skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Elin Walker Jones, Dilwyn Lloyd a Cemlyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol.

Cofnod:

(a)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·            Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitemau 5.1 a 5.5 ar y rhaglen (ceisiadau cynllunio rhifau C14/0386/24/LL a C18/0838/11/LL), oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd;

·            Y Cynghorydd Edgar Wyn Owen yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C17/1172/19/LL), oherwydd bod ei fab yn byw gerllaw.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

(b)     Datganodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro fuddiant personol, yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C17/1172/19/LL), oherwydd bod asiant y cais yn frawd yng nghyfraith iddo.

 

          Datganodd y Rheolwr Cynllunio fuddiant personol, yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C17/1172/19/LL), oherwydd bod ffrindiau teuluol wedi gwrthwynebu’r cais ac yn byw yn agos i’r safle.

 

          Roedd y swyddogion o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

(c)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Aeron M. Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C14/0386/24/LL);

·        Y Cynghorydd Keith Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.4 a 5.5 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0835/11/MG a C18/0838/11/LL);

·        Y Cynghorydd Gruffydd Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0955/42/RC).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C14/0386/24/LL - Tir yng nghefn Tan y Celyn, Swn y Mor a Talardd, Llanwnda, Caernarfon pdf eicon PDF 155 KB

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018 i alluogi gwrthwynebwr i siarad ar y cais ac er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Eglurwyd bod y cais gwreiddiol wedi ei ganiatáu gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2015. Nodwyd oherwydd bod yr ymgeisydd wedi oedi wrth arwyddo cytundeb cyfreithiol, mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) yng Ngorffennaf, 2017 ac o ganlyniad roedd newid yn y sefyllfa bolisi. Roedd y cais wedi ei asesu yn unol â’r polisïau cyfredol.

 

Nodwyd bod y cais ar gyfer 24 tŷ gyda 12 o’r tai yn rhai fforddiadwy. Amlygwyd bod yr angen am dai marchnad agored a thai fforddiadwy wedi ei gadarnhau gan y cyrff perthnasol, a bod y polisïau yn cefnogi hyn, felly ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Tynnwyd sylw bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos ar sail colli preifatrwydd, aflonyddwch sŵn a chreu strwythurau gormesol. Eglurwyd bod pellter amrywiol o 23-31 medr rhwng cefnau’r tai presennol a chefnau’r tai bwriadedig a chredir fod y gwagle hwn ynghyd â llystyfiant presennol a dyluniad/lleoliad y tai arfaethedig yn dderbyniol ar sail gwarchod preifatrwydd rhesymol a gor-edrych.

 

Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau a dderbyniwyd gan ddeiliaid lleol parthed y cynnydd mewn trafnidiaeth a’r diffyg llwybrau troed, er yn cydnabod y gwrthwynebiadau, nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r trefniant bwriadedig yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol. Nodwyd bod y bwriad hefyd yn dderbyniol ar sail paratoi cyfleusterau parcio, teithio a mynediad i’r tai eu hunain ac yn hygyrch ar sail ei leoliad.

 

Nodwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cadarnhau bod maint y llecyn agored ar gyfer y datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi ISA5 o’r CDLl ynghyd â chydymffurfio gyda gofynion Canllaw Cynllunio Atodol: Datblygiadau Tai a Llecynnau Agored o Werth Adloniadol. Er bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan ddeiliaid cyfagos i leoliad y llecyn agored, credir bod ei leoliad yn dderbyniol gan ystyried bod goruchwyliaeth naturiol o’r llecyn gan nifer helaeth o dai o fewn y datblygiad ac ni ellir gwneud defnydd amgen o’r rhan yma o’r safle, gan ystyried y cyfyngiadau adeiladu oherwydd ei agosatrwydd at yr is-orsaf nwy a’r gwaith trin carthion arfaethedig. Ymhelaethwyd pe adleolir y llecyn agored, ni ellir datblygu lleoliad presennol y llecyn agored ar gyfer tai, gan olygu gostyngiad yn y nifer o dai ar y safle, ac y gallai hyn olygu ni fyddai’r datblygiad yn hyfyw.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C17/1172/19/LL - Cartref Nyrsio Plas y Bryn, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 168 KB

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunan gynhaliol, codi adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunangynhaliol, codi adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol

        

(a)     Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2018 er mwyn derbyn cadarnhad pellach gan yr asiant ynglŷn â rhai agweddau penodol o’r cais ynghyd â chynnal ymweliad safle. Nodwyd y cynhaliwyd ymweliad safle ar 23 Gorffennaf 2018.

 

          Cyfeiriwyd at y niferoedd aros, gan nodi y derbyniwyd cadarnhad y byddai nifer y gwesteion yn amrywio yn ôl y tymor ond mai’r nifer tebygol ar un adeg fyddai rhwng 50% a 60% (hyd at 70-mewn nifer) o gyfanswm niferoedd aros yr adeilad.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd yn cynnwys cadarnhad gan Wasanaeth Twristiaeth y Cyngor mai prin oedd y math yma o ddarpariaeth yn sirol.

 

          Nodwyd bod y ffordd i’r safle yn gul a throellog, ond ni chredir y byddai’r bwriad yn golygu cynnydd a niwed sylweddol amlwg o ran symudiadau traffig o gymharu â’r defnydd hanesyddol fel cartref nyrsio preswyl, felly ni chredir fod y bwriad yn annerbyniol o safbwynt gofynion polisïau TRA2 a TRA4 o’r CDLl.

 

          Eglurwyd nad oedd rheolaeth o ddefnydd presennol y safle ac fe fyddai’r cais hwn yn gwella’r sefyllfa. Nodwyd yn dilyn derbyn sylwadau’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd o ran mesurau lliniaru i warchod a hyrwyddo’r Iaith Gymraeg, argymhellir gosod amod ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad o ran cytuno arwyddion a phecynnau gwybodaeth.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y bwriad yn cydymffurfio gyda Pholisi TWR2 o’r CDLl;

·         Bod y cynllun busnes a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn dangos y byddai’r elw a fyddai’n deillio o’r datblygiad yn cynyddu;

·         Bod asesiad trafnidiaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais;

·         Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         O ystyried defnydd sefydledig y safle, ni fyddai’r sefyllfa trafnidiaeth yn waeth;

·         Bod y bwriad yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod yr adeilad yn hardd a bod angen ei ddiogelu rhag dirywiad;

·         Pryder o ran diogelwch ffyrdd ond gellir rheoli defnydd o’r safle gydag amodau;

·         O ystyried nad oedd preswylwyr y cartref yn ddefnyddwyr ceir byddai’r symudiadau traffig yn sylweddol uwch. Cwestiynu os oedd y fynedfa yn ddiogel;

·         Yn ansicr o’r bwriad gyda phryder ei fod yn or-ddatblygiad. Byddai 4 rhan ar gyfer 120 o unigolion heb lawer o reolaeth o’r safle. Gyda nifer uwch o unigolion, tua 200, pan gynhelir priodas ar y safle, ddim yn gweld digon o le eistedd ar gyfer gymaint o bobl.

 

         Mewn ymateb i ymholiad gan aelod o ran safbwynt yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais Rhif C16/1412/19/LL - Tŷ Glan Menai, Ffordd yr Aber, Caernarfon pdf eicon PDF 148 KB

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 lloft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porth-dy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 llofft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porthdy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig. 

 

(a)     Nododd y Rheolwr Cynllunio y derbyniwyd pryderon gan wrthwynebwyr, ddiwedd yr wythnos flaenorol, o ran rhybudd digonol i fod yn bresennol a pharatoi i siarad yn y Pwyllgor. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ohirio’r cais er mwyn rhoi ychwaneg o amser i’r gwrthwynebwyr ddarparu.

 

         PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

 

5.4

Cais Rhif C17/0835/11/MG - Jewson Ltd Penlon Works, Stryd Fawr, Bangor pdf eicon PDF 127 KB

Materion a gadwyd yn ôl o ganiatad amlinellol C14/1248/11/AM i godi 4 bloc o fflatiau yn cynnwys 70 uned byw

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Keith Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Materion a gadwyd yn ôl o ganiatâd amlinellol C14/1248/11/AM i godi 4 bloc o fflatiau yn cynnwys 70 uned byw.

 

(a)     Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl a oedd yn cynnwys graddfa, golwg a thirweddu’r safle. Nodwyd bod y bwriad yn darparu 24 uned 1 llofft a 46 uned 2 llofft. Eglurwyd bod y caniatâd amlinellol ar gyfer 77 uned, ond i gydymffurfio gyda safonau adeiladu cymdeithasau tai (safon ‘DQR’) ac mewn ymateb i newid yn y farchnad dai, roedd arwynebedd llawr yr unedau wedi eu cynyddu gan olygu gostyngiad o 7 uned ar y safle.

 

         Amlygwyd bod y cynlluniau wedi eu haddasu ers cyflwyno’r cais yn wreiddiol, er mwyn:

·         Diwygio lleoliad ffenestri i osgoi a lleihau gor-edrych.

·         Diwygiadau i’r dyluniad, yn bennaf i resymoli’r siâp a ffurf yr adeiladau.

·         Addasiadau i’r deunyddiau a lliwiau a fwriedir defnyddio.

·         Newidiadau i drefniadau unedau er mwyn sicrhau safon byw dderbyniol i bob uned e.e. ffenestri a golau naturiol.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd nad oedd y datblygiad yn llety myfyrwyr pwrpasol nac ar gyfer darparu unedau amlfeddiannaeth ac nid oedd hawl cynllunio ar gyfer y fath defnyddiau ar y safle.

 

         Cyfeiriwyd at y trawstoriadau ac edrychiadau, a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd, a oedd yn dangos sut y byddai’r datblygiad yn eistedd o fewn y safle a’i berthynas gydag adeiladau cyfagos. Ymhelaethwyd y derbyniwyd montage i ddangos edrychiad y datblygiad o olygfeydd pellach ar draws y ddinas. Tynnwyd sylw at y montage a oedd yn dangos bod y defnydd o liwiau llwyd ar rannau uwch y blociau yn elfen bwysig iawn i alluogi’r datblygiad i ymdoddi mewn modd derbyniol. Nodwyd yr ystyriwyd bod bloc 2 angen cladin llwyd ary lloriau uwch, fel y dangoswyd ar y montage, er mwyn lleihau amlygrwydd y lloriau o edrychiadau pellach ac fe ellir gosod amod i sicrhau hyn.

 

         Nodwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau o ran mwynderau preswyl gan gynnwys gor-edrych, cydnabuwyd y byddai effaith ond roedd y newidiadau a wnaed i’r cynlluniau yn ddigonol i fodloni’r polisïau.

 

         Amlygwyd y derbyniwyd nifer fawr o wrthwynebiadau ar sail diffyg llefydd parcio o fewn y safle a phroblemau parcio oedd eisoes yn bodoli yn yr ardal. Nodwyd bod y bwriad yn darparu 70 uned  byw gyda chymysgedd o unedau un a dwy lofft a bod y cynllun safle yn dangos 67 llecyn parcio. Eglurwyd bod y safonau parcio yn gofyn am un llecyn parcio ar gyfer pob uned byw ond yn cyfeirio at uchafswm ac yn cydnabod mewn rhai llefydd fod nifer llai yn gallu bod yn dderbyniol. Nodwyd o ystyried lleoliad y safle mewn dinas a’r cysylltiadau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau eraill, ystyriwyd fod 67 llecyn parcio yn ddigonol ac yn dderbyniol a byddai effaith y datblygiad yn annhebygol o achosi trafferthion parcio ychwanegol ar strydoedd cyfagos.

