Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Berwyn
Parry Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Datganodd
yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a
nodir: ·
Y
Cynghorydd Gruffydd Williams yn eitem 5.8 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0722/41/LL
oherwydd bod ei gymar yn berchen ar dir hefo caniatâd i godi 18 o dai yn
Chwilog Roedd yr aelod o’r
farn eu bod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y
drafodaeth ar y cais. (b) Datganodd
yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Aeron M. Jones, (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (cais cynllunio rhif C14/0386/24/LL); 5.6
(cais cynllunio C18/1125/17/LL) a 5.7 (cais cynllunio C18/1126/17/LL) ar y
rhaglen ·
Y
Cynghorydd Peter Garlick (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1412/19/LL) ·
Y
Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0084/11/LL) ·
Y
Cynghorydd Charles Wyn Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0942/23/LL) ·
Y
Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0977/18/LL) ·
Y Cynghorwyr Dilwyn Lloyd ac Edgar Owen (oedd yn
aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.6 (cais cynllunio
C18/1125/17/LL) a 5.7 (cais cynllunio C18/1126/17/LL) ar y rhaglen Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Ionawr
2019 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2019, fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i
gywiro pwynt bwled 2: paragraff b; eitem 6 sydd yn nodi, ‘bod tir ar y safle yn gyswllt at Lwybr yr Arfordir’ i ‘bod y lon sydd yn cael ei defnyddio ger y
safle yn gyswllt at Lwybr yr Arfordir’. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac
ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau PENDERFYNWYD |
|
Adnewyddu caniatad rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol) AELOD LLEOL: Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adnewyddu caniatâd rhif
C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn cynnwys 12
tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad
(cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol). (a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod
y Pwyllgor a gynhaliwyd Ionawr 2018 er mwyn trafod pryderon yr Aelodau gyda’r ymgeisydd,
oedd yn ymwneud â lleoliad y llecyn agored
o fewn y safle. Yn ychwanegol, ymgynghorwyd ymhellach gyda Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities (nwy) ynghyd
â’r Uned Rheolaeth Adeiladu ar sail addasrwydd lleoli’r
llecyn agored yn y safle bwriadedig. Derbyniwyd barn Ymgynghorydd Iechyd a
Diogelwch y Cyngor o ran sicrwydd diogelwch.
Nodwyd bod y cais yn parhau i gynnwys 24 tŷ gyda 12 o’r tai yn rhai fforddiadwy ac amlygwyd bod yr angen am dai wedi ei gadarnhau. Amlygwyd pryder am y pellteroedd rhwng
y tai, a chyfeiriwyd at ymateb ym mharagraffau
5.9 i 5.11 o’r adroddiad. O safbwynt tai
fforddiadwy, er mai landlord
cofrestredig fydd yn rheoli datblygiad,
bydd angen sicrhau y byddai’r 12
tŷ yn fforddiadwy am byth ac felly angen
amod priodol i hyn. Nodwyd bod y bwriad
yn un anarferol, ond y datblygiad yn cynnwys
cymysgedd addas o dai fydd yn
diwallu'r angen am dai gwahanol yn yr ardal. Ategwyd
bod datblygiad o’r fath yn un i’w
groesau. Adroddwyd, mewn ymateb i’r prif
bryder, sef lleoliad y llecyn agored, cynhaliwyd trafodaethau pellach
gyda’r ymgeisydd. Ategwyd bod swyddogion wedi ail ymgynghori gyda Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities
(nwy) ynghyd a’r Uned Rheolaeth Adeiladu ac Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac roedd yr ymatebion yn
