Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb
oddi wrth Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Simon Glyn, Siân Wyn Hughes ac Ann Lloyd Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd yr aelod canlynol ei fod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitemau a
nodir: ·
Y Cynghorydd Elwyn Jones, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0440/18/LL). |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw faterion sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Ni dderbyniwyd materion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn, a gynhaliwyd ar 25 Medi 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Medi 2017, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth
i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif: C17/0730/14/LL - 43 Llys Gwyn, Caernarfon PDF 248 KB Estyniad deulawr ar dalcen gogleddol y ty ynghyd a gosod ffenestr dormer yn y blaen (cynllun diwygiedig i'r hyn a dynwyd yn ol o dan gais rhif C17/0436/14/LL) AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad
deulawr ar dalcen gogleddol y ty ynghyd â gosod ffenestr dormer yn y blaen
(cynllun diwygiedig i’r hyn a dynnwyd yn ôl o dan gais rhif C17/0436/14/LL). (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod yr eiddo o fewn cwrtil go helaeth sydd hefyd yn cynnwys
strwythur cyffelyb i dwr gyda llecynnau parcio a throi gyferbyn â’r tŵr ei
hun. Ceir cefnau anheddau Cae Gwyn y tu
cefn i’r safle sy’n cynnwys nifer o estyniadau, balconïau a lolfeydd haul
amrywiol gyda gerddi cefn anheddau Llys Gwyn wedi eu lleoli islaw’r safle sydd
hefyd yn cynnwys estyniadau ar ffurf lolfeydd haul yn ogystal â dodrefn a
strwythurau gardd fel siediau a decio. Cyfeirwyd at y polisïau perthnasol
o fewn yr adroddiad. Rhoddwyd rhybudd ar y safle a gwybyddwyd
trigolion cyfagos. Derbyniwyd gohebiaeth gan ddeiliaid yr anheddau hynny sydd
wedi eu lleoli cyfochrog â safle’r cais yn gwrthwynebu yn seilidig
ar golli golau; creu mwgwd; gor-edrych a cholli
preifatrwydd; pryder ynglyn a’r broses o dyllu
sylfaen; aflonyddwch sŵn. Nodwyd bod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor a bod ei
raddfa a’i leoliad yn addas ar gyfer y safle ynghyd â’i osodiad oddi fewn i
ardal breswyl. O safbwynt mwynderau
cyffredinol a phreswyl, yn dilyn cymeryd ystyriaeth
o’r holl faterion perthnasol a’r gwrthwynebiadau fel a nodir uchod, ystyriwyd
bod y datblygiad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys yr amodau a restrir
yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif
bwyntiau canlynol: ·
Bod y bwriad ar gyfer creu cartref
addas i deulu o bedwar a all dyfu yn y dyfodol ·
Creu ystafelloedd gwely ar yr
un llawr o safbwynt ymarferoldeb a diogelwch ·
Wedi tynnu cais blaenorol yn ól a oedd yn cynnwys estyniad unllawr
ac addasiadau i’r to ·
Yn dilyn derbyn 3
gwrthwynebiad i’r cynllun, trafodwyd a derbyniwyd cyngor gan swyddogion
cynllunio ac fe newidiwyd y cynllun am estyniad deulawr gyda’r gobaith i beidio
derbyn gwrthwynebiadau ·
Anfonwyd llythyr at y cymdogoion gydag esboniad o fwriad y cynllun newydd ac fe
dderbyniwyd 2 wrthwynebiad yn seiliedig ar golli goleuni yn hytrach na 3 i’r cynllun gwreiddiol ·
Hyderir na fyddai colled
goleuni i drigolion Cae Gwyn oherwydd pellter y tai o’r tŷ gwreiddiol,
llwybr yr haul o’r awyr a lefel y tai yn uwch na’r tŷ ·
O safbwynt y gwrthwynebiadau o
Llys Gwyn yn ymwneud â phreifatrwydd a goredrych,
esboniwyd bod yn bosibl gweld i fewn i tŷ 28 a chegin 30 o bob ffenestr ar
flaen yr eiddo ac felly bod fwy o or-edrych o’r tŷ gwreiddiol na fuasai
o’r estyniad arfaethedig ac felly dim colled pellach i breifatrwydd ·
Bod cynsail yn bodoli yn barod
yn yr ardal ar estyniadau deulawr sydd o fewn radiws o hanner milltir sydd yn
agos i dai eraill a gyda elfen o or-edrych
·
Bod y tŷ yn eistedd ar
lain sydd gyfwerth â thri llain gyda digon o le i ddatblygu’r safle heb
or-ddatblygu · Bod y dyluniad yn gweddu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif: C17/0440/18/AM - Tir ger Gorswen, Brynrefail PDF 263 KB Cais amlinellol gyda rhai materion wedi'u cadw'n nol i godi wyth ty fforddiadwy (un par a dau teras o dri) ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau parcio, ffordd i'r ystad a gerddi i'r tai unigol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol gyda rhai materion
wedi’u cadw’n nôl i godi wyth tŷ fforddiadwy (un pâr a dau teras o dri)
ynghyd ag addasu mynedfa bresennol, llecynnau parcio, ffordd i’r ystâd a gerddi
i’r tai unigol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais, gan nodi bod y cais ar safle sy’n ymylu ar ffin ddatblygu Pentref Lleol
Brynrefail ac yn golygu addasu’r fynedfa bresennol, creu ffordd stad newydd a
gosod 8 tŷ ar ffurf hanner cylch.
Tynnwyd sylw mai cais amlinellol ac mai dangosol yn unig ydoedd y
manylion ar y cynlluniau. Defnyddiwyd y
safle fel iard loriau yn y 1980au ond daeth i ben yn 1985 ac oherwydd ei
ddefnydd blaenorol fe ystyrir yn safle tir llwyd. Cyfeirwyd at y polisïau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad ynghyd
â’r sylwadau pellach a dderbyniwyd gan Gyngor Cymuned Llanddeiniolen fel a
nodwyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol
a oedd yn datgan cefnogaeth i’r cais a dim gwrthwynebiad. O safbwynt egwyddor y datblygiad, noda
Uned Strategol Tai’r Cyngor bod darparu 8 tŷ fforddiadwy yn cyfarch
anghenion yn yr ardal. Nodwyd bod
datganiad Cynllunio a Chartrefi Fforddiadwy yn cadarnhau y bydd dyluniad a
gosodiad mewnol dangosol y tai yn cwrdd ag anghenion ac felly y gellid
trosglwyddo’r tai i gymdeithas dai.
Derbyniwyd copi o lythyr gan Grwp Cynefin yn dangos parodrwydd mewn
egwyddor i ddatblygu tai ar y safle. Tynnwyd sylw at baragraffau 5.7 – 5.11
yn yr adroddiad a oedd yn nodi bod materion mwynderau a thrafnidiaeth yn
dderbyniol. O safbwynt materion
bioamrywiaeth, ystyriwyd bod y datblygiad yn dderbyniol drwy osod amodau
priodol. Nodwyd nad oedd y safle o fewn
Parth Llifogydd C ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan Dwr Cymru, Cyfoeth
Naturiol Cymru na Uned Draenio’r Cyngor.
Yn dilyn ystyriaeth lawn i’r holl faterion
cynllunio a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad
cyhoeddus argymhellwyd i ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i ymrwymiad cyfreithiol priodol yn ymwneud â
sicrhau bod yr 8 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol ac
amodau cynllunio perthnasol. Ond
gofynnwyd am ddiwygio amod 8 a restrwyd yn yr adroddiad i ddarllen “bod y datblygwr
yn cario allan y datblygiad yn unol a’r asesiad
a gyflwynwyd gan yr asiant er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud
yn briodol o safbwynt llygredd”. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant
yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol i
leddfu rhai o’r pryderon: 1.
Llysiau’r
dial – bod yr ymgeiswyr yn ymwybodol o’r broblem ac o ganlynaid wedi cyflogi
contractwr cymwys i drin y rhywogaeth ac wedi cychwyn y drinaeth ers Awst
diwethaf a’i fod yn gyfyngedig i rannau o’r safle. Byddai’r ymgeiswyr yn barod
i drafod sut i waredu’r gweddill yn unol ag amod 6 yn yr adroddiad. 2. Angen digonol o dai fforddiadwy – targed Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy ydoedd 20,000 erbyn 2021. Ni adeiladwyd tŷ cymdeithasol newydd yn Brynrefail ers o leiaf 30 mlynedd a dim ond 9 tŷ cymdeithasol cyffredinol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif: C17/0628/39/LL - Ynys For Bach, Abersoch, Pwllheli PDF 271 KB Dymchwel ty presennol a chodi ty newydd yn ei le. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel tŷ presennol a chodi
tŷ newydd yn ei le. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y tŷ bwriededig
yn cynnwys storfa gardd, cyntedd, 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi ar lawr
daear, a lle byw ac ystafell bwyta / cegin gyda theras blaen ac ochr ar y llawr
cyntaf. Ceir lle parcio ar ffurf “tynnu
mewn” i’r blaen o’r eiddo. Yn dilyn
trafod y bwriad gyda’r ymgeisydd derbyniwyd cynllun diwygiedig yn dangos y to
wedi ei orchuddio a llechi ynghyd ag asesiad llwybr cerbydol. Lleolir y safle mewn ardal breswyl oddi mewn
i ffin ddatblygu Abersoch er bod rhan o’r ardd / cwrtil y tu allan i’r ffin.
Lleolir y safle hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Cyfeirwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymatebion
i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad. Rhoddwyd rhybudd ar y safle a gwybyddwyd trigolion lleol a derbyniwyd gohebiaeth yn
gwrthwynebu’r cais sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Tynnwyd
sylw at y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol sef: 1.
Bod
egwyddor y datblygiad yn cydymffurfio gyda meini prawf ar gyfer dymchwel ac
ail-adeiladu tŷ 2.
Mwynderau
gweledol – bod dyluniad y tŷ arfaethedig yn un cyfoes gyda ffenestri
sylweddol a theras ar y llawr cyntaf a tho brig wedi ei orchuddio ynghyd â
llechi naturiol sydd yn lleihau pryderon ynglyn â
dyluniad modern y tŷ. Er bod y
safle wedi ei leoli oddi fewn i’r AHNE, ei fod hefyd yn safle ble saif tŷ
ar hyn o bryd ger tai preswyl presennol.
Tynnwyd sylw bod y dyluniad diwygiedig, er yn fodern, o raddfa a
deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle.
Bwriedir cloddio’r safle er creu tŷ deulawr a fyddai tua’r un
uchder â’r tŷ unllawr presennol. Er nad yw’n dilyn patrwm tai yn y cyffiniau
credir bod y dyluniad diwygiedig yn gweddu a chyfoethogi’r ardal leol o’i
gymharu â’r adeilad presennol. Er bod yr Uned AHNE wedi mynegi pryderon ynglyn â dyluniad y tŷ newydd, credir bod diwygio
dyluniad to y tŷ newydd yn debygol o leihau’r pryderon hyn. Ystyriwyd felly bod y bwriad fel y’i
diwygiwyd yn addas i’w leoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith
andwyol ar yr AHNE. 3. Mwynderau cyffredinol a phreswyl – Derbyniwyd 3 llythyr o wrthwynebiad ar sail dyluniad, effaith ar yr AHNE, effaith y bwriad ar derfyn y safle, effaith ar ddraen dŵr aflan a diogelwch ffyrdd. Er bod y tŷ yn fwy na’r un presennol mae’r dyluniad fel bod y ffenestri ac agoriadau yn edrych dros y ffordd sirol a thir amaethyddol. O safbwynt traffig a sŵn yn deillio o’r bwriad, ni ystyrir y byddai’r tŷ arfaethedig yn ychwanegu yn sylweddol ar y sefyllfa bresennol nac yn achosi niwed i’r gymdogaeth leol. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn cydnabod y bydd angen diogelu draen dŵr aflan cymydog yn ystod gwaith adeiladu ynghyd â thrafod y mater gyda Dŵr Cymru pe caniateir y cais. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn achosi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif: C17/0680/45/LL - 4 Trem y Marian, Cei'r Gogledd, Pwllheli PDF 242 KB Newid defnydd o annedd breswyl (C3) i ddeintyddfa (D1). AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd o annedd breswyl (C3) i ddeintyddfa (D1) (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais, gan nodi bod y cais ar gyfer addasu tŷ preswyl deulawr yn ddeintyddfa a fyddai’n cynnwys toiled, ystafell triniaeth
ac ystafell disgwyl / derbynfa ar llawr daear; ystafell ymolchi ac ystafell
triniaeth / swyddfa ar y llawr cyntaf.
Nodwyd bod y tŷ yn un o dy pâr o fewn rhes o 4 tŷ pâr
arall. Nid oedd y safle wedi ei ddynodi
ar gyfer unrhyw ddynodiad tir arbennig a lleolir y safle o fewn ffin datblygu’r
dref fel y diffiniwyd yn CDLl. Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol a’r
ymatebion i’r broses ymgynghori a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth yn gwrthwynebu‘r
datblygiad am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad ynghyd â gwrthwynebiadau nad
oedd yn faterol i gynllunio. Cyfeirwyd at y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol
sef: 1.
Egwyddor
y datblygiad – bod y polisi perthnasol yn gefnogol i addasu unedau preswyl ar
gyfer defnydd busnes cyn belled bod y bwriad yn bodloni meini prawf y
polisi. Teimlwyd bod lleoliad, graddfa a
natur y bwriad yn cydymffurfio gyda’r meini prawf. 2.
Mwynderau
gweledol – annhebygol fyddai’r bwriad yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fwynderau
gweledol yr ardal gan mai mân newidiadau mewnol a fwriedir yma. 3.
Mwynderau
cyffredinol a phreswyl – derbyniwyd 6 llythyr yn gwrthwynebu’r cais yn
seiliedig ar bryderon ynglyn ag effaith posibl y
bwriad ar eu heiddo a bod cymal ar y gweithredoedd y safle yn cyfyngu defnydd
yr unedau i dai yn unig ond credir mai mater preifat ydoedd hynny. O safbwynt pryderon aflonyddwch y defnydd ar
drigolion cyfagos, nodwyd bod hanes cynllunio’r safle yn dangos bod yr unedau wedu eu caniatáu yn wreiddiol fel unedau byw / gweithio a
bod y safle wedi ei leoli rhwng y rheilffordd a ffordd sirol, ac o fewn tua 100
medr i fodurdy masnachol a bwyty.
Ystyriwyd felly na fyddai caniatáu’r cais yn amharu yn sylweddol ar
drigolion cyfagos. 4.
Materion
trafnidiaeth a mynediad – ystyriwyd bod y safle / bwriad yn hygyrch i’r cyhoedd
oherwydd ei leoliad. Yn dilyn pwyso a mesur y bwriad arfaethedig yn
erbyn y polisïau perthnasol, ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol ac argymhellwyd
i’w ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol. (b) Cynigwyd, eilwyd a phleidleiswyd yn unfrydol i ganiatáu’r cais. Penderfynwyd: Caniatáu’r cais yn unol â’r amodau canlynol: 1. 5 mlynedd 2. Unol a chynlluniau 3. Oriau agor rhwng 9 y bore a
6 yr hwyr dydd Llun i ddydd Sadwrn. |
|
Cais i ddymchwel adeilad swyddfa bresennol a chodi adeilad swyddfa/gweithdy o'r newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i ddymchwel adeilad swyddfa
bresennol a chodi adeilad swyddfa / gweithdy o’r newydd. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais, gan nodi’r bwriad i ddymchwel adeilad swyddfa bresennol a chodi adeilad
newydd, yn cynnwys swyddfa a gweithdy, ar safle busnes presennol. Byddai’r adeilad newydd yn 10.7m o uchder at
frig y to ac fe fyddai’r waliau a tho o fetel proffil lliw Llechen Las. Bwriedir defnyddio’r adeilad newydd er mwyn
ehangu a gwella cyfleusterau busnes peirianneg sifil sydd wedi ei leoli o fewn
stad diwydiannol sefydledig tu mewn i ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Trefol
Blaenau Ffestiniog. Gwelwyd o’r adroddiad bod y cais gerbron y
Pwyllgor oherwydd bod ei faint yn golygu na all swyddogion ddelio a’r cais yn
ddirprwyedig. Gwelwyd hefyd, bod pob
ystyriaeth cynllunio perthnasol yn dderbyniol a’r argymhelliad yn un i’w
ganiatáu gydag amodau cynllunio perthnasol.
(b) Cynigwyd, eilwyd a phleidleiswyd yn unfrydol i ganiatáu’r cais. (c)
Mewn
ymateb i sylw wnaed gan Aelod ynglyn â chladio’r wal gyda llechi, esboniodd y Rheolwr Cynllunio y
byddai hynny yn eithafol yn yr achos hwn o ystyried bod yr adeilad o fewn stad
ddiwydiannol. Penderfynwyd: Caniatáu gyda’r amodau canlynol: 1.
5 mlynedd, 2.
Datblygiad yn cydymffurfio gyda'r cynlluniau a gymeradwywyd 3.
Deunyddiau 4.
Lliw llwyd / las yn unig Nodiadau 1. Dŵr Cymru 2. Network Rail |
|
Cais Rhif: C17/0772/36/LL - Tir gyferbyn Bryn Efail Uchaf, Garndolbenmaen PDF 275 KB Cais ar gyfer isbwerdy newydd, cyfarpar cysylltiol, tirweddu a ffordd mynediad newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen W. Churchman Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer is-bwerdy newydd,
cyfarpar cysylltiol, tirweddu a ffordd mynediad newydd. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais, gan nodi bod y safle i’r de-ddwyrain o Fryncir
ar dir gymharol wastad ac yn cynnwys caeau pori gydag ardal o laswelltir
corsiog. Nodwyd bod llinell drydan
uwchben 400kv Pentir – Trawsfynydd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol y safle a
cheir mynediad o’r gogledd drwy ffordd fynediad fferm. Ceir Llwybr Troed Cyhoeddus yn mynd drwy’r
safle a bydd angen ei wyro i hwyluso’r is-orsaf. Golygir addasu’r fynedfa
newydd o’r brif gefnffordd (A487) er mwyn hwyluso traffig adeiladu fynd i mewn
ac allan o’r safle. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd â’r
ymgynghoriadau cyhoeddus a thynnwyd sylw at sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan
Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd a oedd yn datgan y byddai angen gosod
amod cynllunio statudol yn ymwneud â chyflwyno cynllun ac adroddiad o waith
archeolegol. Yn ogystal, dosbarthwyd i’r
Aelodau yn ystod y cyfarfod e-bost gan yr Aelod Lleol a oedd yn datgan nad oedd
ganddo wrthwynebiad i’r cais mewn egwyddor ac yn derbyn ei bwysigrwydd
strategol, ond y byddir yn croesawu mesurau lliniarol ar gyfer oriau gwaith er
mwyn lleihau unrhyw ardrawiad i’r cymdogion.
Nodwyd hefyd, nad oedd gan y Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad. Adnabuwyd safle’r cais fel y lleoliad ffafriol i’r
is-orsaf newydd allan o restr fer o ddewisiadau lleol. Ystyrir bod yr angen
wedi ei brofi ac egwyddor y bwriad a dewis o lleoliad yn dderbyniol. Ystyria’r swyddogion cynllunio bod y bwriad yn
dderbyniol o safbwynt mwynderau gwledol, cyffredinol
a phreswyl. O safbwynt materion
trafnidiaeth gellir cymeradwyo’r cais yn amodol i amod cynllunio sy’n gofyn am
gymeradwyaeth ymlaen llaw i’r newidiadau i’r fynedfa i’r gefnffordd a chyflwyno
Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu cyn gall y datblygiad ddechrau. Ystyrir bod materion bioamrywiaeth yn
dderbyniol yn ddarostyngedig i amod priodol. Yn dilyn yr holl ystyriaethau cynllunio, ni
ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisïau perthnasol ac ni fyddai’r bwriad yn
cael unrhyw effaith niweidiol yn hir dymor ac felly argymhellwyd i’w ganiatáu
yn unol â’r amodau a restrir yn yr adroddiad yn ogystal â’r amodau ychwanegol
canlynol: ·
Amod
sicrhau gwyro / gwarchod y llwybr ·
Amod
Archeolegol ·
Amod
amser gweithio (b) Cynigwyd ac eilwyd i
ganiatáu’r cais. (c)
Nododd
Aelod na fyddai’n cefnogi’r cais hwn, o
ystyried y peilonau, meliynau gwynt, gwaith trin
dŵr a fodolai’n barod ac sy’n hagru’r ardal, gyda’r cais hwn yn
ychwanegiad at y diwydiannau hynny. Penderfynwyd: Caniatáu gyda’r amodau canlynol: 1. 5 mlynedd 2. Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol
â’r cynlluniau a gyflwynwyd. 3. Gorffeniad i'w gytuno (gan
gynnwys lliw y ffens) 4. Cytuno cynllun i waredu dŵr brwnt a dŵr wyneb 5. Cytuno cynllun rheoli amgylcheddol adeiladu 6.
Cytuno cynllun rheoli traffig adeiladu a derbyn cymeradwyaeth Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru ar faterion mynediad
(ac unrhyw amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i hyn). 7.
Cwblhau’r
tirweddu o fewn y tymor plannu cyntaf
yn dilyn cwblhau’r bwriad. 8. Sicrhau gwyro / gwarchod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |