Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr Louise Hughes, Eric Merfyn Jones and E. Selwyn Griffiths (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Stephen Churchman fuddiant personol, yn eitem 5.4 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1094/36/LL) oherwydd ei fod yn gymydog a
ffrind i’r ymgeisydd. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y
Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (b)
Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr fuddiant
personol yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1430/44/LL)
oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd a’i deulu. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (c) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd John Brynmor Hughes,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.3 a 5.7 ar y
rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/1056/39/LL a C17/0967/39/LL); ·
Y Cynghorydd Stephen
Churchman, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1094/36/LL); ·
Y Cynghorydd Dafydd Owen, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/1266/16/LL); ·
Y Cynghorydd Peter Read, (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/1181/38/LL). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. (c) Ni fu i aelodau ddatgan eu
bod wedi eu lobio gan unigolion yng nghyswllt unrhyw eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2018, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth
i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C17/0198/30/LL - Pwll Melyn, Rhiw, Pwllheli PDF 356 KB Cais i gadw
gwaith o adeiladu modurdy / storfa. AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i gadw gwaith o
adeiladu modurdy / storfa. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y
gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2017 er
mwyn ail-asesu’r cais o ran dyluniad ac angen a’r disgrifiad bellach wedi newid
i “adeiladu mordurdy/storfa” yn hytrach nag adeiladu adeilad amaethyddol. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y
cyfarfod ac felly yn gyfarwydd o gyd-destun y cais o fewn y tirwedd a’r AHNE.
Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 9 Chwefror sy’n dangos yr adeilad wedi ei wthio
ymhellach yn ôl o’r tŷ rhestredig a’r dyluniad wedi newid i fod yn do brig
yn hytrach na “mono pitch”, a’r gorffeniad yn bren ynghyd â lleihad yn yr
uchder. Cyfeiriwyd at y polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol ynghyd a’r
ymatebion i’r ail-ymgynghoriad o fewn yr adroddiad. Ni dderbyniwyd
gwrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig. O safbwynt yr asesiad, noda’r ymgeisydd bod yr adeilad yn angenrheidiol ar
gyfer defnydd amlbwrpas i gynnwys storio, lle i gysgodi anifeiliad yn ystod
tywydd garw achlysurol. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, ni ystyrir y byddai’r datblygiad
arfaethedig yn ei ffurf diwygiedig yn amharu ar yr AHNE. Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt mwynderau cyffredinol a
phreswyl, materion bioamrywiaeth, priffyrdd, cadwraeth/adeilad rhestredig a’i
fod yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y
rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. O
ran y pryderon a godwyd ynglyn â’r adeilad rhestredig Bwthyn Pwll Melyn, cynhaliwyd
cyfarfod gyda Swyddog Cadwraeth a Swyddog Gorfodaeth yn dilyn penderfyniad y
Pwyllgor blaenorol ac fe nodwyd bod y cynlluniau diwygiedig yn cydymffurfio â
sylwadau y swyddogion hynny, a pholisi PS20 o’r CDLl ynghyd â Pholisi Cynllunio
Cymru. Argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatau’r cais yn unol â’r amodau a
restrir yn yr adroddiad. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. (c) Nododd
Aelod bod y pryderon oedd ganddo ynglyn â bwthyn rhestredig wedi eu lleddfu yn dilyn iddo fynychu’r ymweliad safle wrth weld
bod yr adeilad arfaethedig wedi ei leihau mewn
maint ac wedi ei osod ymhellach yn ôl. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1.
Unol
a’r cynllun diwygiedig dyddiedig 9 Chwefror 2018; 2.
Dim
carafan i’w lleoli o fewn y cwrtil estynedig; 3.
Staenio’r
gorchudd bordiau pren allanol yn lliw brown tywyll; 4.
To’r
adeilad i fod o liw llwyd tywyll BS 18 B 29; 5.
