Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Gwen Griffith a Dyfrig Wynn Jones, a’r Cynghorydd Peter Read (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd E. Selwyn
Griffiths, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/1181/44/LL); ·
Y Cynghorydd Eric M. Jones,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/1248/17/LL); ·
Y Cynghorydd Anwen Davies,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/1356/40/LL); ·
Y Cynghorydd Michael Sol Owen,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C14/1118/45/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y
Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt
bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2016, fel rhai cywir. (copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2016, fel
rhai cywir yn ddarostyngedig i ychwanegu o dan gais rhif C15/1281/11/LL - Coach
House, Belmont Road, Bangor ar dudalen 10: PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau 1.
5 mlynedd 2.
Yn unol â'r cynlluniau 3.
To llechi 4.
Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir yn ymwneud ag
unrhyw newidiadau i'r to. 5.
Amod i reoli'r gwaith dymchwel gan gynnwys cyflwyno
cynllun rheoli dull dymchwel cyn dechrau ar y gwaith a chyfyngu'r oriau
gweithio i 09:00-18:00 Dydd Llun - Dydd Gwener, 09:00-13:00 Dydd Sadwrn, a dim
o gwbl ar Ddydd Sul a Gŵyl Banc. 6.
Rhaid i’r gwaith dymchwel digwydd dilyn yr
argymhellion yn yr adroddiad ecolegol 7.
Amod i gytuno'r ymdriniaeth o'r ffiniau 8.
Cytuno ar gynllun draenio
carthion
a thraenio dŵr wyneb. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio (copi ynghlwm) Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C14/1197/22/LL - Bryn Melyn, Nasareth PDF 790 KB Cyfnewid cyfleusterau lloches anifeiliaid presennol gyda chyfleusterau newydd i gynnwys derbynfa, cybiau cwn, cybiau cathod, mannau parcio, ceubwll a chyfleusterau cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod
yr egwyddor o sefydlu lloches anifeiliaid ar ddaliad “Freshfields”
(Bryn Melyn) wedi ei sefydlu yn ôl yn 1997. Credir na fyddai graddfa’r bwriad yn amharu’n arwyddocaol ar yr amgylchedd
o ystyried ad-drawiad a gosodiad yr adeiladwaith presennol ar y tirlun ynghyd a
dyluniad ac edrychiadau/deunyddiau allanol yr adeiladwaith newydd fydd yn
lleihau'r effaith gweledol o fewn y tirlun lleol ac yn gyfle i wella ansawdd
edrychiad y safle. Nodwyd mai prif wrthwynebiad deiliaid anheddau cyfagos i’r cais yw’r
aflonyddwch sŵn sy’n deillio’n bresennol o’r safle a'r sŵn a all
ddeillio o’r bwriad drwy gynyddu’r niferoedd o gŵn a fwriedir eu lletya ar
y safle ei hun. Ystyrir bod y mesurau lliniaru ac ynysu sŵn a gynigir yn lleihau ac yn negyddu’r aflonyddwch sŵn a
fyddai’n deillio o’r adeilad cybiau newydd fel bod lefelau sŵn yn
cydymffurfio a lefelau sŵn statudol gan obeithio wedyn na fyddai
ad-drawiad sylweddol ac arwyddocaol ar fwynderau preswyl a chyffredinol
trigolion cyfagos. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Unedol
Gwynedd (CDUG) am y rhesymau a roddwyd
yn yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn siarad ar ran
deiliaid anheddau cyfagos i safle’r cais; ·
Bod aflonyddwch sŵn yn
deillio o’r safle ers nifer o flynyddoedd a byddai cynyddu’r nifer o gŵn a
gartrefir yno yn ychwanegu at y broblem; ·
Pryder o ran diogelwch ffyrdd,
dylid cynnwys man biniau sbwriel ar y safle yn hytrach na’u rhoi ar y lôn; ·
Nad oedd yr ymgeisydd wedi
ymgynghori efo trigolion cyfagos cyn cyflwyno’r cais; ·
Oherwydd ymddygiad yr
ymgeisydd dros y blynyddoedd nid oedd yn credu y byddai’n gweithredu yn unol â’r caniatâd cynllunio; ·
Pe caniateir y cais, dylid
gosod amodau caeth a monitro’r safle. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Nododd aelod
y dylid cymryd i ystyriaeth pryder
y Cyngor Cymuned ynghyd a thrigolion cyfagos. Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad
safle. PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle. |
|
Cais Rhif C15/0215/40/LL - Tir ger Tan yr Eglwys, Abererch PDF 643 KB Adeiladu 9 tŷ annedd newydd a fydd yn cynnwys 3 annedd fforddiadwy ynghyd a ffurfio ffordd fynediad fewnol a llwybr cerdded mewnol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read Dogfennau ychwanegol: Cofnod: ‘Roedd aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod. (a) Adroddwyd bod cynlluniau diwygiedig wedi eu derbyn.
