skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Datganodd y Cynghorydd Catrin Wager fuddiant personol, yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0903/16/LL) oherwydd ei bod yn ffrindiau gyda’r ymgeisydd

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1024/39/LL);

·        Y Cynghorydd Dafydd Owen, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0903/16/LL);

·        Y Cynghorydd Eirwyn Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0912/35/AM);

·        Y Cynghorydd Stephen Churchman, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1077/36/LL).

·        Y Cynghorydd Huw G W Jones  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1124/11/LL).

·        Y Cynghorydd John Brynmor Hughes (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1144/39/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 443 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18.12.17 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017, fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1

Cais Rhif C17/1024/39/LL - The Shanty, Pen Bennar, Abersoch, Pwllheli. pdf eicon PDF 289 KB

Dymchwel presennol ac adeiladu 3 llawr yn ei le

 

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, oedd yn cynnwys ymateb Cyd-Bwyllgor AHNE.

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan  nodi bod y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 18/12/2017 pryd y penderfynwyd gohirio ystyriaeth o’r cais er mwyn cael barn Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE) Ymhelaethwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd gan y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Medi 2017.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi diwygio'r bwriad drwy leihau maint y tŷ bwriededig fel  ymateb i bryderon y Pwyllgor ynghyd a rhesymau gwrthod y cais blaenorol.  Mynegwyd bod gosodiad mewnol yr adeilad wedi ei ddiwygio er mwyn lleihau arwynebedd yr adeilad  25%. Cyflwynwyd cynlluniau manwl ynghyd â lluniau ffotograffig yn dangos y tŷ a’r terasau allanol yn ymestyn yn ôl i ddilyn proffil y safle. Awgrymwyd na fyddai’r adeilad yn creu datblygiad ymwthiol yn y tirlun ac er bod edrychiad y tŷ yn wahanol, ni ystyriwyd y byddai yn cael effaith niweidiol sylweddol ar y tirlun.  Atgoffwyd yr Aelodau bod y safle wedi ei leoli ar benrhyn Abersoch, y tu mewn i ffin datblygu'r pentref ac oddi fewn i’r AHNE.

 

Amlygwyd bod y bwriad yn golygu dymchwel y tŷ presennol ar y safle a chodi tŷ newydd mwy yn ei le. Nodwyd bod polisïau lleol a chenedlaethol yn gefnogol i ail-ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen ac ystyriwyd bod y bwriad yn cwrdd gyda gofynion polisi TAI 13 CDLl sydd yn ymwneud yn benodol gyda dymchwel a chodi tŷ newydd o fewn ffin pentref. Gyda thŷ eisoes yn bodoli ar y safle nid yw’r bwriad yn golygu creu uned(au) preswyl newydd ac oherwydd hynny, ni fyddai’r datblygiad yn ychwanegu at y stoc tai. Cafwyd cadarnhad gan Swyddog Cadwraeth y Cyngor nad oedd yr adeilad presennol o werth hanesyddol na phensaernïol sylweddol ac nad oedd yn cyfiawnhau statws rhestredig. 

 

Adroddwyd bod llawer o wahanol ddyluniadau i dai’r ardal ac nad oedd un patrwm adeiladu nodweddiadol. Gydag edrychiad fyddai yn weladwy o’r môr, ystyriwyd fod dyluniad y bwriad o edrych arno o’r môr yn gweddu gyda’r safle oherwydd ei fod yn dilyn siâp, gosodiad a phroffil y safle. Eglurwyd bod y dyluniad, er yn fodern, o raddfa a deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle ac yn addas i’w leoliad a’i gyd-destun. Nodwyd nad oedd gwrthwynebiad gan yr Uned AHNE i’r bwriad, fodd bynnag roedd y Cyd-Bwyllgor wedi datgan byddai’r bwriad yn ddatblygiad ar safle amlwg gydag ôl troed sylweddol fwy na’r tŷ presennol. Nododd y Cyd -Bwyllgor hefyd y byddai’r datblygiad yn ymwthiol.