 

         Adroddwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal efo’r ymgeisydd yng nghyswllt darpariaeth storio biniau. Nodwyd ni dderbyniwyd cynllun yn cadarnhau’r bwriad o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

Cais Rhif C18/0838/11/LL - 371-373, Stryd Fawr, Bangor pdf eicon PDF 154 KB

Dymchwel yr adeilad presennol a chodi 9 uned fforddiadwy ar gyfer gymdeithas dai leol, llecynnau parcio a thirlunio.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Keith Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel yr adeilad presennol a chodi 9 uned fforddiadwy ar gyfer gymdeithas dai leol, llecynnau parcio a thirlunio.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod egwyddor o godi tai ar y safle wedi ei selio ym Mholisïau PCYFF1, TAI1, a PS5 o’r CDLl. Nododd oherwydd mai landlord cymdeithasol cofrestredig fyddai’n gyfrifol am yr holl unedau, byddent i gyd ar gael fel tai fforddiadwy. Amlygwyd bod y safle tu mewn i’r ffin datblygu, yn safle a ddatblygwyd o’r blaen ac yn addas ar gyfer defnydd preswyl. Nodwyd bod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor.

        

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd bod yr unedau wedi eu dylunio ar ffurf 3 bloc amrywiol eu huchder gydag amrywiaeth o ddeunyddiau yn cael eu defnyddio ar edrychiad allanol yr adeilad. O ystyried dyluniad, graddfa, ffurf a deunyddiau’r datblygiad credir y byddai’n cydweddu â’r safle ac na fyddai’n creu strwythur anghydnaws na gormesol o fewn y rhan yma o’r strydlun.

 

         Adroddwyd y derbyniwyd gohebiaeth gan rhai o drigolion lleol parthed effaith andwyol y bwriad ar fwynderau preswyl a chyffredinol ar sail colli preifatrwydd, gor-edrych ac aflonyddwch sŵn, gor-ddatblygu a chreu strwythur gormesol. Roedd y cynlluniau gwreiddiol wedi eu diwygio mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau, fel bod ffenestri wal gefn rhan ogleddol yr adeilad newydd wedi eu gosod ar ongl er mwyn lleihau unrhyw or-edrych uniongyrchol i mewn i anheddau cyfagos. Ychwanegwyd er mwyn osgoi unrhyw or-edrych uniongyrchol gellir sicrhau bod ffenestri grisiau, a fyddai’n wynebu anheddau yng nghefn y safle, o wydr afloyw yn barhaol.

 

         Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion lleol yn nodi pryderon parthed addasrwydd y fynedfa, er yn cydnabod y pryderon nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad yn ddarostyngedig i gynnwys amodau priodol gydag unrhyw ganiatâd cynllunio.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod angen am dai yn yr ardal a bod y bwriad yn cyd-fynd â’r ardal gyda datblygiad tebyg gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd gerllaw.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ac i’r amodau isod:-

 

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau.

3.     Llechi naturiol/deunyddiau.

4.     Priffyrdd.

5.     Bioamrywiaeth.

6.     Dŵr Cymru.

7.     Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir (ffenestri).

8.     Llygredd/halogiad.

9.     Gwydr afloyw i’r ffenestri yn ardal y grisiau yn wynebu anheddau yng nghefn y safle

5.6

Cais Rhif C18/0955/42/RC - Northern Lights, Lon-tyn-pwll, Nefyn pdf eicon PDF 108 KB

Tynnu cytundeb 106 arwyddwyd ar gais 2/22/448B sy'n cyfyngu defnydd yr adeilad a'r tir i ddefnydd amaethyddol a dim defnydd busnes na masnachol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tynnu cytundeb 106 arwyddwyd ar gais 2/22/448B sy'n cyfyngu defnydd yr adeilad a'r tir i ddefnydd amaethyddol a dim defnydd busnes na masnachol.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod egwyddor ynglŷn ag amgylchiadau ble gellir gofyn am ddiddymu cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 yn cael ei egluro’n fanwl yng Nghylchlythyr 13/97 Rhwymedigaethau Cynllunio. Yn ychwanegol i’r cylchlythyr roedd Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygio a Dileu Rhwymedigaethau Cynllunio) 1992 yn berthnasol i’r cais.