Tynnu
strwythur presennol i lawr yn ei gyfanrwydd ac adfer y tir i’w gyflwr
gwrieddiol cyn dechrau gwaith ar yr adeilad a ganiateir yma. |
|
Cais Rhif C17/0557/38/LL - Tir ger Ffordd y Traeth, Llanbedrog, Pwllheli PDF 286 KB Adeiladu tŷ fforddiadwy. AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu
tŷ fforddiadwy. (a)
Adroddodd y Rheolwr Cynllunio bod yr Adran wedi
derbyn cynlluniau diwygiedig yn ymwneud ag edrychiad a dyluniad y tŷ
arfaethedig uchod ac o ganlyniad felly gofynnwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio
ymdrin â’r cais er mwyn cynnal ail-asesiad.
PENDERFYNWYD gohirio’r
cais. |
|
Cais Rhif C17/1056/39/LL - Frondeg, Llanengan, Pwllheli PDF 270 KB Cais ar gyfer lleoli 10 carafan deithiol ac un carafan sefydlog
ar gyfer rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn,
clawdd, ffordd mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw. AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
ar gyfer lleoli 10 carafan deithiol ac un carafan sefydlog ar gyfer rheolwr,
codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd mynediad
newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw. (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng
nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018 er mwyn cynnal ymweliad
safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod ac fe
welwyd y safle o dri lle gwahanol sef o’r fynedfa bresennol, y fynedfa
arfaethedig a heibio’r tŷ presennol.
Nodwyd bod yr asiant wedi cadarnhau nad yw’r garafan sefydlog ar gyfer
rheolwr yn rhan o’r cais. Bwriedir creu
llecyn parcio ar gyfer 25 o gerbydau ymwelwyr i’r fynwent a defnyddwyr y capel
cyfagos. Nodwyd
bod y safle o fewn Ardal Cadwraeth a’r AHNE a’r swyddogion wedi datgan pryder y
byddai’n amharu ar y tirlun ac ni fyddai tirlunio yn lleihau ardrawiad y bwriad
ar y tirlun mewn modd digonol a fyddai’n goresgyn pryderon am amlygrwydd y
safle yn y dirwedd. Tynnwyd sylw hefyd
at y diwygiadau a’r eglurhad pellach a dderbyniwyd gan yr asiant a oedd ar y
ffurflen sylwadau hwyr, ond yr unig fater a oedd yn faterol i’r cais gerbron ydoedd diddymu’r garafan
statig ar gyfer warden o’r cais. O
safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle o faint cyfyng gyda
charafanau wedi eu lleoli o amgylch y terfynau a nodir nad oedd ardal amwynder
wedi ei ddangos ac ni fyddai digon o le ar gyfer darpariaeth o’r fath oherwydd
maint y llecyn. Lleolir
y safle ar lethr gyda gwrychoedd o gwmpas y safle ond nid yw’r tirlunio
presennol yn ddigonol i guddio nac integreiddio’r unedau arfaethedig i’r
tirlun. Tra nodir bod y cynllun yn datgan y bwriedir adeiladu gwrych newydd ar
gyrion rhan o’r trac newydd ni fyddai hynny’n ddigonol ar gyfer creu datblygiad
derbyniol. Datgan
yr ymgeisydd bod y fynedfa bresennol yn beryglus ac anhwylus ac felly fod rhan
o’r bwriad yn ymwneud gyda gwaith sylweddol i greu trac newydd ynghyd â llefydd
parcio ar gyfer ymwelwyr i’r fynwent a’r capel cyfagos. Ystyrir y byddai’r elfen yma yn cael effaith
sylweddol niweidiol ar y tirlun, ac yn ystod yr ymweliad safle, gwelwyd y lle
parcio a maint y trac ac y byddai’r gwaith arfaethedig yn creu elfen drefol iawn. Tra’n nodi bod lle parcio gerllaw ar gyfer
ymwelwyr y capel a’r fynwent ni dderbyniwyd unrhyw gwir dystiolaeth i ddangos
beth ydoedd natur a graddfa’r broblem.
