skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Datganodd y Cynghorydd Gareth A. Roberts fuddiant personol, yn eitem 6.6 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0224/11/LL), oherwydd mai ei fam oedd yr ymgeisydd.

 

Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

(b)     Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr fuddiant personol, yn eitem 6.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0014/19/LL), oherwydd bod perthynas agos iddo yn byw gyferbyn â’r safle.

 

          Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

(c)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Peter Garlick, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 6.1, 6.3 a 6.5 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C16/1412/19/LL, C19/0014/19/LL a C19/0169/19/AM);

·        Y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0993/26/LL);

·        Y Cynghorydd Elin Walker Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0224/11/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 82 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2019, fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2019, fel rhai cywir yn ddarostyngedig i ychwanegu pwynt bwled o dan rhan (c) ‘Cais Rhif C18/1198/45/AM – Cyn Gae Hoci, Allt Salem, Pwllheli’ ar dudalen 8 y rhaglen yn nodi:

 

·         Bod damwain wedi bod ar y lôn.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod bod aelod lleol ‘Cais Rhif C18/1198/45/AM – Cyn Gae Hoci, Allt Salem, Pwllheli’ wedi tynnu ei sylw bod llawer o drigolion wedi datgan nad oeddent wedi eu hysbysu parthed y cais, nododd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd yn berthnasol i’r cofnodion ond ei fod yn fater y gallai’r Gwasanaeth Cynllunio edrych i mewn iddo.

5.

CAIS I GOFRESTRU LLWYBR CYHOEDDUS AR Y MAP LLWYBRAU SWYDDOGOL O BEN GORLLEWINOL MAWDDACH CRESCENT I BONT ABERMAW, YNG NGHYMUNED ARTHOG pdf eicon PDF 130 KB

I gyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Louise Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn deillio o gais i gofrestru llwybr cyhoeddus yng Nghymuned Arthog ar Fap Swyddogol Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

 

Ymhelaethwyd ar gefndir y cais, nodwyd bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin 2018, wedi penderfynu:

 

“Caniatáu’r cais i ychwanegu llwybr cyhoeddus i Fap a Datganiad Swyddogol y Cyngor fel y dengys gan A-B ar y cynllun a ddarperir yn Atodiad 1 i’r adroddiad yn seiliedig ar y rhesymau canlynol:

 

·                     Bod defnydd  ar droed wedi digwydd dros gyfnod o ugain mlynedd rhwng 1942 hyd 1962;ac

·                     Nad oedd yr arwyddion am y cyfnod hynny, o’r tystiolaeth a gyflwynwyd, yn ddigon (gyfreithiol) effeithiol i atal y rhagdybiaeth godi bod y briffordd wedi cael ei neilltuo dan adran 31(1) Deddf Priffyrdd 1980, ac

·                     Yn benodol bod yr arwydd “Private Road” a welir yn y lluniau yn yr adroddiad wedi ei gyfeirio at gerbydau yn unig, ac nid oedd yna fwriad i atal cerddwyr rhag defnyddio’r llain.”

 

Eglurwyd bod y llwybr yn ei gyfanrwydd wedi ei ddangos ar y cynllun yn Atodiad 1 i’r adroddiad fel A-B-C, roedd penderfyniad y Pwyllgor ar 25 Mehefin 2018 yn awdurdodi defnyddio gorchymyn i gofrestru rhan A-B. Gofynnwyd i’r Pwyllgor benderfynu pe dylid cofrestru’r llwybr a ddengys rhwng B a C ar y cynllun neu beidio. Nodwyd pe byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais i gofrestru rhan B-C, yna yn unol â phenderfyniad blaenorol y Pwyllgor, byddai gorchymyn yn cael ei lunio i gofrestru'r llwybr a ddengys fel A-B-C ar gynllun Atodiad 1.

 

Nodwyd bod tystiolaeth o ddefnydd o’r llwybr rhwng B a C wedi ei gynnwys yn yr adroddiad a atgoffwyd yr aelodau bod angen tystiolaeth o ddefnydd dros gyfnod o ugain mlynedd. Tynnwyd sylw bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin 2018 wedi penderfynu mai’r cyfnod a oedd yn berthnasol o ran rhan A-B oedd rhwng 1942 a 1962.

