skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn, Louise Hughes, Dilwyn Lloyd,

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones (sydd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0398/11/LL) oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

 

Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

 

b)    Datganodd yr aelod canlynol ei fod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Gareth A Roberts  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.2  ar y rhaglen, (cais cynllunio C19/0398/11/LL)

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 86 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21 Hydref 2019 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Hydref  2019, fel rhai cywir. 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

6.

Cais Rhif C19/0027/39/LL Tir ger Drws y Llan, Llanengan, Pwllheli, Gwynedd pdf eicon PDF 134 KB

Adeiladu 2 dy fforddiadwy (cais diwygiedig)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu 2 dy fforddiadwy (cais diwygiedig)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld ar safle

 

a)         Cyfeiriwyd at y daflen sylwadau ychwanegol lle nodwyd bod cais wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd i ohirio trafod y cais hyd Pwyllgor Ionawr 2020 fel bod cyfle iddynt drafod yr opsiynau a gyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Ategwyd nad oedd gan yr Adran Gynllunio wrthwynebiad i ohirio’r cais

 

b)         Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais

 

c)         PENDERFYNWYD gohirio’r cais i gyfarfod Ionawr y 13eg 2020

 

7.

Cais Rhif C19/0398/11/LL Blakemore Cash & Carry, Ffordd Caernarfon, Bangor, Gwynedd pdf eicon PDF 189 KB

Cais i ddymchwel adeilad (Dosbarth defnydd B8) a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa'r safle, sy'n cynnwys creu cylchfan a newidiadau i drefniant parcio presennol o flaen siop Dunelm, ynghyd a newidiadau i'r fynedfa gwasanaethu

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)         Cais i ddymchwel adeilad (Dosbarth defnydd B8) a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa’r safle, sy’n cynnwys creu cylchfan a newidiadau i drefniant parcio presennol  o flaen siop Dunelm, ynghyd a newidiadau i’r fynedfa gwasanaethu. (Er mai cais am siop werthu bwyd A1 yw'r cais mae'r dystiolaeth a'r dogfennau a gyflwynwyd yn cyfeirio yn benodol at Aldi Stores Ltd) 

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld ar safle

 

b)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi ei ohirio ym mhwyllgor 21.10.19 yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd gan yr Asiant mewn ymateb i’r adroddiad pwyllgor. Nodwyd mai cais ydoedd i ddymchwel adeilad presennol oedd yn flaenorol yn cash and carry a chodi archfarchnad a datblygiadau cysylltiedig ar safle oddi ar Ffordd Caernarfon, Bangor, tu allan i’r ganol tref ddiffiniedig ond oddi fewn i’r ffin datblygu.

 

Cyfeiriwyd yn yr adroddiad at y nifer o bolisïau cynllunio oedd yn berthnasol i’r bwriad ynghyd ag asesiad llawn o unrhyw effaith ar fywiogrwydd a hyfywdra canol tref yn ogystal â delio gyda’r Dystiolaeth o’r angen; yr Angen Meintiol; yr Angen Ansoddol a’r Angen Dilyniadol. Yn gyffredinol, ystyriwyd na fydda unrhyw effaith sylweddol ar hyfywedd a bywiogrwydd canol y ddinas o adleoli siop Aldi. Eglurwyd bod rhan 5.16 - 5.18 o’r adroddiad yn nodi bod polisïau MAN1 a MAN 3 yn gofyn bod angen i gynigion manwerthu a masnachol y tu allan i ganol trefi diffiniedig gael eu cefnogi gan dystiolaeth o’r angen am ddarpariaeth ychwanegol.

 

Yng nghyd-destun angen ansoddol, dangosodd yr ymgeisydd angen ansoddol am ofod llawr ychwanegol mewn siop Aldi fwy ac fe ysgytiwyd y byddai’r bwriad yn gwella’r dewis ansoddol cyffredinol yn yr ardal gyfagos a’r dalgylch ehangach sydd yn gwasanaethu Bangor gan wella safle’r ddinas fel canolfan siopa ranbarthol.

 

Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ymgymryd â thrafodaethau cyn cyflwyno cais gyda Aldi ers peth amser a chyfeiriwyd yn yr adroddiad bod trafodaethau cyn cyflwyno cais wedi caniatáu i’r Awdurdod gael mewnbwn i’r broses o ddethol safle ac mae’r swyddogion yn fodlon gyda chasgliadau’r asesiad dilyniadol ac nid yw’n ymwybodol o unrhyw safleoedd dilyniadol gwell. Cydnabuwyd nad oedd modd ymestyn y siop yn ei leoliad presennol.

 

Er y cydnabuwyd fod buddion economaidd a chymdeithasol i'w cael drwy'r cynnig ac y byddai’n debygol o wneud cyfraniad cadarnhaol i economi'r ardal yn unol ag amcanion y CDLl ar y Cyd.  Tynnwyd sylw at sylwadau’r Uned Iaith oedd wedi dod i’r casgliad bod y risg yn niwtral i’r iaith oherwydd byddai’r swyddi newydd a gaiff eu creu ar gael i’r boblogaeth leol.

 

Adroddwyd o ran gwelliant gweledol nad oedd pryderon o safbwynt effaith weledol y bwriad - roedd y sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn y cyfnod hysbysebu yn gadarnhaol gydag amryw yn cydnabod y byddai’r cynllun yn sicrhau gwelliant gweledol sydd ei angen yn y rhan yma o Fangor. Nodwyd y dylid rhoi ystyriaeth i’r defnydd cyfreithlon heb gyfyngiadau o'r safle fel siop talu a chludo, ble gellid derbyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C19/0858/45/LL Frondeg, Ala Uchaf, Pwllheli pdf eicon PDF 150 KB

Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu adeilad preswyl 3 llawr yn cynwys 28 fflat gofal ychwanegol (16 fflat 2 ystafell wely a 12 fflat 1 ystafell wely, defnyddiau llawr daear atodol yn cynnwys cyfleusterau cymunedol, swyddfa, ystafell beiriannau, storfa bin a storfa 'buggy') ynghyd â llefydd parcio a tirlunio cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu adeilad preswyl 3 llawr yn cynnwys 28 fflat gofal ychwanegol (16 fflat 2 ystafell wely a 12 fflat 1 ystafell wely, defnyddiau llawr daear atodol yn cynnwys cyfleusterau cymunedol, swyddfa, ystafell beiriannau, storfa bin a storfa 'buggy') ynghyd â llefydd parcio a thirlunio cysylltiol.

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn tref Pwllheli ac o fewn Ardal Gadwraeth. Eglurwyd bod y bwriad yn cael ei ddisgrifio fel fflatiau gofal ychwanegol i rai sydd dros 55oed gyda’r cynlluniau yn dangos y byddai’r fflatiau yn hunangynhaliol gydag ystafell(oedd) gwely, stafell ymolchi, lolfa a chegin yn ogystal â lolfa gymunedol a chegin gymharol fechan cysylltiedig.

 

         Amlygwyd bod yr Adran Oedolion, Gofal a Llesiant wedi cadarnhau eu bod yn gefnogol i’r cais ac wedi nodi bod galw am y math yma o ddarpariaeth yn debygol o godi dros yr 20mlynedd nesaf gyda Pwllheli wedi ei adnabod fel ardal twf. Nodwyd mai ADRA yw’r ymgeisydd a bod y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn amlygu y byddai 100% o’r unedau yn rai fforddiadwy sygolygu bod y bwriad yn bodloni gofynion polisi TAI15. Adroddwyd bod yr Uned Strategol Tai hefyd wedi cadarnhau bod y bwriad yn cyfarch gofynion yr ardal, a bod Cymdeithas Tai yn bartner ar gyfer y datblygiad hwn. Roedd yr eiddo hefyd yn cwrdd â Gofynion Ansawdd Datblygu, ac wedi ei gynnwys o fewn rhaglen i dderbyn Grant Tai Cymdeithasol.

 

         Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd bod edrychiad cefn yr adeilad newydd yn rhannol ddeulawr a rhannol drillawr ac yn wynebu cefn tai teras Penlon Llŷn. Eglurwyd y cynlluniau diwygiedig yn ymwneud gyda ffenestri a pherthynas y datblygiad a’r tai presennol yn ogystal â rhai o’r pellteroedd rhyngddynt ac unrhyw effaith ar fwynderau preswylwyr y tai. Nodwyd bod bwriad defnyddio’r ardal rhwng yr adeilad newydd a ffin y tai teras fel gardd gymunedol gyda maes parcio i’r dwyrain o’r adeilad yn cael ei gadw ar gyfer defnydd parcio.

 

         Yng nghyd-destun llecynnau agored, amlygwyd bod polisi ISA5 yn cadarnhau'r angen i asesu anghenion yr ardal ar gyfer darparu llecynnau agored priodol o ganlyniad i’r datblygiad bwriedig (mwy na 10 o unedau byw). Er hynny, yn unol â geiriad y Canllaw Cynllunio Atodol nid oedd angen gwneud cais am gyfraniad o lecyn agored yn y cyd-destun yma.

 

         Wrth ystyried materion bioamrywiaeth, nodwyd bod Arolwg Cynefin wedi ei dderbyn gyda’r Uned Bioamrywiaeth wedi cadarnhau bod yr adroddiad yn delio gyda’r rhan fwyaf o bryderon bioamrywiaeth ar y safle. Ategwyd, fel bod modd cefnogi’r bwriad bod angen cadarnhau’r argymhellion a’r mesurau lliniaru o fewn y Datganiad Lliniaru sydd i gynnwys dull tynnu’r to i leihau effaith ar ystlumod ac adar. Bydd angen cynnwys amserlen a manylion penodol o’r math o focsys ystlumod a nythu sydd i’w cynnwys yn yr adeilad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cai Rhif C19/0847/22/LL Tir yn Tal Y Maes Mawr, Nebo, Caernarfon pdf eicon PDF 164 KB

Cais i osod 4 pabell 'saffari', 1 adeilad 'sauna', cadw ardal chwarae i blant a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 



Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i osod 4 pabell 'saffari', 1 adeilad 'sauna', cadw ardal chwarae i blant a gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i osod 4 pabell saffari, gosod  adeilad cysylltiol i’w ddefnyddio fel ‘sauna’ ynghyd â gwaith cysylltiol eraill gan gynnwys creu llecynnau parcio a man troi cerbydau, tirlunio, cysylltiad gwasanaethau a gosod gwaith trin carthffosiaeth.  Yn ogystal, cedwir llecyn chwarae i blant sydd eisoes wedi ei greu o fewn rhan o’r safle. Eglurwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o gais blaenorol a wrthodwyd gyda newidiadau i rai elfennau gan gynnwys ail leoli’r safle i leoliad yn nes at eiddo preswyl yr ymgeisydd. Eglurwyd hefyd fod cynllun lleoliad newydd wedi ei dderbyn y bore hwnnw oedd yn newid y llinell goch/glas oedd yn amlinellu safle’r cais.

 

Tynnwyd sylw at bolisi TWR 5 sydd yn datgan y caniateir cynigion am safleoedd teithiol, gwersylla neu lety gwersylla amgen dros dro os cydymffurfir gyda’r cyfan o’r meini prawf perthnasol.

 

Dadleuwyd yn y Datganiad Cynllunio a gyflwynwyd gyda’r cais mai polisi TWR 5 ddylid ei ystyried gan na fyddai’r pebyll yn barhaol am mai cysylltiad cyfyngedig fyddai gyda’r tir. Er hynny, roedd y swyddogion cynllunio o’r farn mai polisi TWR 3 oedd yn fwyaf perthnasol, fel ag a wnaed yn achos y cais blaenorol a wrthodwyd, gan fod elfennau mwy parhaol yn cael eu cynnig fel rhan o’r datblygiad.

 

            Tynnwyd sylw at y cadarnhad yn y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, y bydd ffrâm a gorchudd canfas y pebyll yn cael eu tynnu o’r safle ar ddiwedd y tymor yn ogystal â’r llwyfannau pren sydd bellach yn cael eu gosod ar y ddaear ac yn cael eu hangori i’r ddaear trwy gyfres o begiau. Er y wybodaeth, roedd y swyddogion o’r farn bod creu elfennau parhaol eraill ar y safle trwy gydol yr amser sef cysylltiadau  trydan/dŵr/carthffosiaeth i’r pedair pabell unigol yn ogystal â’r sylfaen garreg o dan adeilad y ‘sauna’ sydd yn groes i faen prawf 3 o bolisi TWR 5. Roedd y swyddogion hefyd yn cwestiynu pa mor ymarferol fyddai datgymalu’r pebyll a’r offer cysylltiedig (sef ystafell ymolchi a chegin) a’u tynnu yn gyfan gwbl o’u lle ar ddiwedd tymor.

 

Yn ogystal, mae rhan o baragraff 6.3.85 o eglurhad polisi TWR 5 yn nodi “Dim ond cyfleusterau sylfaenol ar gyfer cysgu, eistedd a bwyta y dylent eu darparu, ac ni ddylid gosod gwasanaethau dŵr neu ddarpariaeth draenio ar gyfer toiledau, cawodydd ac ymolchi ynddynt. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r strwythurau yn dod yn ddigon parhaol i gynyddu lefel yr effaith ar y dirwedd neu effaith adfer y safle pe bai angen symud y strwythurau”. Ni ystyrir fod y bwriad i osod cysylltiadau trydan, dŵr a charthffosiaeth a sylfaen garreg ar ddechrau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.