skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen Churchman, Anne Lloyd Jones, Huw G. Wyn Jones ac Edgar Wyn Owen

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitem ganlynol am y rheswm a nodir:

·         Y Cynghorydd Owain Williams

-       yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0090/33/LL) oherwydd ei fod yn berchen Parc Carafanau llai na 6 milltir o’r safle.

·         Y Cynghorydd Gruffydd Williams;

-       yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0090/33/LL) oherwydd ei fod yn fab i berchennog Parc Carafanau llai na 6 milltir o’r safle.

-       yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0338/42/LL) oherwydd ei fod wedi datgan ei farn wrth alw’r cais i bwyllgor

 

Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

·         Y Cynghorydd Anwen Davies (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1  ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0990/33/LL)

·         Y Cynghorydd Glyn Daniels (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0305/03/LL)

·         Y Cynghorydd Gareth Morris Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0338/42/LL)

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 127 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 1.07.2019 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 01 Gorffennaf 2019, fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

5.1

Cais Rhif C19/0090/33/LL - Maes Carafanau Teithiol a Pods, Plas yng Ngheidio, Boduan, Pwllheli pdf eicon PDF 138 KB

Lleoli 8 pod ychwanegol, estyniad safle, ffordd fynediad, mannau parcio ac ymestyn adeilad cyfleusterau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Lleoli 8 pod ychwanegol, estyniad safle, ffordd fynediad, mannau parcio ac ymestyn adeilad cyfleusterau

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth aelod o’r Cyngor.

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn ymwneud â chreu safle gwersylla ar gyfer 8 pod a fyddai’n cynnwys ffordd fynediad a mannau parcio.  Nodwyd bod bwriad hefyd adeiladu estyniad i’r ystafell hunanarlwyo presennol er mwyn gwasanaethu’r 8 pod newydd. 

 

O’r wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais amlygwyd y byddai cyfnod meddiannu’r podiau rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref ac y byddai caniatâd cynllunio yn cyfyngu meddiannu’r safle i’r cyfnod hwnnw mewn unrhyw flwyddyn. Byddai’r podiau yn aros ar y safle trwy gydol y flwyddyn, ond ddim yn cael eu meddiannu yn ystod misoedd y gaeaf . O ystyried na fyddai’r podiau i’w symud i’w storio ar safle neillog yn ystod y misoedd yma ystyriwyd y cais o dan Bolisi TWR 3 sy’n ymwneud a safleoedd carafanau sefydlog a siale a llety gwersylla amgen parhaol. Gorweddai’r safle oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig ac mae Polisi TWR 3 yn datgan y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd llety gwersylla amgen parhaol newydd oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig. 

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, adroddwyd bod y cae, oedd yn destun y cais, oddeutu 3 medr yn uwch na lefel daear y safle carafanau presennol ac fel rhan o’r bwriad, bydd y cae yn cael ei gloddio fel bod y lefel yn gostwng rhyw 1 medr.  O ganlyniad, byddai oddeutu medr isaf y podiau wedi eu suddo yn y ddaear o’i gymharu â lefel daear bresennol y cae.  Er i ochrau’r safle fod wedi eu graddio wrth wneud y gwaith cloddio, ystyriwyd y byddai rhan uchaf y podiau yn parhau'n weledol ac nid oedd bwriad gan yr ymgeisydd i wneud gwaith tirlunio fel rhan o’r cais. Cydnabuwyd y byddai lliw to’r podiau o wyrdd tywyll yn lleihau eu hamlygrwydd yn y dirwedd, ond nid yn goresgyn y ffaith y byddai’r podiau wedi eu lleoli ar dir uwch na’r tir gerllaw. O ystyried hyn, ni fyddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a bod y bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol.

 

Wrth ystyried materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd y byddai mynediad i’r safle ar hyd trac amaethyddol presennol ac er y byddai’r safle arfaethedig yn rhannu’r un fynedfa i’r ffordd sirol bydd mynediad gwahanol i’r safle arfaethedig a’r safle carafanau presennol.  Byddai cyfleusterau fel y toiledau / cawodydd ac ystafell cyfleusterau yn cael eu rhannu rhwng y safle presennol a’r bwriad arfaethedig. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o ran diogelwch ffyrdd ac yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Yn dilyn awgrym gan Uned Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd am roi gwely  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C19/0305/03/LL - 1 Bro Ddwyryd, Blaenau Ffestiniog pdf eicon PDF 84 KB

Estyniad cefn deulawr a lolfa haul ochr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd R Glyn Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad cefn deulawr a lolfa haul ochr

 

Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ddymuniad yr Aelod Lleol.

 

a)            Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi  mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi estyniad deulawr tô fflat cefn ynghyd â lolfa haul unllawr ar bwys wal dalcen y tŷ.  Amlygwyd y byddai’r estyniad cefn yn mesur 7.8 medr o hyd a 4.8 medr o led ac yn ymestyn o wal gefn y tŷ hyd at wal derfyn gefn ble mae storfa unllawr ar hyn o bryd. Er nad yw’r bwriad yn debygol o greu nodwedd amlwg yn y tirlun ehangach, amlygwyd pryder ynglŷn â graddfa a dyluniad/ffurf yr estyniad cefn mewn perthynas â chymeriad y tŷ presennol.  Nodwyd bod Polisi PCYFF3 yn cefnogi cynigion os ydynt yn ychwanegu at ac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle, yr adeilad  neu’r ardal a’u bod yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol.  Ategwyd bod yr eiddo wedi ei leoli  y tu allan i ffin datblygu ac oddi fewn i Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

