skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Simon Glyn.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol.

Cofnod:

(a)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·            Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0078/11/LL), oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd;

·            Y Cynghorydd Owain Williams yn eitemau 5.3 a 5.4 ar y rhaglen (ceisiadau cynllunio rhifau C19/0592/43/LL a C19/0593/43/DA), oherwydd ei fod yn berchen yr eiddo lle’r oedd y cais.

 

          Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

(b)     Datganodd y Cynghorydd Mair Rowlands (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ei bod yn aelod lleol mewn perthynas i eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0078/11/LL).

 

Ymneilltuodd yr aelod i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais dan sylw ac ni fu iddi bleidleisio ar y mater.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 97 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2019, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2019, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C19/0338/42/LL - Bwthyn Bridyn, Lon Bridyn, Morfa Nefyn, Pwllheli pdf eicon PDF 142 KB

Estyniad porth blaen, addasiadau i'r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gareth T Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad porth blaen, addasiadau i’r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2019, er mwyn cynnal ymweliad safle a chynnal trafodaethau pellach gyda’r asiant/ymgeisydd ynglŷn â’r balconi llawr cyntaf. Nodwyd yn dilyn trafodaethau gyda’r asiant, bod yr elfen balconi ar flaen yr eiddo wedi ei ddiddymu o’r cais. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Nododd aelod ei gwerthfawrogiad o’r ymweliad safle ac y byddai’r bwriad yn welliant. Ychwanegodd aelod ei bod yn falch bod yr elfen balconi wedi ei ddiddymu o’r cais ac y byddai’r bwriad yn sicrhau’r adeilad ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau:

1.     5 mlynedd

2.     Unol â’r cynlluniau diwygiedig

3.     Llechi

4.     Gorffeniad i gydweddu

5.     Defnyddio’r anecs fel defnydd atodol i’r tŷ yn unig

6.     Amod lefel llawr CNC

 

Nodyn yn cyfeirio at lythyr CNC

5.2

Cais Rhif C19/0078/11/LL - Cyn-Glwb Cymdeithasol Dinas Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor pdf eicon PDF 181 KB

Darparu 38 uned breswyl (gan gynnwys cymysg o unedau farchnad agored ac unedau fforddiadwy), mannau parcio a mynedfa.

 

AELODAU LLEOL:               Y Cynghorwyr Mair Rowlands a Catrin Wager

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Darparu 38 uned breswyl (gan gynnwys cymysg o unedau farchnad agored ac unedau fforddiadwy), mannau parcio a mynedfa.

        

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle yn llecyn o dir diffaith gyferbyn â Ffordd Farrar a Ffordd Deiniol yn Ninas Bangor. Tynnodd sylw bod caniatâd cynllunio gweithredol ar y safle ar gyfer 49 uned 1 a 2 llofft, a ganiatawyd ar apêl.

 

Amlygodd bod egwyddorion dylunio’r adeilad arfaethedig yn dilyn yr egwyddorion hynny a drafodwyd gan yr Arolygydd Cynllunio ar yr apêl. Arddangoswyd cynlluniau o ran y caniatâd cynllunio gweithredol a’r cais gerbron. Nododd bod cynlluniau’r cais gerbron yn welliant o ran dyluniad, gyda lleihad o 11 uned a bod ffurf ac uchder yr adeilad yn weddol debyg, felly ni fyddai’n golygu effaith gwahanol ar gymdogion. Cydnabodd bod rhai pryderon yn lleol am raddfa a deunyddiau'r datblygiad, ond ni ystyriwyd y byddai'r rhain yn amhriodol o fewn cyd-destun trefol y safle. Cyfeiriodd at benderfyniad diweddar i ganiatáu apêl cyn safle Jewson ym Mangor lle'r oedd cydnabyddiaeth oherwydd bod safle o fewn canol dinas bod ychydig o or-edrych cymunedol yn deillio o ddatblygiad o’r fath. Nododd y ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol a ni fyddai’n cael effaith annerbyniol ar fwynderau preswyl na chyffredinol trigolion lleol o ystyried nid oedd newid yn y ffurf a’r dwysedd.

 

Tynnodd sylw nad oedd unrhyw bryderon o ran trafnidiaeth a mynediad. Ymhelaethodd bod 38 man parcio yn rhan o’r bwriad a bod y safle, oherwydd ei leoliad yng Nghanol Dinas Bangor, gyda chysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus ac yn agos at gyfleusterau.

 

Nododd bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG), fel rhan o’r cais, wedi cyflwyno Datganiad Tai Fforddiadwy a Datganiad Cymysgedd Tai. Nododd bod y wybodaeth yn y dogfennau yma yn gyson gyda’r angen a oedd wedi ei adnabod gan yr Uned Strategol Tai. Eglurodd bod y datblygiad wedi ei gynnwys i dderbyn Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru. Ymhelaethodd y byddai’r bwriad yn darparu 23 uned 2 lofft a 15 uned 1 llofft gyda 9 ohonynt yn rai rhent cymdeithasol, 17 yn rhai rhent canolig a 12 yn rhai rhent marchnad agored. 

 

Ymhelaethodd y cyflwynwyd Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol gyda’r cais, er nad oedd yn ofynnol. Eglurodd ers cofrestru’r cais y mabwysiadwyd y Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy. Nododd y derbyniwyd datganiad pellach a oedd yn cyd-fynd gyda gofynion y Canllaw Cynllunio Atodol. Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau'r Uned Iaith ar y datganiad a oedd yn cydnabod ei fod yn ddatganiad trylwyr, mai CCG a fyddai’n rheoli’r safle ac fe fyddai’r effaith ar yr iaith Gymraeg yn niwtral gyda’r bwriad yn cyfarch angen lleol.

         

Nododd nid oedd cyfraniad addysgol yn ofynnol, ond bod gofyn i’r ymgeisydd roi cyfraniad o £8525.39 ar gyfer darpariaeth llecynnau agored er mwyn gwella, cynnal neu greu mannau chwarae addas oddi ar y safle.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais Rhif C19/0592/43/LL - Parc Carafanau a Cwrs Golff Gwynus, Pistyll, Pwllheli pdf eicon PDF 86 KB

Gosod tanc carthion yng nghae 470 ynghyd â system ymdreiddio o'r tanc.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod tanc carthion yng nghae 470 ynghyd â system ymdreiddio o’r tanc. 

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod lleoliad y tanc yn wahanol i’r hyn a ganiatawyd o dan cais blaenorol i osod unedau gwyliau ar gae cyfochrog. Eglurodd bod y tanc wedi ei osod a felly ei fod yn gais ôl-weithredol. Nododd ni fyddai’r tanc carthion i’w weld uwchben y tir a roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi trwyddedu’r defnydd. 

 

          Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

           

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelod, nododd y Rheolwr Cynllunio bod sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cais o ran bioamrywiaeth yn rhai safonol a oedd yn atgoffa’r awdurdod o’i rôl. Cyfeiriodd at sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth ar y ffurflen sylwadau ychwanegol a oedd yn cadarnhau nid oedd pryderon bioamrywiaeth.

 

Mewn ymateb i sylw pellach, nododd y Rheolwr Cynllunio ei bod yn derbyn y sylw, nid oedd y ffurflen sylwadau ychwanegol ar y wefan ond mai’r ddogfen statudol oedd y rhybudd penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau:

1.      Unol gyda’r cynlluniau.

2.      Cytuno a gweithredu cynllun hadu ar gyfer adfer y safle.

5.4

Cais Rhif C19/0593/43/DA - Parc Carafanau a Cwrs Golff Gwynus, Pistyll, Pwllheli pdf eicon PDF 87 KB

Diwygiad di-faterol i symud lleoliad y lleiniau ar gae 470.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diwygiad di-faterol i symud lleoliad y lleiniau ar gae 470.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais am ddiwygiadau ansylweddol i gynlluniau a ganiatawyd yn flaenorol. Eglurodd bod y newidiadau yn ymwneud a lleoliad a gogwydd y 5 llain uned sefydlog oedd i’w lleoli ar gae 470. Nododd bod y slabiau concrid ar gyfer creu’r lleiniau wedi cychwyn cael eu hadeiladu, a hynny yn unol gyda’r cynllun a gyflwynwyd fel rhan o’r cais cynllunio presennol, ac nid yr hyn a ganiatawyd ar gais C15/0495/43/LL.

 

         Nododd bod gosodiad y lleiniau ymhellach i ffwrdd o’r safle carafanau presennol ond ni fyddai effaith gweledol sylweddol wahanol er y byddai’n well pe byddai’r datblygiad yn unol â’r caniatâd cynllunio gwreiddiol. Ychwanegodd bod y cais yn rhesymol a fe fyddai’n rheoli’r sefyllfa, felly argymhellwyd i ganiatáu’r cais gydag amodau.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Ei fod yn ymddangos bod y newid yn lleoliad a gogwydd y lleiniau er mwyn lleoli mwy o leiniau ar y tir. Dylai bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio â gweddill amodau caniatâd cais rhif C15/0495/43/LL cyn cyflwyno cais arall;

·         Bod rhaid ystyried y cais gerbron, ni fyddai’r bwriad yn cael effaith.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd swyddogion:

·         Ni ellir atal ymgeisydd rhag cyflwyno cais ac fe benderfynir ar geisiadau ar eu haeddiant. Roedd y cais gerbron ar gyfer newid lleoliad a gogwydd 5 llain uned sefydlog a bod angen rhoi ystyriaeth i effaith y newid o gymharu â’r hyn a ganiatawyd eisoes. Bod gweithrediad gwahanol i’r hyn a ganiatawyd o dan gais rhif C15/0495/43/LL, wedi dod i’r amlwg wrth gynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd a’r asiant ar y safle a bod y sefyllfa yn cael ei gywiro wrth gyflwyno’r cais yma.

·         Ni ddylid rhagdybio, roedd rhaid delio ag unrhyw gais ar ei haeddiant ei hun.

        

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Yn unol â’r cynlluniau

2.     Angen cydymffurfio gyda gweddill yr amodau ar ganiatâd cynllunio C15/0495/43/LL.