skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin Walker Jones, Dilwyn Lloyd ac Owain Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Cofnod:

(a)      Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr fuddiant personol, yn eitem 5.1 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0014/19/LL), oherwydd bod perthynas agos iddo yn byw gyferbyn â’r safle.

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

(b)      Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Eric M Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.4  ar y rhaglen, (cais cynllunio C19/0355/17/LL)

 

·        Y Cynghorydd Peter Garlick (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio C19/0014/19/LL)

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 129 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20fed o Fai 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

 

5.1

Cais Rhif C19/0014/19/LL Tir ger Lon Cefnwerthyd, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 194 KB

Cais llawn i godi 29 uned preswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal cyhoeddus agored

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi 29 uned breswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus agored

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor 29.4.19 er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth / cynlluniau diwygiedig fyddai’n cyfarch pryderon y Pwyllgor.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Bontnewydd ac wedi ei ddynodi yn benodol fel safle ar gyfer codi tai newydd yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLL).  Er gwybodaeth, rhoddwyd caniatâd blaenorol ar gyfer codi 26 tŷ ar y safle  ac fe ystyriwyd fod cychwyn materol wedi digwydd i’r caniatâd hwn oedd yn golygu ei fod yn parhau yn ‘fyw’ gyda hawl cyfreithiol yn bodoli ar gyfer codi 26 tŷ newydd ar y safle. Erbyn hyn mae’n gais llawn ar gyfer 29 tŷ newydd.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio bod holl fanylion y cais wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ond cyfeiriwyd yn benodol at ymatebion i bryderon oedd wedi eu codi gan yr aelodau yn ystod y Pwyllgor blaenorol yn ogystal a phryderon oedd wedi eu codi gan berchennog tŷ cyfagos. Cyfeirwyd hefyd at y sylwadau hwyr oedd wedi eu derbyn. Un o’r pryderon hynny oedd gosodiad plotiau 14, 15 ac 16 gyda chais i’r ymgeisydd ystyried newidiadau addas i’r rhan yma o’r safle er mwyn lleihau’r effaith niweidiol ar fwynderau eiddo cyfochrog (Tywyn) ar sail gor-edrych yn bennaf. Mewn ymateb i’r pryderon hyn derbyniwyd cynlluniau diwygiedig parthed y tri eiddo arfaethedig ac adroddwyd  bod  yr ymgeisydd wedi datgan ei fod wedi trafod y diwygiadau gyda pherchennog yr eiddo. Amlygwyd bod y cynllun diwygiedig yn dangos y pellteroedd a’r ffiniau rhwng y tai ac adeilad Tywyn a’r llinell gwelededd yn deillio o ffenestri cefn plotiau 14, 15 ac 16 tuag at Tywyn. Amlygwyd ac eglurwyd y newidiadau i ddyluniad y tai ar y plotiau yma er mwyn lleihau y nifer o agoriadau ar loriau cyntaf y tai er mwyn goresgyn pryderon. Ystyriwyd fod y diwygiadau yn gwneud y datblygiad yn fwy derbyniol ac yn cyfarch pryderon y cymydog a’r Pwyllgor o safbwynt effaith ar fwynderau’r eiddo cyfochrog.

 

Nodwyd bod y swyddogion cynllunio wedi ail ymgynghori ynglŷn â’r diwygiadau gyda’r cymydog, ac fe gyfeiriwyd at ei sylwadau yn y ffurflen sylwadau hwyr. Amlygwyd nad oedd y cymydog yn fodlon gyda’r addasiadau ac yn parhau i fynegi pryderon ynglŷn â goredrych. Roedd y swyddogion o’r farn na ellid ystyried  unrhyw sail resymol a fyddai’n cyfiawnhau unrhyw bryderon pellach am effaith annerbyniol ar fwynderau’r eiddo cyfochrog o ganlyniad i ddyluniad diwygiedig a lleoliad plotiau 14, 15 ac 16.