 

Yng nghyd-destun y polisïau perthnasol a dadleuon y gwrthwynebwyr, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda lleoliad, dwysedd, a’r cynnydd mewn maint yn rhesymol ac yn welliant i safle agored o’r fath. Gyda thŷ eisoes yn bodoli ar y safle ni fyddai newid arwyddocaol i’r tirlun, nac effaith sylweddol arwyddocaol ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

b)      Gwrthwynebwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

6.

Cais Rhif C17/0903/16/LL - Carreg y Fedwen, Sling, Tregarth, Bangor pdf eicon PDF 339 KB

Creu canolfan ymchwil a menter iachad acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais dynnwyd yn ol - C16/1158/16/LL)

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu canolfan ymchwil a menter iachâd acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais a dynnwyd yn ôl - C16/1158/16/LL)

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

a)        Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais. Nodwyd bod yr ymgeisydd wed amlygu bod disgrifiad y bwriad ychydig yn wahanol i’r hyn yr oedd yn ei ystyried yn gywir. Amlygwyd felly bod geiriad y bwriad yn cael ei ddiwygio i, ‘Creu Canolfan ymchwil sydd yn cynnwys codi pedwar adeilad newydd…’ Ategwyd bod y cynlluniau yn gywir a disgrifiad o’r bwriad yn yr adroddiad yn gywir, ond y disgrifiad ffurfiol ychydig yn anghywir.

 

Adroddwyd mai cais ydoedd i greu canolfan ymchwil newydd fydd yn ymchwilio i’r defnydd o sŵn ar gyfer iachâd corfforol a meddyliol.  Nodwyd y byddai’r safle’n cynnwys prif adeilad acwstig ar ffurf gromen wedi ei gysylltu trwy goridor ag adeilad mynediad a fyddai’n cynnwys man croesawu a swyddfa. Byddai tri adeilad cromen arall, llai wedi eu llunio i gyseinio gyda thonfeddi sŵn penodol. Eglurwyd bod y cais yn un ar gyfer menter wledig fechan newydd a fyddai’n cynnig cyfleoedd gyflogaeth i rhwng 2 a 5 o bobl. Byddai hefyd yn cynnig cyfle i arallgyfeirio’r economi leol cefn-gwlad ac yn fodd o ddefnyddio safle a ddefnyddiwyd yn y gorffennol at ddibenion busnes. Ystyriwyd bod egwyddor y cynnig yn cwrdd gydag amcanion Polisi PS13.

 

Gyda safle’r cais mewn lleoliad ynysig mewn coedwig gymysg adroddwyd y byddai’r adeiladau, oherwydd eu maint a’u deunyddiau, yn gweddu i’w safle ac yn guddiedig o welfannau pell. Ystyriwyd  bod y sgrinio a gynhigir gan ffurfiant y tir a thyfiant presennol yn ddigonol i guddio'r safle yn foddhaol. Ni ddisgwyliwyd y byddai unrhyw niwed arwyddocaol i ansawdd byw trigolion cyfagos o’r lefel isel hyn o weithgarwch ac oherwydd y pellter o unrhyw anheddau eraill, ni ystyriwyd y byddai unrhyw niwed arwyddocaol yn deillio o’r safle o safbwynt materion megis goredrych neu gysgodi. Ystyriwyd bod y cynnig o natur a graddfa y datblygiad yn dderbyniol ar gyfer y lleoliad. Mewn ymateb i bryderon  gan drigolion lleol ynghylch effaith posibl y sŵn a gynhyrchir gan weithgareddau’r cyfleuster, mynegwyd bod Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r fenter fechan ond yn cynnig amodau priodol.

