Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Dilwyn Lloyd, Dewi Wyn Roberts (Aelod Lleol).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. 

Cofnod:

(a)       Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Gruffydd Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.3 ar y rhaglen (cais cynllunio C18/0023/42/LL);

·        Y Cynghorydd Simon Glyn (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.6 ar y rhaglen (cais cynllunio C18/0322/46/LL);

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 117 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2018, fel rhai cywir. 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2018, fel rhai cywir.

 

5.

CAIS I GOFRESTRU LLWYBR CYHOEDDUS SY'N RHEDEG O FLAEN MAWDDACH CRESCENT I BONT ABERMAW, YNG NGHYMUNED ARTHOG, AR Y MAP SWYDDOGOL pdf eicon PDF 179 KB

I gyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Louise Hughes

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn deillio o gais i gofrestru llwybr cyhoeddus yng Nghymuned Arthog ar Fap Swyddogol Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

 

         Nododd y Cadeirydd y derbyniwyd llythyr hwyr gan Gyngor Tref Abermaw yn cwyno nad oedd y Cyngor hwnnw wedi cael y cyfle i gyflwyno sylwadau ar y cais.  Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Amgylchedd bod y tir dan sylw o fewn tiriogaeth Cyngor Cymuned Arthog  ac nad oedd yn rheidrwydd i gysylltu gydag unrhyw Gyngor Cymuned / Tref arall ar y mater. 

 

         Ymhelaethwyd ar gefndir y cais, cefndir cyfreithiol ynghyd â  thystiolaeth i gefnogi’r cais gan y Rheolwr Amgylchedd a chanolbwyntir ar y llwybr rhwng A a B ar gynllun y cais.  Gwnaed y cais yn seiliedig â chyd-destun Adran 53 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.  Wrth ystyried ceisiadau o’r fath rhaid edrych ar y dystiolaeth dros ac yn erbyn y cais ac yn y cyd-destun hwn yn seiliedig ar y ddeddf a gyfeirir ati uchod ynghyd â Deddf Priffyrdd 1980.  O edrych ar y dystiolaeth i gofrestru ar sail defnydd ac yn benodol oherwydd  bod y cyhoedd wedi cerdded ar hyd y llwybr yn ddi-rwystr dros gyfnod o fwy nag ugain mlynedd, rhaid bod yn sicr bod y perchnogion tir wedi rhoi hawl a chaniatâd i’r defnydd.  Edrychir ar wybodaeth o blaid ac yn erbyn y cais a’r ffactor allweddol ydoedd bodolaeth arwyddion a’r hyn mae arwyddion yn ddweud.  Cyfeirir at Adran 31 (3) o’r ddeddf sef:

 

         “Where the owner of the land over which any such way as aforesaid passes-

 

(a)  Has erected in such manner as to be visible to persons using the way a notice inconsistent with the dedication of the way as a highway; and

(b)  Has maintained the notice after the 1st January 1934, or any later date on which it was erected,

 

the notice, in the absence of proof of a contrary intention, is sufficient evidence to negative the intention to dedicate the way as a highway”.

 

         Hynny yw, bod arwyddion wedi eu codi ar y safle sydd yn groes i’r honiad bod hawl cyhoeddus yn bodoli.  Drwy wneud hyn rhaid ystyried dealltwriaeth defnyddiwr cyffredin o’r hyn sydd ar yr arwydd ynghyd â nod y perchnogion tir.

 

         Cyfeiriwyd hefyd at ffactorau a oedd yn amherthnasol i’r cais e.e. a yw’r llwybr yn ddymunol a golygfeydd ohono. Felly yr unig beth a ellir ei ystyried ydoedd prun ai oedd hawliau tramwy cyhoeddus yn bodoli.  

 

         Tynnwyd sylw at gefndir hanesyddol y llwybr i ddatblygiad Mawddach Crescent a’r ardal o gwmpas.    

 

         O safbwynt y dystiolaeth sy’n cefnogi’r cais, cyfeiriwyd at grynodeb o dros 100 o ddatganiadau gan unigolion sydd yn datgan iddynt ddefnyddio’r llwybr.  Gweler grynodebau llawn yn Atodiad 4 a 4.2 i’r adroddiad.  Yn ychwanegol ar y ffurflen sylwadau hwyr ceir gwybodaeth o faint mor aml y defnyddiwyd y llwybr. 