parhau i gadarnhau bod y datblygiad
yn cydymffurfio gyda holl
ofynion y cyrff ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad i leoliad y llecyn agored. Ategwyd mai anodd felly fyddai gwrthod y
cais oherwydd bod y dystiolaeth yn groes i hyn. Nodwyd bod apêl
wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd ar sail
diffyg penderfyniad gan y Pwyllgor, ac felly tynnwyd sylw mai cyfnod byr oedd gan
y Pwyllgor i wneud penderfyniad er mwyn osgoi apêl (hyn yn unol â threfniadau’r Arolygaeth Cynllunio). Roedd y swyddogion yn parhau i
ystyried bod y bwriad yn dderbyniol o
safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Nad oedd yn anghytuno gyda’r egwyddor bod angen tai
ar y safle, ond nid yn ei ffurf bresennol. Lleoliad y llecyn chwarae yn achosi
pryder ·
Yr ymgeisydd wedi cael cyfle i addasu'r cynlluniau
yn unol â sylwadau a phryderon y Pwyllgor ar gymuned leol ond wedi dewis
anwybyddu hyn ·
Bod y llecyn agored wedi ei leoli ger y rheilffordd
ac er bod yr asiant yn nodi y byddai codi ffens atal dringo, byddai plant yn
darganfod ffordd o fynd drosodd neu o amgylch; ·
Bod y llecyn agored gerllaw is-orsaf nwy - y lleoliad yn peryglu diogelwch plant · Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C16/1412/19/LL Ty Glan Menai, Ffordd Yr Aber, Caernarfon PDF 149 KB Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 lloft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porth-dy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter A Garlick Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 llofft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa
bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porthdy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau y cafodd ei ohirio
ym Mhwyllgor mis Ionawr er mwyn caniatáu hawl i drydydd parti siarad yn y
Pwyllgor. Wrth
ystyried egwyddor y datblygiad, tynnwyd sylw at yr Hanes Cynllunio ac yn
benodol i wrthodiad i gais C10A/0556/19/LL oherwydd ei debygrwydd i’r cais
gerbron. Apeliwyd yn erbyn y gwrthodiad ac fe ganiatawyd ar apêl ym mis Ionawr
2012. Amlygwyd mai'r unig wahaniaeth rhwng y ddau gais oedd presenoldeb pwll
nofio yn yr un a ganiatawyd ar apêl yn 2012. Nodwyd bod yr Arolygwr Cynllunio
wedi caniatáu costau yn erbyn yr ACLl oherwydd iddynt
ymddwyn yn afresymol wrth ddod i benderfyniad i wrthod y cais gan fod y
polisïau cyfredol yn cefnogi’r fath datblygiad. Amlygwyd
bod y polisïau a restrwyd yn yr adroddiad ar y cyfan yn gyson gydag amcanion a
gofynion polisïau’r Cynllun Datblygu Unedol oedd mewn grym pan benderfynwyd yr
apêl. Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, ategwyd bod y polisïau perthnasol
yn adlewyrchu ei gilydd, ac nad oedd dim newid sylfaenol yn y math o bolisïau a
ddefnyddiwyd 2012. Wrth ystyried penderfyniad yr apêl, ystyriwyd bod y cais yn
cydymffurfio gyda pholisïau a chyngor cynllunio cyfredol oedd yn parhau i fod
yn gefnogol i’r egwyddor o leoli llety gwyliau newydd o ansawdd uchel yng
nghefn gwlad gan ddefnyddio safle addas a ddatblygwyd o’r blaen sydd yn hygyrch
i fathau gwahanol o gymudo. Nodwyd nad oedd gan yr Arolygwr Cynllunio, yn ei
benderfyniad i’r apêl, wrthwynebiad i’r edrychiad, gosodiad na graddfa’r bwriad
a bod y cynllun wedi cael sêl bendith Comisiwn Dylunio Cymru. Mewn
ymateb i’r ymgynghoriad statudol nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw
wrthwynebiad i’r datblygiad ar sail diogelwch ffyrdd a chyfleusterau parcio yn
ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol. Nodwyd hefyd nad oedd materion yn