 

Adroddwyd nad oedd y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn ddefnydd priodol o’r safle.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y cais y pwyntiau canlynol:-

·         Bod yr adeilad yn un cynaliadwy wedi ei adeiladu a llaw

·         Byddai’r fenter yn canolbwyntio ar ymchwil acwstig wedi'i ysbrydoli gan ddulliau arfaethedig sy'n ganolog i adfer anaf i'r ymennydd

·         Creu 2-5 swydd - trafodaethau cychwynnol â Phrifysgol Bangor, Hull a chanolfannau ymchwil eraill ynglŷn â doethuriaeth mewn ymchwil arloesol

·         Cynyddu cyflogaeth gynaliadwy leol mewn adeiladwaith trwy gynnig prentisiaeth neu gynlluniau tebyg

·         Byddai effaith weledol isel i’r datblygiad; yn gweddu’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C17/0912/35/AM - Station Bakery, Stryd Fawr, Criccieth, Gwynedd pdf eicon PDF 237 KB

Ail gyflwyniad o gais a ganiatawyd o dan C12/0476/35/AM ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a chodi 7 uned preswyl

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ail gyflwyniad o gais a ganiatawyd o dan C12/0476/35/AM ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a chodi 7 uned breswyl

 

a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai ail gyflwyniad ydoedd o gais oherwydd bod y caniatâd blaenorol wedi dod i ben. Amlygwyd mai cais amlinellol oedd dan sylw yn cynnwys manylion mynedfa, llunwedd a graddfa yn unig. Pwysleisiwyd mai egwyddor y datblygiad oedd dan ystyriaeth ac nid manylion llawn.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Criccieth ac o fewn ardal lle ceir cymysgedd o unedau masnachol a thai preifat. Nodwyd mai'r bwriad yw codi 7 uned breswyl gyda chadarnhad bod yr ymgeisydd yn fodlon cynnig 2 o’r unedau hyn fel unedau fforddiadwy. Byddai 2 uned yma yn destun cytundeb 106 i sicrhau eu bod yn fforddiadwy yn y dyfodol.

 

Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn ddefnydd da o’r safle. Nid oedd yn debygol o achosi effaith andwyol ar fwynderau’r ardal leol nac unrhyw eiddo cyfagos.

 

b)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais nac i’r argymhelliad

 

c)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)    Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chais yn cael ei gyflwyno ar ôl pum mlynedd gan fod amser y cais blaenorol wedi dod i ben, amlygwyd nad oedd hawliau gorfodaeth i orfodi ymgeiswyr i weithredu.

 

d)      Mewn ymateb i sylw gan yr Uned Bioamrywiaeth y dylai’r tai hyn gynnwys ‘swift bricks’ amlygywd mai brics ar gyfer annog adar i nythu byddai'r rhain.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i ganiatáu yn ddarostyngedig i gwblhau cytundeb 106 i glymu 2 o’r 7 eiddo ar gyfer tai fforddiadwy ac amodau  perthnasol yn ymwneud â:

 

1.    Amser

2.    Materion a gadwyd yn ôl

3.    Llechi

4.    Dŵr Cymru

5.    Priffyrdd/parcio

6.    Amser gweithio wrth ddatblygu’r safle

7.    Ffenestri

8.    Tynnu hawliau a ganiateir yn ôl o’r unedau fforddiadwy

9.    Lefelau llawr gorffenedig

10.  Trin ffiniau/tirweddu

8.

Cais Rhif C17/0933/15/LL - DMM Engineering International, Ffatri y Glyn, Ystad Ddiwydiannol Y Glyn, Llanberis, Caernarfon pdf eicon PDF 345 KB

Dymchwel adeiladau diwydiannol a chodi 2 estyniad i adeilad diwydiannol a newidiadau cysylltiedig i adeilad presennol ynghyd a chodi un adeilad ar wahan ar gyfer storio a phrosesu

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Kevin M Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel adeiladau diwydiannol a chodi 2 estyniad i adeilad diwydiannol a newidiadau cysylltiedig i adeilad presennol ynghyd a chodi un adeilad ar wahân ar gyfer storio a phrosesu

