skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Sian Wyn Hughes ac Owain Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol.

Cofnod:

(a)       Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

(b)     Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr buddiant personol, yn eitem 6.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1240/14/LL) oherwydd ei fod yn ffrindiau hefo gwr yr ymgeisydd.

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

(c)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Eirwyn Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1134/35/AM);

·        Y Cynghorydd Cemlyn Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1240/14/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

(ch)   Nododd aelodau eu bod wedi eu lobio gan unigolion yng nghyswllt eitemau 5 (Cais i gofrestru llwybr cyhoeddus) a 6.3 (cais cynllunio rhif C17/1117/20/AM) ar y rhaglen.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 371 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2018, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2018, fel rhai cywir.

5.

CAIS I GOFRESTRU LLWYBR CYHOEDDUS SY'N RHEDEG O FLAEN MAWDDACH CRESCENT I BONT ABERMAW, YNG NGHYMUNED ARTHOG, AR Y MAP SWYDDOGOL pdf eicon PDF 335 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Louise Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Arfon) oherwydd diddordeb lleol yn yr eitem yr argymhellir gohirio er mwyn ei ystyried yn y cyfarfod nesaf a oedd i’w gynnal yn Nolgellau ar 26 Chwefror.

 

Nododd yr aelod lleol ei bod yn gefnogol i ohirio’r eitem oherwydd y diddordeb yn lleol ac y byddai’n well ei ystyried pan gynhelir y cyfarfod yn Nolgellau.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r eitem. Pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd.

 

Awgrymodd aelod y dylid cynnal ymweliad safle. Holodd yr Uwch Gyfreithiwr ar ba sail yr awgrymir cynnal ymweliad safle o ystyried bod tystiolaeth ysgrifenedig a lluniau o arwyddion yn y lleoliad wedi eu cynnwys yn y rhaglen. Pwysleisiodd mai ystyriaeth i dystiolaeth o ran defnydd o’r llwybr neu o atal defnydd y gwneir wrth drafod cais o’r fath.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle er mwyn gweld y safle yn ei gyd-destun. Pleidleisiwyd ar y cynnig, fe syrthiodd y cynnig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt os oedd mwy o wybodaeth ar gael o ran y cais, nododd yr Uwch Gyfreithiwr os oedd gan yr aelodau unrhyw gwestiwn o ran y cais y dylent gysylltu efo Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Arfon) ac y gallent ofyn am weld gwybodaeth ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r eitem.

6.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

6.1

Cais Rhif C16/1258/39/MG - 21, Ystâd Braich, Mynytho, Pwllheli pdf eicon PDF 240 KB

Cais i gymerwadwyo manylion a gadwyd yn ôl ar gyfer gosod siale gwyliau, darpariaeth parcio, cyfnewid tanc septig am system trin preifat yn dilyn caniatad amlinellol C13/1218/39/AM.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i gymeradwyo manylion a gadwyd yn ôl ar gyfer gosod siale gwyliau, darpariaeth parcio, cyfnewid tanc septig am system trin preifat yn dilyn caniatâd amlinellol C13/1218/39/AM.

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais materion a gadwyd yn ôl yn delio gyda graddfa a golwg yr uned wyliau a thirweddu’r safle yn unig.

 

Nododd bod y safle wedi ei leoli ymysg 23 o sialetau gwyliau presennol o fewn dyffryn cuddiedig yng nghefn gwlad.

 

         Nododd bod egwyddor y bwriad eisoes wedi ei ganiatáu gan y caniatâd amlinellol. Roedd yr adeilad bwriedig yn sylweddol, ond oherwydd lefelau tir, ni ystyrir ei fod yn ymddangos yn fwy na’r unedau eraill ar y safle.

 

         Cadarnhaodd nad oedd gan yr aelod lleol wrthwynebiad i’r cais.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.       Gorffeniad allanol i gydweddu a gweddill unedau ar y stad

2.       Llechi ar y to.

 

Nodyn: Dŵr Cymru

6.2

Cais Rhif C17/0966/15/LL - HSBC Bank House, 29 Stryd Fawr, Llanberis pdf eicon PDF 244 KB

Newid defnydd banc i ddau fflat a newid maisonette presennol i ddau fflat gyda newidiadau cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Kevin Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd banc i ddau fflat a newid maisonette presennol i ddau fflat gyda newidiadau cysylltiedig.

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais i drosi adeilad cyn banc yr HSBC yn Llanberis, yn bedair fflat hunan gynhaliol. Eglurodd y byddai dwy fflat ar y llawr gwaelod ac un fflat yr un ar y lloriau eraill.