 

Ymhelaethwyd bod y rhan rhwng B a C yn dilyn llwybr yr hen dramffordd o Abermaw i Mawddach Crescent a’i fod yn werth nodi bod cryn newid yng nghyflwr y rhan yma a’i fod yn ddibynnol ar y llanw pe gellir cerdded ar ran ohono. Ychwanegwyd bod tystiolaeth a sail gref bod pobl wedi defnyddio’r llwybr ar ran B i C dros gyfnod o amser.

 

Rhoddwyd arweiniad gan yr Uwch Gyfreithiwr, nododd bod y Pwyllgor wedi caniatáu’r cais i gofrestru’r llwybr rhwng A a B fel llwybr cyhoeddus yn seiliedig ar y dystiolaeth o ddefnydd. Atgoffodd yr aelodau yn wahanol i’r llwybr rhwng A a B nid oedd unrhyw arwyddion ar y llwybr rhwng B a C. Nododd bod yr un math o dystiolaeth o ddefnydd ar y llwybr rhwng B a C a’r llwybr rhwng A a B.

 

Nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi bod yn broses hir, cyflwynwyd y cais i gofrestru’r llwybr yn Awst 2014. Ymhelaethodd bod defnydd hanesyddol o’r llwybr ers cyn bodolaeth Mawddach Crescent. Eglurodd ei bod yn adnabod Mrs Roberts, cyn perchennog Fegla Bach, ac mai’r unig wrthwynebiad oedd ganddi oedd i bobl gerdded  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

6.1

Cais Rhif C16/1412/19/LL - Tŷ Glan Menai, Ffordd Yr Aber, Caernarfon pdf eicon PDF 185 KB

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 lloft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porth-dy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 llofft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porthdy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2019 er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am bryderon llifogydd a hygyrchedd i’r safle yn ogystal â materion yn ymwneud â:

·            Cynllun Rheoli Arfordir.

·            Perchnogaeth y wal rhwng yr arfordir a’r ffordd sirol dosbarth III (Ffordd yr Aber).

·            Ymateb y Gwasanaeth Tan i sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed perygl o lifogydd ar hyd y ffordd sy’n gwasanaethu’r safle.

·            Tebygolrwydd rhwng y cais yma a chais ar gyfer codi tai newydd yn y Felinheli.

·            Goblygiadau ôl-troed carbon y datblygiad.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

         

          Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor oherwydd bod y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau a chyngor cynllunio cyfredol a oedd yn gefnogol i’r egwyddor o leoli llety gwyliau newydd o ansawdd uchel yng nghefn gwlad gan ddefnyddio safle addas a ddatblygwyd o’r blaen a safle a oedd yn hygyrch i fathau gwahanol o gymudo.

 

          Cyfeiriwyd at bryderon yr aelodau yn y cyfarfod blaenorol o ran materion llifogydd, cadarnhawyd nad oedd y safle o fewn unrhyw barth llifogydd a bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer defnydd fel gwesty yn dderbyniol. O safbwynt materion mynediad, nodwyd bod safle’r cais a’r ffordd o flaen y safle yn hollol glir o unrhyw bryderon llifogydd C2. Cadarnhawyd yn unol â’r gofyn fe ymgynghorwyd â’r gwasanaethau brys ac mewn ymateb i bryderon y Pwyllgor, anfonwyd e-bost manwl i’r gwasanaethau brys (yn lle ymgynghoriad safonol) i esbonio’r sefyllfa ac i fynegi pryderon y Pwyllgor. Adroddwyd y derbyniwyd ymateb gan y Gwasanaeth Tân yn nodi eu bod yn fodlon gyda’r sefyllfa.

 

          Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Llifogi pan fo rhannau o’r ffordd a oedd yn gwasanaethu safle’r cais yn destun llifogydd llanwol, bod y dŵr yn dueddol o fod yn fas iawn a bod y ffordd yn hygyrch ar droed ac mewn car gyda gofal. Eglurwyd bod y lôn yn cael ei chau ar rai adegau i sicrhau diogelwch a hefyd i glirio gwymon, cerrig man ayyb oddi ar y lôn, ac am gyfnod byr byddai’r ffordd yn cael ei chau os yn angenrheidiol. Nodwyd pe byddai digwyddiad eithriadol a’r lon yn llifogi byddai’r gwesty a’r bobl sydd yno yn ddiogel o fewn y safle ac ni fyddai unrhyw risg i’r safle na’r adeilad ac mai’r unig beth a allai gael ei atal oedd mynediad i’r safle ar hyd y ffordd. Ymhelaethwyd bod llifogydd o’r math yma yn eithaf hawdd i’w rhagweld a’u hamseru ac oherwydd hyn bod modd rhybuddio staff a gwesteion ymlaen llaw. Ystyriwyd y gellir rheoli’r sefyllfa mewn modd derbyniol heb achosi baich ychwanegol ar y gwasanaethau brys.

 

          Nodwyd yng nghyd-destun cynnwys Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd ac ymateb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.1

6.2

Cais Rhif C18/0993/26/LL - Tir ger Hen Gapel, Ffordd Waunfawr, Caeathro, Caernarfon pdf eicon PDF 131 KB

Diwygio amod rhif 1 o ganiatad cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Edgar Wyn Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diwygio amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol.

        

(a)     Adroddwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn gan yr Uned Iaith, gofynnwyd i’r Pwyllgor ohirio’r cais i gyfarfod 20 Mai 2019 er mwyn rhoi cyfle i’r swyddogion cynllunio rhoi ystyriaeth i’r sylwadau ac ymdrin â hwy.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

6.3

Cais Rhif C19/0014/19/LL - Tir ger Lôn Cefnwerthyd, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 183 KB

Cais llawn i godi 29 uned breswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus agored.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi 29 uned preswyl ynghyd â thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus agored. 

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Bontnewydd ac wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer tai. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod er mwyn gweld y safle a’i gyffiniau.

 

          Eglurwyd bod caniatâd ‘byw’ ar gyfer 26 o dai ar y safle yn bodoli. Tynnwyd sylw y paratowyd yr adroddiad cyn mabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol yn ymwneud â Thai Fforddiadwy ar 15 Ebrill 2019. Nodwyd bod y datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor oherwydd bod y safle wedi ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl. Amlygwyd mai’r newid amlycaf o’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol, oedd bod y fynedfa wedi ei ail-leoli o’r lôn fach gul a oedd yn mynd fyny ochr y safle i flaen y safle ac o ganlyniad roedd newid yng ngosodiad y tai o fewn y safle, er hynny, roedd tebygrwydd yn parhau rhwng y ddau gynllun.

 

          Cydnabuwyd bod newid o’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol ond mai’r hyn oedd angen ei ystyried oedd faint o gynnydd niweidiol fyddai, os o gwbl, ar drigolion lleol a chyfochrog. Cyfeiriwyd at blotiau 14 i 17 a oedd wedi eu lleoli ar ran uchaf y safle. Nodwyd bod asesiad llawn o blotiau 15 i 17 yn dod i’r casgliad eu bod yn gallu bod yn dderbyniol ar sail ardrawiad ar eiddo cyfagos a hynny yn benodol o ran lleoliad a phellter oddi wrth y ffin gyda’r tŷ presennol cyfagos. Nodwyd yr aseswyd yn benodol os oedd gor-edrych annerbyniol yn debygol o ddeillio o leoli’r 4 tŷ ar y rhan yma o’r safle. Eglurwyd y canolbwyntiwyd ar blot 14 oherwydd y pryder o edrych i mewn i ran breifat o ardd y tŷ cyfochrog. Nodwyd bod y datblygwr wedi newid lleoliad gwreiddiol y tŷ dan sylw a’i symud ymlaen fel ei fod 12.5 medr i ffwrdd o’r ffin ynghyd a rhoi ffenestr o siâp eithaf anghyffredin er mwyn osgoi gor-edrych yn ogystal â symud ffenestri eraill.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd yn cynnwys ymateb perchennog yr eiddo cyfochrog (Tywyn) i’r diwygiadau.

 

          Nodwyd bod y swyddogion o’r farn bod y diwygiadau yn gwneud y sefyllfa yn dderbyniol ac na fyddai yna unrhyw or-edrych annerbyniol, byddai unrhyw or-edrych ar draws rhan gwaelod yr ardd ac felly dim dros unrhyw ran breifat.

 

          Amlygwyd bod perchennog yr eiddo cyfagos yn mynegi pryder o ran y ddau dŷ canol a ffenestri llawr cyntaf y tai a’r effaith ar hyd ochr ei dŷ lle’r oedd ffenestr stydi a ffenestr ochr ystafell fyw, ni ystyriwyd eu bod yn brif ystafelloedd ac mai’r ardd gefn oedd y man mwyaf preifat o’r eiddo cyfochrog ac na fyddai unrhyw or-edrych yn annerbyniol, er hynny rhaid nodi bod pryderon y cymydog yn parhau.

         

          Cyfeiriwyd at y pryder mawr yn lleol am effaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.3

6.4

Cais Rhif C19/0009/11/LL - 358-360, Stryd Fawr, Bangor pdf eicon PDF 123 KB

Newid defnydd yr adeilad presennol o glwb nos i 3 uned manwerthu ynghyd ac 8 fflat hunan gynhaliol a gosod agoriadau newydd (cais diwygiedig i'r hyn a ganiatawyd o dan rhif C18/0116/11/LL).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Steve Collings

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd yr adeilad presennol o glwb nos i 3 uned manwerthu ynghyd â 8 fflat hunan cynhaliol a gosod agoriadau newydd (cais diwygiedig i'r hyn a ganiatawyd o dan rhif C18/0116/11/LL).

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais ar gyfer newid defnydd yr adeilad presennol o glwb nos i 3 uned manwerthu ar y llawr daear ynghyd â 3 uned breswyl hunangynhaliol y tu cefn iddynt, 4 uned hunangynhaliol ar y llawr cyntaf gydag un uned hunangynhaliol ar yr ail lawr. Byddai’r bwriad yn golygu darparu 5 uned un ystafell wely ynghyd â 3 uned 2 ystafell wely.

 

         Nodwyd bod y safle o fewn ffin datblygu canolfan isranbarthol Bangor. Eglurwyd bod Polisi TAI9 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu isrannu eiddo presennol i fflatiau hunangynhaliol cyn belled ei fod yn cydymffurfio gyda’r meini prawf perthnasol, cadarnhawyd bod y cais yn cydymffurfio gyda’r meini prawf.

 

         Tynnwyd sylw bod Polisi PCYFF2 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn datgan gwrthodir cynigion os ydynt yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch neu fwynderau meddianwyr eiddo lleol, defnyddiau tir neu eiddo arall oherwydd mwy o weithgareddau, aflonyddwch, sŵn ac yn y blaen. O ran aflonyddwch sŵn, credir byddai defnydd preswyl a masnachol (siopau) yn cael llai o effaith ar fwynderau preswyl a chyffredinol preswylwyr cyfagos na’r defnydd cyfreithiol yr eiddo fel clwb nos.

 

         Nodwyd bod Polisi TAI15 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio sicrhau darpariaeth briodol o dai fforddiadwy yn ardal y Cynllun a’r trothwy ar gyfer tai fforddiadwy ym Mangor oedd 20%. Adroddwyd bod yr Uned Strategol Tai wedi ymateb i dderbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd parthed prisiad rhentu a phrisiau gwerthu'r fflatiau arfaethedig, a oedd yn datgan er bod lefelau rhentu ar gyfer y fflatiau rhywfaint yn uwch na’r raddfa isaf nid oedd hyn yn creu unrhyw bryder gan fyddai’r fflatiau yn parhau i fod o fewn cyrraedd nifer helaeth o’r boblogaeth leol.

 

         Parthed gwerthu’r unedau, a chymharu prisiau fflatiau cyffelyb ym Mangor a werthwyd yn ddiweddar, roedd y prisiau a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn llawer is a thybir bod y prisiau isel hyn yn debygol o adlewyrchu maint, lleoliad, safon a nodweddion perchnogaeth y fflatiau eu hunain. Nodwyd, o ganlyniad nid oedd cyfiawnhad cyfyngu 2 o’r fflatiau i fod yn fforddiadwy trwy gytundeb 106 na gofyn am gyfraniad ariannol fel rhan o’r cais.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Ei fod yn ymddangos bod ymgeiswyr yn datgan y byddai unedau yn fforddiadwy beth bynnag er mwyn osgoi cyflenwi unedau fforddiadwy. Roedd angen cau’r bwlch yn y polisi cenedlaethol;

·         Yn croesawu’r datblygiad ar safle a oedd yn wag ers blynyddoedd. Pryder y byddai’r fflat llawr gwaelod yn dywyll oherwydd nad oedd ffenestri ar flaen yr adeilad. Unedau i’w gweld yn cael eu gwasgu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.4

6.5

Cais Rhif C19/0169/19/AM - Gypsy Wood, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 102 KB

Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle Gypsy Wood yn gweithredu fel atyniad parc teuluol. Eglurwyd bod safle’r cais wedi ei leoli oddeutu 250m i ffwrdd o ffin ddatblygu pentref Bontnewydd, roedd wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored yn nhermau’r Cynllun Datblygu Lleol. Yn sgil yr angen i gynnal a gwarchod cefn gwlad roedd angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu adeiladu tai newydd yno. Nodwyd bod Polisi PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn datgan mai dim ond datblygiadau tai a oedd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, fyddai’n cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored.

 

         Tynnwyd sylw bod paragraff 4.3.1 o’r NCT6 yn nodi mai un o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fo angen llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd bod yr angen hanfodol am lety yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar ddewis nac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Ychwanegwyd y dylid asesu ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer anheddau mentrau gwledig newydd yn ofalus i sicrhau y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi arferol o gyfyngu ar ddatblygiad newydd yng nghefn gwlad agored.

 

         Eglurwyd, o’r wybodaeth a gyflwynwyd datgenir fod yr ymgeisydd wedi ymgymryd mewn partneriaeth 50% gyda Mr a Mrs Evans, perchnogion y tir. Nodwyd oherwydd bod Mr a Mrs Evans yn parhau gyda 50% o’r busnes; yn berchen ar y tir ble leolir y busnes ac yn byw ar y safle; ystyriwyd fod unrhyw angen swyddogaethol, sef yr angen i weithiwr llawn amser fodoli ar y safle drwy’r adeg i ddelio gyda sefyllfaoedd annisgwyl neu unrhyw argyfwng, wedi ei ddiwallu gan yr eiddo presennol. Tynnwyd sylw nad oedd yr NCT yn caniatáu ail-dŷ ar safle menter gwledig ac felly ystyriwyd fod gofynion swyddogaethol y fenter wledig wedi ei ddiwallu yn gyfan gwbl gyda’r ddarpariaeth bresennol. 

 

         Argymhellwyd i’r Pwyllgor wrthod y cais oherwydd bod safle’r cais wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored o safbwynt polisi cynllunio a bod unrhyw angen swyddogaethol a oedd yn bodoli gyda’r busnes ar y safle wedi ei ddiwallu’n barod a byddai codi annedd ychwanegol ar y safle yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a PS 17 o’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

         Adroddwyd y derbyniwyd llythyr hwyr gan gyfreithiwr perchennog y tir a oedd yn nodi bod perchnogion y tir am gytuno les gyda’r ymgeisydd am y safle yn ei gyfanrwydd. Nodwyd na welwyd diben mewn gohirio’r cais oherwydd gallai trefniant o’r fath gymryd amser i ddod yn weithredol a byddai angen ail-asesu’r cais yng nghyd-destun Nodyn Cyngor Technegol 6.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod yr ymgeisydd wedi datblygu’r safle yn sylweddol yn y 2 flynedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.5

6.6

Cais Rhif C19/0224/11/LL - 23, Ffordd Belmont, Bangor pdf eicon PDF 101 KB

Cais ol-weithredol i ddymchwel cegin a ystafell wydr is-safonol yng nghefn yr eiddo ac adeiladu estyniad cefn unllawr.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl-weithredol am gael dymchwel cegin ac ystafell wydr is-safonol y tu ôl i'r eiddo, ac adeiladu estyniad un llawr ar gefn yr adeilad.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y cyflwynwyd y cais yn dilyn camau gweithredu gan yr Uned Gorfodaeth o ganlyniad i dderbyn cwyn ynghylch y datblygiad. Eglurwyd y cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol.

 

         Nodwyd yr ystyriwyd bod maint a lleoliad yr estyniad yn dderbyniol mewn egwyddor. Adroddwyd bod preswylwyr Rhif 25 wedi gwrthwynebu'r cais oherwydd pryderon yn ymwneud â cholli goleuni a gor-edrych ar eu heiddo o ganlyniad i ffenestr ochr yr estyniad.

 

         Eglurwyd bod y pryderon ynglŷn â'r ffenestr ochr wedi ei drafod â'r ymgeisydd cyn ac ers cyflwyno'r cais. Nodwyd er bod yr ymgeisydd wedi cynnig datrysiad, sef gosod gwydr cymylog a bleind parhaol, roedd y swyddogion o'r farn na fyddai’n ddatrysiad boddhaol gan y byddai canfyddiad o or-edrych yr un fath. Ni ystyriwyd y byddai'n briodol gosod amod cynllunio er mwyn mynnu bod y ffenestr yn cael ei chuddio â gwydr cymylog a bleind gan nad oedd yn debygol o fod yn bosib gorfodi'r amod.

 

         Adroddwyd y gofynnwyd i’r ymgeisydd ar sawl achlysur i flocio’r ffenestr yn barhaol ond bod yr ymgeisydd yn amharod i wneud hyn ac felly byddai’n amhriodol i osod amod i’r perwyl hyn, argymhellwyd mai’r unig ffordd i gael datrysiad i’r sefyllfa byddai i wrthod y cais oherwydd effaith andwyol y ffenestr ar breifatrwydd y tŷ cyfochrog.  

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y gwrthwynebydd ddim wedi byw yn yr eiddo ac yn rhentu ei dŷ allan;

·         Bod yr estyniad yn galluogi ei fam a oedd yn anabl i fyw gartref;

·         Bod ei fam wedi derbyn cyngor gan adeiladwr nad oedd angen am ganiatâd cynllunio a bod y ffenestr ar ochr yr estyniad yn dderbyniol;

·         Bod ei fam wedi derbyn llythyr gan yr Uned Gorfodaeth yn nodi bod angen tynnu’r ffenestr a’r angen i dderbyn caniatâd cynllunio. Bod ei fam yn poeni am y sefyllfa a'i fod yn cael effaith ar ei hiechyd;

·         Yn fodlon gosod gwydr cymylog a bleind parhaol ar y ffenestr yn ogystal ag adfer y ffens wreiddiol;

·         Gobeithio y gellir dod â’r mater i ben mor gynted â phosibl.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Fe fyddai’n drueni gwrthod y cais oherwydd sefyllfa’r ymgeisydd;

·         Deall pryder y swyddogion a ni fyddai’n bosib i’r eiddo cyfagos godi estyniad oherwydd lleoliad y ffenestr;

·         Dylid gofyn i’r ymgeisydd flocio’r ffenestr ochr felly ni fyddai’r estyniad yn amharu ar breifatrwydd cymdogion.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod yr ymgeisydd wedi gwrthod blocio’r ffenestr ar sawl achlysur;

·         Dylid ystyried gofyn i’r ymgeisydd flocio’r ffenestr unwaith yn rhagor cyn gwrthod y cais;

·         Byddai gwrthod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.6