Ystyrir bod y lôn yn ddigon llydan ar gyfer defnydd achlysurol o barcio
ac mae’n debyg mai achlysurol iawn fyddai’r defnydd gan y capel a’r fynwent ond
byddai effaith o greu man parcio mor fawr yn un parhaol. Tynnwyd sylw bod nifer o feysydd carafanau wedi eu lleoli yn yr ardal ac nad ydynt yn weladwy o safle’r cais a rhaid nodi pryder ynglyn â’r effaith gronnol safleoedd presennol yn yr achos hwn. Ystyrir nad oedd y cais yn cydymffurfio â maen prawf TWR 5 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C17/1094/36/LL - The Cross Foxes, Garndolbenmaen PDF 340 KB Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl. AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ
preswyl. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018 er mwyn rhoi cyfle i grŵp cymunedol lleol
gyflwyno tystiolaeth o’u bwriad i brynu’r adeilad er mwyn cadw ei ddefnydd fel
tŷ tafarn. Tynnwyd
sylw’r Pwyllgor Cynllunio na fyddai’r bwriad yn golygu unrhyw newid strwythurol
allanol a chyfeirwyd at weddill manylion y datblygiad
o fewn yr adroddiad ynghyd â’r sylwadau hwyr ar y ffurflen a gyflwynwyd i’r
Pwyllgor. O safbwynt egwyddor y
datblygiad, tynnwyd sylw at baragraffau 5.1 a 5.2 a oedd yn asesu meini prawf y
polisi ISA2 ac wedi pwyso a mesur y dystiolaeth a gyflwynwyd yn erbyn y polisi
a’r ffaith ei bod yn bur anhebygol ar sail y
wybodaeth ddaeth i law bod y defnydd fel tafarn am ailsefydlu yn yr adeilad
oherwydd costau a natur cymdeithasol, ystyrir bod cyfiawnhad wedi ei ddangos
dros newid y defnydd. Derbyniwyd sylw gan y Gwasanaeth
Datblygu Economaidd yn cadarnhau bod sawl her yn wynebu busnesau tafarn gwledig
fel yma a bod y wybodaeth a gyflwynwyd wedi ei asesu ac yn cadarnhau nad oedd y
dafarn yn hyfyw yn ei ffurf bresennol. Nodwyd bod y gofynion perthnasol o fewn
y polisiau wedi eu dilyn megis marchnata’r adeilad
fel tafarn ers 2010 a bod cyfiawnhad dros y newid fel amlinellir yn yr asesiad
o’r adroddiad. Yn ychwanegol, nodwyd bod y Grwp Gymunedol yn Garndolbenmaen
wedi cyflwyno gwybodaeth ac fe gyfeirwyd at y
wybodaeth yn mhwynt 5.14 o’r adroddiad parthed eu bwriad i ddatblygu’r
dafarn. Nodwyd nad oedd amheuaeth bod
bwriad y Grwp yn ddiffuant ond rhaid i’r swyddogion cynllunio benderfynu ar
gais yn unol â pholisiau cyfredol ar yr amser y
cyflwynir y cais ac o fewn amser penodedig. Ni ellir gwrthod cais yn seiliedig
ar ddyhead 3ydd parti yn hytrach na chynllun gwirioneddol y gellir ei gyflawni,
h.y. ni ellir cadw penderfyniad yn agored hyd nes fo dymuniad o’r fath yn cael
ei wireddu. Esboniwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd
yn cyfeirio at wybodaeth gyffredinol am y sefyllfa bresennol, hanes y safle a
dyhead y Grwp i’r dyfodol. Er bod y
dyhead yn ganmoladwy nodwyd nad oedd tystiolaeth ddi-amheuol
fod hyn yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol agos.