ymwneud a thrafnidiaeth yn achosi pryder i’r Arolygwr Cynllunio ac felly nid
oedd newid yma. Yng
nghyd-destun llifogydd cyflwynwyd cais Adroddiad Mynediad (ar sail perygl
llifogydd) gan fod rhannau o’r ffordd sirol gyfochrog sydd yn gwasanaethu’r
safle wedi ei leoli o fewn Parth Llifogydd C2. Mewn ymateb i’r adroddiad,
mynegwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cadarnhau, o fewn cyd-destun y
cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen NCT15: Datblygiad a Risg Llifogydd, bod yr
ymgeisydd wedi bodloni eu pryderon ynglŷn â pherygl llifogydd. Ychwanegwyd
bod CNC yn fodlon bod y gwesty a’r llecynnau parcio yn uwch na’r amlinelliad
llifogydd eithriadol ac felly bod y bwriad yn dderbyniol ar sail perygl
llifogydd. Cyfeiriwyd at bolisi TWR2 sydd yn nodi y gall gwestai o ansawdd uchel ddod a buddion economaidd sylweddol i ardal y cynllun. Nodwyd bod y polisi yn anelu i gefnogi’r egwyddor o ddarparu llety gwyliau o ansawdd uchel mewn lleoliadau cynaliadwy. Ymhelaethwyd bod dogfen Cynllunio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C18/0084/11/LL Hen Iard Gychod Dickies, Beach Road, Bangor PDF 308 KB Cais llawn ar gyfer gwaith peirianyddol, gan gynnwys torri a llenwi, er mwyn cyflawni arglawdd rip-rap wedi'i ehangu ar llain ogleddol datblygiad rhan II, yn ogystal a gwaith pellach i atgyfnerthu'r hen llenni dur o amgylch mur y doc AELOD LLEOL:
Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn ar gyfer y gwaith peirianyddol, gan gynnwys torri a llenwi, i
gyflwyno arglawdd rip- rap estynedig
ar barsel datblygu gogleddol Cam II, yn ogystal â gwaith pellach i
atgyfnerthu'r hen lenni dur o
amgylch wal y doc Ymhelaethodd yr
Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan atgoffa’r
aelodau bod dau gais blaenorol wedi bod ar y safle i godi lefel tir er mwyn ei ddatblygu ymhellach. Roedd
rhain yn cynnwys darparu cerrig o gwmpas y safle a rip rap (amddiffynfa
môr). Bwriad y cais cyfredol oedd ymestyn y rip rap yn ymhellach ynghyd â gosod llenni dur o gwmpas y cei -
elfennau mwyaf ymwthiol y cais. Yn dilyn cyflwyniad asesiadau
dirgryniad a sŵn ymgynghorwyd gydag Uned Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd. Daethpwyd i’r
casgliad i argymell caniatáu y cais gydag amodau
penodol monitro sŵn yn
ystod y gwaith ynghyd â monitro tirgryniad; ac
oherwydd agosatrwydd tai i’r safle,
cyfyngu oriau gwaith i 4 awr y dydd a dim ond dwy awr mewn un lleoliad penodol. Yn dilyn asesiad o dan Ddeddf
Cynefinoedd 2017, gan fod rhan o'r traeth o flaen y safle yn cael ei effeithio gan y gwaith, ni
ystyriwyd y byddai effaith ar ardaloedd cadwraeth rhyngwladol Traeth Lafan ac Afon Menai. Er hynny, amlygwyd y
byddai mesuriadau lliniaru wrth osod
llenni dur i beidio gweithio 2 awr cyn
ac awr a hanner ar ôl llanw uchel. Ynglŷn â materion gosod y llenni
dur, amlygwyd gan fod waliau'r doc yn dirywio buasai’n orfodol gwneud gwaith arbed i’r dyfodol. Gyda thai o fewn 25m i’r
gosodiad, tynnwyd sylw'r ymgeisydd at dechnegau llai ymwthiol o
osod llenni dur i mewn i’r ddaear gan
gynnig techneg ‘silent
sheet piling’. Er bod yr
ymgeisydd yn fodlon mabwysiadu'r dechneg yma mynegwyd
yr angen am sicrwydd o fesuriadau lluniau pellach ac felly byddai gofyn am amodau ychwanegol i’r ymgeisydd
gadarnhau, cyn dechrau’r gwaith i egluro'r union dechneg a’r fethodoleg fyddai yn cael ei defnyddio i
osod y llenni. Byddai hefyd angen cadarnhau cynllun monitro dirgryniad, safle’r
gwaith ynghyd â’r math o offer fydd yn cael ei ddefnyddio.