 

         Yng nghyd-destun y dystiolaeth i’r gwrthwyneb, cyfeiriwyd at Atodiad 8 i’r adroddiad, lle ceir datganiad gan berchnogion / cyn-berchnogion sydd yn nodi rhesymeg i beidio defnyddio’r llwybr a chyfeirir yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

6.1

Cais Rhif: C17/0330/14/LL - Cyn Safle Gwesty Marine, North Road, Caernarfon pdf eicon PDF 134 KB

Adeiladu 5 (gan gynnwys 2 fforddiadwy) ynghyd â chreu mynedfa i'r gefnffordd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu 5 tŷ (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â chreu mynedfa i'r gefnffordd

 

(a)      Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan atgoffa’r Pwyllgor y gohirwyd y cais ym mhwyllgor mis Mawrth er mwyn asesu effaith y datblygiad ar y goeden sydd â Gorchymyn Coed arni ac sydd wedi ei lleoli yng ngardd gefn Ynys Tudur sydd gyfochrog â safle’r cais.  O ganlyniad fe gyflwynwyd Arolwg Coed gan yr ymgeisydd a daw’r Arolwg i’r canlyniad gellir sicrhau diogelwch y goeden yn amodol ar ddilyn ac ymgymryd â thechnegau adeiladu gofalus.

 

O’r 5 uned a fwriedir, bydd 3 uned breswyl wedi eu lleoli yn nhu blaen y safle a 2 dŷ ar wahân yng nghefn y safle.  Lleolir y safle oddi fewn i ffin ddatblygu Caernarfon yn y Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn ar y Cyd ond nid yw wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd arbennig. 

 

Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad statudol.

 

Nodwyd nad oedd y wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Mawrth wedi newid a bod y gohiriad yn ymwneud â materion bioamrywiaeth sef pryder ynglŷn ag effaith ar goeden a Gorchymyn Coed.  Yn seiliedig ar y pryderon gofynnir i arbenigwr coed fod ar safle yn ystod y gwaith adeiladu er mwyn sicrhau bod y gwaith tir yn cael ei oruchwylio o fewn ardal diogelu gwreiddiau’r goeden. Roedd y Swyddog Coed yn cadarnhau y dylid cynnwys amod mewn unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n datgan bydd rhaid i’r ymgeisydd ddilyn mesuriadau lliniaru sydd wedi eu nodi yn yr Arolwg Coed er mwyn osgoi niwed i’r goeden. 

 

Roedd yr argymhelliad yn parhau fel yr hyn drafodwyd yn y Pwyllgor mis Mawrth sef i’w ganiatáu yn unol ag amodau perthnasol.

 

PENDERFYNWYD:     Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn sicrhau bod y 2 dŷ fforddiadwy allan o gyfanswm o 5 yn dai fforddiadwy yn y lle cyntaf ac am byth ac i amodau perthnasol yn ymwneud â:-

 

1. 5 mlynedd.

2. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.

3. Llechi naturiol.

4. Cytuno gyda deunyddiau allanol y tai.

5. Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir parthed lleoli ffenestri.

6. Tynnu hawliau datblygu ar gyfer estyniadau.

7. Amod diogelu coeden a gorchymyn coed arni.

8. Amodau priffyrdd yr Uned Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.

9. Amod Dŵr Cymru parthed diogelu’r brif garthffos gyfunol.

 

 

6.2

Cais Rhif: C17/1172/19/LL - Cartref Nyrsio Plas y Bryn, Bontnewydd, Caernarfon pdf eicon PDF 146 KB

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunan gynaliol, codi adeilad ar wahân i'w defnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i'r adeilad presennol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd cyn gartref nyrsio preswyl i greu 4 uned gwyliau hunan gynhaliol, codi adeilad ar wahan i’w ddefnyddio fel pwll nofio ynghyd ag estyniadau a newidiadau i’r adeilad presennol.

 

 

(a)      Eglurodd y Swyddog Rheolaeth Dablygu yn seiliedig ar bryderon sydd wedi codi ynghylch y cais, a gofynnwyd i’r Pwyllgor ei ohirio ar gyfer cynnal ymweliad á’r safle ar ddiwrnod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio.  

 

PENDERFYNWYD:   Gohirio’r cais a chynnal ymweliad á’r safle fel awgrymir uchod.

 

6.3

Cais Rhif: C18/0023/42/LL - Bwthyn Tynpwll, Lon-ty'n-pwll, Nefyn, Pwllheli pdf eicon PDF 92 KB

Dymchwel uned storio bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gruffydd Williams

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel uned storio bresennol ac adeiladu 2 uned wyliau (cais diwygiedig)

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle yn gorwedd yng nghefn gwlad ac oddi fewn i’r tirwedd o ddiddordeb hanesyddol eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli.  Ceir mynediad i’r safle ar hyd ffordd ddi-ddosbarth sydd gyda mynediad i ffordd ddosbarth 2 oddeutu 85 medr i’r de o’r safle.

