skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

·         Y Cynghorydd Gruffydd Williams yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL) oherwydd ei fod yn fab i’r ymgeisydd.

·         Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL) oherwydd ef oedd perchennog y safle.

·         Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.4 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0744/23/R3) oherwydd ei fod yn ffrindiau hefo perchennog y tir.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Gruffydd Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL);

·        Y Cynghorydd Aled Wyn Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL);

·        Y Cynghorydd Dewi Roberts (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0715/39/LL);

·        Y Cynghorydd Gareth Griffith, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0614/43/LL);

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 84 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24ain o Fedi 2018 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Medi 2018, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

To submit the report of the Head of Environment Department.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

5.1

Rhif Cais C18/0023/42/LL - Tynpwll Cottage, Lon Ty'n Pistyll, Nefyn - Adroddiad Diwygiedig 11.10.18 pdf eicon PDF 104 KB

Dymchwel uned storio bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Dymchwel uned storio bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig)

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 25 Mehefin i ohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am effaith gronnol unedau gwyliau'r ardal y cais. Ategwyd bod y cais yn ymwneud a  dymchwel sied bresennol ac adeiladu 2 uned gwyliau unllawr. Nodwyd bod adroddiad diwygiedig wedi ei ddosbarthu i’r aelodau.

 

O ran egwyddor y datblygiad nodwyd bod Polisi TWR 2 CDLL yn gefnogol i ddatblygu llety gwyliau parhaol newydd gyda gwasanaeth neu rai hunanwasanaeth, i drosi adeiladau presennol i lety o’r fath neu i ymestyn sefydliadau llety gwyliau sy’n bodoli.

 

Cyfeiriwyd at yr ychwanegiadau yn yr adroddiad diwygiedig gan dynnu sylw penodol at baragraffau 5.3 a 5.4 oedd yn ymwneud a gwybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr asiant ynghyd a gwybodaeth a gasglwyd gan y swyddogion cynllunio oedd yn ymateb i bryder y pwyllgor am effaith gronnol datblygiadau llety gwyliau. Amlygwyd bod y paragraffau hyn yn egluro nad yw tai haf a llety gwyliau yn cael eu ystyried i fod yr un peth yn nhermau cynllunio ac felly anodd iawn yw rhoi ystyriaeth i dai haf wrth asesu effaith gronnol llety gwyliau. Cyfeiriwyd at wybodaeth yn yr adroddiad oedd wedi ei ddarparu gan Uned Trethi’r Cyngor ynglŷn â nifer unedau gwyliau hunangynhaliol plwyf Nefyn (oedd yn cynnwys Nefyn, Morfa Nefyn ac Edern). Atgoffwyd yr Aelodau bod materion megis mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth eisoes wedi eu trafod ac felly  tynnu sylw penodol yn unig at y wybodaeth ychwanegol a wnaed. 3.8% yn unig yw’r effaith gronnol o unedau gwyliau yn yr ardal yma.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod Cynghorwyr wardiau ffiniol yn rhannu ei bryderon

·         Nad oedd gwahaniaeth amlwg rhwng ystyr tai haf ac uned gwyliau. Nid yw’r diffiniad yn bendant bellach yn dilyn codi treth (hyd at 50%)

·         Gwelir cynnydd sylweddol mewn tai haf yn cael eu trosi yn unedau gwyliau er mwyn osgoi talu’r dreth a manteisio ar TWR 2 i godi mwy o unedau gwyliau mewn gerddi

·         Tŷ Haf yw Tŷ Haf sef tŷ sydd ddim ar gael i bobl leol ond yn gysylltiedig â chodi pris y farchnad sydd yn atal pobl fyw yn eu cynefinoedd

·         Bod mwy o lawer o niferoedd na’r hyn sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad -Swyddogion heb gynnwys 318 o dai haf ychwanego sydd o fewn y plwyf ac ni oeddynt wedi ystyried perthynas pentref cyfagos Pistyll gyda Nefyn na datblygiad Natural Resources

·         Nid yw carfanau sefydlog wedi cael eu hystyried

·         Bod hyn yn creu effaith andwyol ar y defnydd o Gymraeg. Nifer siaradwyr Cymraeg wedi gostwng es y cyfrifiad diwethaf

·         A oes gwir angen unedau ychwanegol?