(b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd, oedd yn cynrychioli trigolion y bae a thai
cyfagos, y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod
cais blaenorol wedi ei wrthod oherwydd presenoldeb llysiau’r dial. Angen tystiolaeth
bod y planhigyn wedi ei ddifa. Yr un yw’r broblem gyda’r safle yma ac felly
angen sicrhau nad oes llysiau dial ar y safle cyn dechrau. ·
Bod
y cartref agosaf oddeutu 20m i’r safle ·
Derbyn
bod yr ymgeisydd wedi cytuno i newid ei ddull o weithio ond nid yw’r adroddiad
yn adlewyrchu dulliau gweithio. Nid yw’r ystadegau yn gywir ac felly angen cais
o’r newydd ·
Nid
oes gan yr ymgeisydd unrhyw ymrwymiad i ddymuniadau trigolion cyfagos. Ffydd ac
ymddiriedaeth yn yr ymgeisydd yn wael, nid ydynt yn cadw at eu gair ac felly
angen amodau llym i reoli’r sefyllfa ( c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C18/0942/23/LL Tir Cae'r Eglwys, Ffordd Llanberis, Llanrug, Caernarfon PDF 126 KB Codi 7 byngalo ar wahan (gan gynnwys uned fforddiadwy), 2 byngalo par, mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig (cynllun diwygiedig i'r hyn a thynnwyd yn ôl o dan cais rhif C18/0132/23/LL AELOD LLEOL Cynghorydd
Charles Wyn Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
7 byngalo (gan gynnwys uned fforddiadwy), 2 dŷ deulawr, mynedfa newydd a gwaith
cysylltiedig (cynllun diwygiedig i'r hyn a thynnwyd yn ôl o dan gais rhif C18/0132/23/LL Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 7 tŷ unllawr
i gynnwys un tŷ fforddiadwy a thŷ dwylawr
marchnad agored ynghyd a chreu mynediad newydd, ffordd stad, llecynnau parcio,
rhodfeydd a seilwaith cysylltiedig. Nodwyd y byddai’r safle yn cael ei
wasanaethu oddi ar ffordd sirol dosbarth 1 sydd yn cynnwys culfan bws gerllaw. Amlygwyd bod Datganiad
Dylunio a Mynediad wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd fel rhan o’r cais. Tynnwyd
sylw at yr ymatebion a nodwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan y cyhoedd.
Nodwyd hefyd bod gwybodaeth pris y tŷ fforddiadwy wedi ei dderbyn ers
ysgrifennu’r adroddiad. Ategwyd bod cadarnhad wedi ei dderbyn bod carthffos
gyhoeddus yn rhedeg o dan lecyn tir gwag oedd ar y safle ac na fydd modd
adeiladu drosto. Y bwriad yw, cynnig y tir i’r feddygfa gyfagos neu i’r Cyngor
Cymuned ar ddiwedd y gwaith datblygu, Lleolir y safle o fewn
ffin datblygu canolfan wasanaeth lleol Llanrug yn ogystal â’i fod wedi ei
ddynodi yn bwrpasol ar gyfer datblygiad tai. Er bod y safle yn gallu ymgymryd â
10 tŷ eglurwyd oherwydd amgylchiadau eithriadol yn ymwneud a diogelu'r garthffos
gyhoeddus sy’n croesi’r safle mai 9 tŷ sydd yn briodol. Penderfynwyd gohirio’r
cais blaenorol er mwyn derbyn tystiolaeth bellach am yr angen o’r math o dai
yng nghymuned Llanrug. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno datganiad
cymysgedd tai oedd yn ymateb i’r angen lleol
ac y byddai codi tai un llawr ar y safle yn rhyddhau tai deulawr 3/4/5
llofft yn y pentref ar gyfer teuluoedd a’r dymuniad i fyw’n lleol. Adroddwyd bod y bwriad yn
golygu creu mynedfa safonol oddi ar y ffordd sirol dosbarth 1 cyfagos ynghyd ag
ymestyn llwybr troed presennol i mewn i’r safle. Eglurwyd bod y cynllun
diweddaraf yn ganlyniad o drafodaethau rhwng yr ymgeisydd, yr Aelod Lleol a’r
Uned Drafnidiaeth ac o ganlyniad wedi sicrhau diogelwch ffyrdd ar sail
gwelededd a’r nifer o dai byddai’r fynedfa yn ei wasanaethu. Eglurwyd bod data Lleoliad
Ysgolion Cynradd Gwynedd yn cadarnhau bod digon o gapasiti
o fewn Ysgol Gynradd Llanrug i allu ymdopi gyda’r niferoedd o blant a all
ddeillio o’r datblygiad hwn ac i’r perwyl hynny ni fyddai angen cyfraniad