 

a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer gwella adeiladau ffatri DMM yn Llanberis er mwyn galluogi’r cwmni i ddarparu gwell cyfleusterau, cymhwyso peirannau newydd a gwella’r prosesau cynhyrchu presennol.  Eglurwyd bod sawl elfen i’r cynllun:

·         Dymchwel strwythurau presennol sydd wedi eu cysylltu i’r prif adeilad mewn dau leoliad

·         Codi dau estyniad newydd ar gefn y prif adeilad i gymryd lle’r strwythurau fydd yn cael u dymchwel

·         Tynnu cynhwysyddion storio o’r safle

·         Codi adeilad newydd ar gyfer storio a phrosesu

.

Gyda’r datblygiad wedi ei leoli o fewn ystâd ddiwydiannol, ategwyd bod ei faint  yn dderbyniol ac oherwydd ei natur, ni ystyriwyd y byddai effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau preifat nac ar fwynderau’r gymdogaeth yn gyffredinol. Nodwyd bod y bwriad yn  ddatblygiad economaidd addas i’r ardal.

 

b)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         bod  cwmni yn cyflogi nifer o bobl

·         bod y datblygiad wedi ei leoli o fewn ystâd ddiwydiannol

 

          PENDERFYNWYD Caniatáu

 

Amodau :

1.    5 mlynedd,

2.    Datblygiad yn cydymffurfio gyda'r cynlluniau a gymeradwywyd

3.    Amod tir llygredig

4.    Amod Dŵr Cymru

9.

Cais Rhif C17/1090/45/LL - Partington Marine Boatyard, Yr Harbwr, Pwllheli, pdf eicon PDF 256 KB

Dymchwel ardal dan do storio cychod a gweithdy presennol yn dilyn difrod storm ac adeiladu gweithdy a storfa gychod newydd

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd  Hefin Underwood

 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Dymchwel ardal dan do storio cychod a gweithdy presennol yn dilyn difrod storm ac adeiladu gweithdy a storfa gychod newydd.

 

a)        Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i adeiladu gweithdy a storfa gychod newydd yn lle gweithdy a storfa a ddifrodwyd mewn storm ddiweddar. Eglurwyd gan fod yr adeilad oedd ar y safle mewn cyflwr strwythurol peryglus roedd yr adeilad hwnnw eisoes wedi ei ddymchwel.

 

Nodwyd bod y safle o fewn ffin datblygu Pwllheli ac oddi fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol wedi ei leoli yn ardal harbwr allanol Pwllheli lle gwelir nifer o iardiau cychod a gweithdai. Amlygwyd bod y cais wedi ei gyflwyno at sylw'r Pwyllgor gan ei fod yn disgyn i’r categori datblygiad diwydiannol, masnachol neu adwerthu dros 500m2.

 

Ystyriwyd bod y defnydd, y dyluniad a’r deunyddiau arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddant yn amharu ar fwynderau, cymeriad nac edrychiad y safle na’r ardal o’i gwmpas.

 

b)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu – amodau:

 

1.    Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.    Datblygiad i gydymffurfio gyda'r cynlluniau a gyflwynwyd.

3.    Cytuno union liwiau’r deunyddiau allanol.

4.    Dim dŵr wyneb a / neu ddraeniad tir i gysylltu i’r garthffos gyhoeddus.

10.

Cais Rhif C17/1077/36/LL - Tir ger Ty'n Ffrwd, Pentrefelin, Criccieth pdf eicon PDF 239 KB

Cais ol-weithredol i gadw mynedfa gerbydol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Stephen Churchman

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Cais ôl-weithredol i gadw mynedfa gerbydol

 

a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn gais llawn ôl-weithredol ar gyfer cadw mynedfa gerbydol. Adroddwyd bod y fynedfa oddi ar ffordd ddosbarth 1, yr A497 ym Mhentrefelin.