 

Cyfeiriwyd at yr ymatebion i’r broses ymgynghori statudol ynghyd â’r polisïau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad.

 

Nodwyd bod polisi TWR 2 Cynllun Datblygu Lleol yn gefnogol i ddatblygu llety gwyliau parhaol cyn belled a’u bod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Galluoga’r polisi hefyd i godi llety sy’n adeilad newydd os yw’r safle o fewn ffin datblygu neu’n gwneud defnydd o safle addas a ddatblygwyd o’r blaen.  Ceir uned wyliau bresennol ym Mwthyn Tynpwll a byddai’r bwriad dan sylw yn ymestyn sefydliad llety gwyliau presennol. Ystyrir felly bod y datblygiad yn dderbyniol o ran egwyddor adeiladu unedau gwyliau newydd.

 

Eglurwyd bod y cais yn ailgyflwyniad o gais blaenorol a gafodd ei wrthod oherwydd bod graddfa’r bwriad yn ormodol ar gyfer y safle ac nad oedd yn adlewyrchu’r hyn oedd o’i amgylch ac ystyrir o ran niferoedd unedau a dyluniad bod y bwriad dan sylw yn welliant ar y cais blaenorol.

 

Nid oedd gwrthwynebiad gan yr Uned Drafnidiaeth o safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad.

 

Yn dilyn asesu’r holl ystyriaethau ynghyd â’r ymatebion a sylwadau, ystyrir bod y defnydd, dyluniad a’r deunyddiau yn dderbyniol ac ddim yn amharu ar fwynderau, cymeriad neu edrychiad y safle na’r ardal o’i gwmpas.  Argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatáu’r cais a oedd yn cynnwys amod i gyfynu’r defnydd i uned gwyliau a chadw cofrestr o’r defnyddwyr.

 

(a)     Nododd yr Aelod Lleol nad oedd yn gefnogol i’r cais am y rhesymau canlynol:

 

·         nad oedd prinder llety na galw am fwy o lety gwyliau

·         y byddai dymchwel y cwt gwair ac adeiladu dau uned yn ei le yn gosod cynsail i geisiadau cyffelyb i’r dyfodol

·         ni ddylid caniatáu i droi adeiladau fferm fel hyn

 

(b)   Ategodd Aelod y sylwadau uchod gan nodi ymhellach bod digon o dai haf a rhoddodd enghraifft o 4 tŷ wedi eu gwerthu ym mhentref Edern yn ddiweddar ar gyfer tai gwyliau.  Pryderwyd hefyd am y tueddiad i ail-enwi a seisnigeiddio enwau tai.  Gwelwyd stadau o dai yn y pentref ar gyfer tai gwyliau a gofynnwyd faint o’r tai hyn oedd wedi cofrestru fel unedau gwyliau ar gyfer treth busnes.

(c)       Cynigwyd ac eilwyd i wrthod y cais yn seiliedig ar ormodedd o dai gwyliau.

 

(dd)  Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Cynllunio y gellir gofyn i swyddogion wneud mwy o waith ymchwil er mwyn asesu’r effaith gronnol o unedau gwyliau, fodd bynnag eglurwyd nad oedd cystadleuaeth yn fater cynllunio.  Fodd bynnag, pwysleislwyd bod polisi TWR2 yn caniatau adeilad newydd ar safle priodol ac roedd y swyddogion o’r farn bod y safle dan sylw yn un priodol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.3

6.4

Cais Rhif: C18/0098/39/LL - Cwt Glan y Môr Ynys Fawr, Porth Mawr, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 100 KB

Dymchwel cwt glan y mor presennol a codi cwt newydd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel cwt glan y môr presennol a chodi cwt newydd.

 

(a)     Nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu y derbyniwyd sylwadau hwyr gan yr Aelod Lleol a oedd yn datgan ei bryder ynglŷn â maint yr adeilad a’r cwt yn sefyll ar draeth oddi mewn i’r AHNE.  Teimlai bod datblygiadau o’r fath yn niweidiol i edrychiad y traeth ac nad oedd yn gweddu ac yn or-ddatlbygiad.

 

(a)      Ymhelaethodd y swyddog ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddisodli cwt glan môr Ynys Fawr gyda cwt newydd mwy ar draeth Borth Fawr, Abersoch.  Lleolir y cwt presennol i’r cefn o’r rhes o gytiau glan y môr sydd ar y traeth.  Yn dilyn pryderon y swyddogion perthnasol ynglŷn ag uchder y cwt arfaethedig derbyniwyd gynllun diwygiedig sy’n dangos lleihad yn yr uchder.  Saif y cwt ar safle arfordirol cefn gwlad o fewn yr AHNE, ger Arfordir Treftadaeth ac o fewn dynodiad Ardal Rheoli Newid Arfordirol.

 

         Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd â’r broses ymgynghori a’r ymatebion o fewn yr adroddiad.

 

         O safbwynt y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol, mynegwyd pryder yn deillio o’r ymgynghoriadau cyhoeddus yn seiliedig ar faint ac uchder.  Er bod y bwriad yn golygu cyfnewid cwt am un mwy, ni ystyrir bod y cynnig yn afresymol o ran graddfa, uchder a mas, nac yn or-ddatblygiad, gan ei fod i raddau helaeth yn dilyn yr un patrwm maint â chytiau eraill gerllaw.  Gan bod dyluniad y bwriad yn addas i gwt glan môr a’i osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder a thriniaeth drychiadau’r bwriad yn gymharol debyg i weddill y cytiau ar y traeth, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol ac yn parchu ei gyd-destun safle a’i le yn nhirwedd yr AHNE.

 

         Yn dilyn asesu’r holl ystyriaethau, ystyriwyd bod y cwt glan môr arfaethedig yn dderbyniol o ran maint, dyluniad a deunyddiau, ac argymhelliad y swyddogion ydoedd caniatau’r cais gyda’r amodau perthnasol a oedd yn cynnwys dim defnydd byw na chysgu achlysurol.

 

(b)      Cynigiwyd, eilwyd a phleidleiswyd i ganiatáu’r cais.

 

PENDERFYNWYD:   Caniatáu gydag amodau:

 

1.    Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.    Unol â’r cynlluniau

3.    Lliw glas BS 18 E 53 i’r cwt oni bai y cytunir yn wahanol ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.    Dim defnydd byw na chysgu achlysurol.

 

 

6.5

Cais Rhif: C18/0235/45/LL - 25, Stryd Moch, Pwllheli pdf eicon PDF 109 KB

Newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) i gaffi (dosbarth defnydd A3).

 

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dylan Bullard

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd siop (dosbarth defnydd A1) i gaffi (dosbarth defnydd A3).

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod ar gyfer newid defnydd siop (A1) i gaffi (A3) themau Cymraeg a fyddai’n arddangos crefftau a chynnyrch lleol a cherddoriaeth Cymraeg. Nodwyd nad oedd bwriad i wneud newidiadau allanol, ond bod bwriad i osod echdynydd ar dalcen yr adeilad.

 

Esboniwyd mai defnydd diwethaf yr uned oedd fel siop Ethel Austin, a’I bod wedi cau ers nifer o flynyddoedd, a bod caniatâd cynllunio wedi ei roi ers hynny i’w newid i ddwy siop ar wahân gyda stiwdio dawns uwchben.

 

Saif yr adeilad o fewn prif ardal siopa a chanol tref canolfan wasanaeth drefol Pwllheli, a parth llifogi C1.

 

Cyfeiriwyd at yr ymatebion i’r ymgynghoriadau o fewn yr adroddiad. Nodwyd nad oedd unrhyw wybodaeth newydd wedi ei derbyn ers hynny. Derbyniwyd sylwadau gan y cyhoedd ar y cais ac maent wedi eu nodi yn yr adroddiad.

 

Ers derbyn caniatâd i drosi’r adeilad yn ddwy siop yn 2014, eglurwyd nad oedd y siop dan sylw erioed wedi ei meddiannu ond bod y siop gyfochrog yn gweithredu fel bwci William Hill. Cyn hynny, siop Ethel Austin oedd yn meddiannu’r holl eiddo, cyn i’r gadwyn fynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2010 ac fe’i meddianwyd yn fyr yn dilyn hynny gan fusnes Life and Style Retail tan 2011. O ystyried cyfnod hir sydd wedi pasio ers i’r siop sefyll yn wag, credir fod sail a chyfiawnhad i gytuno ar y newid defnydd er mwyn dod a’r adeilad yn ôl i ddefnydd a chael ymadael ar flaen gwag mewn lleoliad amlwg a chanolog yn y dref. Mae’r defnydd bwriedig fel caffi yn atyniad o fewn canol dref, ac ni ystyrir y byddai’r newid defnydd yn cael effaith andwyol ar swyddogaeth y prif ardal siop, na’r canol dref.

 

Bwriedir gosod echdynnydd ar yr adeilad, a disgwylir am sylwadau Uned Gwarchod y Cyhoedd arno ac yn dilyn derbyn sylwadau ffafriol, ystyrir fod y newid defnydd yn dderbyniol, ac na fydd yn cael effaith andwyol ar fwynderau unrhyw drigolyn cyfagos.

 

Oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion presennol ystyrir bod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol.  Argymhellir felly i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostynedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ar addasrwydd y system echdynnu/ffliw arfaethedig ac i’r amodau a restrir ar ddiwedd yr adroddiad. 

 

(b)     Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

            PENDERFYNWYD:   Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ar addasrwydd y system echdynnu/ffliw arfaethedig ac i amodau perthnasol:

 

1.      Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.      Unol â’r cynlluniau

3.      Amodau argymhellir gan Uned Gwarchod y Cyhoedd o ran sŵn/echdynnydd/ffliw

Nodyn:           

1.          Copi o lythyr Cyfoeth Naturiol Cymru dyddiedig  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.5

6.6

Cais Rhif: C18/0322/46/LL - Maes Carafanau Ty'n Llan, Tudweiliog, Pwllheli pdf eicon PDF 93 KB

Cais diwygiedig i ymestyn safle carafanau sefydlog presennol er cynyddu niferoedd o 31 i 35, ail leoli 3 carafan sefydlog a creu ardal chwarae newydd

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Simon Glyn

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais diwygiedig i ymestyn safle carafanau sefydlog presennol er cynyddu niferoedd o 31 i 35, ail leoli 3 carafan sefydlog a chreu ardal chwarae newydd.

 

(a)     Nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu nad oedd yr ymgeisydd na’i asiant wedi cyflwyno ymholiad ynglŷn â’r hyn sy’n bosibl ar y safle dan sylw yn dilyn tynnu cais blaenorol yn ôl, er gwaethaf bod y swyddogion wedi mynegi pryderon polisi sylfaenol ynglŷn â’r bwriad.   Ymhelaethodd y swyddog ar gefndir y cais, gan nodi ei fod ar gyfer ymestyn maes carafanau sefydlog presennol i gynyddu niferoedd o 31 i 35 ynghyd ag ail-leoli 3 carafan sefydlog a chreu ardal chwarae newydd.  Byddai’r bwriad yn cynnwys tirlunio ychwanegol ar ffiniau gorllewinol a deheuol y rhan estyngedig o’r safle.

 

Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r broses ymgynghori a’r ymatebion dderbyniwyd fel a nodir yn yr adroddiad.

 

O safbwynt y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol, y prif bolisi ydoedd TWR 3 sy’n gallu caniatáu estyniadau bychan i arwynebedd y safle a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai amlwg.  Un o’r meini prawf ydoedd nad yw’r gwelliannau yn cynyddu nifer y carafanau sefydlog ar safleoedd oddi mewn ir AHNE na’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig.  Roedd y cais yn un i gynyddu’r niferoedd o unedau ar y safle drwy ychwanegu 4 uned.  Nodwyd nad oedd y bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion y polisi o safbwynt safleoedd oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig.  Drwy ail-leoli 3 carafán sefydlog i’r cae chwarae presennol, golygai y byddai’r gwrych ar ochr deheuol safle’r cae chwarae yn cael ei golli er creu lón newydd ac yn gwneud safle’r cae chwarae yn llawer mwy agored a gweledol sensitif na’r hyn ydyw.  Byddai ymestyn y safle yn gwneud y safle yn fwy amlwg yn y dirwedd a lle ceir  llwybrau cyhoeddus yn rhedeg yn agos iawn.  Ni ystyrir felly byddai’r bwriad yn ei ffurf bresennol yn gwella gosodiad y safle yn y dirwedd o’i amgylch.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, byddai ymestyn y safle yn ei wneud yn fwy amlwg yn y dirwedd ac er bod y cais yn dangos bwriad i ymgymryd á thirlunio ar hyd terfynau gorllewinol a deheuol byddir yn cymryd amser i aeddfedu. 