Yn dilyn ystyriaeth o’r holl wybodaeth
perthnasol a gyflwynwyd, argymhellwyd i ganiatau’r
cais hefo amodau a restrir yn yr adroddiad. (b) Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatau’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau: ·
Nad oedd neb wedi ei
nodi i lawr
ar y ffurflen ar gyfer siarad
a bod llefarydd y Grwp Gymunedol yn bresennol ac oni fyddai’n briodol
i dderbyn diweddariad? ·
Bod y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Grwp Cymunedol yn ddigon o dystiolaeth
eu bod yn datgan diddordeb yn yr adeilad
a’r addewid o £10,000 sydd yn swm
sylweddol i bentref fel Garndolbenmaen
· Bod yr ymgyrch gan y Grwp Cymunedol i’w weld yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C17/1266/16/LL - Tir yn Bryn Cul, 2 Tal Gae, Tregarth, Bangor PDF 278 KB Gosod mast telathrebu
17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1
cabinet mesurydd a gwaith atodol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod mast telathrebu 17.5 medr
o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd
a gwaith atodol. (a) Adroddodd
y Rheolwr Cynllunio yn seiliedig ar
bryderon sydd wedi eu codi
yn lleol am ddryswch yr ymweliad safle
a’r tywydd garw ar ddiwrnod
yr ymweliad, awgrymwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio cymryd penderfyniad ar y cais er
mwyn cynnal ail-ymweliad safle, er galluogi’r Aelod
Lleol i fod
yn rhan ohono.
(a)
Gwnaed y sylwadau canlynol gan yr
Aelod Lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Nad oedd y Pwyllgor Cynllunio
wedi bod ar y safle cywir sef ar dir fferm a sut felly ellir trafod y cais ·
Dylai’r Pwyllgor Cynllunio
gael eu harwain gan swyddogion ar hyd Llwybr rhif 12 tuag at safle’r ffynnon
sydd ddim yn dir i Bryn Cul ·
Bod y safle lle bwriedir gosod
y polyn yn llawer uwch na lle roedd yr aelodau yn sefyll yn ystod yr ymweliad
safle, ac o’r herwydd yn gamarweiniol i’r lygaid oherwydd bod y coed a’r mieri
yn derfyn rhwng y ddau safle (b)
Cynigwyd ac eilwyd i ail-ymweld â’r safle. PENDERFYNWYD gohirio cymryd penderfyniad ar y cais a gofyn i’r Uwch
Reolwr Gwasnaeth Cynllunio drefnu ail-ymweliad â’r safle.
|
|
Cais Rhif C16/1430/44/LL - Tir hen Laethdy Moelwyn, Ffordd Penamser, Porthmadog PDF 351 KB Codi tŷ preswyl
deulawr pedair ystafell wely yng
nghefn gwlad agored ynghyd â gosod tanc septig,
a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd â
gosod tanc septig, a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2017 er mwyn rhoi cyfle i’r ymgeisydd gyflwyno mwy o
wybodaeth ynglyn a rhai agweddau penodol o’r cais. Eglurwyd y gofynnwd i’r ymgeisydd am wybodaeth yn
gysylltiedg â menter gwledig yn unol â gofynion Nodyn Cyngor Technegol ar dri
achlysur sef mis Mawrth, Mai a Hydref 2017 ond ni gyflwynwyd unrhyw wybodaeth
ychwanegol ar gyfer ei asesu. Ers cyflwyno’r cais, nodwyd bod newid amlwg wedi digwydd yn
nhermau polisi o ganlyniad i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn sydd wedi disodli’r cynllun datblygu blaenorol. Cyfeirwyd at y ffurflen sylwadau hwyr a oedd yn nodi cais
gan yr ymgeisydd i ohirio trafod a phenderfynu’r cais oherwydd prinder amser er
mwyn cael cyngor arbenigol a chael cyfle i gyflwyno tystiolaeth newydd. Nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd yr Adran yn gefnogol
i’r cais o ohirio oherwydd ystyrir bod blwyddyn yn amser derbyniol i gyflwyno
gwybodaeth. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan i’r ffin datblygu
ddiffiniedig ar gyfer ardal Porthmadog ac oherwydd hynny fe’i ystyrir fel safle
yng nghefn gwlad. Nodwyd bod
paragraff 4.3.1 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6 ‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau
Gwledig Cynaliadwy’ yn nodi mai un o’r ychydig sefyllfaoedd ble gellir
cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored
oedd pan fod angen llety i alluogi gweithwyr amaethyddol neu fenter wledig i fyw
yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd y byddai p’un a yw hyn yn
hanfodol ai peidio mewn unrhyw achos penodol yn dibynnu ar anghenion y fenter
wledig dan sylw, ac nid ar ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r
unigolion cysylltiedig. Noda NCT 6 y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol asesu
ceisiadau am ganiatad cynllunio ar gyfer anheddau amaethyddol neu fentrau
gwledig newydd yn ofalus i sicrhau y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi
arferol o gyfyngu ar ddatblygiad yng nghefn gwlad agored drwy gyfeirio at
dystiolaeth ategol gadarn. Amlygwyd
bod cyfeiriad yn y cais, yn benodol o fewn y Datganiad Dylunio a Mynediad yn
ogystal â llythyrau o gefnogaeth, at ddefnydd amaethyddol presennol y tir yn
ogystal â chynllun busnes arfaethedig i newid defnydd y tir ar gyfer busnes
cynaliadwy newydd a defnydd o ran o’r tir gan wasanaeth achub mynydd lleol.
Nodwyd ni chyflwynwyd gwybodaeth yn cadarnhau yn union sut fath o fusnes a
fwriedir i’r Gwasanaeth Cynllunio. Tynnwyd
sylw at bryder ynglyn â maint yr annedd (225m2) sy’n sylweddol fwy
na tai menter wledig arferol sydd yn eithaf tebyg fel arfer i dai fforddiadwy. Cyfeiriwyd at yr asesiad cyflawn a oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad, ac ategwyd mai’r prif fater ydoedd na dderbyniwyd unrhyw wybodaeth pellach i gefnogi ty menter wledig er gwaethaf gwneud cais amdano ers ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif C17/0967/39/LL - Tir yn Tyn y Cae, Llangian, Pwllheli, Gwynedd PDF 267 KB Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu safle ar gyfer 12
pabell saffari (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mawrth
2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod. Tynnwyd sylw at y bwriad ynghyd â’r ystyriaethau a’r
ymatebion i’r ymgynhgoriad cyhoeddus o fewn yr adroddiad, ac ni dderbyniwyd gwybodaeth
hwyr yn yr achos hwn. O ran asesu’r cais y prif ystyriaeth ydoedd polisi TWR5 o’r
Cynllun Datblygu Lleol sy’n gofyn bod safleoedd gwersylla o ansawdd uchel o ran
dyluniad, gosodiad ac edrychiad, wedi eu lleoli mewn lleoliad anymwthiol ac
wedi eu cuddio yn dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Tynnwyd sylw bod y pebyll o faint sylweddol
ac yn fwy gyda’r llwyfan pren. O’r
ymweliad safle, gwelwyd bod y safle yn agored yng nghefn gwlad ac o fewn tirlun
sensitif yr AHNE. Er bod y cais wedi
cynnig tirlunio ystyrir nad oedd wedi ei guddio yn dda ar hyn o bryd. Ni chytunir hefo’r adroddiad asesiad effaith
weledol a gyflwynwyd gyda’r cais sy’n honni bod effaith y bwriad yn gyfyngedig. Nodwyd bod y safle i’w weld yn glir o’r
ffordd gyfochrog, o’r llwybr cyhoeddus cyfagos ac y byddai golygfeydd o’r
pebyll ar draws yr AHNE. Er nad ydoedd
yn groes i holl ofynion polisi TWR5 nid oedd yn cwrdd â phrif amcan y polisi
sy’n gofyn bod safleoedd yn anymwthiol yn y tirlun. Hefyd, nodwyd bod y bwriad yn groes i bolisi
AMG1 ac fod Swyddog yr AHNE yn bryderus am ymyrraeth y datblygiad ar leoliad
gwledig. Er bod perthynas gyda’r adeilad
rhestredig Gradd II, ni ystyrir y gellir gwrthod ar sail hyn. Er bod materion trafnidiaeth a bioamrywiaeth yn dderbyniol,
roedd y swyddogion cynllunio yn argymell ei wrthod oherwydd ei fod yn groes i
bolisiau TWR5, PS19 ac AMG1 gan y byddai yn creu nodwedd ymwthiol yn y dirwedd
ac yn cael effaith annerbyniol ar yr AHNE.
