skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cynghorydd Cemlyn Williams

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·            Y Cynghorydd Eirwyn Williams yn eitem 5.1 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0871/35/LL oherwydd bod yr ymgeisydd yn berthynas agos

·            Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/1080/43/LL oherwydd mai ef oedd perchennog safle’r cais

·            Y Cynghorydd Gruffydd Williams yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/1080/43/LL oherwydd ei dad oedd yn cyflwyno’r cais

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais

 

(b)     Datganodd y Rheolwr Cynllunio yn eitem 5.4 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0059/39/LL oherwydd bod ei rhieni yn ffrindiau gyda’r ymgeisydd

 

Roedd y swyddog o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais

 

(c)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Aled Wyn Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.2  ar y rhaglen, (cais cynllunio C18/1080/43/LL)

·        Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0059/39/LL)

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

(ch)   Amlygodd yr Uwch Gyfriethiwr nad oedd wedi derbyn unrhyw faterion protocol yn ymwneud a’r ceisiadau gerbron. Ategodd ei fod yn ymwybodol bod Aelodau’r Pwyllgor wedi derbyn holiadur a gwahoddiad i ddigwyddiad sydd wedi ei drefnu gan gwmni Aldi yn ymwneud a datblygiad i’r dyfodol ym Mangor. Cynghorywd yr Aelodau i beidio ag ymateb i’r holiadur nac i fynychu’r digwyddiad.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 215 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11 Chwefror 2019 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2019, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C18/0871/35/LL Eiriannedd, Rhos Bach, Criccieth pdf eicon PDF 104 KB

Newid defnydd anecs i lety gwyliau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Newid defnydd anecs yn llety gwyliau

 

         Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd Rhagfyr 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn stad o dai preswyl yng Nghriccieth. Nodwyd bod y safle yn cynnwys eiddo preswyl deulawr gydag adeilad allanol unllawr gyda tho pits o fewn y cwrtil sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio fel ystafell chwaraeon.

 

Ategwyd bod cynllun llawr diwygiedig, datganiad Dylunio a Mynediad a Chynllun Busnes wedi ei cyflwyno (27.11.18) fel rhan o’r cais oedd yn lleihau’r nifer o ystafelloedd gwelyau o   ddwy i un ac yn dileu ffenestr fyddai yn goredrych cwrtil yn eiddo preswyl.

 

Eglurwyd bod cyngor cyn cyflwyno cais wedi ei ddarparu lle amlygwyd yn yr ymateb bod y bwriad yn groes i bolisïau TWR 2 a PCYFF 2 oherwydd bod yr uned bwriedig wedi ei leoli o fewn ardal breswyl yn bennaf. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau trigolion cyfagos. Amlygwyd  bod polisi TWR 2 yn caniatáu trosi adeiladau allanol llety gwyliau ar sail fod y datblygiad yn un o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac yn cwrdd â phum maen prawf. Gyda’r safle wedi ei leoli o fewn cwrtil annedd breswyl o fewn ystâd breswyl ystyriwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda phwynt iv o Bolisi TWR 2 - Nad yw’r datblygiad yn  cael ei leoli mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed arwyddocaol i gymeriad preswyl ardal;. Ategwyd oherwydd agosatrwydd y bwriad i’r eiddo presennol ni ellid ystyried y byddai’n un o ansawdd uchel o ran lleoliad ac y byddai defnyddio’r adeilad fel uned ar wahân yn golygu bod graddfa’r datblygiad yn annerbyniol gyda’r ddau eiddo yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau ei gilydd. Nid oedd y bwriad felly yn cydymffurfio gyda phwynt ii Polisi TWR2 - Bod graddfa’r datblygiad arfaethedig yn briodol gan ystyried y safle, y lleoliad, a/neu anheddiad dan sylw.

 

Ystyriwyd bod y bwriad hefyd yn groes i PCYFF 2 o ran sicrhau a diogelu mwynderau meddianwyr presennol ac i’r dyfodol rhag gweithgareddau allai achosi aflonyddwch i’r stad o ran sŵn a symudiadau fyddai’n gysylltiedig gyda natur gwyliau.

         

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

(c)     Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â fyddai modd cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i ystyried posibiliadau ac addasu’r cynllun, nodwyd mai anodd fyddai dod dros feini prawf TWR2 gyda’r bwriad dan sylw. Ategwyd bod cyngor cyn cyflwyno wedi ei ddarparu i’r ymgeisydd lle amlygwyd bod y bwriad yn groes i bolisïau.

 

(ch)   Mewn ymateb i sylw gan Aelod y byddai anecs ar gyfer rhieni yn dderbyniol ond uned gwyliau yn annerbyniol, nodwyd mai'r brif egwyddor dan sylw yma oedd y math o ddefnydd oedd yn cael ei ystyried a’r angen i warchod lleoliadau preswyl. Ategwyd nad oedd y Gwasanaeth Cynllunio a’r gallu i reoli tai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C18/1080/43/LL Parc Carafanau a Cwrs Golff Gwynus, Pistyll, Pwllheli pdf eicon PDF 89 KB

Diwygio amod 6 ar ganiatad C15/0495/43/LL er meddiannu'r carafanau sefydlog am 12 mis

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth aelod o’r Cyngor

 

(b)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddiwygio amod 6 ar ganiatâd C15/0495/43/LL er mwyn caniatáu  tymor gwyliau o 12 mis ar gyfer y carafanau sefydlog. Nodwyd bod y caniatâd cynllunio presennol yn cyfyngu amser meddiannu’r carafanau sefydlog i 10½ mis gydag amod ar wahân yn rheoli’r cyfnod ar gyfer y carafanau teithiol sydd yn cael defnyddio’r safle.