 

Derbyniwyd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth yn datgan pryder am y fynedfa ac y byddai’r bwriad yn cynyddu’r defnydd o fynedfa sydd eisoes yn is-safonol.  Byddai’r cynnydd heb welliannau i’r fynedfa yn annerbyniol.

 

Oherwydd nad ydoedd polisi TWR 3 yn caniatáu cynnydd mewn niferoedd carafanu sefydlog ar safleoedd presennol oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig, ac ni ystyrir y byddai ymestyn y safle yn gwella ei osodiad yn y dirwedd, ynghyd á pryderon diogelwch ffyrdd, argymhellwyd i wrthod y cais.

 

(b)     Nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

 

·         Nad yw’r sefyllfa yn amlwg glir a derbyniwyd caniatád yn 1962 i gadw’r safle yn gyfreithiol

·         Derbyniwyd llythyr gan y Cyngor yn egluro sut fath o ddyluniad ddylai fod ar y fynedfa ac roedd y perchnogion wedi cydymffurfio â hyn

·         Cydnabuwyd bod angen a modd i wella’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.6

6.7

Cais Rhif: C18/0365/11/AM - Maes Berea, Bangor pdf eicon PDF 130 KB

Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw yn ôl i godi 9 newydd gyda modurdai integredig.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gareth A. Roberts

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl i godi 9 tŷ newydd gyda mordurdai integredig.

 

(a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cynlluniau mynegol wedi eu cyflwyno sy’n awgrymu maint, gosodiad ac edrychiadau tebygol y datblygiad – sy’n cynnwys 3 rhes o 3 ty trillawr gyda 3 llofft yr un. Byddai 7 o’r unedau ar gyfer marchnad agored a 2 yn cael eu cynnig fel tai fforddiadwy.

 

Lleolir y safle o fewn ffin ddatblygu dinas Bangor ond heb ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol.  Eglurwyd bod y tir yn codi mewn uchder o’i flaen sydd yn ochri a’r ffordd fynediad bresennol tuag at stad Maes Berea i’r de a’r gorllewin. Mae’r stad bresennol yn sefydliedig ac yn cynnwys oddeutu 55 o dai sy’n gymysgedd o dai deulawr a thrillawr.

 

Tynnwyd sylw at y polisiau cynllunio perthnasol a’r ymatebion i’r  ymgynghoriadau a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad.

 

Derbyniwyd llythyrau yn gwrthwynebu’r bwriad fel sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad.

 

Nodwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol a’r bwriad yn estyniad rhesymegol i’r stad bresennol ac fe welir fod y cynlluniau mynegol yn cyfleu ag adlewyrchu’r hyn sydd eisoes wedi ei ganiatau ac adeiladu o fewn gweddill y stad.

 

Cynigir 2 allan o’r 9 uned  yn dai fforddiadwy. Derbyniwyd sylwadau ychwanegol gan yr Uned Polisi ar y Cyd sy’n datgan yr angen ar gyfer tai sydd wedi ei adnabod gan Tai Teg yn 2018. Awgryma’r ystadegau mai tai 1-3 llofft sydd yn mynd i fod yn fwy tebygol o gyfarch y galw cyfredol a’r galw a ragwelir yn y dyfodol o ran tai marchnad a thai fforddiadwy. Nodwyd nad oedd y dystiolaeth angenrheidiol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad i wrthod y cais ar sail cymysgedd tai gan gofio fod y bwriad yn paratoi 2 uned fforddiadwy fel rhan o’r bwriad.

 

Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad

 

Oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ystyrir fod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol.  Argymhellir felly i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostynedig i gwblhau cytundeb 106 i sicrhau fod 2 o’r 9 tŷ sy’n destun y cais hwn yn fforddiadwy ac i amodau cynllunio perthnasol.

 

(b)     Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

(c)     Tynnwyd sylw bod Tai Teg wedi nodi ar y ffurflen sylwadau ychwanegol am yr angen o 180 o unedau 2 ystafell wely yn erbyn 124 o unedau 3 stafell wely, felly gofynnwyd pam nad oedd cymysgedd gwell o dai ar y safle dan sylw. 

 

(ch)   Mewn ymateb, cyfeiriodd y Rheolwr Cynllunio at sylwadau Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol a’r ffaith nad oedd swyddogion yn ffyddiog bod ganddynt y dystiolaeth angenrheidiol ar hyn o bryd i gefnogi argymhelliad i wrthod y cais ar sail cymysgedd.  Amlygwyd fod y safle ym Mangor ac fod nifer uchel o dai wedi eu caniatau yn ddiweddar gyda cymysgedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.7