Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 434301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Dyfrig Jones, John Wyn Williams (Eilydd),
Gweno Glyn, Peter Read, a Dilwyn Lloyd (Aelodau Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Datganodd yr aelod canlynol fuddiant
personol mewn perthynas a’r eitem a nodir isod: ·
Y
Cynghorydd Endaf Cooke (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C14/1197/22/LL) oherwydd perthynas i’r
gwrthwynebydd. Roedd yr Aelod o’r
farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y
drafodaeth ar y cais a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd E. Selwyn
Griffiths, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/1132/44/LL); ·
Y Cynghorydd Eric Merfyn
Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C15/1248/17/LL) ·
Y Cynghorydd Aeron Jones, (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais rhif
C16/0063/17/MW) Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2016, fel rhai cywir. (Copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2016, fel rhai
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio. (Copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
CAIS RHIF: C14/1197/22/LL - BRYN MELYN, NASARETH PDF 870 KB Cyfnewid cyfleusterau lloches anifeiliaid presennol gyda chyfleusterau newydd i gynnwys derbynfa, cybiau cwn, cydiau cathod, mannau parcio, ceubwll a chyfleusterau cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago Dolen i’r dogfennau cenfdir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyfnewid cyfleusterau lloches anifeiliaid presennol gyda chyfleusterau newydd i gynnwys derbynfa, cybiau cŵn, cybiau cathod, mannau parcio, ceubwll a chyfleusterau cysylltiedig. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohirwyd
penderfynu ar y cais yng nghyfarfod mis Chwefror o’r Pwyllgor Cynllunio ac y
cynhaliwyd ymweliad a’r safle gan rai o’r Aelodau cyn y prif gyfarfod
cynllunio. Nodwyd bod yr egwyddor o sefydlu lloches anifeiliaid ar ddaliad “Freshfields” (Bryn Melyn) wedi ei sefydlu yn ôl yn 1997. Credir na fyddai graddfa’r bwriad yn amharu’n arwyddocaol
ar yr amgylchedd o ystyried ad-drawiad a gosodiad yr adeiladwaith presennol ar
y tirlun ynghyd a dyluniad ac edrychiadau/deunyddiau allanol yr adeiladwaith
newydd fydd yn lleihau'r effaith gweledol o fewn y tirlun lleol ac yn gyfle i
wella ansawdd edrychiad y safle. Nodwyd mai prif wrthwynebiad deiliaid anheddau cyfagos i’r cais yw’r aflonyddwch sŵn
sy’n deillio’n bresennol o’r safle a'r sŵn a all ddeillio o’r bwriad drwy
gynyddu’r niferoedd o gŵn a fwriedir eu lletya ar y safle ei hun. Ystyrir
bod y mesurau lliniaru ac ynysu sŵn a gynigir yn
lleihau ac yn negyddu’r aflonyddwch sŵn a fyddai’n deillio o’r adeilad
cybiau newydd fel bod lefelau sŵn yn cydymffurfio a lefelau sŵn
statudol gan obeithio wedyn na fyddai ad-drawiad sylweddol ac arwyddocaol ar
fwynderau preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Unedol
Gwynedd (CDUG) am y rhesymau a roddwyd
yn yr adroddiad. Roedd
y safle yn un prysur ac y byddai’r newidiadau yn ffurfioli’r
cyfleusterau gan gynnwys mannau pwrpasol i barcio. Nodwyd nad oedd gan
yr Uned Trafnidiaeth
unrhyw wrthwynebiad ac o ystyried cyd-destun ac yn ddarostyngedig i gynnwys amodau cynllunio perthnasol, credir bod y cais yn dderbyniol ar
sail graddfa, lleoliad, dyluniad, deunyddiau, diogelwch ffyrdd, parcio, mwynderau gweledol a mwynderau preswyl ac yn cydymffurfio
a pholisiau lleol a chenedlaethol perthnasol. (b)
Cynigiwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais. (c)
Mewn ymateb i bryder amlygwyd gan Aelod ynglyn
a chynnydd yn y nifer o gŵn
a fwriedir lletya ar y safle, esboniodd
y Rheolwr Rheolaeth Datblygu
nad oes unrhyw
achos statudol o niwsans wedi ei
brofi a bod y cais yn welliant o’r
strwythur a bod modd ynysu’r sŵn drwy’r ddarpariaeth pwrpasol ar eu
cyfer. Tynnwyd sylw hefyd
bod amodau ynghlwm i’r cais ar
gyfer ei reoli. O safbwynt
ymholiad pellach i roi cyfnod o brawf
i’r safle, eglurodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y byddai’n afresymol i wneud hyn o ystyried bod 5 ci ar y safle yn
barod ac roedd y cais yn gyfle