 

          Nodwyd bod sawl safle yn y Sir wedi derbyn caniatâd i weithredu defnydd gwyliau drwy gydol y flwyddyn ac nad yw’r polisi perthnasol yn cyfyngu ar y cyfnod gwyliau. Ategwyd bod y bwriad yn cyd-fynd a’r hyn sydd yn digwydd ar safleoedd eraill.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y safle ar gyfer y carafanau sefydlog wedi cael ei sefydlu yn 1947  ac yn ddiweddarach yn 2007 sefydlwyd safle ar gyfer carafanau teithiol a chwrs golff

·         Bod y safle carafanau sefydlog a’r carafanau teithiol yn cael eu rhedeg ar wahân

·         Bod y cabannau pren yn unedau o safon arbennig, yn bwrpasol ac yn addas ar gyfer pob tywydd. Buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud i’r safle.

·         Y safle yn ychwanegu hwb economaidd i’r ardal

·         Y polisi wedi hen sefydlu ar gyfer meysydd mawrion ac felly hanfodol bod parciau llai  yn derbyn yr un hawliau

·         Diwygio amod yn unig dan sylw.

·         Yr AHNE a’r Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais

·         Yr argymhelliad yn glir i ganiatáu a’i fod yn gefnogol i’r cais

 

(c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod cynyddu’r tymor gwyliau yn hwb i’r economi lleol

·         Bod angen cadarnhau na fydd neb yn byw yn y carafanau sefydlog yn barhaol

 

          PENDERFYNWYD caniatáu yn unol â’r argymhelliad

 

1. Angen cydymffurfio gyda gweddill yr amodau ar ganiatâd cynllunio   

    C15/0495/43/LL.

5.3

Cais Rhif C18/1206/14/LL 10, Cefn Hendre, Caernarfon pdf eicon PDF 89 KB

Cais ar gyfer dymchwel porth cefn presennol a chodi estyniad deulawr ar gefn yr eiddo

 

AELODAU LLEOL Cynghorydd Roy Owen a’r Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ar gyfer dymchwel porth cefn presennol a chodi estyniad deulawr ar gefn yr eiddo

 

(a)     Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn Rheolwr o fewn Adran yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd a gyda chysylltiadau gwaith agos gyda’r Gwasaneth Cynllunio.

 

(b)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i godi estyniad deulawr ar gefn eiddo preswyl sydd yn un o 3 tŷ deulawr mewn rhes sydd yn rhan o stad dai preswyl. Nodwyd bod y cais wedi ei ddiwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol trwy addasu ffurf bwriedig y to yn ogystal â lleihau mymryn ar led yr estyniad. O ganlyniad, ystyriwyd bod manylion y bwriad yn dderbyniol.

         

(c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch)     PENDERFYNWYD caniatáu yn unol â’r argymhelliad

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda’r cynlluniau.

3.         Llechi

4.         Gorffeniadau’r waliau

5.         Tynnu hawliau PD ffenestri

6.         Amod archaeoleg

7.         Nodyn Dŵr Cymru

5.4

Cais Rhif C19/0059/39/LL Tegfan Bach, Lon Gwydryn, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 84 KB

Cais ôl weithredol i gadw mynedfa gerbydol a man parcio cerbydau

 

AELOD LLEOL Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl weithredol i gadw mynedfa gerbydol a man parcio cerbydau.

 

(a)     Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan ei fod wedi ei gyflwyno gan berthynas agos i Aelod o’r Cyngor.

 

(b)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ôl weithredol ydoedd i gadw mynedfa gerbydol a man parcio newydd. Amlygwyd bod wyneb parcio sydd wedi ei greu yn gorwedd ar un lefel ac wyneb y gerbydlon cyfochrog, ac mae wedi ei amgylchynu ar dair ochr gan wal o flociau concrid. Ymddengys bod y man parcio sydd wedi ei greu yn ddigonol ar gyfer parcio dau gerbyd oddi ar y ffordd sirol ac nad oes man troi o fewn y safle.

 

       Ymgynghorwyd gydag Uned Trafnidiaeth y Cyngor a derbyniwyd ymateb yn datgan nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad o safbwynt diogelwch ffyrdd.  Ymhelaethwyd tra ei fod yn bosibl i droi o fewn y cwrtil, sylweddolwyd y byddai’r perchennog efallai yn dewis cefnu i mewn ac allan o’r man parcio ar adegau.  Eglurwyd bod y ffordd gyfochrog yn cludo llif traffig tymhorol a llif unffordd, a thybir bod cefnu i mewn i’r llecynnau parcio yn dderbyniol yn yr achos hwn.  Gan hynny, ac er bod y datblygiad yn golygu fod oddeutu dau lecyn parcio cyhoeddus ar y stryd yn cael eu colli o ganlyniad, ystyriwyd ar sail barn yr Uned Drafnidiaeth fod y datblygiad yn unol â pholisïau TRA 2 a TRA 4 y CDLl.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nad oedd neb wedi gwrthwynebu’r bwriad

·         Bod yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau

·         Bod mantais i ddiogelwch y gyrrwr a’r teithiwr o barcio’r car mewn mynedfa gerbydol

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

          PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

1.    Deunyddiau wyneb y man parcio a’r wal amgylchynol i’w gymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol;

2.    Cwblhau'r datblygiad o fewn 3 mis o ddyddiad y caniatâd cynllunio yn unol â manylion

 

Nodyn Priffyrdd: Cyfarwyddir yr ymgeisydd  i ysgrifennu at y Rheolwr Gwaith Stryd i gael hawl o dan Adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd, 1980, i gario unrhyw waith allan o fewn y ffordd/palmant /ymyl glas sydd yn angenrheidiol i adeiladu’r fynedfa.