaeth Gwynedd yn isel o ystyried y lefelau incwm uchel a’i fod yn cadw swyddi proffesiynol yng Ngwynedd a fyddai’n mynd tu allan i’r Sir pe na fyddai’n rhan o’r Cyngor;

·         Bod elfen o waith yr oedd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn ei wneud ar gyfer Asiantaeth Gefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi ei fewnoli ganddynt, a bydd y gostyngiad mewn incwm erbyn 2016/17 yn fater i Bennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd ei ystyried wrth gynllunio busnes;

·         Bod y Cyngor wedi anfon gohebiaeth at bob ysgol gan ofyn iddynt gadarnhau eu bwriadau ar gyfer eu reserfau. Roedd y Fforwm Cyllideb Ysgolion wedi cymeradwyo’r hawl i’r Cyngor o 2017/18 ymlaen i ddychwelyd reserfau dros y trothwy o 5% i gyllidebau’r Cyngor;

·         Pan fo swyddi yn dod yn wag yn naturiol yn ystod y flwyddyn ariannol bod tueddiad i beidio llenwi’r swydd gan olygu tanwariant a rhoi’r gyllideb i fyny y flwyddyn ariannol ganlynol, felly ni fyddai’r un tanwariant yn ail-adrodd yn 2016/17.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion ynghlwm a’r cyllidebau am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.

 

9.

CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD 2015/16 pdf eicon PDF 203 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Cyllid adroddiad yng nghyswllt cyfrifon terfynol Harbyrau Gwynedd am y flwyddyn 2015/16 yn unol â’r gofynion statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964. Nodwyd yr ystyrir Harbyrau Gwynedd yn gorff llywodraethol bach, gan fod trosiant yn is na £2.5m, ac o’r herwydd bod cwblhau ffurflen swyddogol flynyddol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn cwrdd â’r gofynion statudol.

 

Tynnwyd sylw nad oedd y cyfrifon yn cynnwys Hafan Pwllheli nac ychwaith Doc Fictoria, gan nad oeddent tu fewn i’r diffiniad o Harbwr.

 

Adroddwyd y byddai’r cyfrifon a’r ffurflen yn destun archwiliad buan gan Deloitte, archwilwyr allanol Cyngor Gwynedd a apwyntiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac os byddai newidiadau, yna cyflwynir fersiwn diwygiedig i gyfarfod y Pwyllgor ar 29 Medi 2016.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed incwm parcio yn Morfa Bychan, nodwyd bod yr incwm wedi ei gynnwys yng nghyllideb Traethau yr Adran Economi a Chymuned felly yn annibynnol o’r cyfrifon yma.

          

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth yn yr atodiadau, sef -

·         Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2015/16 – Atodiad A; a

·         Ffurflen datganiadau cyfrifon 2015/16, ar gyfer archwiliad – Atodiad B.

 

10.

HUNANASESIAD O EFFEITHIOLRWYDD Y PWYLLGOR ARCHWILIO pdf eicon PDF 471 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg adroddiad a oedd yn adrodd yn ôl ar hunanasesiad o effeithiolrwydd y Pwyllgor a gynhaliwyd mewn gweithdy o’r aelodau ar 31 Mai 2016. Nodwyd y defnyddiwyd canllawiau’r Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA) ‘Audit Committee – Practical Guidance for Local Authorities and Police’ er mwyn ystyried:

·         Os yw’r Pwyllgor yn gwneud y pethau y dylai, yn unol â’r gofynion statudol arno ac ymarfer gorau.

·         Pa mor effeithiol y mae’n gwneud y pethau hyn.

 

Cyfeiriwyd at y materion sydd angen sylw a nodwyd y cyflwynir diweddariad rheolaidd i’r Pwyllgor.

 

Nododd y Cadeirydd ei siom mai dim ond 7 aelod o’r Pwyllgor oedd yn bresennol yn y gweithdy.

 

Nododd aelod ei fod yn weithgaredd defnyddiol ac y byddai’n rhoi sylfaen i weithio arno.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed llunio rhaglen hyfforddiant arfaethedig ar gyfer aelodau’r Pwyllgor, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y byddai’r rhaglen hyfforddiant a lunir ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn cael ei weithredu ar ôl Etholiad 2017.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn cynnwys yr adroddiad fel sail i gynllun gweithredu ar gyfer datblygiad pellach y Pwyllgor;

(ii)    dylid derbyn diweddariad rheolaidd.

 

11.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2015/16 pdf eicon PDF 359 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

 

Nodwyd bod y Pwyllgor wedi derbyn diweddariad cyson o waith y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu ar yr hunanasesiad llywodraethu yn ystod y flwyddyn. Amlygwyd mai’r unig sgôr oedd wedi newid, ers cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 5 Mai, oedd sgôr effeithiolrwydd Rheoli Perfformiad o 2 i 3 allan o 5.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod gwaith y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu, y Grŵp Rheoli a’r Pwyllgor Archwilio yn cryfhau trefniadau llywodraethu’r Cyngor, ac yn cynnig tystiolaeth i gefnogi’r Cyngor pe cyfyd her gan SAC o ran sgoriau impact ac effeithiolrwydd elfennau o’r Fframwaith Llywodraethu. Ychwanegodd bod cynnydd yn sgôr effeithiolrwydd Rheoli Perfformiad yn adlewyrchu’r cynnydd a wnaed i gyflwyno trefn rheoli perfformiad newydd ar draws y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2015/16;

(ii)    argymell bod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn arwyddo’r datganiad.