 

         Nododd y derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, ar sail y wybodaeth ariannol a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, na fyddai’n hyfyw i ddarparu tai fforddiadwy ar y safle. Ychwanegodd bod ffigyrau o ran prisiau tebygol yr unedau yn dangos y byddent yn fforddiadwy heb ymrwymiad tŷ fforddiadwy. O ganlyniad, roedd yr argymhelliad wedi ei ddiwygio i’r hyn a nodir yn yr adroddiad, argymhellir i ganiatáu’r cais efo amodau.

 

         Tynnodd sylw nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i'r bwriad ac er bod sylwadau wedi eu derbyn ynghylch y diffyg parcio yn y rhan hon o Lanberis, ni ystyrir y byddai’r sefyllfa a achosir gan bedair fflat am fod yn fwy niweidiol i’r hyn a achoswyd gan y defnydd blaenorol fel banc a “maisonette”.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         A fyddai’n rhaid darparu dihangfa dân allanol gan fod yr adeilad yn dri llawr?

·         Ddim yn erbyn y datblygiad ond pryder o ran y ddarpariaeth parcio yn enwedig dros nos o ystyried parcio am gyfnod byr yn ystod y dydd roedd unigolion wrth fynd i’r banc;

·         Bod y bwriad a fyddai’n darparu unedau 1 a 2 ystafell wely i’w groesawu gyda’r angen am fwy o fflatiau;

·         Ei fod yn drist pan fo banc yn cau ond byddai’r datblygiad yn ddefnydd da o’r adeilad;

·         Byddai’r bwriad yn dod a defnydd yn ôl i adeilad gwag, yn darparu unedau ar gyfer pobl ifanc ac yn cyfrannu at yr angen a adnabuwyd yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl);

·         Fyddai’n bosib pe caniateir y cais osod ymrwymiad tŷ lleol ar y datblygiad?

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod darparu dihangfa dân yn fater rheolaeth adeiladu;

·         Cydnabod bod problemau parcio yn Llanberis ond bod rhaid cymryd i ystyriaeth o ran y defnydd presennol byddai staff y banc yn parcio am gyfnodau hir yn ogystal â chwsmeriaid yn mynd a dŵad. O bosib y byddai’r angen am gar yn llai gan fod y safle mewn lleoliad canol tref, yn agos at gyfleusterau gyda chludiant cyhoeddus yn mynd heibio’n aml. Roedd yn fater i unrhyw ddarpar brynwr ystyried;

·         Ni fyddai’n bosib gosod ymrwymiad tŷ lleol ar y datblygiad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Amser cychwyn y datblygiad

2.     Datblygiad yn llwyr unol â'r cynlluniau

3.     Amod Dŵr Cymru

 

Nodiadau:          

Dŵr Cymru

Priffyrdd

6.3

Cais Rhif C17/1117/20/AM - Pant Erys, 34 Glan y Môr, Y Felinheli pdf eicon PDF 383 KB

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi tri thŷ, un ohonynt yn fforddiadwy, ynghyd â mynedfa gerbydol, mynedfeydd troed a lle parcio i hyd at 9 cerbyd. Dymchwel storfa bresennol a rhoi adeilad newydd yn ei le i gynnwys storfeydd. (cais diwygiedig i gais a wrthodwyd yn flaenorol - C16/1235/20/AM)

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gareth Wyn Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi tri thŷ, un ohonynt yn fforddiadwy, ynghyd â mynedfa gerbydol, mynedfeydd troed a lle parcio i hyd at 9 cerbyd. Dymchwel storfa bresennol a rhoi adeilad newydd yn ei le i gynnwys storfeydd. (Cais diwygiedig i gais a wrthodwyd yn flaenorol - C16/1235/20/AM).

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi yn ôl y fersiwn cyfredol o'r Mapiau Cyngor Datblygu (diweddarir y mapiau yn chwarterol), saif rhan blaen y safle o fewn Parth Llifogydd C2. Nododd bod Nodyn Cyngor Technegol 15 “Datblygu a’r Perygl o Lifogydd” (NCT 15) yn ei wneud yn eglur ni ddylid ystyried caniatáu datblygiadau agored iawn i niwed o fewn Parth C2. Eglurodd bod "datblygiadau sy'n agored iawn i niwed" yn cynnwys pob math o adeilad preswyl.

 

          Amlygodd bod penderfyniadau apêl blaenorol, gan gynnwys llythyr penderfyniad gan Weinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, yn ei wneud yn gwbl glir na ddylid caniatáu datblygiadau sy'n agored iawn i niwed o fewn Parth C2. Ystyrir felly nad oedd unrhyw opsiwn ond gwrthod y cais hwn gan fod y datblygiad yn gwbl groes i ofynion NCT 15.