Nodwyd bod angen ail-ymgynghori ac ail asesu’r cais felly gofynnir am ohirio’r cais. PENDERFYNWYD gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C15/1181/44/LL - Bryn Hyfryd, 25, Heol Merswy, Borth y Gest PDF 655 KB Cais i ddymchwel modurdy a chodi anecs cysylltiol yn ei le. AELOD LLEOL: Cynghorydd E. Selwyn Griffiths Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng
nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2016 er mwyn cynnal ymweliad
safle a chadarnhau’r nifer o ystafelloedd gwely sydd yn yr eiddo presennol. ‘Roedd
aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod a derbyniwyd cadarnhad gan yr
ymgeisydd bod 3 ystafell wely ar y llawr
cyntaf ac 1 ystafell wely yn yr
atig. Tynnwyd sylw nad oedd rhaid i’r
ymgeisydd dderbyn caniatâd cynllunio i drosi’r modurdy i un ystafell
ychwanegol. Nodwyd yr argymhellir, pe caniateir y cais, y bwriedir gosod amod
mai defnydd atodol i’r tŷ presennol yn unig y gwneir o’r anecs. Roedd y datblygiad
yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (a)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Ei fod yn ddiolchgar i’r aelodau
am ymweld â’r safle; ·
Nodwyd bod gwrthwynebiad
cryf i’r bwriad gan drigolion
Borth y Gest yn ogystal â’r Cyngor
Tref; ·
Pryder ynglŷn â pharcio o ystyried bod problemau parcio yn y pentref yn
bodoli’n barod; ·
Bod y perchennog yn rhedeg busnes
o’r eiddo; ·
Nad oedd yr anecs yn gysylltiol a’i bryder y byddai’n eiddo ar wahân; ·
Na fyddai’n gwrthwynebu un
ystafell ychwanegol ond bod yr anecs bwriedig yn debycach i studio flat; ·
Y byddai’n creu cynsail ar
gyfer gweddill y teras; ·
Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y cais, ond os
caniateir, y gosodir amod mai defnydd
is-wasanaethol yn unig y gwneir o’r anecs. (c)
Mewn ymateb i sylwadau’r
aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio: ·
Ei
fod yn deall y pryderon ond ni ellir penderfynu ar gais ar sail beth ddigwyddith yn y dyfodol; ·
Bod yr anecs bwriedig yn dderbyniol o ran maint, gosodiad a’i berthynas efo’r
eiddo; ·
Argymhellir gosod amod mai
defnydd is-wasanaethol/atodol yn unig
y gwneir o’r anecs. Nododd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth bod y tŷ teras yn ffodus
i gael
llecyn parcio a bod maes parcio yn
y Pentref ynghyd â pharcio ar y stryd,
er y cydnabyddir bod cystadleuaeth am y llefydd parcio. Cadarnhaodd nad oes angen parcio ychwanegol
neu benodol ar gyfer anecs. Mewn ymateb i ymholiad
gan aelod, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio yn achos
y cais yma, ni fyddai’n briodol
gosod Cytundeb 106 i glymu defnydd
yr anecs i’r tŷ gan
nad oedd pryder o ran ei faint a’i fod wedi
ei leoli oddi mewn i’r
ffin datblygu. Pwysleisiodd yr argymhellir gosod amod mai defnydd is-wasanaethol/atodol yn unig y gwneir
o’r anecs. (ch)
Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn
groes i argymhelliad
y swyddogion oherwydd y byddai’n or-ddatblygiad o’r safle. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Bod y Cyngor Tref, yr Aelod
Lleol a thrigolion cyfagos yn gwrthwynebu’r
bwriad; |
|