 

Mewn ymateb i bryderon llifogydd yn lleol ac effaith posib y datblygiad ar y gymdogaeth o gofio fod yr ardal wedi dioddef effaith llifogydd yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth drylwyr i’r elfen yma er mwyn asesu yn llawn unrhyw effaith posib. Amlygwyd nad oedd unrhyw ran o safle’r cais ei hun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C19/0279/22/LL Tir ger Tal y Maes Mawr, Nebo, Caernarfon pdf eicon PDF 177 KB

Cais llawn i osod 4 pabell 'saffari', 1 adeilad 'sauna' ynghyd â gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

    Cais llawn i osod 4 pabell 'saffari', 1 adeilad 'sauna' ynghyd â gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

(a)       Nododd y Rheolwr Cynllunio bod asiant ar ran yr ymgeisydd wedi gwneud cais i ohirio’r drafodaeth er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd gyflwyno cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth ychwanegol mewn ymateb i’r pryderon a nodwyd yn yr adroddiad. Er hynny, nid oedd y swyddogion yn gweld yr angen i ohirio, nad oedd ‘pre-app’ wedi bod ac y byddai modd ail gyflwyno cais o’r newydd yn y dyfodol ac ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais. Nodwyd mai cais llawn ydoedd i osod 4 pabell saffari, codi adeilad cysylltiol i’w ddefnyddio fel ‘sauna’ ynghyd â gwaith cysylltiol eraill fyddai yn cynnwys creu ffordd fynediad, llecynnau parcio, llwybrau mynediad, tirlunio, cysylltiad gwasanaethau a gosod gwaith trin carthffosiaeth.

 

Ategwyd bod y safle wedi ei leoli ynghanol caeau amaethyddol y tu allan i unrhyw ffin datblygu ddiffiniedig yng nghefn gwlad agored o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Nantlle. Nodwyd bod mynediad tuag at y safle yn arwain trwy gwrtil preswyl yr ymgeisydd ar hyd ffordd fynediad preifat presennol sydd yn cefnu gyda thŷ preswyl ar wahân.

 

Amlygwyd bod yr ymgeisydd, wrth gyflwyno’r cais wedi nodi yn y Datganiad Cynllunio mai polisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol oedd wedi cael ystyriaeth gan na fyddai’r pebyll yn barhaol am mai cysylltiad cyfyngedig fyddai gyda’r tir. Roedd y swyddogion cynllunio o’r farn mai polisi TWR 3 oedd yn fwyaf perthnasol gan fod elfennau mwy parhaol yn cael eu cynnig fel rhan o’r datblygiad. Ategwyd nad oedd gwybodaeth glir na chyfeiriad digonol wedi ei gyflwyno am yr hyn y bwriedir ei wneud gyda’r llwyfannau pren a beth fyddai’r camau tebygol i’w diogelu ar neu i’r ddaear.

 

Ystyriwyd fod y bwriad i osod cysylltiadau trydan a dŵr i’r pebyll unigol, creu ffordd fynediad, codi adeilad sauna (er ei faint bychan), llwybrau a lleiniau caled a gosod cyfres o oleuadau yn creu elfennau parhaol yn ogystal â gormodedd o fannau caled yn groes i Bolisi TWR 5. Mae rhan o baragraff 6.3.85 o eglurhad polisi TWR 5 yn nodi “Dim ond cyfleusterau sylfaenol ar gyfer cysgu, eistedd a bwyta y dylent eu darparu, ac ni ddylid gosod gwasanaethau dŵr neu ddarpariaeth draenio ar gyfer toiledau, cawodydd ac ymolchi ynddynt. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r strwythurau yn dod yn ddigon parhaol i gynyddu lefel yr effaith ar y dirwedd neu effaith adfer y safle pe bai angen symud y strwythurau”.  Ni fyddai’n rhesymol nac yn ymarferol i osod cysylltiadau trydan, dŵr a charthffosiaeth ar ddechrau tymor gwyliau ac yna eu codi ar ddiwedd y tymor. Gyda'r elfennau hyn yn sefydlog neu’n barhaol, ni ellid cytuno gyda barn yr asiant mai Polisi TWR 5 yw’r polisi perthnasol ar gyfer ystyried y bwriad yma. 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i ofynion perthnasol polisi TWR 3 sydd yn datgan “gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog newydd (h.y. carafán sengl neu ddwbl),  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais Rhif C19/0306/03/DA 3, Pant yr Onnen, Ffordd Glanpwll, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog pdf eicon PDF 78 KB