(b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), ac fe amlygodd y prif bwyntiau canlynol: ·
Mai pebyll saffari ydoedd
testun y cais a fyddai’n cael eu tynnu lawr ar ddiwedd y tymor gwyliau ·
Tynnwyd sylw bod un i fyny ar
y safle gyda lliw y cynfas yn gweddu i’r cefndir ·
Bod y cais yn fenter newydd
gwahanol ·
Pe edrychir o’r lôn gellir
gweld rhesi o garafanau yn yr AHNE ac y byddai’r pebyll yn gweddu i’r tirlun ·
O safbwynt bioamrywiaeth, bod
yr ymgeisydd wedi mynd i lawer o gostau i dirlunio yn broffesiynol gyda
thyfiant coed a fyddai’n addas i’r ardal ·
Byddai’r tirlunio yn cael ei
wneud yn yr Hydref flwyddyn yma a’r bwriad fyddai rhoi y pebyll saffari i fyny
flwyddyn nesaf ·
Yn sgil yr uchod derbyniodd yr
ymgeisydd ddatganiad o ymarfer da (c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: · Ni ellir gweld unrhyw reswm i’w wrthod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C16/1385/05/MW - Chwarel Garth, Minffordd, Penrhyndeudraeth PDF 592 KB Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau o dan Adolygiad Cyfnodol. Caniatâd IDO Cyf 538, yn ddarostyngedig i Adolygiad Cychwynnol Cyf. 5/76/198C/IDO a Caniatadau Cyf: 5/76/198A & C10M/0116/05/MW. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar
amodau o dan Adolygiad Cyfnodol. Caniatâd IDO Cyf 538, yn ddarostyngedig i
Adolygiad Cychwynnol Cyf. 5/76/198C/IDO a Caniatadau Cyf: 5/76/198A &
C10M/0116/05/MW. (a) Ymhelaethodd yr Uwch
Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi mai diben yr
adolygiad cyfnodol ydoedd sicrhau nad oedd amodau’n mynd yn amherthnasol a rhoi
cyfle i ymateb i safonau a gofynion sydd newydd eu cyflwyno os yw’r amodau
ynghylch gweithio’r chwarel i fod i gael eu hadolygu’n ffurfiol bob 15
mlynedd. Cyfrifoldeb y gweithredydd
mwynau ydoedd cyflwyno, i’w gymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio mwynau,
gynllun gwaith manwl a rhestr o amodau cynllunio sy’n dangos sut y gellir
gweithredu’r datblygiad mewn ffordd amgylcheddol dderbyniol a chadw at safonau
ac ymarferon gwaith amgylcheddol, modern.
Nodwyd ymhellach bod y
chwarel yn cynhyrchu deunydd wynebu ffordd ac yn bwysig i’r ardal gan gyflogi
16 o unigolion lleol ac yn cyfrannu at yr economi lleol. Roedd y datblygiad yn
dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a
roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais gan awdurdodi’r Uwch Reolwr
Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i benderfynu ar gynllun o amodau o
dan ddirprwyaeth. ·
Cyfnod
gweithio a gweithgareddau cysylltiedig, hyd at 21 Chwefror 2042, gorffen adfer
y safle erbyn 2044 ·
Yr
holl adeiladau a pheriannau i’w symud oddi ar y safle ar ôl cau'r chwarel ·
Gwaith
a Ganiateir a Chydymffurfiad gyda'r Manylion / Cynlluniau a gyflwynwyd ·
Adolygu’r
gwaith a’r cynllun o adfer cynyddol bob 5 mlynedd. ·
Oriau
Gweithio ·
Cynllun
monitro dŵr daear o fewn 12 mis o benderfynu, i’w weithredu cyn cychwyn ar
waith Cyfnod 3. ·
Cynllun
rheoli dŵr ar gyfer y chwarel o fewn 12 mis o benderfynu, ·
Olew,
tanwydd ac ireidiau i’w cadw ar loriau anhreiddiadwy ac mewn mannau caeedig, ·
Cynllun
o fesurau gwarchod ar gyfer cynefinoedd cyfagos o fewn 12 o benderfynu, ·
Arolygu
a monitro rhywogaethau ymledol, ·
Diweddaru
arolygon cynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig 12 mis cyn cychwyn ar waith
cloddio Cyfnod 3, ·
Gwahardd
clirio llystyfiant rhwng Mawrth a Gorffennaf oni bai y gellir profi’n
ysgrifenedig na fydd y gwaith yn amharu ar adar yn nythu, ·
Rheoli
cyfyngiadau sŵn yn ystod y dydd a'r nos a gwaith dros dro a dim mwy o
sŵn na 67dB LAeq am 8 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, ·
Monitro
sŵn, ·
Larymau
bacio sŵn gwyn a gosod sgriniau lladd sŵn addas ar beiriannau ac
adeiladau, ·
Cyfyngu
ar chwythu a gofynion ar gyfer monitro dirgryniadau chwythu, ·
Rheoli
llwch ffo yn unol â'r manylion yn y cais a chadw cofnod o gwynion ar gael i'w
archwilio, ·
Gorchuddio
cerbydau a defnyddio golchwyr olwynion, ·
Cofnodi
a gwaith lliniaru archeolegol, ·
Adfer
ac ôl ofal cynyddol yn unol â’r cynlluniau a gymeradwywyd a chyflwyno cynllun
terfynol i'w gymeradwyo cyn ei weithredu,
·
Cynllun
adfer ar gyfer safle’r peiriannau erbyn 31 Rhagfyr 2030, ·
Cadw
pridd a chyfryngau adfer. |
|
Cais Rhif C14/0999/40/AM - Tir ger Cyn Ysgol Hafod Lon, Lôn Caernarfon, Y Ffôr, Pwllheli PDF 287 KB Adeiladu 10 tŷ annedd ar wahan (gyda 20% yn fforddiadwy), gosod allan ffordd fynediad a chreu mynedfa, a man parcio a chodi ar gyfer Ysgol Gynradd Y Ffôr. AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu 10 tŷ annedd
ar wahan (gyda 20% yn fforddiadwy), gosod allan ffordd fynediad a chreu
mynedfa, a man parcio a chodi ar gyfer Ysgol Gynradd Y Ffôr. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod
yr edrychiad a’r tirweddu wedi eu cadw’n
ôl er bod cynllun dangosol o edrychiad y tai wedi ei gynnwys. Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol am 40 tŷ yn
2014 a bryd hynny yn seiliedig ar Gynllun
Datblygu Unedol Gwynedd ac fe
ddaeth i’r amlwg bod diffyg capasiti gan Dŵr Cymru i ddelio gyda charthffosiaeth o’r
bwriad. Diwrnod cyn mabwysiadu’r Cynllun
Datblygu Lleol presennol derbyniwyd
gwybodaeth gan yr ymgeisydd y byddai’n bosibl trwy gyfraniad ariannol ganddo i Dŵr Cymru i gael
cysylltiad i’r garthffos cyhoeddus.
Bellach y Cynllun Lleol
ydoedd yr ystyriaeth sy’n dangos y safle tu allan i ffin datblygu. Yn sgil hyn, diwygiwyd
y cais gan yr ymgeisydd i fod ar gyfer 10 o dai yn hytrach na 40 a bod 20% o’r tai
yn rhai fforddiadwy. Cyfeirwyd at y polisiau
perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad a’r sylwadau ar y ffurflen
hwyr. O ran asesiad y cais, nodwyd
bod y safle yn gorwedd tu allan i ffin ddatblygu’r pentref sydd gyfystyr â chodi tŷ newydd yng
nghefn gwlad. Cyfeiriwyd at bolisi TAI16
sydd yn ymwneud â chynigion am
dai fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig ac nad oedd y bwriad yn cydymffurfio â’r polisi sydd yn gofyn
am 100% ar gyfer tai fforddiadwy.
Gofynna’r polisi hefyd i’r angen lleol gael ei brofi am dai
fforddiadwy. Erbyn hyn, nodwyd bod 3
safle wedi eu nodi o fewn y ffin
ar gyfer datblygu a bod ffigyrau Polisi Tai 13 yn amcangyfrif y byddai’n bosibl cael 37 o dai
ar y safleoedd dan sylw. Yn ogystal,
nodwyd nad oedd angen tai ar hap ym mhentref Y Ffôr. Yn elfennol, roedd y bwriad yn groes i Bolisi
TAI 16. Petae’r Pwyllgor Cynllunio
yn penderfynu caniatau’r cais, byddai gofyn sicrhau, fel rhan o’r cais materion a gadwyd yn ôl, bod
maint y tai yn rhai fforddiadwy a hefyd angen cael diweddariad am gapasiti Ysgol y Ffôr i ddelio hefo cynnydd posibl
mewn disgyblion. Yn ogystal, nodwyd bod diffyg darpariaeth
llecynnau agored yn y Ffôr a olygai byddai angen cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth ychwanegol o’r fath. O ran materion ffyrdd, byddai’r fynedfa yn addas ond
gofynnir am droedffordd i gysylltu’r datblygiad gyda’r pentref ynghyd â llecyn
bws newydd. Awgrymodd yr Uned Bioamrywiaeth amodau perthnasol. Er bod elfennau o’r bwriad yn dderbyniol, argymhelliad y
swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais oherwydd ei fod yn groes i bolisiau
cynllunio perthnasol a’r rhesymau a nodir yn yr adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ac fe amlygodd y prif bwyntiau
canlynol: · Ei fod yn gefnogol i’r cais o 40 tai ym mhentref y Ffôr o dan y cyn Gynllun Unedol o ystyried bod niferoedd disgyblion wedi gostwng yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.9 |
|
Cais Rhif C17/1181/38/LL - Bryniau, Llanbedrog, Pwllheli PDF 429 KB Cais ôl-weithredol i ymestyn safle carafanau teithiol ynghyd
â chadw adeilad toiledau, llwyfan pren ac ymgymeryd a chynllun tirlunio AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol i
ymestyn safle carafanau teithiol ynghyd â chadw adeilad toiledau, llwyfan pren
ac ymgymeryd a chynllun tirlunio. (a) Adroddodd y Rheolwr Cynllunio bod yr Adran wedi derbyn cynlluniau diwygiedig yn hwyr ac o’r herwydd
byddai’n ofynnol ail-asesu’r cais a gofynnwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio’r
cais. PENDERFYNWYD
gohirio’r cais oherwydd derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ac yn ofynnol i ail-asesu ac
ail-ymgynghori. |