·         Beth yw gormodedd? Angen ffigwr pendant cyn gweithredu TWR 2

·         Nid yw ychwanegiad o ddau yn ymddangos yn llawer ond mae dau bob yn dipyn yn ychwanegu at y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Rhif Cais C18/0614/43/LL - Parc Carafanau a Cwrs Golff Gwynus, Pistyll, Pwllheli pdf eicon PDF 126 KB

Ymestyn arwynebedd safle ar gyfer gosod 5 carafan gwyliau ychwanegol ar gae 470, cadw ffordd fynedfa wasanaethol dros dro a’i ymestyn ar gyfer yr unedau ychwanegol, codi clawdd pridd 1.2m ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol cae 410, newid gosodiad 5 carafan sydd ganiatawyd dan gais C15/0495/43/LL ac adleoli tanc septig

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymestyn arwynebedd safle ar gyfer gosod 5 carafán gwyliau ychwanegol ar gae 470, cadw ffordd fynedfa wasanaethol dros dro a’i ymestyn ar gyfer yr unedau ychwanegol, codi clawdd pridd 1.2m ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol cae 410, newid gosodiad 5 carafán sydd ganiatawyd dan gais C15/0495/43/LL ac adleoli tanc septig

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i uwchraddio ac ymestyn safle carafanau presennol.  Roedd y cais yn cynnwys bwriad i uwchraddio’r 10 carafán sefydlog bresennol am gabanau gwyliau a’u hail leoli i ran o safle'r cwrs golff presennol. Rhoddwyd caniatâd yn 2015 i ail-leoli 5 o unedau sefydlog i’r cwrs golff tra roedd y 5 arall i’w hail-leoli o fewn ffiniau presennol. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys cadw ffordd wasanaethol dros dro a dderbyniodd ganiatâd fel rhan o gais C15/0495/43/LL a’i hymestyn ar gyfer gwasanaethu’r unedau ychwanegol, codi clawdd pridd 1.2 medr ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol y safle ac adleoli tanc septig.

 

         Nodwyd bod hanes cynllunio maith i’r safle a phan ganiatawyd cais C15/0495/43/LL roedd hwnnw ar gyfer y safle yn ei gyfanrwydd. Ategwyd bod hynny wedi bod o gymorth i resymoli’r holl geisiadau hanesyddol ar y safle. Lleolir y safle yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Roedd hefyd oddifewn i’r Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

         Amlygwyd bod nifer o bolisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLL) oedd yn berthnasol i bennu’r cais. Y prif bolisi i’w ystyried wrth asesu egwyddor y datblygiad oedd polisi TWR 3.  Nodwyd bod y polisi yn caniatáu estyniadau bach i arwynebedd safle a /neu ail leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda meini prawf.

 

         Yng nghais C15/1495/43/LL, caniatawyd estyniad i’r safle presennol o 3565medr sgwâr tra bod y cais presennol yn gofyn am ymestyn y safle fel y byddai’n defnyddio cyfanswm o 7658 medr sgwâr. Byddai’r cynnydd yma yn gynnydd o bron i 43% i faint y safle yn seiliedig ar ei faint cyn caniatâd 2015. Cyfeiriwyd at yr angen i ail leoli tanc trin carthion ond nid oes rheswm i ymestyn y safle er lleoli’r tanc trin carthion.