 

Ni ystyriwyd bod y bwriad o greu’r fynedfa yn cael effaith andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal. Amlygwyd bod nifer o’r gwrthwynebwyr wedi lleisio pryderon yn ymwneud â diogelwch ffyrdd, fodd bynnag nid oedd yr Uned Drafnidiaeth wedi codi unrhyw bryderon fyddai yn deillio o’r datblygiad. Atgoffwyd mai  mynedfa ar gyfer cynnal a chadw tir amaethyddol oedd dan sylw gyda dwysedd defnydd isel. Nodwyd bod y fynedfa yn debyg iawn i fynedfeydd cyffelyb gerllaw

 

Amlygwyd pe byddai  unrhyw geisiadau cynllunio am ddatblygiadau pellach yn y dyfodol yna byddai’r ceisiadau cynllunio hynny yn cael eu hystyried ar eu haeddiant eu hunain. Ystyriwyd bod y safle yn addas ar gyfer cael mynedfa amaethyddol ac nad oedd goblygiadau i’r bwriad o ran diogelwch ffyrdd. Ni ystyriwyd ychwaith y byddai’r bwriad o ystyried ei raddfa a’i leoliad yn debygol o amharu’n andwyol ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

b)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·         Yr ymgeisydd angen edrych ar ôl y tir ac i wneud hynny rhaid cael mynediad achlysurol ato

 

c)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol ( oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

·         Bod y cais yn ymddangos yn amlwg a syml, ond bod angen ystyried y cais yn fanylach

·         Bod y fynedfa wedi ei leoli ar ddarn o’r ffordd sydd â thro

·         Bod y fynedfa yn agos iawn at gyffordd eithaf prysur yn y pentref a safle bws. Ymddengys y rhain yn gymhlethdodau ar ddarn bach o ffordd

·         Derbyn bod y giât yn debyg i eraill yn yr ardal, ond eto, problemau yn codi gyda diogelwch

·         Ni ellir agor y giât allan gan y byddai yn agor i’r ffordd ac ar draws y llwybr cyhoeddus

·         Ni ellir agor yn llawn i mewn i’r tir oherwydd agosatrwydd at yr afon  -  nid yw felly yn ymarferol

·         Pryderon mwyaf trigolion y pentref yw diogelwch ffyrdd  - byddai’r fynedfa yn ychwanegu at y pryderon hynny

 

ch)    Mewn ymateb i sylwadau am y pryderon diogelwch ffyrdd, amlygodd  Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth nad yw maint y llecyn tir yn ddigonol ar gyfer peiriannau amaethyddol mawr ac felly bod y cais wedi ei ystyried ar gyfer peiriannau llai megis cerbyd 4x4. Pwysleisiwyd mai defnydd achlysurol fyddai yn cael ei wneud o’r fynedfa ac nad oedd yn gwrthwynebu’r cais. Nid oedd rheswm i osod y giât yn nol

 

d)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

dd)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau  

         unigol:

·         Beth yw maint y llecyn tir – a yw yn dir amaethyddol o fewn y ffin datblygu?

·         A yw’r llecyn wedi ei gofrestru fel tir amaethyddol?

·         A yw hwn yn gais ar gyfer gosod mynedfa ar gyfer y dyfodol?  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C17/1101/13/LL - Clwb Rygbi Bethesda, Dol Dafydd, Station Road, Bethesda, Bangor pdf eicon PDF 334 KB

 

Cais cynllunio llawn ar gyfer codi pump byngalo ar osod cymdeithasol a deuddeg tŷ ar osod cymdeithasol, a newidiadau i'r fynedfa a ffordd fynediad bresennol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Rheinallt Puw

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais cynllunio llawn ar gyfer codi pum byngalo ar osod cymdeithasol a deuddeg tŷ ar osod cymdeithasol, a newidiadau i'r fynedfa a ffordd fynediad presennol

 

a)        Cyfeiriodd y Rheolwr Cynllunio at y ffurflen sylwadau hwyr gan amlygu bod y Gwasanaeth Cynllunio wedi derbyn cyngor gan Lywodraeth Cymru (Adran yr Economi a’r Seilwaith) yn mynegi na ellid caniatáu y cais cynllunio gan nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth ddigonol (ar sail cyflwyno cais Departure from Standard i Lywodraeth Cymru)  parthed y gwaith sydd angen ei wneud i’r gyffordd rhwng yr A5 a Ffordd y Stesion.

