skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cynghorydd Simon Glyn a’r Cynghorydd Sïon Jones (Aelod Lleol)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Datganodd y Cynghorydd Catrin Wager fuddiant personol, yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0903/16/LL) oherwydd ei bod yn ffrindiau gyda’r ymgeisydd

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Dafydd Owen, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0903/16/LL)

·        Y Cynghorydd John Brynmor Hughes (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0967/39/LL).

·        Y Cynghorydd Huw G W Jones  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1086/11/LL).

·        Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C17/1246/09/LL)

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim iw’ nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 410 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 26.2.2018 fel rhai cywir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018, fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

6.

Cais Rhif C17/0903/16/LL - Carreg y Fedwen, Sling, Tregarth, Bangor, Gwynedd, pdf eicon PDF 415 KB

Creu canolfan ymchwil a menter iachad acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais dynnwyd yn ol - C16/1158/16/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu canolfan ymchwil a menter iachâd acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais a dynnwyd yn ôl - C16/1158/16/LL)

 

a)         Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu nad oedd yr Aelodau wedi llwyddo i  ymweld â’r safle oherwydd y tywydd a bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth ychwanegol a’r fore’r Pwyllgor nad oedd y swyddogion wedi cael cyfle i’w ystyried. O ganlyniad awgrymwyd y dylid gohirio.

 

b)         Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais

 

PENDERFYNWYD gohirio

- angen ail drefnu ymweliad safle

- ystyried gwybodaeth hwyr a dderbyniwyd er mwyn ei gynnwys yn yr adroddiad

 

 

7.

Cais Rhif C17/0330/14/LL - Cyn safle Marine Hotel, North Road, Caernarfon, pdf eicon PDF 267 KB

Adeiladu 5 tŷ (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â chreu mynedfa i'r gefnffordd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu 5 tŷ (gan gynnwys 2 dŷ fforddiadwy) ynghyd â chreu mynedfa i'r gefnffordd

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

a)        Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu 5 uned breswyl ar safle cyn westy i’r gogledd o ganol tref Caernarfon a chyferbyn a chefnffordd A487. Yn dilyn trafodaethau gyda’r datblygwr, ac mewn ymateb i bryderon cymdogion, ategwyd bod cynlluniau diwygiedig wedi eu cyflwyno oedd yn cynnwys newidiadau i edrychiadau allanol y tai, uchder ac ail leoli tŷ rhif 5 yng nghefn y safle.

 

Cadarnhawyd bod y dyluniadau yn parhau i fod yn gywir a bod cyfnod o ail ymgynghori ar y cynlluniau diwygiedig yn dod i ben 23ain o Fawrth. Adroddwyd nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr ymgynghorai statudol, ond bod trigolion lleol yn gwrthwynebu ar sail effaith weledol, diogelwch y briffordd, materion parcio, effeithiau ar fwynderau cymdogion drwy oredrych a chreu cysgod.

 

O safbwynt materion polisi, eglurwyd bod y safle yn un ar hap o fewn ffin y Cynllun Datblygu. Cefnogwyd egwyddor y datblygiad ynghyd a’r ddarpariaeth bod dwy uned fforddiadwy mewn datblygiad o bump yn dderbyniol. Ategwyd bod addasiadau i’r dyluniad wedi goresgyn y pryderon cychwynnol a bod dyluniadau'r tai yn cymryd eu lle yn briodol heb achosi niwed annerbyniol i fwynderau cymdogion. Nodwyd bod trefniadau mynediad a pharcio yn dderbyniol gan yr Uned Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru a bod y cais yn bodloni gofynion  polisïau a chanllawiau perthnasol.

 

Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi ei derbyn gan yr Aelod Lleol lle nodwyd bod yr addasiadau yn cyfarch y gwrthwynebiadau a’i fod yn cytuno gyda’r argymhelliad, bod cytundeb 106 ar yr unedau fforddiadwy.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:-

·         Bod Gorchymyn Gwarchodaeth ar goeden oedd yng ngardd Ynys Tudur (ei chartref)

·         Dyfynnwyd, ‘os oes cynnig wedi ei wneud am waith i ddatblygu safle sydd angen caniatâd cynllunio, dylai pob coeden a all gael ei effeithio gael ei asesu gan arbenigwr yn unol â’r safon genedlaethol’.

·         Nad oedd asesiad arbenigol wedi ei gwblhau ac felly wedi mynd ati i fesur ei hun

·         Y goeden gyda chanopi o 5.5 radiws

·         Byddai gwreiddiau'r goeden yn cael ei difrodi yn ystod y cyfnod adeiladu oni bai bod hyn eisoes wedi digwydd gan fod tractorau wedi bod ar y safle yn ystod y misoedd diwethaf

 

c)       Mewn ymateb, amlygodd yr Uwch Reolwr bod amod yn yr adroddiad i geisio diogelu coeden sydd â gorchymyn gwarchod coed arni, ond nad oedd asesiad o beth fyddai effaith y datblygiad  ar y coed sydd gyda gorchymyn wedi ei gynnwys. Er mai a’r ffin y safle roedd y goeden dan orchymyn, awgrymwyd bod angen ystyried gohirio'r penderfyniad er mwyn cael cyfle i edrych ar y mater mewn mwy o fanylder.

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais

 

          PENDERFYNWYD gohirio y cais er mwyn asesu effaith y datblygiad ar y goeden sydd gyda gorchymyn gwarchodaeth.

 

8.

Cais Rhif C17/0372/30/LL - Mur Melyn, Rhoshirwaun, Pwllheli, pdf eicon PDF 252 KB

Ffurfioli'r nifer o unedau teithiol ar y safle am y tymor cyfan (Mawrth-Hydref) i fod yn 20 carafan deithiol a 20 pabell

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ffurfioli'r nifer o unedau teithiol ar y safle am y tymor cyfan (Mawrth-Hydref) i fod yn 20 carafán deithiol a 20 pabell.

 

a)        Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i ffurfioli’r nifer o unedau teithiol ar y safle am y tymor cyfan drwy leoli uchafswm 20 carafán deithiol ac 20 pabell ar y tir rhwng Mawrth y 1af a 31ain o Hydref. Amlygwyd bod y caniatad presennol ar gyfer y safle yn un a roddwyd fel tystysgrif cyfreithloni ac yn caniatáu lleoli cyfanswm o 14 carafan deithiol a 30 pabell yn ystod Gorffennaf, Awst a gwyliau banc a 14 carafan deithiol a 20 pabell yn ystod misoedd eraill y tymor. Nodwyd y byddai’r bwriad yn cysoni’r nifer o unedau teithiol allai ddefnyddio’r safle am y tymor yn ei gyfanrwydd gyda lleihad o 4 yn y cyfanswm unedau am fisoedd Gorffennaf, Awst a gwyliau banc a chynnydd o 6 am weddill y tymor.

 

Ategwyd fel rhan o’r cais, bod bwriad i wella’r cyfleusterau toiledau ac ymolchi trwy ychwanegu 2 doiled yn y bloc toiledau presennol a thoiled ar gyfer yr anabl. Roedd bwriad hefyd i greu ardal chwarae plant ac atgyfnerthu’r tirlunio drwy blannu rhywogaethau brodorol.

 

Nid oedd gwrthwynebiadau i’r cais, ond amlygwyd rhai pryderon gwreiddiol gan y Swyddog Carafanau. Diwygiwyd y cynlluniau i oresgyn y pryderon hyn a thynnwyd sylw at y sylwadau yn y ffurflen sylwadau hwyr.

 

O ran egwyddor y datblygiad, amlygwyd bod Polisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu cynigion am estyniadau i safleoedd presennol os cydymffurfir â’r meini prawf a nodir yn yr adroddiad. Eglurwyd bod hyn yn cynnwys bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel, wedi ei leoli mewn man anymwthiol ac wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd weledol y dirwedd. Ategwyd bod y cais yn golygu gwneud addasiadau i faes carafanau teithiol a phebyll presennol. Er bod gwahaniaethau o ran niferoedd a math yr unedau am gyfnodau o’r tymor, byddai’r bwriad yn cysoni’r sefyllfa ac yn ei gwneud hi’n haws i’w reoli. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt mwynderau gweledol, trafnidiaeth a mynediad a materion bioamrywiaeth ac yn cydymffurfio gyda materion cynllunio perthnasol, polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol.

 

b)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)        Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod angen ystyried gwneud y gwaith tirlunio yn gyntaf – gosod amod i sicrhau hyn

·         Bod maint y safle yn dderbyniol – hapus gyda’r sylwadau ychwanegol

·         Angen sicrhau bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda gofynion trwyddedu

·         Bod angen sicrhau bod cyfleusterau toiledau ac ymolchi yn ddigonol

 

ch)    Mewn ymateb, amlygodd yr Uwch Reolwr bod hi’n rhesymol ystyried  bod y tirlunio yn cael ei gyflawni fel y cynigiwyd. Yn ychwanegol, amlygwyd bod amod safonol ynglŷn â thirlunio yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

        

         PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

         Amodau:

 

1.            Cychwyn o fewn 5 mlynedd

2.            Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif: C17/0967/39/LL - Tir yn Tyn y Cae, Llangian, Pwllheli, Gwynedd, pdf eicon PDF 266 KB

Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu safle ar gyfer 12 pabell saffari

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr ynghyd a’r gwrthwynebiad ychwanegol.

 

a)      Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer sefydlu safle ar gyfer lleoli 12 pabell saffari,12 pod ystafell wlyb gerllaw pob pabell saffari, creu llwybrau cerdded, ardaloedd barbeciw ac ardal chwarae plant. Nodwyd bod y safle mewn cefn gwlad agored yn ffinio gyda ffordd sirol dosbarth 3 o Llanengan i Llangian o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn ac oddi fewn i’r Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

            Amlygwyd bod Polisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu cynigion am safleoedd teithiol, gwersylla neu lety wersylla amgen dros dro os cydymffurfir â’r cyfan o’r meini prawf a nodir yn yr adroddiad. Eglurwyd bod hyn yn cynnwys bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad; ei fod wedi ei leoli mewn man anymwthiol sydd wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd, a/neu ble gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd.

 

            Nodwyd y byddai’r pebyll wedi eu gosod yn bennaf o amgylch ffiniau’r cae a’r podiau ystafell wlyb yn cael eu gosod gerllaw pob pabell.  Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd y byddai’r pebyll saffari a’u sylfeini ynghyd a’r podiau ystafell wlyb yn cael eu symud o’r safle y tu allan i’r tymor gweithredu.  Yn sgil hyn ystyriwyd y bwriad o dan bolisi TWR 5 sy’n ymwneud gyda safleoedd carafanau teithiol, gwersylla a llety gwersylla amgen dros dro.

 

            Tynnwyd sylw bod yr asesiad effaith weledol a thirwedd wedi cyfeirio at asesiadau LANDMAP ar yr ardal (yn arbennig yr un gweledol a synhwyraidd) oedd wedi dod i’r casgliad mai canolig yw gwerth y dirwedd.  Er mai canolig yw gwerth y dirwedd, mynegwyd bod yr asesiad yn nodi bod y dyffryn yn un gwledig, caeedig bach gyda rhai adeiladau yn lleihau'r atyniad, yn benodol ar ffurf adeiledig ar gyrion Abersoch.  Argymhellion pellach asesiad LANDMAP oedd, cyfyngu ar ddatblygiadau carafanau o fewn y dyffryn, yn y tymor hir.  Yn ychwanegol, fel rhan o’r  asesiad effaith weledol a thirwedd a gyflwynwyd gyda’r cais, cyflwynwyd lluniau yn dangos y safle o nifer o fannau amrywiol lle byddai’n weledol yn y dirwedd ac ar draws yr AHNE. Dadleuwyd y byddai’r safle yn parhau yn weladwy o’r mannau yma hyd yn oed pan fydd y tirlunio y bwriedir yn aeddfedu.

 

Nid oedd yr Adran Cynllunio  wedi eu hargyhoeddi bod y safle yn cydymffurfio gydag egwyddorion polisi TWR 5. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn nodwedd ymwthiol yn y dirwedd ac yn achosi niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd sydd wedi ei ddynodi yn AHNE.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Byddai’r safle yn glir drwy’r gaeaf; pebyll ar y safle yn ystod tymor twristiaeth yn unig

·         Bod y safle wedi ei ddylunio gydag effaith gweledol isel mewn golwg,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C17/1086/11/LL - Hen Iard Gychod Dickies, Beach Road, Bangor, Gwynedd, pdf eicon PDF 571 KB

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatad cynllunio C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod i gwbwlhau'r datblygiad yn unol â chynlluniau'r cais

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthansol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod i gwblhau’r datblygiad yn unol â chynlluniau'r cais.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi bod caniatâd eisoes wedi ei roi ar y cais yn Rhagfyr 2016. Amlygwyd bod y cais hwnnw yn destun amodau cynllunio ac un o’r rheiny oedd gweithredu o fewn cyfnod o 9 mis. Nodwyd bod y cais yn un i newid yr amod i sicrhau amser digonol i gwblhau'r datblygiad yn unol â chynlluniau’r cais. Eglurwyd bod y gwaith o godi lefelau'r tir wedi ei weithredu ac mai diben hyn oedd codi lefel y tir uwchlaw lefel llifogydd C2 fel byddai modd ystyried gwaith peirianyddol i ddarparu’r tir ar gyfer datblygiad pellach. Byddai unrhyw gais yn y dyfodol ar y safle yn gais o’r newydd.

 

Nodwyd bod y gwaith o godi lefel y tir wedi ei weithredu rhwng Ebrill a Gorff 2017 o fewn cyfnod o 8 - 10 wythnos. Y cam nesaf fydd gosod cerrig o amgylch y safle fyddai’n creu amddiffynfa i sicrhau nad yw’r gwastraff llechi yn golchi i ffwrdd. Adroddwyd yn y cais gwreiddiol bod angen tyllu rhywfaint ar y blaendraeth er mwyn gosod cerrig fel sylfaen gadarn.

 

Amlygwyd bod rhai o’r gwrthwynebiadau a’r sylwadau hwyr yn pryderu am drwytholch o’r safle fyddai yn llygru pysgodfeydd. Ategwyd bod hyn wedi ei ystyried yn y cais gwreiddiol. Yn ogystal, tynnwyd sylw at sylwadau Gwarchod y Cyhoedd oedd yn nodi bod rhaid sicrhau nad oedd y gwaith o osod y cerrig o amgylch y safle yn creu effaith andwyol ar fwynderau trigolion cyfagos. Adroddwyd bod angen symud 7 mil o gerrig mawr i’r safle mewn cyfnod o 14 wythnos. Bydd effeithiau sŵn yn fwy tebygol nag effeithiau llwch.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi bod yn cyflwyno canlyniadau samplau dwr i’r Awdurdod a bod y canlyniadau, ar hyn o bryd, yn nodi mai annhebygol y byddai trwytholch yn llygru'r amgylchedd morol. Ategwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn pryderon am yr adar sydd ar y safle yn gaeafu yno yn ystod llanw uchel. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnal dau arolwg (un yn 2016 ac un yn parhau) yn dangos bod cynnydd yn nifer yr adar oedd yn ymgasglu, ond byddai hyn yn gostwng  wrth i’r tymor ddirwyn i ben.

 

Nodwyd bod llysiau dial wedi dod i’r safle a mynegwyd bod rhaid i’r ymgeisydd ymdrin â’r planhigyn yma cyn dechrau unrhyw waith datblygu. Ategwyd mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru fyddai monitro hyn.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:-

·         Ei bod yn cynrychioli barn trigolion o 22 eiddo cyfagos

·         Siomedig nad yw’r ymgeisydd wedi cwblhau'r gwaith o fewn yr amserlen

·         Cyngor Dinas Bangor yn amlygu pryderon am yr hyn sydd wedi ei gladdu o dan y tir ers yr 80au

·         Yn ystod gwaith Haf 2017, roedd llwch ymhob  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C17/1143/18/LL - Parc Nant y Garth, Seion, Llanddeiniolen, Gwynedd pdf eicon PDF 287 KB

Newid defnydd sied coedwigaeth a compownd i uned storio a chynnal a chadw ar swyddfeydd safle symudol ac unedau toiledau ynghyd a chreu mynedfa newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion W Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd sied coedwigaeth a compownd i uned storio a chynnal a chadw ar swyddfeydd safle symudol ac unedau toiledau ynghyd a chreu mynedfa newydd

 

         Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)      Ymhelaethodd yr Arweinydd Tim Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais            yn un llawn rannol ôl-weithredol ar gyfer defnyddio’r safle a’r         adeiladwaith    presennol ar    gyfer cadw ac atgyweirio swyddfeydd safle   symudol ynghyd ac unedau toiledau ar ffurf portaloos a portakabins. Byddai’r           cais yn golygu cau'r fynedfa bresennol. Bydd yr adeilad         presennol yn cael       ei ddefnyddio ar gyfer swyddfa, storfa a gwagle agored ar gyfer         ymgymryd       â gwaith cynnal a chadw’r strwythurau symudol.  Bydd yr ardal agored         yn        cael ei ddefnyddio ar gyfer gofynion parcio staff (x4), gwagle troi ar gyfer            cerbydau trwm            ynghyd a         chadw’r strwythurau yn yr awyr agored. Mae            rhan o’r safle eisoes yn cael ei       ddefnyddio ar gyfer diben storio awyr agored.

 

          Mynegwyd bod cais blaenorol (C15/1362/18/LL) ar  gyfer newid defnydd ysgubor/adeilad melin goedwigaeth fel man storio ac amgaefa ar gyfer defnydd diwydiannol gyda swyddfa fewnol a thir cysylltiedig i’w ddefnyddio fel man storio ar gyfer portakabins wedi ei wrthod yn Chwefror, 2016. Gwrthodwyd ar sail bod y defnydd yn rhy fawr ac anghydnaws gyda defnyddiau presennol cyfagos, heb brofi anghenion lleol arbennig ynghyd â’r potensial o gynyddu traffig a all achosi niwed i fwynderau deiliaid Rhos y Wylfa.  Apeliwyd yn erbyn y penderfyniad hwn a gwrthodwyd yr apêl ar sail byddai’r cynnig yn niweidio cymeriad a golwg cefn gwlad, methiant i gyfiawnhau bod y bwriad yn gynaliadwy ynghyd â’i effaith andwyol ar fwynderau deiliaid Rhos y Wylfa ar sail aflonyddwch a sŵn.

 

          Ers hynny mae’r  Cynllun Datblygu Lleol wedi ei fabwysiadau a pholisïau wedi newid. Nodwyd bod yr anghenion a’r ystyriaethau yn wahanol a bod yr ymgeisydd wedi ymateb i bryderon Rhos y Wylfa drwy symud y fynedfa a phlannu'r trac presennol  fyddai o ganlyniad yn lliniaru yn erbyn yr effaith. Ategwyd bod yr egwyddor o ailddefnyddio ac addasu adeiladau gwledig ar gyfer defnydd busnes a diwydiant wedi ei selio ym Mholisi CYF6 sydd yn datgan y caniateir cynigion i drosi adeiladau gwledig ar gyfer defnydd busnes os gellid cwrdd gyda nifer o feini prawf oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad

 

Derbyniwyd y byddai'r safle yn cael effaith, ond wedi pwyso a mesur yr effeithiau, ystyriwyd bod y cais bellach yn dderbyniol. Ni fyddai cerbydau trwm yn pasio Rhos y Wylfa a thrwy osod amodau perthnasol byddai modd rheoli sut bydd symudiadau yn cael eu gweithredu er mwyn lleihau effaith ar y preswylwyr. Nodwyd hefyd bod yr Uned Trafnidiaeth yn derbyn y bwriad.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwynt canlynol gan Aelod unigol:

·            Bod angen sicrhau bod cynllun rheoli coedwigaeth tymor hir.yn cael ei gynnwys gyda’r amodau

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

Amodau

 

1. Yn unol â’r cynlluniau.

2.         Cyfyngu gweithgareddau cynnal a chadw oddi fewn i’r adeilad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C17/1196/03/LL - Tir yn Cwm Bowydd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd pdf eicon PDF 367 KB

Gosod 8 cabanau pren a chreu 'boardwalk' a gosod system trin carthffosiaeth a phlannu coed cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd R Glyn Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod 8 cabanau pren a chreu 'boardwalk' a gosod system trin carthffosiaeth a phlannu coed cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)      Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn gais llawn oedd yn bwriadu darparu 8 caban pren ar gyfer defnydd gwyliau a chreu rhodfa bren a phlannu coed cysylltiol. Ategwyd bod bwriad hefyd i ddarparu man parcio ar y cyrion. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn cwm ar gyrion ffordd ddi-ddosbarth sy’n rhedeg heibio’r goedlan tua fferm ymhellach draw. Ategwyd bod y bwriad hefyd o osod y cabanau ar bolion pren, fel na fydd yr unedau yn cael eu hadeiladu ar lawr y goedlan, gyda modd eu cyrraedd ar droed drwy ddefnyddio’r rhodfa bren, sydd hefyd wedi ei godi ar bolion pren.  Mae bwriad cysylltu’r cabannau gyda phibellau dŵr, trydan a system garthffos.

 

O ran egwyddor nodwyd bod y cais yn bwriadu sefydlu safle gwersylla amgen ar gyfer gosod 8 caban pren hunangynhaliol ar gyfer defnydd gwyliau.  Oherwydd natur adeiladu a ffurf yr unedau, yn ogystal â’u maint, eglurwyd bod datblygiad o’r fath yn cael ei ystyried fel llety gwersylla amgen parhaol ac felly fe’i hystyriwyd o dan ofynion perthnasol polisi TWR 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol.  Adroddwyd bod polisi TWR3 yn gwrthod cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog, safleoedd siale gwyliau newydd neu lety gwersylla amgen parhaol yn AHNE ac mewn Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Yn yr achos yma, nid yw’r datblygiad arfaethedig o fewn AHNE, ac nid yw’n agos i ddynodiad ardal Tirwedd Arbennig.

 

Ystyriwyd bod yr unedau, fydd wedi eu gosod yn y coed o ddyluniad naturiol ac nad felly yn  ymwthiol i’r dirwedd. Eglurwyd y bydd angen gwneud gwaith clirio lleiafrifol ond bydd y safle yn parhau  i dirweddu yn naturiol. Cyfeiriwyd at faterion bioamrywiaeth a’r sylwadau hwyr a dderbyniwyd. O ran egwyddor gellid ystyried bod  effaith y bwriad yn dderbyniol, ond nad oedd mesuriadau lliniaru wedi eu cytuno. Er na fyddai colled o goedlan, amlygwyd y byddai’r ymgeisydd yn barod i liniaru’r effaith ac wedi adnabod darn o dir lle gallent liniaru effaith y datblygiad. Nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi ymateb drwy nodi nad oeddynt wedi  asesu'r safle a awgrymwyd yn addas ac nad oeddynt yn gwybod beth oedd gwerth ecolegol y tir. O ganlyniad, amlygwyd addasiad i’r  argymhelliad o ddirprwyo’r hawl i ganiatáu yn ddarostyngedig i gytuno ar y mesuriadau lliniaru.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Angen sicrhau bod coed cynhenid yn cael eu plannu

·         Awgrym i wneud y gwaith lliniaru cyn dechrau ar y datblygiad

·         Bod angen ymgynghori gyda’r Gwasanaeth Tân

 

Mewn ymateb, i’r sylw ynglyn a’r gwaith lliniaru, amlygodd yr Uwch Reolwr y byddai cynllun digolledu, fyddai yn gwneud i fyny am y gwaith clirio, yn cael ei gyfarch yn y cynllun rheolaeth. Mewn ymateb i sylw yn ymwneud a’r Gwasanaeth Tân amlygwyd y bydd y trafodaethau hyn yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C17/1246/09/LL - Maes Carafanau Pant y Neuadd, Ffordd Aberdyfi, Tywyn pdf eicon PDF 256 KB

Estyniad i safle carafannau presennol, ail leoli ardal mwynderol. gosod 8 carafan sefydlog ychwanegol, ail leoli 4 carafan i'r estyniad a tynnu amod cynllunio yn cyfyngu defnydd safle i ardal mwynderol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anne Lloyd Jones a’r Cynghorydd Mike Stevens

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is Gadeirydd

 

Estyniad i safle carafanau presennol, ail leoli ardal mwynderol. Gosod 8 carafan sefydlog ychwanegol, ail leoli 4 carafan i'r estyniad a thynnu amod cynllunio yn cyfyngu defnydd safle i ardal mwynderol.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi cais gan yr ymgeisydd i ohirio’r cais er mwyn ail ystyried y datblygiad yng nghyd-destun y polisiau newydd ac i baratoi cynlluniau diwygiedig.

 

a)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais.

 

PENDERFYNWYD: gohirio’r cais