addysgol gan yr ymgeisydd. Ystyriwyd bod y bwriad
cyfredol yn dderbyniol a’i fod yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol. (b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- · Bod nifer o
drafodaethau wedi eu cynnal yn lleol · Bod y cais gerbron yn
ymateb i ofynion y gymuned leol · Derbyn bod yr ymgeisydd
yn fodlon cynnal trafodaethau am y llecyn gwag ar ôl i’r gwasanaethau
gael eu gosod · Croesawu bod yr ymgeisydd wedi ystyried cymysgedd tai addas yn ôl yr angen sydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C18/0977/18/LL Tir ger Maes Gwylfa, Clwt y Bont, Deiniolen, Caernarfon PDF 167 KB Datblygiad preswyl ar gyfer 9 tŷ fforddiadwy a mynedfeydd newydd AELOD LLEOL
Cynghorydd Elfed Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datblygiad
preswyl ar gyfer 9 tŷ fforddiadwy a mynedfeydd newydd Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 9
tŷ fforddiadwy ar safle tir glas llethrog sydd yn ymylu â ffin datblygu
pentref Deiniolen Byddai’r
datblygiad yn cynnwys chwe uned dwy lofft, dwy uned tair llofft ynghyd â
byngalo 5 llofft wedi ei lunio i gwrdd ag anghenion penodol teulu lleol. Nodwyd y bwriad o ddarparu
9 tŷ fforddiadwy ar y safle (100%) ac amlygwyd bod Uned Strategol Tai’r
Cyngor wedi cadarnhau bod y nifer hwn o dai ynghyd a natur y tai yn cyfarch
anghenion yr ardal. Ategwyd mai Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fyddai’r
darparu’r tai ac ymddengys bod y gofrestr anghenion tai cyfredol (Hydref 2018)
yn dangos angen yn y gymuned am unedau 2 a 3 stafell wely gyda 33 ymgeisydd ar
y rhestr aros am y math hwn o unedau. Cyfeiriwyd at bolisi TAI
16 (Safleoedd Eithrio) sydd yn nodi bod yn rhaid i ddatblygiadau sydd union
gerllaw ffiniau datblygu fod yn 100% o dai fforddiadwy. Nodir hefyd yn y polisi
bod rhaid dangos na ellir cyflenwi tai fforddiadwy mewn cyfnod rhesymol o amser
ar safle marchnad agored o fewn y ffin datblygu lle mae angen am dai
fforddiadwy. Amlygwyd na chafodd unedau tai fforddiadwy eu hadeiladu yn
Neiniolen rhwng 2011 a 2018 ac er bod dau safle wedi eu cymeradwyo lle mae
elfen o dai fforddiadwy wedi’u cynnwys nid yw’r gwaith adeiladu wedi dechrau ar
yr un o’r cynigion hyd yma. Cyfeiriwyd at eglurhad gan yr asiant, oedd wedi ei
nodi dan baragraff 5.6 yn yr adroddiad, yn egluro pam na allent ddarparu’r tai. Cyfeiriwyd at sylw gan
wrthwynebwyr y dylid ystyried fforddiadwyedd y tai presennol sydd ar gael o
fewn y ffin datblygu cyn dod i benderfyniad ar y cais gerbron. Fodd bynnag wedi
ystyried mai tai marchnad agored yw’r tai sydd ar werth o fewn y ffin, ni
fyddent yn cwrdd â’r un angen a’r tai a fwriedir, megis tai cymdeithasol ar
rent wedi ei dylunio i safon Gofynion Ansawdd Datblygu (DQR). Gan fod y cynllun
yn union gerllaw ffin datblygu, ystyriwyd bod y datblygiad yn cyfarch galw
lleol am dai cymdeithasol ar rent a bod hyn wedi ei gadarnhau gan Uned
Strategol Tai’r Cyngor. Ystyriwyd bod y cynllun yn cwrdd gyda gofynion Polisïau
TAI 8 a TAI 16 y Cynllun Datblygu Lleol ac y byddai yn cyfrannu tuag ar gwrdd
â’r targed a’i gosodir gan Polisi PS18. Amlygwyd bod agweddau
eraill o’r bwriad yn dderbyniol ac er bod cyn ddryswch wedi bod ymysg y gymuned
leol am asesiad gwrthdrawiad traffig, amlygwyd mai asesiad mewnol oedd wedi ei
weithredu ac nid un ar gyfer dibenion y cais. Ategwyd nad oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad. Yng nghyd-destun materion draenio, derbyniwyd ymateb gan yr Uned Draenio Tir/Ymgynghoriaeth Gwynedd oedd yn cwestiynu rhai elfennau o’r Strategaeth Ddraenio cyn rhoi barn bendant ar y cynllun. Nodwyd bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C18/1125/17/LL Chwarel Moel Tryfan, Rhosgadfan, Caernarfon PDF 184 KB Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/0125/17/MW i ganiatáu 5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn AELODAU LLEOL: Cynghorydd
