skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen Churchman, Eric M. Jones, Simon Glyn a Dilwyn Lloyd  

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 136 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 03.09.18 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Medi 2018, fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

6.

Rhif cais: C18/0684/16/R3 - Parc Bryn Cegin, Llandygai, Bangor pdf eicon PDF 109 KB

Creu maes parcio newydd gan gynnwys gwaith draenio, gwaith tyrchio, arwyddion ynghyd a golau stryd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu maes parcio newydd gan gynnwys gwaith draenio, gwaith tyrchio, arwyddion ynghyd â       golau stryd

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, ar gyfer creu maes parcio newydd, gan gynnwys gwaith cysylltiedig, ar lain wag presennol ar Barc Bryn Cegin, Llandygai (Llain 1). Bwriad y cynllun yw darparu cyfleusterau Parcio a Rhannu fel rhan o gynllun ehangach i osod cyfleusterau mewn lleoliadau strategol ar draws gogledd Cymru i liniaru’r effeithiau trafnidiaeth tebygol yn ystod cyfnod adeiladu gorsaf bŵer Wylfa Newydd.  Bydd y safle’n darparu llefydd parcio i thua 178 car gyda 12 man parcio ar gyfer yr anabl,  11 man gwefru ceir trydan, mannau cadw beiciau a beiciau modur ac arosfan bysiau.

 

Adroddwyd y byddai’r cyfleuster yn 0.955ha o arwynebedd wedi’i leoli ar Safle Busnes Strategol Rhanbarthol Bryn Cegin oddeutu 1km i’r de o ffin ddatblygu Canolfan Is Ranbarthol Bangor fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLL). Ategwyd ei fod yn rhan o safle sydd wedi ei warchod fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol.  Gwarchodir Parc Bryn Cegin fel Safle Busnes Strategol Rhanbarth ar gyfer busnesau yn Nosbarthiadau Defnydd B1, B2 & B8 gan bolisi CYF 1 y CDLL. Dengys bod cyfiawnhad gorbwysol ar gyfer y datblygiad ac oherwydd pwysigrwydd strategol y cynllun a’r manteision trafnidiaeth ac economaidd a ddeilliai ohono, bod cyfiawnhad cryf dros orbwyso’r dynodiad yn yr achos penodol hwn.

 

Amlygwyd bod dau bolisi penodol o fewn y CDLL oedd yn berthnasol i’r cynnig hwn - polisi strategol PS 12 (Wylfa Newydd - cyfleusterau parcio a theithio a pharcio a rhannu) a PS 9

(Wylfa Newydd a Datblygiad Perthynol).

 

Adroddwyd bod tri eiddo preswyl Rhos Isaf yn cefnu ar y safle ac y byddai’r datblygiad i’w weld o gefnau’r eiddo hynny. Er hynny, byddai’r safle parcio ar lefel is na’r tai presennol a bwriad i osod sgrin goed newydd rhwng y lleoliadau. O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, ategwyd y byddai’r ardal parcio yn llai newidiol na defnydd diwydiannol.

 

Nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth nac Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun o safbwynt ei effaith ar drafnidiaeth.

 

Amlygwyd sylwadau hwyr a dderbynwyd gan Wasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ac yr ystyrir fod y bwriad yn cwrdd gyda pholisïau perthnasol gyn belled fod amod priodol yn cael ei osod ar unrhyw ganiatâd.

 

O ganlyniad i’r asesiadau, ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol ar gyfer y safle ac yn debygol o fod o bwysigrwydd strategol i’r sir.  Ategwyd na ystyriwyd fod y bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau a gyflwynwyd gan yr Aelod Lleol yn nodi nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais; ei fod yn croesawu'r fenter rhannu ceir a bod angen ar y cyfleuster yn lleol; nad oedd diddordeb wedi ei ddangos i’r safle ar gyfer defnydd diwydiannol.

 

(b)     Cynigwyd ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Rhif cais: C18/0048/39/LL - Cwt Glan Mor 15, Traeth Abersoch, Abersoch pdf eicon PDF 111 KB

Adeiladu cwt glan mor newydd heb gydymffurfio ac amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0537/39/L dyddiedig 3 Gorffennaf 2015

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts

 

Dolen i'r  dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu cwt glan môr newydd heb gydymffurfio ac amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0537/39/L dyddiedig 3 Gorffennaf 2015

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i gadw gwaith o ddymchwel y cwt glan môr gwreiddiol ac adeiladu cwt glan môr newydd yn ei le heb gydymffurfio â chaniatâd cynllunio a roddwyd ar y 3 Gorffennaf 2015.

 

Saif y cwt ymysg rhes o gytiau glan y môr eraill ar draeth Borth Fawr yn Abersoch ar safle arfordirol o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn (AHNE), ger Arfordir Treftadaeth ac o fewn dynodiad Ardal Rheoli Newid Arfordirol.

 

          Nodwyd bod y cais yn ymwneud â chadw cwt glan môr sydd yn fwy na’r hyn a ganiatawyd  ac yn sylweddol fwy na’r hyn oedd yn bodoli ar y safle yn wreiddiol. Ategwyd bod llwyfan pren yn ymestyn allan 4.9 medr i flaen y cwt, gyda lle storio caeedig oddi tano. Tra bod y cwt a ganiatawyd yn wreiddiol yn ymestyn i’r un uchder a’r cytiau cyfochrog, nodwyd bod crib to'r cwt a adeiladwyd yn mesur 0.9 medr yn uwch na’r cytiau naill ochr a’r llall. Amlygwyd bod drws dur o fath ‘roller shutter’ wedi ei osod ar y blaen yn rhoi ymddangosiad diwydiannol i’r cwt ac oherwydd ei faint a’r cyfuniad o’i ddyluniad a gorffeniad allanol, ymdebygir y cwt i adeilad diwydiannol yn hytrach na chwt glan môr traddodiadol.

 

          Gyda’r safle wedi ei leoli o fewn AHNE ystyriwyd polisi AMG 1. Gan fod y cwt yn cymryd lle un blaenorol, ac ymysg rhes o gytiau tebyg, ni ystyriwyd y byddai egwyddor cyfnewid cwt glan mor yn effeithio’n sylweddol ar osodiad na golygfeydd arwyddocaol i mewn i’r AHNE. Serch hynny, nodwyd bod Swyddog AHNE yn pryderu nad yw’r cwt yn unol â’r hyn a ganiatawyd yn wreiddiol. Nid yw’r defnydd o ddrws ‘roller shutterynddo’i hun yn rheswm digonol i gyfiawnhau gwrthod y cais presennol, a gellid gosod amod yn gorfodi i’r llwyfan pren gael ei orchuddio gyda phren pe bai angen. Er hynny, gyda’r ymdeimlad o naws diwydiannol i edrychiad a gorffeniad presennol yr adeilad ystyriwyd  bod y datblygiad yn ei ffurf bresennol yn groes i bolisi AMG 1 ac egwyddorion polisi PS 19 CDLL.

 

          Amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd ac nad oedd bwriad ganddo i gyfaddawdu.

 

          Wedi asesu’r bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol, ac ystyried yr ymatebion a’r sylwadau a gyflwynwyd, ystyriwyd bod y cwt glan môr a adeiladwyd yn annerbyniol o ran maint, crynswth a dyluniad; yn anghymesur â chymeriad ac edrychiad traddodiadol cytiau glan môr, gyda dyluniad yn debycach i adeilad diwydiannol. Nodwyd os caniateir gadael i gytiau glan môr mwy a mwy cael eu datblygu, bydd eu heffaith yn difetha naws a chymeriad ardal glan môr Abersoch, a’r AHNE sydd yn ddynodiad o bwysigrwydd cenedlaethol. 

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y dyluniad wedi ei gymeradwyo.

·         Nad oedd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Rhif cais: C18/0599/39/LL - 4, Pen y Bont, Lon Engan, Abersoch pdf eicon PDF 84 KB

Teras to i'r ail lawr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Teras to i'r ail lawr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio gan yr Aelod Lleol. Roedd yn gwrthwynebu’r bwriad gan nad oedd yn gweddu i’r ardal. Nid oedd gwrthwynebiadau eraill wedi eu derbyn.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer addasu to cefn eiddo preswyl er mwyn creu teras yn yr ail lawr.  Eglurwyd bod yr eiddo ynghanol teras o dai sydd yn ffurfio rhan o ddatblygiad ehangach o dai newydd wedi eu lleoli o fewn ffin datblygu Abersoch.  Ategwyd bod llofft eisoes ar yr ail lawr ond gyda rhes o ffenestri ar lefel llawr y llofft ac un ffenestr to (velux). Golygai’r bwriad y byddai’n colli ychydig o arwynebedd llawr o fewn y llofft presennol, ond byddai’r bwriad yn cynnig mwy o olau naturiol a golygfeydd dros y pentref.

 

          O ran ei leoliad a’i faint ystyriwyd mai yn lleol y byddai effaith y bwriad ac er bod tai annedd wedi eu lleoli naill ochr i’r safle, ni ystyriwyd  y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol o ran gor-edrych neu golli preifatrwydd gan fod cefnau’r tai yn weladwy yn barod. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt maen prawf 7 Polisi PCYFF 2 CDLL.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

         

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Yn unol gyda’r cynlluniau.