Er nad oedd gwrthwynebiad i ymestyn y tŷ, ystyriwyd nad oedd dyluniad a graddfa'r estyniad cefn bwriededig, fyddai’n ymestyn 15 medr i’r cefn o’i gymharu ag ochr y tŷ presennol sy’n mesur 7.2 medr, yn gweddu gydag edrychiad a chymeriad yr eiddo nac yn dilyn egwyddorion dylunio da. O ganlyniad, nid yw’n cyfarfod amcanion polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol na gofynion y Canllaw Dylunio. Adroddwyd hefyd nad oedd y cais yn ymateb gofynion PCYFF 2CDLl oherwydd, er bod maint cwrtil yr eiddo yn caniatáu lleoli estyniad deulawr, bod yr Uned Cynllunio wedi awgrymu i’r ymgeisydd bod safle mwy derbyniol ar gael.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol, a oedd yn gwrthwynebu’r cais, y pwyntiau canlynol:-

 

·         Bod yr estyniad yn amharu ar nodweddion yr ardal

·         Nad oedd yn gweddu i’r safle

·         Bod cais am estyniad ar yr un safle wedi ei wrthod yn Medi 2018

·         Pryder yn lleol mai uned gwyliau fydd defnydd yr estyniad i’r dyfodol

 

c)            Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod cais yn unol a’r argymhelliad

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod cais wedi ei wrthod yn 2018

·         Bod yr estyniad yn rhy fawr

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

1.    Byddai’r estyniad cefn deulawr, oherwydd ei hyd a’i raddfa yn creu nodwedd ormesol a ddominyddol fyddai’n cael effaith niweidiol andwyol ar fwynderau trigolion eiddo cyfagos. Mae'r cais felly'n  groes i bolisi  PCYFF 2 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

2.    Mae’r bwriad yn golygu codi estyniad deulawr cefn sydd o raddfa a dyluniad nad yw’n cydweddu â chymeriad yr eiddo ac felly nad yw yn ychwanegu at nac yn gwella ymddangosiad y safle.  Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi PCYFF 3 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol.

5.3

Cais Rhif C19/0338/42/LL - Bwthyn Bridyn, Lon Bridyn, Morfa Nefyn, Pwllheli pdf eicon PDF 143 KB

Estyniad blaen, creu balconi llawr cyntaf, addasiadau i'r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd  Gareth T Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad blaen, creu balconi llawr cyntaf, addasiadau i'r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs

 

Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol a dau Aelod arall.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad porth ar flaen y tŷ; gosod balconi llawr cyntaf ar hyd blaen y tŷ uwchben rhannau tô gwastad presennol; ymgymryd ag addasiadau i’r tô trwy osod tô llechi a drws gromen fechan i’r blaen; decin blaen; ymestyn adeilad allanol presennol o fewn cwrtil yr eiddo yn anecs ym Mwthyn Bridyn, Lon Bridyn, Morfa Nefyn. Nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli gyfochrog a mynediad i draeth Morfa Nefyn, ond ar lefel ychydig uwch na’r traeth, gyda wal derfyn uchel yn amgylchynu’r blaen ac ochrau. 

 

Adroddwyd bod y cais yn cynnwys dwy elfen, sef yr estyniad a’r newidiadau i’r tŷ a’r estyniad i’r adeilad allanol i greu anecs. Adroddwyd mai tô dalennau asbestos sydd i’r tŷ yn bresennol gyda’r bwriad yn golygu ei ail doi â llechi sydd yn welliant ynghyd â drws gromen ddigon bychan na fyddai’n amharu’n sylweddol ar edrychiad a chymeriad y wyneb blaen.

 

Derbyniwyd sawl gwrthwynebiad i’r bwriad yn mynegi pryder am gyflwyno nodweddion modern i’r eiddo gan fod y bythynnod pysgotwyr presennol heb eu difethaf.  O ystyried mai sgrin wydr ysgafn fyddai i flaen y balconi ac na fyddai siâp yr adeilad yn newid yn arwyddocaol, ni ystyriwyd y byddai’r newidiadau yn amharu’n sylweddol ar edrychiad yr eiddo i gyfiawnhau gwrthod yr addasiadau.  Gan mai cymharol fychan yw’r newidiadau i’r tŷ, ystyriwyd eu bod yn ychwanegiadau derbyniol o ran ymddangosiad, graddfa a’r driniaeth drychiadau ac yn cydymffurfio â gofynion polisi PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Nodwyd bod yr ail elfen yn golygu codi estyniad ar yr adeilad allanol presennol sy’n ffurfio rhan o berchnogaeth yr eiddo.  Gan fod y cwrtil wedi ei amgáu gan wal derfyn uchel, dim ond ychydig o wal a thô fyddai’n weledol o ffordd fynediad y traeth.  Amlygwyd fod y  gwrthwynebiadau wedi datgan pryder am newid golwg adeilad hanesyddol, fodd bynnag ni ystyriwyd fod y newidiadau yn sylweddol ymwthiol nac yn annerbyniol o ran graddfa, uchder a mas ar y safle hwn sydd wedi ei amgáu gan wal uchel.  Ystyriwyd bod yr anecs yn cydymffurfio â gofynion PCYFF3.

 

Cyfeiriwyd at y materion llifogydd oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd a sylw bod y cynlluniau wedi newid yn sylweddol ers i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig gyflwyno  gwrthwynebiadau.

           

Wedi pwyso a mesur y cais a’r cynlluniau diwygiedig yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd a’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda’r amodau perthnasol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod gan ei deulu barch tuag at y pentref

·         Bod addasiadau i’r cynlluniau wedi eu cytuno

·         Bod defnyddio llechi ar y to yn cydweddu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3