Dilwyn Lloyd, Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones a’r Cynghorydd Edgar Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais o dan Adran
73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/0125/17/MW i ganiatáu 5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim
symudiadau HGV ar y Sadwrn. (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff yr ar gefndir y cais, gan nodi bod y gweithredwr
yn cynnig amrywio’r amod perthnasol ar bob caniatâd presennol ar y safle i
waredu’r cyfleuster ar gyfer mynediad i gerbydau HGV ar ddyddiau Sadwrn ac yn
ei dro caniatáu un symudiad ychwanegol y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Byddai hyn yn arwain at gyfanswm o 21 cerbyd HGV yn cael mynediad i’r safle bob
wythnos fyddai yn cynrychioli cynnydd o un symudiad ychwanegol yr wythnos yn
unig. Amlygwyd
mai prif fuddion y cynnig fyddai atal cerbydau rhag teithio drwy Benyffridd, Rhosgadfan a Rhostryfan ar ddyddiau Sadwrn, pan
ei bod yn debygol y bydd mwy o drigolion yn parcio ar y ffordd a mwy o draffig
lleol. (b) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelodau lleol (nad oedd / ac oedd yn aelodau
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Ers
sefydlu Grŵp Cyswllt dros dair blynedd yn ôl, cydweithio da wedi bod gyda
gweithredwr y chwarel a’r gymuned leol. Drwy gynnal trafodaethau, problemau a
phryderon yn cael eu datrys. ·
Y
cais yn cynnig gwelliannau i’r drefn bresennol. Hyn i’w groesawu ·
Cefnogol
i’r cais (c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais (ch) Wrth drafod y cais, nododd un o’r aelodau bod
y cwmni yn cael ei reoli yn dda , yn gwneud gwaith
da yn lleol ac yn cyflogi yn lleol. PENDERFYNWYD
caniatáu y cais yn amodol ar yr
addasiad a ganlyn i amodau 4 a 10 o
gais cynllunio C18/0125/17/MW: 4. Ac eithrio mewn argyfwng fel bod modd parhau i
weithio yn ddiogel yn y chwarel (ac fe roddir gwybod am hyn i'r Awdurdod
Cynllunio Mwynau cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosib), neu oni bai bod yr
Awdurdod Cynllunio Mwynau wedi dod i gytundeb i'r gwrthwyneb yn ysgrifenedig:- i) ni ellir ymgymryd â gweithrediadau sy'n
gysylltiedig â gwaredu deunydd o ddyddodion gweithio mwynau, gwaredu priddoedd
a gorlwyth, gwaith adfer, gwasanaethu, cynnal a chadw a phrofi offer sefydlog a
symudol ac eithrio yn ystod yr amseroedd a ganlyn: ·
07.30awr i
18.00awr ddydd Llun i ddydd Gwener a 07.30awr i 13.00awr ar ddydd Sadwrn, ii) Ni fydd gwaith mathru a sgrinio'n digwydd ac
eithrio yn ystod yr oriau a ganlyn: ·
10.00 i 15.00 awr,
ddydd Llun i ddydd Gwener. iii) Ni fydd cerbydau HGV yn mynd i mewn nac allan o'r
safle ac eithrio rhwng yr amseroedd a ganlyn:
·
08.00awr i
16.00awr o ddydd Llun i ddydd Gwener iv) Ni fydd unrhyw weithrediadau ac eithrio'r rhai
sy'n ymwneud â monitro brys neu amgylcheddol neu bwmpio dŵr yn digwydd ar
y safle ar ddyddiau Sul neu ar wyliau Cyhoeddus neu wyliau Banc. 10. Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais Rhif C18/1126/17/LL Chwareol Moel Tryfan, Rhosgadfan, Caernarfon PDF 185 KB Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C16/0063/17/MW i ganiatáu 5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn AELODAU LLEOL:
Cynghorydd Dilwyn Lloyd, Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones a’r Cynghorydd Edgar Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar
ganiatâd cynllunio C16/0063/17/MW i ganiatáu 5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun
i Ddydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff yr ar gefndir y cais, gan nodi bod y
gweithredwr yn cynnig amrywio’r amod perthnasol ar bob caniatâd presennol ar y safle
i waredu’r cyfleuster ar gyfer mynediad i gerbydau HGV ar ddyddiau Sadwrn ac yn
ei dro caniatáu un symudiad ychwanegol y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Byddai hyn yn arwain at gyfanswm o 21 cerbyd HGV yn cael mynediad i’r safle bob
wythnos fyddai yn cynrychioli cynnydd o un symudiad ychwanegol yr wythnos yn
unig. (b) Amlygodd
yr aelodau lleol eu bod yn gefnogol i’r cais (c) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amodau 6
ac 11 o gais cynllunio C16/0063/17/MW: 6. Ac eithrio
gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd
yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol
arall yn y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na phum llwyth HGV y
dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid
gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael
i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod. 11. Ac
eithrio mewn argyfwng fel bod modd parhau i weithio yn ddiogel yn y chwarel (ac
fe roddir gwybod am hyn i'r Awdurdod Cynllunio Mwynau cyn gynted ag y bo'n
ymarferol bosib), neu oni bai bod yr Awdurdod Cynllunio Mwynau wedi dod i
gytundeb i'r gwrthwyneb yn ysgrifenedig:- i) ni ellir ymgymryd â gweithrediadau sy'n
gysylltiedig â gwaredu deunydd o ddyddodion gweithio mwynau, gwaredu priddoedd
a gorlwyth, gwaith adfer, gwasanaethu, cynnal a chadw a phrofi offer sefydlog a
symudol ac eithrio yn ystod yr amseroedd a ganlyn: ·
07.30awr i
18.00awr ddydd Llun i ddydd Gwener a 07.30awr i 13.00awr ar ddydd Sadwrn, ii) Ni fydd gwaith mathru a sgrinio'n digwydd ac
eithrio yn ystod yr oriau a ganlyn: ·
10.00 i 15.00 awr,
ddydd Llun i ddydd Gwener. iii) Ni fydd cerbydau HGV yn mynd i mewn nac allan o'r
safle ac eithrio rhwng yr amseroedd a ganlyn:
·
08.00awr i
16.00awr o ddydd Llun i ddydd Gwener iv) ni fydd
unrhyw weithrediadau ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â monitro brys neu
amgylcheddol neu bwmpio dŵr yn digwydd ar y safle ar ddyddiau Sul neu ar
wyliau Cyhoeddus neu wyliau Banc. Y datblygiad i fod
yn destun yr un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd C16/0063/17/MW i
reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod
yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu
gweithrediadau ac adfer dilyniadol. |
|
Cais Rhif C18/0722/41/LL Fferm Afonwen, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd PDF 100 KB Cais ar gyfer darparu safle ar gyfer 15 uned teithiol gan gynnwys ystafell hamdden a toiledau AELOD LLEOL
Cynghorydd Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer darparu safle ar
gyfer 15 uned deithiol gan gynnwys ystafell hamdden a thoiledau (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan
nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu maes carafanau teithiol. Eglurwyd bod
y bwriad yn cynnwys creu safle annibynnol ar gyfer lleol 15 o garafanau
teithiol ynghyd a phlannu coed cynhenid draenen ddu, wen a chelyn gyda ffens
goed er mwyn darparu ffin rhwng y silwair a phit silwair. Nodwyd
bod y safle yn sefyll yng nghefn gwlad agored ac o fewn ffiniau fferm bresennol
gydag unedau gwyliau. Adroddwyd bod sied amaethyddol gyda chyfleusterau presennol
yn ochri gyda’r safle gyda bwriad o
ddefnyddio’r adeilad i ddarparu cyfleusterau toiledau a chawodydd. Amlygwyd bod
y safle wedi ei guddio gan wrych a choed ar y ffin rhyngddo a’r briffordd fydd
yn sicrhau bod y safle wedi ei guddio yn eithaf da o’r dirwedd ehangach.
Eglurwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd
fel rhan o’r cais yn cynnwys tirlunio ychwanegol ar hyd terfyn deheuol y safle
sydd yn gwahanu'r safle o’r pit silwair gerllaw. Nodwyd bod y cynlluniau hyn yn cynnwys
mesurau lliniaru ar gyfer y datblygiad arfaethedig fyddai’n atgyfnerthu’r
tirweddu presennol. Ystyriwyd bod dyluniad, gosodiad ac edrychiad y bwriad yn
dderbyniol ac na fyddai’n peri newid sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd. O
safbwynt agosatrwydd at y rhwydwaith ffyrdd, amlygwyd bod gan y safle fynediad
uniongyrchol i ffordd ddosbarth 1 A497 gyda gwelliannau diweddar wedi bod i’r
fynedfa yn sgil cynllun gwella'r ffordd. Ni ystyriwyd y byddai angen gwneud
addasiad pellach i’r fynedfa er gwasanaethu’r bwriad ac ategwyd bod yr Uned Drafnidiaeth
wedi cadarnhau na fyddai ‘n achosi effaith andwyol o ran diogelwch ffyrdd. Tynnwyd sylw at
ymatebion yr ymgynghoriad yn yr adroddiad ac amlygwyd na dderbyniwyd ymatebion
gan y cyhoedd. Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd gan Cyngor Cymuned
fod gormod o safleoedd o fewn ardal gyfyng nodwyd bod paragraff 6.3.81 yn dilyn
polisi TWR 5 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol yn gofyn sicrhau na fydd gormodedd
o unedau teithio o fewn un ardal yn ychwanegu at broblemau gwasanaethu na
niweidio cymeriad neu adnoddau naturiol, yr ardal. Gan fod y safle wedi ei
leoli tu allan i’r AHNE ni ystyriwyd na fyddai yn ychwanegu at broblem
gwasanaethu nac yn niweidio cymeriad yr ardal ac felly'r bwriad yn dderbyniol. (b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais (c) Wrth
drafod y cais, amlygodd un o’r aelodau bod Cyngor Cymuned / Tref wedi gwrthod y
cais ar sail gormodedd PENDERFYNWYD
caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad 1.
Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2.
Unol â chynlluniau
a gyflwynwyd. 3.
Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w
cyfyngu i 15. 4.
Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. 5.
Defnydd gwyliau yn unig. 6.
Cadw cofrestr. 7.
Dim storio carafanau teithiol ar y safle. 8.
Cyflawni’r cynllun tirlunio. 9.
Gosod y tanc septig yn weithredol cyn defnyddio’r
safle 10. Rhaid gosod yr unedau yn unol â chynllun 1515/03 (diwygiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cais Rhif C18/1055/41/LL Bryn Hyfryd, Chwilog, Pwllheli PDF 101 KB Newid amod 2 of C14/0113/41/AM i ymestyn amser cyflwyno materion a gadwyd yn nol AELOD LLEOL
Cynghorydd Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid
amod 2 of C14/0113/41/AM i ymestyn amser cyflwyno materion a gadwyd yn ôl. (a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i newid amod er mwyn ymestyn
y cyfnod amser i gyflwyno manylion a gadwyd yn ôl ar gais amlinellol i godi 21 o dai (gan gynnwys
7 ty fforddiadwy) ar safle ar gyrion pentref Chwilog. Tynnwyd
sylw at ymatebion yr ymgynghoriad yn yr adroddiad ac amlygwyd na dderbyniwyd
ymatebion gan y cyhoedd. Cyfeiriwyd at y ffurflen sylwadau ychwanegol lle
nodwyd bod y Cyngor Cymuned wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r
bwriad. Gan
mai cais i newid amod 2 o ganiatâd amlinellol oedd gerbron er mwyn ymestyn yr
amser a roddwyd i gyflwyno materion a gadwyd yn ôl, nid oedd unrhyw newid i’r
cynllun, nac i’r cynllun a ganiatawyd yn flaenorol. Ategwyd bod y bwriad eisoes
wedi ei dderbyn ond bod angen ystyried os yw’r amgylchiadau neu’r sefyllfa yn
nhermau cydymffurfio a’r polisiau cynllunio wedi
newid ers caniatáu’r cais yn wreiddiol. Amlygwyd
bod y cais amlinellol wedi ei benderfynu ar sail polisïau Cynllun Datblygu
Unedol Gwynedd. Erbyn hyn, nodwyd bod Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn wedi
ei fabwysiadau ac felly ystyriwyd bod newid materol wedi bod yn y polisïau ers
penderfynu y cais blaenorol. Adroddwyd bod y safle yn parahu
i fod wedi ei ddynodi fel safle ar gyfer ei ddatblygu o fewn y cynllun newydd a
bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau cyfredol o ran tai
fforddiadwy, materion ieithyddol, trafnidiaeth, bioamrywiaeth a choed,
llifogydd, llecynnau agored, cyfleusterau addysgol a mwynderau. Ystyriwyd
felly, bod y cais yn parhau yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau
lleol a chenedlaethol (b) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais Penderfynwyd
caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad, yn ddarostyngedig i’r cytundeb 106 presennol a chyfraniad
addysgol 1. Amser 2. Cyflwyno
materion a gadwyd yn ôl o fewn tair blynedd. 3.
Ail-restru holl amodau’r caniatâd blaenorol |