 

         Eglurwyd bod y dogfennau (a oedd yn cynnwys Rheoliadau 122 a 123 o’r Rheoliadau Ardoll Isadeiledd Cymunedol, 2010) yn datgan er mwyn i gytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 fod yn ddilys rhaid cyfarfod 5 maen prawf, boed y cytundeb yn un newydd neu yn gais i ddileu cytundeb neu ei ddiwygio.

 

         Nodwyd y cyflwynwyd y cais i ddileu’r cytundeb ar sail bod yr ymgeisydd o’r farn fod y cytundeb yn amwys ei ystyr, yn ddiangen ac yn anweithredol.

 

         Amlygwyd er bod cytundeb 106 wedi ei arwyddo yn gysylltiedig gyda chais 2/22/448B, roedd cyfyngiadau’r cytundeb 106 hefyd i raddau wedi eu hailadrodd mewn amodau ar y caniatâd cynllunio. Eglurwyd y byddai ceisiadau ar gyfer stablau erbyn hyn yn destun amod cynllunio ar y caniatâd, yn hytrach na chytundeb 106. Ni ystyriwyd fod diben cynllunio ar gyfer y cytundeb 106 ac nid oedd ei angen er gwneud y datblygiad a ganiatawyd yn dderbyniol i bwrpas cynllunio.

 

         Nodwyd yr ystyriwyd nad oedd cynnwys y cytundeb o dan Adran 106 yn cyfarfod â’r 5 prawf a gyfeirir atynt yng Nghylchlythyr 13/97, Polisi Cynllunio Cymru, Pennod 3 “Gwneud Penderfyniadau Cynllunio a’u Gorfodi” a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygio a Dileu Rhwymedigaethau Cynllunio) 1992 ac nid oedd y cytundeb yn parhau i gyflawni diben cynllunio defnyddiol. Argymhellwyd i ganiatáu’r cais yn ddiamodol.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod Cyngor Tref Nefyn yn gwrthwynebu’r bwriad oherwydd byddai newid defnydd o’r tir i greu unrhyw ddatblygiad masnachol yn cael effaith difrifol ar y ffordd i’r safle a ddefnyddiwyd gan gerddwyr bob dydd;

·         Bod tir ar y safle yn gyswllt at Lwybr yr Arfordir, roedd llwybr Penrallt yn cael ei gau yn gyfnodol oherwydd diogelwch y tir. Felly, pe byddai datblygiad ar y safle gallai’r cyswllt i Lwybr yr Arfordir gael ei golli;

·         Bod y cytundeb 106 a’r amodau yn angenrheidiol;

·         Pe caniateir i dynnu’r cytundeb 106, byddai’r cais a dynnwyd yn ôl yn fis Gorffennaf 2018 yn cael ei ail-gyflwyno;

·         Mai stablau ar gyfer ceffylau oedd ar y safle, pe byddai’r cytundeb 106 yn cael ei dynnu gellir eu defnyddio ar gyfer dibenion busnes. Os nad oedd defnydd bellach i’r stablau fe ddylid eu tynnu i lawr;

·         Bod y safle yng nghefn gwlad agored, pryder am effaith weledol unrhyw ddatblygiad ar y safle yn dilyn tynnu’r cytundeb 106;

·         Gofyn i’r Pwyllgor gadw’r cytundeb 106 mewn lle.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio bod 5 maen prawf o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6

5.7

Cais Rhif C18/1015/25/LL - Treborth Playing Fields, Ffordd Treborth, Treborth, Bangor pdf eicon PDF 105 KB

Creu cae chwarae 3ydd cenhedlaeth gan gynnwys mynedfa / man cynhesu corff, creu llain galed ar gyfer gosod esiteddle a man storio cyfarpar, creu ffyrdd a llwybrau, codi llifoleuadau ac ehangu maes parcio.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu cae chwarae 3ydd cenhedlaeth gan gynnwys mynedfa / man cynhesu corff, creu llain galed ar gyfer gosod eisteddle a man storio cyfarpar, creu ffyrdd a llwybrau, codi llifoleuadau ac ehangu maes parcio

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod Polisi ISA3 o’r CDLl yn annog caniatáu cynigion am gyfleusterau newydd ar gyfer cyfleusterau addysgol a gweithgareddau atodol cymdeithasol neu hamdden ar safleoedd addysg uwch cyn belled eu bod yn dderbyniol o safbwynt materion megis graddfa, lleoliad, dyluniad mwynderau a chludiant. Nodwyd bod y polisi’n pwysleisio y dylid rhoi blaenoriaeth i ailddefnyddio safleoedd presennol.

 

         Nodwyd ei fod yn gynllun i ail-ddefnyddio safle presennol trwy ei uwchraddio fel bod ansawdd y cyfleusterau ar gyfer chwaraeon oedd ar gael i’r Brifysgol yn gwella’n sylweddol. Ymhelaethwyd y byddai’r datblygiad yn helpu sicrhau bod y caeau’n cael eu defnyddio’n fwy effeithlon nag y bu a’u bod yn fwy hyblyg i gwrdd gydag anghenion addysgol a hamdden cyfredol.

        

Tynnwyd sylw bod lleoliad y cais yn sensitif iawn o safbwynt ystyriaethau tirwedd, derbyniwyd ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi bod y wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn rhoi sicrwydd na fyddai'r cynllun goleuo oedd yn rhan o’r cynnig hwn yn tarfu rhyw lawer yn weledol ar y lleoliad nac ar yr olygfa o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, a byddai'n tarfu llawer llai na'r goleuadau presennol.

 

Nodwyd o ran mwynderau cyffredinol a phreswyl, o ystyried pellter y safle o unrhyw anheddau preifat a’r ffaith ei fod yn ddatblygiad tebyg am debyg o safbwynt defnydd y tir, ni chredir y byddai’n creu unrhyw newid arwyddocaol ychwanegol i fwynderau unrhyw gymdogion na’r ardal.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at amod rhif 5, gan egluro ei fod yng nghyswllt rheoli oriau gweithredol y llifoleuadau.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Byddai’r bwriad yn darparu’r cae 3ydd cenhedlaeth cyntaf yng Ngogledd Cymru;

·         Fe fyddai’n ased gwerthfawr i’r ardal gan gynnwys clybiau lleol a’r gymuned;

·         Bod problemau draenio yn gysylltiedig â’r caeau chwarae presennol, ni ellir eu defnyddio yn ystod y Gaeaf;

·         Byddai’r cae yn addas i rygbi a phêl droed i safon ryngwladol;

·         Bod Chwaraeon Cymru yn gefnogol i’r cais;

·         Bod yr ymgynghorwyr statudol yn fodlon efo’r bwriad;

·         Bod yr amodau a argymhellir yn dderbyniol, yn amodol bod amod 5 yn cyfeirio at reoli defnydd y llifoleuadau.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Nododd aelod bod cae 3ydd cenhedlaeth yn Nantporth eisoes a’i fod yn gobeithio y byddai’r cae ar gael i’w ddefnyddio gan y gymuned leol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau:

1.     5 mlynedd

2.     Gwaith yn unol â’r cynlluniau

3.     Rhaid cyflwyno a chytuno Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol

4.     Rhaid dilyn argymhellion yr Arolwg Ecolegol

5.     Llifoleuadau - Oriau gweithredol 16:00 hyd 22:00 Llun i Gwener a 16:00 hyd 19:00 Sadwrn a Sul       

 

Nodiadau

Dŵr Cymru                               

Cyfoeth Naturiol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7