 

Nododd bod Polisi ARNA 1: Ardal Rheoli Newid Arfordirol, y CDLl yn datgan y gwrthodir cynigion am dai newydd o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol (ARhNA). Tynnodd sylw bod y safle o fewn ardal dan fygythiad llifogydd morol ger arfordir a'i cofrestrir fel ARhNA, felly yn unol â Pholisi ARNA 1 y CDLl, roedd rhaid gwrthod y cais.

 

Amlygodd bod pryderon o ran y dyluniad yn ogystal â materion priffyrdd o safbwynt parcio a mynediad dros ramp serth yn arwain yn syth dros y palmant a oedd yn mynd heibio’r safle.

 

Nododd wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, ni chredir fod y bwriad yn dderbyniol gan ei fod yn methu bodloni gofynion sylfaenol polisi cynllunio cenedlaethol a lleol yn benodol yn ymwneud efo llifogydd ond hefyd o ran trafnidiaeth a dylunio.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y safle eisoes yn ddefnydd cymysg o fusnesau a anedd-dŷ;

·         Byddai’r bwriad yn gwneud defnydd o dir llwyd;

·         Bod y ddarpariaeth parcio ar lefel uchel gyda ramp a llwybr dianc i’r trigolion pe byddai llifogydd eithafol;

·         Bod y mesuriadau a nodwyd ym mharagraff 1.2 o’r adroddiad yn anghywir, fe fyddai lloriau’r tai wedi’u codi 2.52m yn uwch na lefel Ffordd Glan y Môr i lefel o 6.22m Uwch Ddatwm Ordnans;

·         Dim ond blaen y safle oedd tu mewn i Barth Llifogydd C2, sef llai na 20% o arwynebedd y safle. Mynediad o’r ffordd fawr i’r safle yn unig yr effeithir;

·         Bod y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi ISA 4 o’r CDLl yn ddarostyngedig i drafodaethau pellach ar y drychiadau a materion trafnidiaeth;

·         Bod angen pwyso a mesur geiriad polisi o ran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.3

6.4

Cais Rhif C17/1134/35/AM - Helidon, Lôn Merllyn, Cricieth pdf eicon PDF 239 KB

Cais amlinellol ar gyfer codi tŷ deulawr.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol ar gyfer codi deulawr.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn gais amlinellol ar gyfer codi tŷ deulawr o fewn cwrtil presennol eiddo adnabyddir fel Helidon. Amlygodd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Cricieth ac o fewn ardal ble roedd cymysgedd o dai unigol a thai pâr o fewn cwrtilau eithaf sylweddol.

 

         Ystyrir y byddai gosod eiddo preswyl gyda chwrtil a mynedfa ei hun o fewn y cwrtil yn gadael digon o le mwynderol ar gyfer y presennol a’r bwriedig, ac y byddai’n cydweddu gyda phatrwm datblygu’r ardal o ran lleoliad a maint y safle.

 

         Tynnodd sylw nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais.

 

         Nododd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn yn ymwneud â maint y tŷ bwriedig, gan mai tai deulawr oedd o gwmpas y safle, ystyrir y byddai’n rhesymol gosod amod i sicrhau mai tŷ deulawr a fyddai’n cael ei godi ar y safle.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais nac i’r argymhelliad.

 

(c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau’r cais.

 

          Mewn ymateb i sylw gan aelod, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio mai cais am deulawr gyda gofod yn y to oedd gerbron dim cais am tri llawr. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Amser

2.     Materion a gadwyd yn ôl

3.     Llechi

4.     Dŵr Cymru

5.     Priffyrdd/parcio

6.     Ffenestri

7.     Lefelau llawr gorffenedig

8.     Trin ffiniau/tirweddu

9.     Eiddo deulawr yn unig

 

Nodyn: Dŵr

6.5

Cais Rhif C17/1240/14/LL - Fferm Glan Rhyd, Ffordd Cae Garw, Rhosbodrual, Caernarfon pdf eicon PDF 256 KB

Addasu adeilad allanol i uned wyliau (cynllun diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gais rhif C17/0945/14/LL).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Addasu adeilad allanol i uned wyliau (cynllun diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gais rhif C17/0945/14/LL).

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer addasu adeilad allanol i lety gwyliau ynghyd â chodi porth ar edrychiad gorllewinol yr adeilad a chodi crib y to 500mm yn uwch na’r crib presennol.

 

         Nododd y lleolir yr anheddau agosaf i’r safle oddeutu 66m i’r de ar hyd ffordd sirol ddi-ddosbarth Ffordd Cae Garw. Er bod deiseb wedi ei gyflwyno yn gwrthwynebu’r cais ar sail byddai’r bwriad yn debygol o danseilio lles y gymuned gan ystyried dwysedd, defnydd, natur a graddfa’r bwriad credir na fyddai’n tarfu’n sylweddol ar fwynderau presennol a chyffredinol deiliaid cyfagos ar sail aflonyddwch sŵn a cholli preifatrwydd gan ystyried mai un uned wyliau yn unig fwriedir ei ddarparu.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei bod wedi gwybyddu trigolion cyfagos o’r cais o flaen llaw;

·         Nid oedd 59% o’r unigolion a arwyddodd y ddeiseb a gyflwynwyd yn byw ar Ffordd Cae Garw felly ni fyddent yn cael eu heffeithio;

·         Un uned gwyliau 2 ystafell wely ar gyfer 4 person yn unig fyddai;

·         Bwriedir cadw cymeriad yr eiddo presennol;

·         Ni fyddai’r datblygiad yn cael effaith ar Ffordd Cae Garw.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Teulu ifanc eisio datblygu adeilad a fyddai’n cyfrannu at yr economi lleol;

·         Trigolion hŷn yn gwrthwynebu ar sail yr effaith ar y gymuned yn gyffredinol. Gyda phryderon y byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail;

·         Nid oedd yn gwrthwynebu’r cais os byddai’r bwriad yn cyd-fynd â’r amodau a argymhellir.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y bwriad yn dderbyniol oherwydd y byddai’n gwneud defnydd o adeilad amaethyddol diddefnydd. Nid oedd angen i drigolion bryderu am y datblygiad yn gosod cynsail;

·         Byddai’r bwriad yn ychwanegu i’r ardal a’r economi yn ogystal â thynnu’r pwysau yn yr ardal o ran tai haf;

·         Byddai’r effaith ar drigolion yn isel;

·         Bod yr adeilad yn cael ei ddatblygu’n sensitif gyda defnydd da o’r adeilad;

·         Ei fod yn drist na ellir caniatáu ceisiadau i drosi adeiladau amaethyddol yn dai ar gyfer pobl lleol yn hytrach na unedau gwyliau yn unig.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau

3.     Llechi naturiol.

4.     Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr o’r ymwelwyr.

5.     Cwblhau’r gwaith yn unol gyda'r mesurau lliniaru sydd wedi eu cynnwys yn rhan 5.1 a 5.2 Mesuriadau Lliniaru a Gwelliannau Arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig Green Man Ecology dyddiedig 19 Awst, 2017.

6.     Amod cydymffurfio gyda Safonau Prydeinig parthed addasrwydd yr offer trin carthion preifat presennol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.5

6.6

Cais Rhif C17/1145/18/LL - Coed Bach Pengraig, Argraig, Seion, Llanddeiniolen, Caernarfon pdf eicon PDF 240 KB

Sied ar gyfer defnydd coedwigaeth, rhodfa a llecyn parcio (cais rhannol ôl-weithredol).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Sied ar gyfer defnydd coedwigaeth, rhodfa a llecyn parcio (cais rhannol ôl-weithredol).

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y rhodfa i wasanaethu’r sied eisoes yn ei le ac o wyneb llechi/cerrig siâl. Nododd y bwriedir defnyddio’r sied i storio boncyffion yn sych ar gyfer defnydd personol yr ymgeisydd.

 

         Nododd y credir na fyddai’r sied yn creu strwythur anghydnaws sylweddol o fewn y tirlun lleol gan ystyried ei osodiad, dyluniad a’i edrychiad o fewn y goedlan.

 

         Tynnodd sylw y lleolir yr annedd agosaf i’r sied oddeutu 60m i’r de-ddwyrain gydag anheddau preswyl eraill o fewn anheddle Seion wedi eu lleoli oddeutu 120m i’r dwyrain. Gan ystyried graddfa a natur y sied ynghyd â’i ddefnydd ar gyfer ymgymryd â gweithgareddau coedwigaeth credir na fyddai’r datblygiad yn amharu’n sylweddol ar fwynderau cyffredinol a phreswyl deiliaid cyfagos ar sail aflonyddwch sŵn. 

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Yn unol â’r cynlluniau.

2.     Lliw gwyrdd tywyll i’r edrychiadau allanol.

3.     Cyfyngu’r defnydd i ddefnydd coedwigaeth.

4.     Cyfyngu’r datblygiad i ddefnydd personol yr ymgeisydd ac nid ar gyfer defnydd busnes.

5.     Lliw gwyrdd tywyll i’r gorchudd proffil dur.