i wella’r cyfleusterau. Ychwanegodd
i ymholiad arall ynglyn a chynnydd mewn traffig, na
fyddai fwy o fynd a dod i’r
safle nag sy’n bodoli’n barod. PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedi
i’r amodau canlynol: 1. 3 mlynedd i ddechrau’r gwaith. 2. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAIS RHIF: C15/0215/40/LL - TIR GER TAN YR EGLWYS, ABERERCH PDF 645 KB Adeiladu 9 tŷ annedd newydd a fydd yn cynnwys 3 annedd fforddiadwy ynghyd â ffurfio ffordd fynediad fewnol a llwybr cerdded mewnol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu 9 tŷ annedd newydd a fydd yn
cynnwys 3 annedd fforddiadwy ynghyd a ffurfio ffordd fynediad fewnol a llwybr cerdded mewnol. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd penderfynu ar y cais ar gyfer ymweld a’r safle a
derbyn cynlluniau diwygiedig. Ymwelwyd
a’r safle gan y Pwyllgor Cynllunio a chyflwynir cais diwygiedig i godi 8 yn
hytrach na 9 o dai ar safle o fewn ffin datblygu Abererch ac a ddynodwyd yng
Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd ar gyfer tai newydd ar gyfer marchnad
gyffredin. Yn sgil lleihau’r nifer o dai
o 9 i 8, cynigir 2 o’r 8 ty yn rhai fforddiadwy. Derbyniwyd Datganiad Ieithyddol a Chymunedol
fore’r cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio hwn ac roedd swyddogion yn y broses o
ymgynghori ar ei gynnwys gyda’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd. Cyfeiriwyd at asesiad o’r ystyriaethau cynllunio
perthnasol fel a gyflwynwyd yn yr adroddiad.
Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan yr Uned Trafnidiaeth, Uned
Bioamrywiaeth, nac ychwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu’r bwriad
diwygiedig ond roedd y swyddogion cynllunio o’r farn
nad oedd y gwrthwynebiadau yn cyfiawnhau gwrthod y cais. Ar sail derbyn y Datganiad Ieithyddol a
Chymunedol y bore hwnnw argymhelliad y swyddogion ydoedd i ddirprwyo’r hawl i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd i’r datganiad Ieithyddol a Chymunedol ynghyd ag i’r
ymgeisydd arwyddo Cytundeb 106 i sicrhau 2 dy fforddiadwy ar gyfer angen lleol
ac i amodau cynllunio perthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. (b)Cynigiwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y
swyddogion cynllunio. (a) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Pryder ynglyn â’r
ardrawiad ieithyddol ac nad oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi cael cyfle i’w weld
ac felly teimlwyd ei fod yn gynamserol i’r Pwyllgor benderfynu ar y cais hyd
nes eu bod yn derbyn y manylion a gwybodaeth gyflawn yn y Datganiad Ieithyddol
a Chymunedol ·
Bod gwendid sylfaenol yn y polisïau sy’n nodi nad oes raid i ymgeiswyr
gyflwyno asesiad iaith. Dylid newid y
polisïau i gynnwys yr angen am asesiad ieithyddol ·
Pryder pe byddir yn gohirio cymryd penderfyniad ar y cais, y byddai’r
ymgeisydd yn cyflwyno apêl yn erbyn y Cyngor am ddiffyg penderfyniad o fewn
cyfnod o amser dynodedig ·
Siomedig bod cyfran y tai fforddiadwy yn lleihau ac ar gyfer 2 dy
deulawr gromen pâr dwy ystafell wely (ch) Mewn ymateb
i’r sylwadau uchod, eglurwyd: ·
y byddai modd i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio penderfynu ar y cais neu
ymddiried yn y swyddogion i ymgynghori ar gynnwys y datganiaid
ieithyddol a pe derbynir cadarnhad gan yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd fod ei gynnwys yn dderbyniol i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb 106 ac i’r amodau cynllunio perthnasol. ·
y byddai gan yr ymgeisydd berffaith hawl i gyflwyno apêl ac fe sicrhawyd
y byddai’r swyddogion yn asesu’r datganiad ieithyddol yn fanwl (b) Cynigwyd ac eilwyd gwelliant i ohirio cymryd penderfyniad ar y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CAIS RHIF: C15/0793/32/LL - 'STAD NANHORON, BOTWNNOG PDF 648 KB Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gweno Glyn Dolen i’r dogfennau cefndir
perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng
nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Chwefror er mwyn ymweld a’r safle. Ymwelodd rhai o aelodau’r Pwyllgor Cynllunio
y safle ar 7 Mawrth 2016 ac hefyd bu iddynt fynd i weld y safle o mynydd Rhiw.
Eglurwyd mai cais ar gyfer gosod paneli solar ar dir amaethyddol ynghyd â
gwaith atodol gan gynnwys trac mynediad newydd oedd gerbron. Saif y safle ar lethr esmwyth oddeutu 700 medr i’r de
ddwyrain o bentref Botwnnog ac yng nghefn gwlad agored ymhlith tirwedd donnog
gyda choedwig aeddfed tuag at ffin ddwyreiniol a gwrychoedd o amgylch mwyafrif
caeau’r safle. Cyfeirwyd at ymatebion yr
ymgynghoriadau cyhoeddus ynghyd â sylwadau hwyr ychwanegol a dderbyniwyd a
gyflwynwyd i’r Aelodau. Nodwyd bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol ac yn
cydymffurfio â pholisi strategol ar gyfer darparu ynni o ffynhonellau
adnewyddadwy. Un o’r prif bwyntiau i’w ystyried o safbwynt y cais hwn
ydoedd mwynderau gweledol ac roedd yr ymweliad safle o gymorth i ddeall y
tirwedd yn well yn ogystal a’r safle.
Nodwyd nad oedd y safle ei hun o
fewn yr AHNE ond yn weladwy o rhai mannau.
Byddai’r golygfeydd yn rhai o bell megis o diroedd uwch yn ardal Mynydd
Rhiw a Garn Fadryn gyda’r golygfeydd o gefn y paneli
solar neu o’u hochr. Derbyniwyd
sylwadau’r Uned AHNE ar y bwriad arfaethedig ac roeddynt o’r farn na fyddai’r bwriad yn cael effaith arwyddocaol ar yr
AHNE ei hun. Derbyniwyd datganiad gan
Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi eu bod yn fodlon y gall y paneli solar gael eu
cymhwyso heb effaith sylweddol ar olygfeydd yr AHNE. O ganlyniad, ystyrir bod y bwriad yn
dderbyniol o agwedd mwynderau gwledol. O safbwynt dylunio, roedd yn amlwg o’r safle
bod cloddiau aeddfed eithaf uchel o gwmpas y caeau eu hunain a thu hwnt yn
ogystal a band o goed aeddfed a oedd yn sgrin effeithiol o un cyfeiriad.
Ystyrir y byddai mod rhoi amod i gytuno manylion mwy o waith tirlunio er mwyn
atgyfnerthu gwrychoedd presennol sydd mewn rhannau yn wan a thenau. Yn sgil hyn
ystyrir y byddai’r bwriad yn dderbyniol. Derbyniwyd gohebiaeth yn gwrthwynebu oddi wrth berchennog
eiddo cyfagos yn ymwneud ag effaith ar y golygfeydd ynghyd ag effaith fflachio
a llacharedd. Nodwyd bod yr eiddo wedi
ei leoli oddeutu 270 medr i’r dwyrain o’r safle gyda phrif edrychiad yr eiddo
yn edrych tuag at y de orllewin. O
ystyried pellter yr eiddo o’r safle ac mai ochr y paneli fyddai i’w gweld
ohono, ni chredir y byddai’r effaith yn ormesol i breswylwyr yr eiddo ac na
fyddai’r effaith ar y tirlun yn cyfiawnhau gwrthod y cais. Tra’n cydnabod bod potensial isel o fflachio
a llacharedd, ystyrir bod y bwriad i blannu gwrych newydd ac i gael cynllun
tirlunio ni ystyrir y byddai’n achosi niwed arwyddocaol o safbwynt colli
mwynderau i’r eiddo dan sylw. Nodwyd bod Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd angen cyflawni rhagor o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CAIS RHIF: C15/1132/44/LL - LIDL STORE, FFORDD PENAMSER, PORTHMADOG PDF 957 KB Cais llawn i ddymchwel siop bresennol ac ail godi siop newydd yn ei lle gyda gwaith cysylltiol gan gynnwys gwyro llwybr presennol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
E. Selwyn Griffiths Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i
ddymchwel siop bresennol ac ail godi siop newydd yn ei lle gyda gwaith
cysylltiol gan gynnwys gwyro llwybr presennol (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais gan nodi y byddai’r
bwriad yn gwneud defnydd o safle y siop a’r mannau parcio presennol yn
ogystal a safle cyfochrog. Lleolir y safle o fewn
ffin datblygu tref Porthmadog ac wedi
dymchwel yr adeilad presennol, y bwriad fyddai ail wampio’r
safle trwy godi’r adeilad newydd mewn lleoliad newydd yn gyfochrog a’r ffordd
stad bresennol gan greu mannau parcio o fewn lleoliad y siop bresennol. Cyfeirwyd at yr ymgynghoriadau cyhoeddus, y ffurflen sylwadau
hwyr a’r polisiau cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad. Nodwyd fod egwyddor y
bwriad yn dderbyniol a chyfeirwyd at hanes
cynllunio’r safle. O safbwynt mwynderau gweledol, tynnwyd sylw bod arwynebedd
llawr yr uned yn cynyddu ac yn fwy na’r siop bresennol. Fodd bynnag, ni chredir y byddai hyn yn afresymol o ran ei faint o fewn
cyd-destun maint adeiladau presennol eraill o fewn cyffiniau y safle eang hwn. Ni chredir y byddai’r
bwriad yn amharu i raddau annerbyniol sylweddol yn fwy na’r hyn sydd eisoes yn bodoli ar fwynderau
cyffredinol a phreswyl yr ardal leol. Ni
dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad
gan Uned Trafnidiaeth y Cyngor. Tynnwyd
sylw at bryderon amlygwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt materion
llifogydd. Yn dilyn trafodaethau deallir bod modd dod i ganlyniad
derbyniol a chytundeb ar fanylion Asesiad Canlyniadau Llifogydd a chredir y byddai’r datblygiad yn dderbyniol ac yn
cydymffurfio a gofynion y polisiau perthnasol. Ar sail derbyn
cadarnhad CNC fod y bwriad yn dderbyniol argymhelliad y swyddogion cynllunio
ydoedd i ganiatau’r cais yn ddarotnygedig
i amodau cynllunio perthnasol. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd
asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod Lidl yn bwriadu buddsoddi
£1.5b dros yr ychydig flynyddoedd nesaf wrth
gyflwyno siopau newydd i
safon uwch ·
Bod llond llaw o siopau o ansawdd
uchel yn y DU gyda Phorthmadog yn un
o rhai cyntaf yng Ngogledd Cymru ·
Bydd y siop newydd yn
elwa o fuddsoddiad sylweddol yn ffabrig
yr adeilad yn fewnol ac yn allanol ·
Bydd y dyluniad allanol a mewnol
o fanyleb uwch o lawer ·
Bydd y siop
newydd yn darparu amgylchedd
siopau o ansawdd uwch i gwsmeriaid a
gwell amgylchedd gwaith i staff ·
Bydd aelodau presennol o'r staff yn
cael eu cadw gyda 10-20 o
swyddi newydd yn cael eu creu
a'u llenwi gan bobl leol ·
Bydd gwelliant i'r cysylltiad
o’r llwybr troed i'r dref (c) Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) gefnogaeth i’r bwriad arfaethedig ac yn ymfalchio bod Lidl wedi dewis Porthmadog ar gyfer uwchraddio’r siop ac yn sicr fe fydd o fudd i’r economi leol. Ni ragwelwyd unrhyw bryder gyda’r llwybr cyhoeddus ond tynnwyd sylw i sicrhau rheolaeth ar amseroedd llwytho a dadlwytho nwyddau. Gwnaed cais hefyd i’r arwydd ar ochr y briffordd fod yn ddi-oleuedig yn ogystal a sicrhau bod yr arwydd fydd ar y siop ei hun yn cael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
CAIS RHIF: C5/1248/17/LL - 35 Y GRUGAN, GROESLON, CAERNARFON PDF 705 KB Cais i godi modurdy. AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric Merfyn Jones Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i godi modurdy. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod rhai o’r Aelodau wedi ymweld a’r
safle cyn y prif gyfarfod hwn. Roedd y bwriad ar gyfer
codi modurdy sengl newydd ar
ran o dir tu allan i gwrtil penodol yr eiddo,
sydd ar ben draw ffordd stad. Nodwyd
bod sylfaen concrid yn bodoli ar
y safle yn barod sy’n darparu
lle parcio, gyda’r sylfaen yn ymestyn tu
allan i safle’r cais ac yn darparu
oddeutu 2 lecyn parcio ychwanegol i dai eraill. Derbyniwyd
nifer o wrthwynebiadau i’r bwriad yn
ymwneud gyda lleoliad y modurdy o safbwynt perchnogaeth tir, anghydfod perchnogaeth tir, mynediad ar gyfer
cynnal a chadw rhan o eiddo a defnydd o lwybr sy’n rhedeg heibio
ochr y modurdy gan y cyhoedd. Nodwyd
bod y bwriad yn golygu ymestyn y sylfaen concrid presennol i’r ochr
(tuag at eiddo rhif 23) ac i’r cefn gyda’r cynlluniau
a gyflwynwyd yn dangos bod y tir o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd. Eglurwyd
bod materion perchnogaeth yn fater sifil,
yn hytrach na mater cynllunio, felly nid yw anghydfod
perchnogaeth tir yn rheswm i wrthod
caniatâd cynllunio. Nodwyd byddai ymestyn y sylfaen yn amharu ar
lwybr sy’n rhedeg rhwng y modurdy bwriedig ac eiddo rhif 23 Y Grugan. Ymddangosir fod y llwybr o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd, roedd
asiant y cais wedi derbyn cadarnhad
ysgrifenedig gan yr Uned Llwybrau
nad yw’r llwybr yma yn
llwybr cyhoeddus, nac o fewn perchnogaeth
Cyngor Gwynedd, nac ychwaith
wedi ei fabwysiadu
na’i gynnal gan y Cyngor. Nodwyd bod y modurdy bwriedig i’w godi yn
llwyr ar dir sydd wedi
ei leoli o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd, ac ni ystyrir ei
fod yn or-ddatblygiad o’r safle, nac yn
cael effaith andwyol ar breifatrwydd
na mwynderau unrhyw unigolyn cyfagos. Cadarnhawyd
na ystyrir bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn gorbwyso’r ystyriaethau
polisi na’r materion cynllunio perthnasol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda pholisiau y CDUG am y rhesymau a roddwyd
yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod y cais yn fater sensitif
iawn i drigolion y pentref ·
Nodir yn yr adroddiad bod
modurdy wedi bod ar y safle yn y gorffennol ond bryd hynny roedd yn rhan o
eiddo 35 o dan gytundeb rhwng cyfeillion ·
Bod y modurdy mewn cyflwr gwael
ac roedd yn rhaid ei thynnu i lawr ·
Wrth edrych ar y cynlluniau
bod to’r modurdy yn rhedeg yn ôl a phryderwyd y byddai dwr yn rhedeg i lawr
tuag at adwy eiddo 37 ac yn creu llifogydd ·
Yn ogystal fe fyddai’r modurdy
yn ymestyn dros y palmant a chwestiynwyd sut fyddir yn gwneud gwaith i’r
modurdy ·
Bod y darn concrid ar gyfer
parcio yn unig ac ddim ar gyfer adeiladu · Pe byddir yn adeiladu modurdy ar y concrid y byddai’n anodd i’r perchennog ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
CAIS RHIF: C16/0063/17/MW - CHWAREL MOEL TRYFAN, RHOSGADFAN PDF 770 KB Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatau rhif C14/0471/17/LL i alluogi cynnydd mewn allbwn. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais o dan Adran 73 i
amrywio amod 6 ar ganiatâd rhif C14/0471/17/LL i alluogi cynnydd mewn allbwn. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau
a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi ar hanes diweddar y safle. Ail-gydiwyd yn y gwaith yn 2007 ar ôl i’r
Cyngor gyflwyno rhestr diwygiedig o amodau dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i
ail-gychwyn ennill a gweithio mwynau ynghyd a gweithrediadau cysylltiedig yn y
chwarel uchod. Derbyniwyd sawl cais
yn ddiweddar i wella is-adeiladd y safle, megis
caniatâd yn 2013 i wella y ffordd gludo a’r fynedfa i’r briffordd. Yn dilyn hyn, rhoddwyd caniatâd yn 2014 i amrywio yr un amod, gyda’r caniatâd
blaenorol yn 2007 a ganiatawyd i gynyddu allbwn y chwarel o 10,000 tunnell y
flwyddyn i 20,000 tunnell yn ddarostyngedig i gario 4
llwyth y dydd. Pwysleiswyd
bod yr egwyddor o 4 llwyth y dydd eisoes wedi ei sefydlu. Cyfeiriwyd at y materion yn ymwneud â traffig a mynediad
o fewn yr adroddiad ac fe nodwyd ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan yr uned
drafnidiaeth cyn belled a bo nifer y symudiadau o ac
i’r safle yn cynyddu. Tynnwyd sylw’r
Pwyllgor Cynllunio at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Adran Gwarchod y
Cyhoedd yn datgan nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad gydag amodau cyfredol mewn perthynas a
sŵn o’r datblygiad yn ddigonol. Derbyniwyd dau lythyr
o wrthwynebiad ynglyn â phryderon yn ymwneud â
thraffig, sŵn digryniad, llwch, a.y.b. Nodwyd
bod Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi gofyn i edrych eto ar faterion llwch yn dod
o’r chwarel i adlewyrchu anghenion rheolau modern. Bwriedir cadw rhan o’r
amod sy’n gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno nifer y symudiadau i’r Adran Gynllunio o
fewn amser penodol ac yn sgil hyn argymhellir i ganiatáu. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd
asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod caniatâd presennol sy’n rheoli datblygiad
y safle yn cyfyngu allbwn y safle i 20,000 tunnelll y
flwyddyn yn amodol i 4 llwyth y diwrnod ·
Mai cais ydoedd i ddiddymu rhan o amod 6 i
gyfyngu’r allbwn y chwarel ac yn hytrach yn ddibynnol ar nifer o lwythi all
adael y safle bob dydd ·
Bod yr ymgeisydd yn awyddus i gynyddu’r allbwn
flynyddol ond yn ymwybodol o’r pryderon
yn lleol ynglyn â chynnydd yn y traffig trwm ·
Bod modd codi’r lefelau tra yn aros tu fewn
i’r caniatâd tra yn manteisio ar uchafswm maint a nifer y llwythi dyddiol a
thrwy neud hyn ni fyddai effaith andwyol ar fwynderau trigolion yn codi
oherwydd ni fyddai lefelau trafnidiaeth
trwm yn cynyddu uwchben yr hyn a ganiateir yn bresennol ·
Er bod dau lythyr o wrthwynebiad wedi ei
dderbyn yn barod nid oes run gwrthwynebiad gan yr ymgynghorwyr statudol ·
Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan y Cyngor
Cymuned, nac ychwaith Adran Priffydd y Cyngor ·
Ni fydd cynnydd yn nifer dyddiol y llwythi ·
Bod yr adroddiad yn cadarnhau bod y cynnig yn
cydymffurfio â pholisau perthnasol y Cynllun Datblygu
Unedol Gwynedd · Bydd y safle yn cyfrannu at gyflenwad cynaliadwy o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |