Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau
am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Anwen J. Davies, Trevor Edwards ac
E. Selwyn Griffiths. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall
sydd yn teilyngu
sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL PDF 98 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gohiriwyd trafod yr adroddiad yma
yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor ar 1 Rhagfyr, 2015, oherwydd swmp y wybodaeth i alluogi’r
aelodau i roi sylw priodol
i’r adroddiad. Gosododd yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg y cyd-destun, gan nodi y sefydlir trefn fwy trylwyr
i alluogi’r Pwyllgor i fodloni
ei hun bod y camau gweithredu i ymateb i
gynigion gwella adroddiadau archwilwyr allanol wedi eu
gweithredu. Nodwyd y cyflwynir adroddiad o ran archwiliadau allanol bob 6 mis i’r Pwyllgor.
Eglurwyd mai’r bwriad o dan y drefn newydd yw
ystyried pob cynnig/argymhelliad yn unigol a pan fo’r Pwyllgor yn
fodlon fod cynnig/argymhelliad wedi ei gwblhau
neu nad
yw bellach yn berthnasol gellir
ei dynnu o’r rhestr. Mewn ymateb i bryderon
aelodau o ran cael sicrwydd gwirioneddol bod y camau gweithredu i gynigion gwella
wedi eu gweithredu,
nododd yr Uwch Reolwr Refeniw
a Risg bod rhaid ymddiried yng ngwaith
y Penaethiaid Adran a’r swyddogion ond os yw’r
Pwyllgor o’r farn bod angen eglurhad pellach gellir galw Aelodau
Cabinet neu swyddogion gerbron. Nododd y Prif Weithredwr mai rôl y Pwyllgor
fel y rhai oedd yn gyfrifol
am lywodraethu oedd cadw trac ar
y camau gweithredu gan benderfynu os yw’n fodlon
eu bod wedi eu cwblhau neu
gyda’r cynnydd hyd yn hyn
ac nid ail-wneud gwaith y Pwyllgorau Craffu. Tywysodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad yr aelodau drwy’r
atodiad a oedd yn nodi’r
arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol yn ystod
y tair blynedd diwethaf ynghyd a’u cynigion ar
gyfer gwella, y cynlluniau gweithredu i ymateb i’r
cynigion gan yr archwilwyr ynghyd
â’r cynnydd hyd yn hyn.
Rhoddwyd sylw yn benodol
i’r argymhellion lle nodwyd eu
bod wedi eu cwblhau. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau
canlynol: ·
Bod rhai sylwadau yn hirfaith
felly gofynnir am wybodaeth
fwy cryno ar gyfer y dyfodol
gan gyfeirio at brosiect yng nghynllun
strategol y Cyngor pan fo’n berthnasol e.e. Arolwg Estyn; ·
Y dylid
ystyried cynnwys dolenni i’r adroddiadau
yn y tabl; ·
Tudalen 15 1.2.1 4i. Sicrhau bod gwasanaeth
yn hybu annibyniaeth
i bobl hyn
- angen derbyn cadarnhad mai ond
yng nghyswllt teleofal y cwblhawyd y gwaith; ·
Tudalen 20 1.2.2 ii. Cynllunio strategol gyda BIPBC yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) – angen derbyn cadarnhad
bod monitro’r gwasanaeth therapiwtig ar gyfer plant/pobl ifanc sy’n cael
eu lleoli tu allan i
ardal yr awdurdod yn digwydd; ·
Bod angen
eglurdeb o ran arweinydd/cyfrifoldeb lle na nodir; ·
Tudalen 21 1.2.2 iii. Ymwybyddiaeth a defnydd o wasanaethau eiriolaeth – y dylid derbyn mwy o wybodaeth gan nad yw’r
sylwadau yn cadarnhau bod cysondeb yn ansawdd y cynlluniau
gofal; · Tudalen 23 1.2.2 iia. Cyfleoedd i fanteisio ar ofal iechyd a llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (Llety) - y dylid derbyn cadarnhad o ran bwriadau'r Adran Plant a Theuluoedd yng nghyswllt ymateb i’r diffyg amrediad lleoliadau sydd ar gael i rai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
TREFNIADAU CRAFFU'R CYNGOR PDF 232 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch
Reolwr Democratiaeth a Chyflawni. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr
Democratiaeth a Chyflawni yr adroddiad gan
nodi yn dilyn
trafod y mater yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 1 Rhagfyr, 2015, y derbyniwyd fersiwn derfynol o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a oedd wedi ei gynnwys
fel Atodiad 1. Tywysodd yr aelodau drwy
Atodiad 2 a oedd yn nodi’r
argymhellion gyda rhai ystyriaethau i’r Pwyllgor ei
ystyried wrth lunio cynllun gweithredu
i ymateb i’r argymhellion gan dynnu sylw
y gofynnir i’r Pwyllgor ethol aelodau ar Is-grŵp
a fyddai’n cynnwys yn ogystal aelodau
o’r Fforwm Craffu a’r Dirprwy
Arweinydd. Eglurwyd y byddai’r Is-grŵp
yn llunio argymhellion i’w hystyried cyn i’r
Cyngor gychwyn ar ei flwyddyn
newydd yn Mai 2016. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau
canlynol: ·
Bod craffu yn ei ffurf
bresennol yn aneffeithiol; ·
Bod rhai aelodau ers newid
i’r drefn Gabinet yn amharod
i gymryd rhan mewn craffu
a’r angen i ddelio â hyn; ·
Un gwendid yn y drefn bresennol
yw bod gormod o eitemau yn cael
eu hystyried oherwydd ni herir
pam ystyrir mater yn ddigonol ac o ganlyniad lleihad yn ansawdd
y craffu; ·
Ei fod yn anodd cadw
momentwm gwaith ymchwiliadau craffu; ·
Bod angen sicrwydd o ran pwrpas craffu; ·
Y gall craffu ychwanegu gwerth i’r broses os ail-lunnir y drefn graffu; ·
Bod hyfforddi aelodau yn holl
bwysig; ·
Y dylid ystyried sefydlu trefn lle bod Pwyllgor
Craffu yn gallu dethol o holl aelodau’r Cyngor (heblaw Aelodau Cabinet) o ran eu harbenigedd i gymryd rhan
mewn ymchwiliad craffu; ·
Croesawir yr argymhellion. PENDERFYNWYD: (i) Cymeradwyo’r pwyntiau gweithredu’r drafft; (ii) Ethol y Cadeirydd, Is-gadeirydd a’r Cynghorydd
John Wyn Williams ar yr Is-grŵp. |