Diwygiad ansylweddol i ganiatad rhif C13/0288/03/LL er mwyn adeiladu estyniad llai gyda gorffeniad rendr gwyn yn lle carreg naturiol fel y caniatawyd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diwygiad ansylweddol i ganiatâd rhif C13/0288/03/LL er mwyn adeiladu estyniad llai gyda gorffeniad rendr gwyn yn lle carreg naturiol fel y caniatawyd

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd bod gwraig yr ymgeisydd yn Gynghorydd. Amlygwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cwrdd â gofynion perthnasol y polisïau lleol a chenedlaethol.

 

(b)       Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r cynlluniau.

5.4

Cais Rhif C19/0355/17/LL 7, Beddgwenan Estate, Llandwrog pdf eicon PDF 93 KB

Cais ar gyfer addasu’r to ar flaen yr eiddo er mwyn creu estyniad i'r tŷ presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric Merfyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cais ar gyfer addasu’r to ar flaen yr eiddo er mwyn creu estyniad i'r tŷ presennol

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer ymestyn y deulawr presennol yn y cefn ac yn y blaen.  Byddai’r estyniad yn golygu ailwampio mewnol gan symud ystafell wely bresennol i ofod yr estyniad newydd a chreu ystafell ymolchi ble roedd yr ystafell wely yn ogystal ag ychwanegu at faint ystafell wely bresennol ar y llawr cyntaf ynghyd ac ymestyn cyntedd presennol ar y llawr daear.

 

Eglurwyd bod y cais wedi ei ail gyflwyno o ganlyniad i wrthod cais blaenorol am yr un bwriad ac mai’r Aelod Lleol oedd yn cyflwyno’r cais i Bwyllgor gan ei fod o’r farn bod angen asesiad pellach ar y cynlluniau. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi gwrthod cyfaddawdu a bod y swyddogion cynllunio, er yn ystyried bod y bwriad yn dderbyniol, yn awgrymu y byddai modd gwella’r dyluniad gan nad oedd graddfa’r cynllun dan sylw yn addas. Ystyriwyd bod yr estyniad yn creu nodwedd ddominyddol, bendrwm ac estron ar yr eiddo, na fyddai’n gwella cymeriad na pharchu ei gyd-destun safle o fewn yr ystâd. Ategwyd y byddai hyn yn groes i bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol

 

Eglurwyd bod yr eiddo wedi ei leoli o fewn un o’r lleiniau pellaf oddi wrth y fynedfa i mewn i’r stad, gyda’i osodiad er hynny, yn weladwy o’r fynediad. Er mai barn y swyddogion yw y byddai’r estyniad yn annerbyniol o agwedd weledol ni ystyriwyd y byddai yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r cymdogion nac yn achosi aflonyddwch annerbyniol arnynt. O safbwynt yr agwedd yma, ni ystyriwyd y byddai’n groes i ofynion perthnasol polisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad darllenodd yr Aelod Lleol lythyr ar ran yr ymgeisydd oedd yn methu a bod yn bresennol:-

Nodwyd,

·           bod angen codi uchder y to er mwyn goresgyn diffyg uchder yn yr ystafell ymolchi.

·           bod nifer o’r tai yn y stad ynteu wedi eu haddasu gan y datblygwr gwreiddiol neu wedi eu haddasu ar ôl newid dwylo. 

·           codi lefel y to sydd dan sylw ac nad oedd unrhyw ymgais i ymestyn

·           prin fyddai’r newid i’w weld.

·           er i’r swyddogion wrthod y cais, amlygwyd nad oedd gwrthwynebiad cyhoeddus i’r bwriad.

 

         Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod nifer o’r tai yn y stad wedi cael eu haddasu ac er i’r ymgeisydd gynllunio addasiadau tai rhif 11 ac 12 roedd yn difaru nad oedd wedi addasu ei yn gynharach

·         Bod llythyrau wedi ei derbyn yn cefnogi’r cais

·         Bod y stad yn daclus

·         Nad oedd y bwriad yn groes i PCYFF 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol

 

(c)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn groes i’r argymhelliad oherwydd ystyriwyd bod y dyluniad yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4