 

         Wrth ystyried y rhesymau rhaid cwestiynu os yw bwriad yn gymwys i’w ystyried fel estyniad o gwbl. Nid oedd unrhyw gysylltiad ffisegol rhwng yr elfen parc gwyliau presennol a’r lleoliad bwriadedig a bwriedir creu mynedfa a thrac cwbl ar wahân. Ymddengys y byddai’r adleoli yn golygu yn ei gyfanrwydd safle newydd. Nid yw Polisi TWR 3 yn gefnogol i sefydlu safleoedd carafanau sefydlog newydd oddi fewn i’r AHNE. Ystyriwyd bod y cynllun a ganiatawyd yn 2015 wedi bod yn gyfaddawd priodol i ganiatáu ymestyn y safle presennol er mwyn ail leoli.

 

         Amlygwyd y byddai nifer o lefydd gwag yn ymddangos heb unrhyw eglurhad dros ddefnydd y gwagle ar wahân i le chwarae anffurfiol.

 

         Lleisiwyd pryder gan yr Uned AHNE o safbwynt effaith ymestyn arwynebedd y safle a gosod 5  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Rhif Cais C18/0715/39/LL - 68, Cae Du Estate, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 95 KB

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad deulawr gromen, ffenestr gromen a balconi i'r blaen ac estyniad unllawr blaen i'r modurdy presennol ac addasiadau allanol i'r eiddo

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad deulawr gromen i sgwario blaen y tŷ, gosod ffenestr gromen a balconi ar y blaen ynghyd ac estyniad unllawr blaen i ardal y modurdy cysylltiol presennol. Eglurwyd bod yr eiddo yn sefyll  ar lethr mewn rhes o dai preswyl, yng nghornel cul de sac lled fodern Ystâd Cae Du ac yn gyfochrog a thŷ Fferm draddodiadol Cae Du.

 

Byngalo gromen oedd yr eiddo dan sylw oedd o ddyluniad ychydig yn wahanol i weddill tai gromen y rhes, sydd eisoes a balconïau blaen uwchben modurdai integredig. Nodwyd y byddai’r bwriad yn golygu llenwi cornel de ddwyreiniol i sgwario’r tŷ gydag estyniad deulawr talcen gromen a chyflwyno ffenestr gromen a balconi i’r blaen. Er nad yw talcen yn nodwedd gyffredin yn y rhes dan sylw, ceir elfennau talcenni gwydr ar dai yn y cul de sac cyfochrog o fewn yr Ystâd, felly nid yw’n nodwedd gwbl ddieithr yn y cyffiniau. Nodwyd bod gweddill y tai yn y rhes yn cynnwys balconïau blaen ac yn nodwedd gyffredin ac amlwg iawn yn nyluniad tai’r ystâd, felly nid oedd pryder sylweddol am yr ychwanegiad.

 

      Derbyniwyd bod y tŷ yn weladwy o bellter oherwydd ei leoliad uchel, fodd bynnag o ystyried fod dyluniad y tŷ presennol yn wahanol i weddill y rhes a’r ffaith fod golygfeydd ohono mewn cyd-destun adeiledig ymysg tai o amrywiol ddyluniadau, ni ystyriwyd y byddai’r ymddangosiad yn cael ardrawiad arwyddocaol ar y strydwedd na thirlun yr AHNE.      

 

      Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gymdogion ar sail goredrych, colli preifatrwydd, sŵn a thywyllu. Ystyriwyd oherwydd ongl gosodiad yr eiddo ni fyddai’r ffenestri blaen newydd yn wynebu Fferm Cae Du yn uniongyrchol. Nodwyd bod ffenestri ochr y cynnig yn cael eu newid, o ffenestri ystafelloedd gwely i ffenestri bychan ystafelloedd ymolchi felly yn hynny o beth yn welliant i’r gwrthwynebwyr ar y ddwy ochr, o’r hyn a brofir yn bresennol. 

 

      Oherwydd gwahaniaethau mewn lefel tir mae’r eiddo o flaen safle’r cais, sef byngalo 67 Cae Du, ar lefel llawer is gyda dim ond to’r adeilad yn weladwy o safle’r cais, felly ni fyddai ehangder ffenestri na’r balconi blaen yn cyfaddawdu eu preifatrwydd. Byddai golygfeydd o’r balconi yn edrych dros erddi agored a ffordd ystâd y cul de sac a dros ben to’r tŷ i’r blaen. Oherwydd gosodiad y tŷ i’r gogledd o eiddo Fferm Cae Du, a chwrs yr haul, ni ystyriwyd bod sail i’r honiad y byddai’r estyniad yn tywyllu eu heiddo.

 

      Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu o agwedd dyluniad, mwynderau gweledol, cyffredinol a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol a oedd yn gwrthwynebu’r cais y prif bwyntiau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

Rhif Cais C18/0744/23/R3 - Tir ger Ystad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon pdf eicon PDF 102 KB

Creu maes parcio newydd, mynediad, golau stryd ynghyd á gwaith peirianyddol cysylltiedig

 

AELODAU LLEOL: Cynghorwyr Berwyn Parry Jones a  Jason Wayne Parry

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu maes parcio newydd, mynediad, golau stryd ynghyd á gwaith peirianyddol cysylltiedig

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu cyfleuster parcio a rhannu ar gyfer gwaith adeiladu gorsaf bŵer Wylfa. Nodwyd y byddai’r cyfleuster ar gyfer oddeutu 153 o gerbydau sydd yn cynnwys parcio ar gyfer yr anabl, cerbydau trydanol a beiciau modur.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Adroddwyd bod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi dod i ben a bod un gwrthwynebiad wedi ei dderbyn ar sail byddai’r ffordd osgoi arfaethedig ar faes parcio yn cael effaith andwyol ar fusnes llety gwyliau Fferm Bodrual.

 

O ran egwyddor y datblygiad  a’r  safle wedi ei leoli cyfochrog ond y tu allan i ffin datblygu Caernarfon fel y’i cynhwysir yn y CDLL mae Polisi PCYFF1 yn berthnasol yma ynghyd a pholisi PS12 a PS9. Wedi ystyried y polisïau hyn, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor gan fod y Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu’r fath datblygiad ar y llecyn tir yma ynghyd a’r ffaith ei fod wedi ei leoli gyferbyn a’r stad ddiwydiannol yn hanfodol gan ystyried ei agosatrwydd at hygyrchedd i’r rhwydwaith ffyrdd lleol a fydd yn gwasanaethu Wylfa.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol er bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad ystyriwyd y byddai ad-drawiad y ffordd osgoi yn llawer mwy ac ehangach nag ad-drawiad y maes parcio ar y tirlun lleol gan ystyried ei ddyluniad, cynllun tirlunio a graddfa’r bwriad o gymharu â dyluniad a graddfa’r ffordd osgoi.

 

Yng nghyd-destun mwynderau preswyl a chyffredinol nodwyd eisoes y bod gwrthwynebiad gan ddeiliad Fferm Bodrual sydd wedi ei leoli oddeutu 100m o safle cais. O fewn cyd-destun y cais, ystyriwyd na fydd creu maes parcio gyfochrog a stad ddiwydiannol ac i’r gorllewin o’r ffordd osgoi newydd yn mynd i greu cynnydd sylweddol mewn aflonyddwch sŵn nac ychwaith ar sail colli preifatrwydd gan ystyried y pellter sydd rhwng safle’r cais a’r annedd/llety gwyliau ynghyd a’r ffaith bod y ffordd osgoi wedi ei leoli rhwng y ddau safle.

 

(b)       Wrth ystyried materion priffyrdd amlygwyd yr angen i ddiweddaru’r ystyriaeth yma gan fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais yn ddarostyngedig i gynnwys amod  priodol.

 

Ategwyd bod yr argymhelliad wedi ei addasu i ddirprwyo’r hawl i Uwch Swyddog Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac i’r amodau ychwanegol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn petai Wylfa ddim yn digwydd, amlygodd y swyddog y byddai’r maes parcio ar gael i’r cyhoedd.

 

(c)       Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Pryder am ddiogelwch cadw ceir yn y maes parcio am gyfnod hir

·         Bod angen rheolaeth a goruchwyliaeth ar y safle i atal teithwyr

·         Croesawu adnodd Parcio a Rhannu

·         Bod angen lleol ar y ddarpariaeth

·         Croesawu darpariaeth cerbyd trydan

 

·         A oes cyfiawnhad dros ddatblygu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

Rhif Cais C18/0780/20/LL - Fferm Plas Llanfair, Ffordd Caernarfon, Y Felinheli pdf eicon PDF 140 KB

Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a cwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Wyn Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)      Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a chwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL)

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

         Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cytiau bugail ynghyd a chwt cawod. Ategwyd y byddai’r bwriad hefyd yn golygu plannu coed a llwyni ynghyd a chreu llecyn parcio. Amlygwyd bod y cais yn gynllun diwygiedig i’r un a wrthodwyd ym mis Mehefin 2018 o dan yr hawliau dirprwyedig oherwydd bod yr unedau gwyliau wedi eu lleoli mewn llinell oddi fewn i’r safle cais. Gosodir y cytiau ar ffurf hanner cylch yn y cynllun diwygiedig.

 

         Eglurwyd bod y safle yn sefyll ar lecyn o dir sydd yng nghornel cae amaethyddol gyda golygfeydd agored tua’r Fenai (sydd yn ardal cadwraeth arbennig) ac Ynys Môn (gyda glannau’r Fenai wedi eu lleoli o fewn yr AHNE). Bydd mynediad i’r safle oddiar rhwydwaith ffyrdd preifat. Nodwyd bod tir amaethyddol ac anheddau preswyl Llanfair Hall wedu eu lleoli  i’r gogledd o’r safle ac i’r de lleolir tir amaethyddol agored ac annedd Llanfair Old Hall.

 

         Adroddwyd bod egwyddor o sefydlu llety gwyliau dros dro newydd wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r Cynllun Datblygu Lleol. Ategwyd bod y math yma o ddatblygiadau yn cael eu caniatáu os gellid cydymffurfio gyda nifer o feini prawf. Gofynnir i’r datblygiad arfaethedig fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad a’i fod wedi ei leoli mewn lleoliad anymwthiol. Dengys, er bod bwriad lleoli'r datblygiad yng nghornel y cae, byddai datblygiad o’r fath ar lecyn o dir agored ei natur a’i naws yn ddatblygiad a ystyriwyd yn ymwthiol yn y tirlun yn creu strwythurau anghydnaws yn y tirlun agored.

 

         Nodwyd yn hanesyddol, mai tirlun a adnabuwyd fel parcdir fyddai y rhan yma o’r tirlun gyda chymeriad a naws agored yn perthyn iddo ac er bod datblygiadau eraill wedi cymryd lle yn lleol, datblygiadau ar raddfa ddomestig oeddynt yn hytrach na datblygiadau wedi eu lleoli o fewn y tirlun agored.

 

Wedi ystyried natur a gosodiad diwygiedig yr unedau llety gwyliau, y llecynnau parcio, y taclau cysylltiedig ynghyd a chyflwyno gweithgareddau dynol o natur twristiaeth i’r tirlun byddai effaith gronnus yr elfennau hyn o’r datblygiad yn parhau i fod yn gyfystyr a chreu datblygiad ymwthiol yn y dirwedd a’r tirlun lleol. Dylid lleoli unrhyw gyfleusterau atodol mewn adeilad presennol, neu, os nad yw hyn yn bosib, bod unrhyw gyfleuster newydd yn gymesur a graddfa’r datblygiad. Ystyriwyd y byddai ychwanegu’r strwythur ymolchi a thŷ bach i’r 4 uned llety gwyliau ddim yn gymesur a graddfa’r datblygiad gan y byddai yn dwysau ar niferoedd yr unedau ar y safle o 20%.  

 

Mae polisi PS14 o’r Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn adlewyrchu amcanion Polisi TWR5 ar sail graddfa a diogelu mwynderau gweledol. Atgoffwyd yr Aelodau, er i’r safle sefyll yng nghornel cae agored ei natur ar arfordir ger glannau'r Fenai er gwaethaf  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5