Cais Rhif C15/1199/16/LL - Chwarel Penrhyn, Bethesda PDF 583 KB Gosod weirs sip newydd ger y weirennau sip presennol ynghyd a gosod cyfarpar cysylltiedig a llwyfannau i weddu'r presennol, codi bwnd acwstig 4.5 medr, ail leoli llwyfannau presennol a cysgodfan, newid lefelau, ail leoli llwybrau presennol a codi adeilad cysgodi newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gwen Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod menter Zip World wedi ei sefydlu o fewn ffiniau’r
Chwarel a byddai rhan o’r bwriad yn golygu gosod 2 gwifren sip ychwanegol ger y
sip mawr a 2 ychwanegol ger y sip bychan. Nodwyd y derbyniwyd sawl gwrthwynebiad i’r bwriad ar sail effaith sŵn y datblygiad presennol a’r ffaith y byddai’r
bwriad yn cynyddu’r effaith. Roedd yr ymgeisydd wedi
cytuno i gyfyngu oriau agor
y fenter rhwng 08:00 i 20:00 yn ddyddiol
ac yr argymhellir gosod amod priodol
os caniateir y cais. Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn datgan,
dim gwrthwynebiad yn ddarostyngedig i amodau yn
ymwneud a rheoli lefelau sŵn ac oriau gweithredu. Nodwyd yr argymhellir gosod amod ychwanegol
i’r hyn a nodir yn yr
adroddiad i gytuno ar amodau
sŵn. Roedd
y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y fenter lwyddiannus wedi ei sefydlu ers
2½ mlynedd a’i fod yn hybu
Gwynedd fel man i dwristiaid ymweld; ·
Bod yr
ymgeisydd yn fodlon cyfyngu oriau agor y fenter; ·
O ran pryderon sŵn, y byddai’r
bwnd acwstig yn gwella’r sefyllfa; ·
Gan fod y safle wedi ei leoli
dros 200m i ffwrdd o’r eiddo
preswyl agosaf ni ystyrir y byddai
colli preifatrwydd; ·
Bod y cwmni yn cymryd
i ystyriaeth yr effaith ar fwynderau trigolion. (c) Nodwyd bod yr aelod lleol
yn gefnogol i’r cais. Cynigwyd a eiliwyd i
ganiatáu’r cais. Nododd aelod ei fod yn croesawu’r gyflogaeth a greuir gan y fenter a’i obaith y cyflogir yn lleol. Mewn
ymateb i’r sylw, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ei bod wedi mynychu
cyflwyniad gan y cwmni yn ddiweddar a bod mwyafrif o’r staff yn lleol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1.
Amser 2.
Unol
â’r cynlluniau 3.
Deunyddiau 4.
Amodau
bioamrywiaeth 5.
Amod
cyfyngu amser agor rhwng yr oriau 08:00 a 20:00. 6. Cynllun
yn dangos lleoliad ble bwriedir ffynonhellu gwastraff
llechi ar gyfer creu'r bwnd i’w gyflwyno a’i gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio
Lleol cyn i unrhyw waith ddechrau ar y datblygiad 7. Cytuno ar amodau sŵn priodol. Nodiadau: Archeoleg a
materion mwynau |
|
Cais Rhif C15/1238/42/LL - Cefn Edeyrn, Edern PDF 607 KB Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 27 o unedau ynghyd ac adeiladu bloc toiledau / cawod a gosod tanc septig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Sian Wyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Adroddwyd bod y
cais uchod wedi ei dynnu'n
ôl. PENDERFYNWYD derbyn a
nodi'r uchod. |
|
Cais Rhif C15/1248/17/LL - 35, Y Grugan, Groeslon, Caernarfon PDF 781 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi ei fod
ar gyfer codi modurdy sengl
newydd ar ran o dir tu allan
i gwrtil penodol yr eiddo,
sydd ar ben draw ffordd stad. Nodwyd
bod sylfaen concrid yn bodoli ar
y safle yn barod sy’n darparu
lle parcio, gyda’r sylfaen yn ymestyn tu
allan i safle’r
cais ac yn darparu oddeutu 2 lecyn parcio ychwanegol
i dai eraill.