 

b)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais

 

PENDERFYNWYD gohirio

12.

Cais Rhif C17/1124/11/LL - Marketing Suite, Y Bae, Beach Road, Bangor pdf eicon PDF 236 KB

Diwygio amod 2 ar ganiatad cynllunio C16/0229/11/LL er mwyn parhau i leoli'r caban marchnata dros dro am ddwy flynedd ychwanegol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Huw G Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diwygio amod 2 ar ganiatâd cynllunio C16/0229/11/LL er mwyn parhau i leoli'r caban marchnata dros dro am ddwy flynedd ychwanegol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

(a)          Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amod ar ganiatâd cynllunio blaenorol (C16/0299/11/LL) er mwyn ymestyn cyfnod lleoli adeilad marchnata dros dro am ddwy flynedd ychwanegol. Eglurwyd bod dau gais estyniad amser eisoes wedi'i ganiatáu gyda’r diweddaraf gyda chaniatâd hyd 31/03/18.

 

Amlygwyd bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gwerthu tai yn gysylltiedig â’r datblygiad preswyl Y Bae ym Mangor. Nodwyd bod y datblygiad tai wedi ei gwblhau ond bod dwy uned yn parhau ar y farchnad. Y gobaith yw cael estyniad amser o ddwy flynedd ychwanegol hyd nes bydd yr unedau i gyd wedi eu gwerthu.

 

Adroddwyd bod y caban wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Bangor ac o faint a lleoliad rhesymol. Ni ystyriwyd fod y caban, na’i ddefnydd achlysurol yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r preswylwyr cyfagos.

 

(b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·         Mai pwrpas yr adeilad yw cynorthwyo gyda’r elfen marchnata a gwerthiant unedau Rhan 1 o’r datblygiad

·         Bod dwy uned yn parhau ar werth

·         Yr adeilad yn addas i bwrpas ac yn cael ei ddefnyddio i gyfarfod gyda phrynwyr posib

·         Nid yw yn creu effaith weledol andwyol

·         Bydd unrhyw sylwadau neu drafodaeth ar rhan 2 o’r datblygiad yn cael ei drin fel cais ar wahân

 

(c)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor  Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

·         Nad yw’r caban marchnata yn cael ei ddefnyddio

·         Amheuaeth ei fod wedi bod ar gau ers 2 fis

·         Bod y ddwy uned sy’n parhau ar werth yn cael eu gwerthu drwy arwerthwyr tai lleol

·         Bod trigolion lleol yn amau mai at ddefnydd rhan 2 o’r datblygiad yn Y Bae yw’r cais  am ymestyniad amser i’r caban

·         Mae’r adeilad yn ddiangen - nid oes pwrpas iddo bellach

 

ch)       Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn groes i’r argymhelliad gan nad oedd pwrpas iddo.

 

d)         Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Os mai dwy uned sydd yn parhau ar werth, pam bod angen cyfnod o ddwy flynedd ychwanegol

·         A fyddai modd ystyried cyfnod llai?

·         Beth petai'r cwmni yn apelio’r penderfyniad?

 

dd)       Mewn ymateb i’r sylw am gyfnod llai, adroddwyd bod y caban marchnata gyda chaniatâd cynllunio hyd ddiwedd Mawrth 2018. Petai dim caniatâd pellach, byddai’r adeilad yn cael ei symud. Os na fydda’r adeilad yn cael ei symud yna byddai camau gorfodaeth yn cael eu cymryd. Yng nghyd-destun apêl, nodwyd y byddai hawl gan y cwmni apelio’r penderfyniad. Nodwyd mai'r angen yw'r pryder amlycaf.

 

e)        Cynigiwyd ac eiliwyd cwtogi'r cyfnod i 6 mis o Fawrth 2018 ymlaen

 

f)          Amlygodd y Cyfreithiwr bod angen i’r cynigydd gwreiddiol ystyried y cynnig newydd, a phetai yn ei dderbyn yna byddai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif - C17/1144/39/LL - Ty Hir Caravan Park, Mynytho, Pwllheli pdf eicon PDF 232 KB

Gosod dwy garafan sefydlog ychwanegol i gynyddu niferoedd o 17 i 19 a chodi clawdd pridd

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd John B Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod dwy garafán sefydlog ychwanegol i gynyddu niferoedd o 17 i 19 a chodi clawdd pridd

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer gosod dwy garafán sefydlog ychwanegol ar y safle ynghyd â thirlunio ychwanegol fyddai’n golygu adeiladu clawdd ac atgyfnerthu tyfiant presennol.  Amlygywd bod dau gais cyffelyb eisoes wedi eu gwrthod yn ystod 2017. Nodwyd bod y safle sefydlog presennol gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer 17 uned.  Ceir hefyd gae i garafanau teithiol yn Hir a awdurdodwyd trwy gais tystysgrif defnydd cyfreithlon yn 2013. Nodwyd bod y safle sydd o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr aelod lleol.

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad eglurwyd mai'r prif bolisi i’w ystyried wrth asesu egwyddor y datblygiad oedd polisi TWR 3 - rhan 3.  Ategwyd bod y polisi yma yn gallu caniatáu estyniadau bychain i arwynebedd y safle a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda meini prawf penodol.  Un o’r meini prawf yw nad yw’r gwelliannau yn cynyddu nifer y carafanau sefydlog neu’r unedau chalet ar y safle, oni bai, mewn amgylchiadau eithriadol, bydd y cynigion yn golygu ail-leoli parciau presennol sydd wedi eu lleoli o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol.  Nid yw’r polisi  yn caniatáu cynyddu nifer y carafanau sefydlog ar safleoedd oddi mewn i’r AHNE na’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig.  Nodwyd bod y cais dan sylw yn un i gynyddu’r niferoedd o unedau ar y safle drwy ychwanegu dwy uned.  Nid oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi TWR 3 o safbwynt safleoedd oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig.

 

Cydnabuwyd bod y datblygiad yn dangos peth gwelliant i gyfleusterau’r safle sefydlog presennol a’r tirlunio ychwanegol yn gwella gwedd ac amgylchedd y safle. Er hynny, tynnwyd sylw at baragraffau 5.3. a 5.4  yr adroddiad ac amlygwyd na fyddai unrhyw gynllun tirlunio na gwelliannau na amnewid unedau teithiol am rai statig yn dod dros y ffaith nad yw’r Polisi yn caniatáu cynyddu niferoedd carafanau ar safleoedd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig.

 

b)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·      Dwy uned statig ychwanegol yn unig yw’r gofyn

·      Cydnabod cynnwys y polisïau ac adroddiad ond bod posib gwirioneddol i addasu’r cais i gyd-fynd a’r polisi

·      Ychwanegwyd dwy garafán statig yn 2014, ond penderfynwyd peidio a chynyddu ymhellach - ni wyddent ar y pryd y byddi’r Cynllun Datblygu Lleol yn rhwystro cynnydd pellach mewn niferoedd

·      Diffyg efallai gan y swyddogion o rannu gwybodaeth am y newidiadau

·      Byddai’r ddwy uned ychwanegol wedu ei lleoli mewn safle diamlwg

·      Derbyn y posibilrwydd bod modd ail leoli'r unedau statig i waelod y safle neu gyfnewid statig gyda theithiol

·      Busnes lleol yn ymateb i’r galw

·      Gwneud y mwyaf o dwrisitiaeth er mwyn sicrahu ffyniant llwyddianus cefn gwlad

 

c)        Yn manteisio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.