Adroddwyd
y derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau i’r bwriad yn ymwneud
gyda lleoliad y modurdy o safbwynt perchnogaeth tir, anghydfod perchnogaeth tir, mynediad ar
gyfer cynnal a chadw rhan o eiddo
a defnydd o lwybr sy’n rhedeg heibio
ochr y modurdy gan y cyhoedd. Nodwyd
bod y bwriad yn golygu ymestyn y sylfaen concrid presennol i’r ochr
(tuag at eiddo rhif 23) ac i’r cefn gyda’r cynlluniau
a gyflwynwyd yn dangos bod y tir o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd. Eglurwyd
bod materion perchnogaeth yn fater sifil,
yn hytrach na mater cynllunio, felly nid yw anghydfod
perchnogaeth tir yn rheswm i
wrthod caniatâd cynllunio. Nodwyd byddai ymestyn y sylfaen yn amharu ar
lwybr sy’n rhedeg rhwng y modurdy bwriedig ac eiddo rhif 23 Y Grugan. Ymddangosir fod y llwybr o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd, roedd
asiant y cais wedi derbyn cadarnhad
ysgrifenedig gan yr Uned Llwybrau
nad yw’r llwybr yma yn
llwybr cyhoeddus, nac o fewn perchnogaeth
Cyngor Gwynedd, nac ychwaith wedi ei
fabwysiadu na’i gynnal gan y Cyngor.
Nodwyd bod y modurdy bwriedig i’w godi
yn llwyr ar dir sydd
wedi ei leoli
o fewn perchnogaeth yr ymgeisydd, ac ni ystyrir ei
fod yn or-ddatblygiad o’r safle, nac yn
cael effaith andwyol ar breifatrwydd
na mwynderau unrhyw unigolyn cyfagos. Cadarnhawyd
na ystyrir bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn gorbwyso’r ystyriaethau
polisi na’r materion cynllunio perthnasol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn cynrychioli trigolion y Grugan; ·
Y byddai’r
modurdy bwriedig yn atal iddo
barcio yn ei fan parcio presennol; ·
Y dylai’r
Pwyllgor ystyried cynnal ymweliad safle; ·
Effaith ar y llwybr a ddefnyddir gan unigolyn anabl a oedd yn byw
yn rhif 37; ·
Y byddai’r modurdy yn creu
man i unigolion cymryd rhan mewn
gweithgareddau gwrthgymdeithasol
ac anghyfreithlon. (c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod y cais wedi hollti’r
gymdeithas; ·
Bod y sylfaen goncrid yn
darparu man parcio dim lle ar gyfer modurdy; ·
Bod caniatâd llafar wedi bod
rhwng deiliaid rhif 36 a cyn perchennog rhif 35 o ran trefniadau parcio; ·
Bod mannau parcio ar gyfer
rhifau 35, 36 a 37, os caniateir y cais y byddai modurdy mwy na’r sylfaen
goncrid presennol yn amharu ar y llecyn canol ac amharu ar lwybr ac eiddo rhif
23; · Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif C15/1356/40/LL - 1-3 Wenallt, Arddgrach, Llannor PDF 575 KB Cais diwygiedig i ddymchwel annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ynghyd a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi y byddai’r tŷ newydd arfaethedig wedi ei osod
yn ôl i
mewn i’r llain ar safle
lle lleolir sied amaethyddol sinc yn bresennol.
Nodwyd y bwriedir creu mynedfa
newydd ar safle’r tŷ presennol, gan ymestyn trac o ymyl y gerbydlon i’r tŷ a throi
i gyfeiriad giât mynedfa i’r
cae cyfochrog. Nodwyd nad
oedd y bwriad yn cydymffurfio a phrif feini prawf polisi dymchwel ag ail adeiladu
mewn pentrefi gwledig sydd yn gofyn bod unedau newydd yn cael eu lleoli ar
safle’r uned wreiddiol neu cyn agosed ag sy’n ymarferol bosib iddo. Oherwydd ei
leoliad a’i ongl gosodiad, ystyrir y byddai’r bwriad yn creu nodwedd ymwthiol i
gefn gwlad ble nad yw’n cynnal cymeriad yr ardal na chadw patrwm datblygu
cyffredinol y strydwedd. Roedd y bwriad yn groes i
egwyddorion polisi CH13 a B22 o’r CDUG. Amlygwyd bod Polisi CH5 o’r CDUG yn caniatáu
cynigion ar gyfer datblygiad preswyl ar safleoedd addas mewn pentrefi gwledig
ar gyfer tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cymunedol yn unig. Nodwyd nad
oedd y datblygiad yn cydymffurfio, gan ni gynigir
tŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol cymunedol ac nid oedd yn unol â
gofynion maint tai fforddiadwy fel yr amlinellir yng Nghanllaw Cynllunio
Atodol: Tai Fforddiadwy’r Cyngor. Tynnwyd sylw nad oedd
arolwg gweithgaredd yn ffurfio rhan o’r arolwg ystlumod a gyflwynwyd gyda’r
cais gan nad oedd hi’n amser iawn o’r flwyddyn a ni chynigiwyd mesurau lliniaru priodol, o’r herwydd mae’r
bwriad yn groes i bolisi A1 ynghyd a pholisi B20 o’r CDUG sy’n datgan, y
gwrthodir cynigion sy’n debygol o achosi aflonyddwch neu niwed annerbyniol
uniongyrchol neu anuniongyrchol i rywogaethau a warchodir a’u cynefinoedd, oni
bai gellir lleihau unrhyw effaith neu liniaru’n
effeithiol. Nodwyd er bod potensial i ddatblygu’r
safle, ni ystyrir fod yr ail gyflwyniad gerbron yn dderbyniol ac ar sail y
cynlluniau a gyflwynwyd yr argymhellir gwrthod y cais. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod yr ecolegwyr a gomisiynwyd gan yr ymgeisydd
wedi nodi ei fod yn
arfer cyffredin i ganiatáu ceisiadau
cynllunio yn amodol ar dderbyn
cynllun lliniaru; ·
Bod yr adeiladau presennol yn hyll a bod y bwriad yn cynnig
tŷ modern cynaliadwy; ·
Y bwriedir gwella’r fynedfa bresennol er mwyn
cydymffurfio a safonau priffyrdd, ac o’r herwydd nid oedd
yn bosib lleoli’r tŷ ar y lleoliad presennol; ·
Ni fyddai
dyluniad a gosodiad y tŷ arfaethedig yn creu niwed
i strydlun y pentref; ·
Bod maen prawf 3, polisi CH13 o’r CDUG yn cefnogi
ceisiadau lle'r oedd yr uned
newydd wedi ei leoli cyn
agosed ac yn ymarferol bosib i’r safle gwreiddiol. (a)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod y tŷ presennol yn wag
ers 4 mlynedd ac wedi dirywio’n sylweddol, byddai’r bwriad yn welliant i’r
pentref; ·
Bod yr ymgeisydd yn lleol; · Bod rhaid lleoli’r tŷ yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C14/1118/45/LL - Tir ger Ala Cottage, Yr Ala, Pwllheli PDF 852 KB Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu tai ymddeol (30 o unedau) ynghyd a chyfleusterau cymunedol, tirlunio a safle parcio ceir. AELOD LLEOL: Cynghorydd Michael Sol Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn
gan yr Is-gadeirydd. Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu tai ymddeol (30 o unedau) ynghyd a
chyfleusterau cymunedol, tirlunio a safle parcio ceir. (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi o’r wybodaeth a
gyflwynwyd deallir y byddai’r unedau yn cael eu gwerthu ar les 125 mlynedd
gyda’r llety i’w feddiannu gan berson dros 60 mlwydd oed neu yn achos cwpl fod
un ohonynt dros 60 oed a’r llall dros 55 oed. Eglurwyd bod polisi CH6
o’r CDUG yn datgan y dylai canran (fydd yn amrywio o safle i safle) yr
unedau a ddarperir fel rhan o’r cynllun ar unrhyw safle ym Mangor, Blaenau
Ffestiniog, Caernarfon, Porthmadog a Phwllheli fod yn rhai sy’n cwrdd ag angen
am dai fforddiadwy oni bai y gellir bodloni’r Awdurdod Cynllunio, ar ôl
ystyried y ffactorau perthnasol i gyd, y byddai’n amhriodol darparu tai
fforddiadwy ar y safle. Nodwyd bod gwybodaeth a ddarparwyd gan yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd yn tystiolaethu nad oedd amheuaeth bod cyfiawnhad i ofyn am
dai fforddiadwy oni bai fod materion eraill megis dichonolrwydd yn atal hynny. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn datgan fod costau sydd yn
gysylltiedig â’r datblygiad yn golygu na fyddai’n hyfyw i roi cyfraniad tuag at
ddarpariaeth tai fforddiadwy nac ychwaith unrhyw ddarpariaeth gynllunio arall.
Adroddwyd yr ymgymerwyd gydag asesiad o’r materion hyfywdra gan yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd gan ddefnyddio pecyn cyfrifiadurol ar gyfer gwerthuso
hyfywdra datblygiadau. Yn ychwanegol i hyn roedd cryn drafodaethau wedi eu
cynnal rhwng swyddogion ar ymgeisydd am y materion hyfywdra. Edrychwyd yn
wreiddiol am gael cyfraniad o oddeutu 20% tuag at dai fforddiadwy. Fodd bynnag,
yn dilyn gwneud yr asesiadau hyfywdra perthnasol daeth yn amlwg na fyddai
cyfraniad o’r math yma yn hyfyw ar gyfer y datblygiad. Daethpwyd i’r canlyniad,
yn sgil yr asesiadau a wnaethpwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, y
byddai’n bosibl cael cyfraniad o 7%. Byddai hyn gyfystyr a rhyw 2 uned
fforddiadwy ar y safle neu os yn gyfraniad cymudo tuag at ddarpariaeth tai
fforddiadwy yn yr ardal byddai yn gyfystyr a rhyw £94,000. Nodwyd bod yr
ymgeisydd fodd bynnag yn dal i ddadlau na fyddai’n hyfyw rhoi cyfraniad tuag at
dai fforddiadwy yn rhan o’r datblygiad. Fodd bynnag, er symud pethau ymlaen
maent wedi cynnig swm cymudol tuag at dai fforddiadwy o £40,000. Byddai’r bwriad dan sylw yn cyfrannu tuag at ddarpariaeth o dai ymddeol yn lleol a ble nad oes y math yma o gartrefi i’w cael yn lleol. Byddai’r bwriad hefyd yn ail ddefnyddio safle tir llwyd sydd yn bresennol yn flêr ac yn ddolur llygad a byddai hefyd yn dod a buddion economaidd o safbwynt gwaith (rheolwr safle i redeg y safle yn dilyn cwblhau a gwaith adeiladu yn gysylltiedig gyda’r datblygu) ac yn ehangach yn y gymuned gyda’r preswylwyr yn defnyddio cyfleusterau lleol. Ystyrir felly yn sgil materion hyfywdra yn ymwneud gyda’r datblygiad ei bod yn rhesymol derbyn y cynnig o £40,000 tuag at ddarpariaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |