skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Dyfrig Jones, Mair Rowlands (Aelod Lleol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

           Y Cynghorydd Gweno Glyn (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1  ar y rhaglen, (cais cynllunio C15/0793/32/LL );

           Y Cynghorydd Sion Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2  ar y rhaglen, (cais cynllunio C15/0915/18/LL );

           Y Cynghorydd Eurig Wyn (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen (cais cynllunio C15/0994/26/LL)

           Y Cynghorydd June Marshall (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen (cais cynllunio C15/1217/11/LL)

           Y Cynghorydd Elin Walker Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7  ar y rhaglen, (cais cynllunio C15/1281/11/LL);

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 409 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2015 a 11 Ionawr 2016  fel rhai cywir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2016 a 14 Rhagfyr 2015 fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD:

6.

CAIS RHIF: C15/0793/32/LL - Nanhoron Estate, Botwnnog pdf eicon PDF 639 KB

Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL:  Cynghorydd Gweno Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu fferm solar a gwaith cysylltiol

 

(a)        Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer gosod paneli solar ffotofoltaidd ar dir amaethyddol am gyfnod o 30 mlynedd ar gyfer creu fferm solar, ynghyd â gwaith atodol sy’n cynnwys gosod cyfarpar i gysylltu â’r rhwydwaith drydan, compownd adeiladu, ffens ddiogelwch, gwelliannau tirweddu ac addasiadau i’r fynedfa. Eglurwyd bod safle’r cais mewn cefn gwlad agored ymhlith tirwedd donnog, yn mesur oddeutu 12 hectar (22.6 acer) ac yn cynnwys tir amaethyddol wedi ei leoli ar lethr esmwyth oddeutu 700 medr i’r de ddwyrain o bentref Botwnnog. Nodwyd bod coedwig aeddfed tuag at ffin ddwyreiniol y safle a gwrychoedd o amgylch mwyafrif caeau’r safle.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd

 

Nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl. Amlygwyd bod prif fanylion y cais wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a’r polisïau perthnasol wedi eu rhestru.

 

O ran egwyddor, nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisi C1 o’r Cynllun Datblygu Unedol. Ategwyd hefyd bod cyfres o feini prawf y dylid eu hystyried wrth drafod cynlluniau ynni adnewyddadwy cynaliadwy sydd yn ymwneud ag effaith ar ansawdd gweledol y dirwedd a ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol.

 

Mewn ymateb i wrthwynebiad gan berchennog eiddo cyfagos yn gwrthwynebu ar sail effaith ar y golygfeydd o’r eiddo ac effaith fflachio a llacharedd, nodwyd  bod bwriad plannu gwrych i dyfu i uchder o 3medr ar ffin ddwyreiniol y cae. Byddai hyn yn fodd o sgrinio’r bwriad a lleihau ei ardrawiad gweledol o’r eiddo cyfagos. Yng nghyd destun fflachio a llacharedd, nodwyd bod Asesiad Fflachio wedi ei dderbyn fel rhan o’r cais yn cydnabod ‘potential i fflachio fod yn bresennol’ ond, gyda sgrinio naturiol presennol o amgylch y safle a bwriad i blannu gwrych o’r newydd, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol o safbwynt amwynder.

 

O ran materion trafnidiaeth a mynediad amlygwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn fodlon gyda'r bwriad o agwedd diogelwch ffyrdd ac yn argymell amodau o ran cwblhau’r fynedfa yn unol â’r cynlluniau. O ran materion Cadwraeth ac Archeolegol  nodwyd y byddai patrymau ffisegol y caeau ar y cyfan yn cael ei gadw ac yn sgil lleoliad y safle, tirlunio a thirffurfiau ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn amharu yn sylweddol ar y Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Eglurwyd, er bod sylwadau ychwanegol wedi ei derbyn gan Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd, bod gwaith pellach yn cael ei wneud i gwblhau'r wybodaeth. O ran materion Bioamrywiaeth nodwyd bod yr Uned o’r farn bod potential i’r datblygiad ddod a budd i fioamrywiaeth y tymor hir ac yn sgil eu sylwadau bod y bwriad yn dderbyniol ac na fyddai yn cael effaith andwyol ar rywogaethau gwarchodedig na’i chynefinoedd os caiff ei reoli yn unol â’r amodau a gynigiwyd.

 

Ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i unrhyw un o’r polisïau perthnasol ac fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, nid oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn datgan i’r gwrthwyneb.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAIS RHIF :C15/0915/18/LL - Cil Fynydd, Penrhos, Bethel pdf eicon PDF 604 KB

Cais i estynnu a trosi modurdy cysylltiol i anecs ynghyd a chodi modurdy newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i estynnu a throsi modurdy cysylltiol i anecs ynghyd a chodi modurdy newydd

 

Roedd yr aelodau wedi ymweld ar safle

 

(a)        Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi  y gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 30.11.2015 ar gyfer ymweliad safle. Gofynnwyd i’r ymgeisydd gysidro newid maint a dyluniad yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor ar 30.11.2015, ond nid oedd unrhyw ymateb wedi ei dderbyn. Amlygwyd bod yr annedd presennol yn dŷ sy’n sefyll ar ei ben ei hun o fewn cwrtil sylweddol ar gyrion pentref Bethel. Yr eiddo wedi ei leoli tu allan i ffin ddatblygu’r pentref ac e’i diffinnir fel safle sydd yng nghefn gwlad agored yn nhermau polisïau’r Cynllun Datblygu Unedol.  Eglurwyd bod yr eiddo presennol yn dy 4 ystafell wely gyda 2 o’r ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod gyda modurdy cysylltiol presennol yn unllawr ac ynghlwm i ochr yr annedd. Y bwriad yn golygu trosi ac ymestyn y modurdy cysylltiol er mwyn creu ‘anecs’ a chodi modurdy ar wahân gyda storfa uwchben. Ategwyd bod yr Aelod Lleol wedi galw’r cais  i mewn er mwyn cael penderfyniad gan y Pwyllgor Cynllunio.

 

Y bwriad yw trosi ac ymestyn modurdy cysylltiol i ffurfio anecs hunangynhaliol ar ochr yr eiddo presennol. Gellid diffinio anecs preswyl fel llety sy’n ategol i’r prif dŷ, sydd ar raddfa addas ac wedi ei leoli o fewn ei gwrtil. Dylid ei ddefnyddio yn benodol ar gyfer y pwrpas hwn h.y. nid fel tŷ ar wahân. Amlygwyd bod  arwynebedd llawr mewnol yr eiddo presennol (o’u mesur ar y cynlluniau bwriadedig sy’n cynnwys iwtiliti ychwanegol a ffenestri dormer) yn mesur oddeutu 157m sgwâr, tra mae’r anecs bwriadedig yn mesur 127m sgwâr. Er mwyn rhoi maint yr anecs mewn cyd-destun amlygwyd fod maint yr anecs yn fwy na’r hyn a ganiateir ar gyfer tŷ fforddiadwy deulawr gyda 2 ystafell wely (sef 90m sgwâr). I bob pwrpas, nodwyd bod yr anecs yn dŷ newydd all fodoli yn gwbl ar wahân i’r eiddo presennol ar y safle. Byddai’r  anecs yn gyfystyr a thŷ newydd yng nghefn gwlad agored heb unrhyw gyfiawnhad ac felly yn groes i Bolisi CH9 o’r CDU yn ogystal â’r cyngor cenedlaethol. Yn ogystal, ystyriwyd fod y modurdy deulawr a’r estyniad bwriadedig i’r tŷ yn debygol o greu nodwedd estron a chreu effaith annerbyniol ar yr eiddo presennol a mwynderau gweledol yr ardal. Ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion polisi B24 a B22 yn ogystal.

 

(b)        Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y sylwadau canlynol:

           Bod y cais yn gais rhesymol a'i fod yn gefnogol iddo

           Croesawu dymuniad y teulu i ddarparu annedd ar gyfer eu teulu estynedig

           Trigolion a chymdogion Penrhos, Bethel yn gefnogol i’r cais

           Nad oedd bwriad  i adeiladu tŷ o’r newydd - estyniad ydyw i raddau

           Swyddogion yn unig sydd yn gwrthwynebu - dim gwrthwynebiad lleol

           Derbyn yr angen i gadw at bolisïau ond rhaid defnyddio synnwyr cyffredin mewn rhai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CAIS RHIF: C15/0994/26/LL - Tyn Cae Newydd, Waunfawr pdf eicon PDF 249 KB

 

Cais ôl-weithredol i newid defnydd i adeilad amaethyddol i ddefnydd cymysg o amaethyddiaeth ac fel sefydliad marchogaeth ceffylau (yn cynnwys man ymarfer), adeiladu estyniad i gynnwys bocsys ceffylau a man storio ar gyfer paratoi llysiau, ynghyd a darparu man parcio ac llawr caled ar gyfer ceffylau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd  Eurig Wyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl-weithredol i newid defnydd i adeilad amaethyddol i ddefnydd cymysg o amaethyddiaeth ac fel sefydliad marchogaeth ceffylau (yn cynnwys man ymarfer), adeiladu estyniad i gynnwys bocsys ceffylau a man storio ar gyfer paratoi llysiau, ynghyd a darparu man parcio a llawr caled ar gyfer ceffylau

 

(a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn ôl-weithredol i newid defnydd adeilad amaethyddol i ddefnydd amaethyddol cymysg gyda sefydliad marchogaeth ceffylau, sydd yn cynnwys man ymarfer dan do, ardal paratoi llysiau, ardal storio peiriannau/offer amaethyddol ac ardal storio bwyd ceffylau.   Nodwyd bod y cais hefyd yn cynnwys cadw estyniad unllawr sy'n cynnwys naw bocs rhydd ac ystafell tac, ynghyd â darparu man parcio a llawr caled ar gyfer ceffylau.

 

Nodwyd bod y safle wedi'i leoli tu allan i ffin ddatblygu Waunfawr gyda’r adeilad ei hun wedi'i leoli oddeutu 72m o'r eiddo preswyl agosaf. Ni ystyriwyd  y byddai'r defnydd cymysg a wneir o'r adeilad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau'r gymdogaeth leol a'i fod yn dderbyniol o ran Polisi B23. Disgrifiwyd yr adeilad fel un o wneuthuriad amaethyddol safonol o’i fath, ei ddyluniad a'i faint; bydd yr estyniad i'r adeilad cyfredol yn cyd-weddu â'r adeilad amaethyddol cyfredol ar y tu allan gyda chladin o ddalenni gwyrdd tywyll ar y waliau ac ar y to. 

 

Er bod pryder ymysg trigolion lleol o ran pa mor ddigonol yw'r briffordd ddi-ddosbarth bresennol sy'n gwasanaethu'r safle i ymdopi â'r cynnydd mewn traffig, ystyriwyd na fydd y cynnig ei hun yn gwaethygu'r sefyllfa i'r fath raddau fel y dylid gwrthod y cais ar sail diogelwch priffyrdd.

 

Cafodd gwrthwynebiadau’r preswylwyr lleol ystyriaeth lawn ac fe amlygwyd hyn yn yr adroddiad. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cais yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio lleol a'r canllawiau cynllunio cenedlaethol. Ni ystyriwyd bod y cynnig yn achosi niwed sylweddol i fwynderau gweledol yr ardal, mwynderau cyffredinol eiddo preswyl cyfagos, nac yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch priffyrdd ar y briffordd gyfagos, ac felly, yn dderbyniol i’w gymeradwyo gydag amodau perthnasol. 

 

(b)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:-

           Bod y ffordd at y safle yn sengl a chul - yn anodd hyd yn oed i gerbyd basio cerddwyr

           Pryder ynglŷn â chynnydd mewn traffig o ganlyniad i lwyddiant y fenter

           Parod i ystyried cyfyngiadau gan osod amodau perthnasol i’r cyfyngiadau hynny er mwyn atal unrhyw berchennog newydd i’r dyfodol anghytuno gyda’r cyfyngiadau

           Awgrymu ymweliad safle er mwyn gweld pa mor gul yw’r ffordd

 

(c)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

           Y bwriad yw derbyn 8 – 12 client y diwrnod mewn gwersi un i un

           Y safle yn gyraeddadwy o ddau gyfeiriad - y ffordd lydan yn un fyddai yn cael ei ddefnyddio amlaf

           Clientau tebygol  eisoes yn byw yn Waunfawr yn cyrraedd ar droed neu ar geffyl

           Mae’n ddatblygiad arbenigol ac nid yn ysgol farchogaeth draddodiadol - ni fydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CAIS RHIF: C15/1115/25/LL - Goetre Uchaf, Off Ffordd Penrhos, Bangor pdf eicon PDF 523 KB

 

Addasiad rhannol i 174 o dai preswyl fel a ganiatawyd o dan gyfeirnod C12/1347/25/LL trwy gynyddu cyfanswm y tai o 245 i 266 gan gynnwys tai ar wahan, tai par a fflatiau gydag unedau fforddiadwy (35%) a llecynnau parcio a gerddi cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Wyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)        Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod gwybodaeth hwyr wedi dod i law'r swyddogion gan wrthwynebydd i’r cais. Amlygwyd bod Aelodau’r Pwyllgor wedi derbyn y ddogfen (asesiad ar yr Iaith Gymraeg) yn ystod yr wythnos flaenorol, ond y ddogfen wedi dod i law'r swyddogion fore’r Pwyllgor. Nodwyd nad oedd amser priodol i’r ymgeisydd a’r swyddogion asesu’r wybodaeth ac felly, er mwyn sicrhau ystyriaeth lawn i’r sylwadau, awgrymwyd gohirio'r penderfyniad gan gyflwyno adroddiad o’r newydd i gynnwys sylwadau o’r asesiad.

 

(b)        Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r  cais

 

(c)        Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

           Croesawyd yr argymhelliad i ohirio'r penderfyniad ar sail materion iaith

           Croesawyd bod asesiad iaith wedi ei gyflwyno

           Awgrym i’r swyddogion hefyd ystyried y ddogfenCymru: Gwlad sy’n Creu Cyfle i Chwarae’sydd yn ofyn statudol ers 2014

           Cais am dystiolaeth o’rangen wedi ei asesuar bolisïau CH1 a CH6 – Nodwyd yn yr adroddiad, ‘nad yw polisïau CH1 a CH6 yn gofyn i ddatblygwr tai brofi angen am dai ar safleoedd sydd wedi eu clustnodi oherwydd bod yr angen wedi ei gydnabod a’i asesu yn ystod y broses o baratoi’r CDU’

 

PENDERFYNWYD:   Gohirio penderfyniad

 

10.

CAIS RHIF: C15/1217/11/LL - Sherwood, 4, Ffordd Caergybi, Bangor pdf eicon PDF 866 KB

Newid defnydd adeilad swyddfa bresennol yn lety myfyrwyr pedair llofft gan gynnwys gosod tair ffenestr ychwanegol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd June E Marshall

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd adeilad swyddfa bresennol yn llety myfyrwyr pedair llofft gan gynnwys gosod tair ffenestr ychwanegol

 

(a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais  llawn i newid defnydd swyddfeydd sydd ar hyn o bryd yn wag i lety myfyrwyr. Nodwyd bod yr adeilad dan sylw yn adeilad concrid / bric wedi'i rendro gyda tho o shîtiau concrid ac wedi ei leoli o fewn cwrtil eiddo sylweddol a ddefnyddir eisoes fel llety myfyrwyr. Amlygwyd nad oedd bwriad gwneud unrhyw newidiadau allanol i'r adeilad ar wahân i osod tair ffenestr ychwanegol, un yn yr edrychiad blaen a dwy yn yr edrychiad ochr deheuol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi ar Ffordd Caergybi mewn ardal defnydd cymysg o Ddinas Bangor nad ydyw wedi'i ddynodi at unrhyw ddiben arbennig yn y Cynllun Datblygu Unedol. Amlygwyd bod y cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd y derbyniwyd tri neu ragor o sylwadau'n groes i argymhelliad y swyddog.

 

Wedi  ystyried polisïau C1, C4 a CH3, nodwyd bod y datblygiad yn cyd-fynd a phrif bolisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Unedol a bod y cynnig hwn yn dderbyniol mewn egwyddor o safbwynt cynllunio.

 

Yng nghyd destun mwynderau cyffredinol a phreswyl ni ystyriwyd fod gwahaniaeth arwyddocaol tebygol rhwng effeithiau mwynderol y defnydd awdurdodedig fel swyddfa a'r defnydd bwriedig fel llety myfyrwyr, yn enwedig wrth ystyried presenoldeb llety myfyrwyr presennol ar yr un safle. Amlygwyd bod y cynlluniau'n cynnwys defnyddio mynedfa gerbydol bresennol ynghyd â chlustnodi pedwar gofod parcio ar gyfer y datblygiad. Nodwyd bod yr  Uned Drafnidiaeth wedi cadarnhau bod y trefniant hwn yn dderbyniol.

 

Amlygwyd bod  y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i'r cais ar sail addasrwydd yr adeilad presennol ar gyfer defnydd anheddol, ond o safbwynt ystyriaethau cynllunio mynegwyd bod maint, trefniant safle a lleoliad yr adeilad yn addas ac ni fyddai newid arwyddocaol yn natur edrychiad na defnydd y safle. Mater i'r ymgeisydd yw asesu addasrwydd strwythurol yr adeilad ar gyfer y defnydd bwriedig yn sgil y newidiadau a fwriedir a’r gallu i’r adeilad gydymffurfio gyda’r gyfundrefn rheolaeth adeiladu.

 

(b)        Nododd yr Aelod Lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):

           Bod pryderon ynglŷn ag addasrwydd yr adeilad - yn debyg iawn i adeilad diwydiannol yn hytrach nag adeilad preswyl

           Nid yw yn ddeniadol ac nid yw yn ddelfrydol ar gyfer pobl ac felly angen ymgynghori gyda’r gyfundrefn rheolaeth adeiladu a Swyddogion Tîm Tai Amlfeddiannaeth

 

(c)        Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

(ch)      Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

           Bod angen gosod amodau tirlunio priodol i geisio edrychiad preswyl ynghyd ag awgrym i chwipio gyda gro

           A oes sylwadau wedi eu derbyn gan y Gwasanaeth Tân

           Pryder ynglŷn â’r nifer o ddatblygiadau myfyrwyr i Fangor

 

(d)        Mewn ymateb i’r sylw, nodwyd bod modd trafod gyda’r ymgeisydd ynglŷn ag edrychiad y datblygiad ac y byddai’r Gwasanaeth Tân yn cael cyfle i gymeradwyo’r cais o dan y rheoliadau adeiladu perthnasol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

CAIS RHIF: C15/1239/30/LL - The Cottage, Rhiw pdf eicon PDF 557 KB

Diddymu amod meddianiaeth

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd  W Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diddymu amod meddiannaeth

 

(a)        Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddiddymu amod cynllunio sy’n cyfyngu defnydd adeilad, a gaiff ei adnabod fel ‘The CottageRhiwenfa, Rhiw, dim ond fel uned breswyl mewn cysylltiad ag eiddo Rhiwenfa gyfochrog. Rhoddwyd yr amod ar ganiatâd hanesyddol rhif 2/10/113A dyddiedig 20 Rhagfyr 1978 oedd yn ymwneud a newid defnydd yr adeilad o siop i dŷ. Adeilad bychan unllawr ydyw, sy’n cynnwys cegin, ystafell ymolchi, lolfa a dwy ystafell wely a cheir safle parcio bychan o’i flaen. Nid yw’r bwriad yn cynnwys unrhyw newidiadau i’r eiddo. Saif yr eiddo cyfochrog a ffordd ddi-ddosbarth mewn lleoliad canolog ym mhentref gwledig Rhiw ac mae o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Cyfeiriwyd at Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014: ‘Defnyddio amodau cynllunio i reoli datblygiadau’, gan ei fod yn gosod meini prawf cyffredinol ar gyfer dilysrwydd amodau cynllunio. Gall defnyddio amodau cynllunio, o’u defnyddio yn briodol, alluogi cynigion a fyddai fel arall o bosib yn cael eu gwrthod, i fynd yn eu blaen. Mae’r Cylchlythyr ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai amodau ond cael eu gosod os ydynt yn bodloni gofynion y chwe phrawf isod, sef eu bod yn:

           angenrheidiol;

           perthnasol i gynllunio;

           perthnasol i’r datblygiad sydd i’w ganiatáu;

           ymarferol i’w gorfodi;

           manwl;

           rhesymol ym mhob agwedd arall.

 

Ni ddylid cadw amodau os nad oes rheswm teilwng i wneud hynny. Bydd felly yn ofynnol asesu os yw’r amod i gyfyngu defnydd adeilad, ‘The Cottage’, Rhiw, ddim ond fel uned breswyl mewn cysylltiad ag eiddo Rhiwenfa gyfochrog yn parhau i gwrdd â gofynion y chwe phrawf uchod.

 

Yn ôl y wybodaeth ar y cais, roedd ‘The Cottage’ wedi ei adael i’r ymgeisydd mewn ewyllys. Ymddengys fod y cyn perchennog, arferai ddefnyddio’r adeilad yn achlysurol i letya ei ymwelwyr/teulu/ffrindiau yn unol â’r amod, wedi gwahanu’r ddau eiddo yn ei ewyllys. Dengys y ddogfen Gofrestrfa Dir gyda’r cais fod y ddau eiddo bellach mewn perchnogaeth wahanol ac wedi eu gwahanu’n gyfreithiol. Oherwydd y newid mewn amgylchiadau perchnogaeth, nid yw ffisegol bosib i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r amod ac felly dymuna ei dynnu.

 

Mae’r Cylchlythyr yn datgan na ddylid gosod amodau ar diroedd sydd tu allan i reolaeth yr ymgeisydd, er nad oedd hyn yn wir pan osodwyd yr amod yn wreiddiol, mae’r newid mewn sefyllfa yn ei gwneud yn amhosib i’r ymgeisydd i gydymffurfio. Ar sail y newid mewn amgylchiadau, sydd tu hwnt i reolaeth cynllunio, byddai’n anodd dadlau mewn sefyllfa apêl bod yr amod bellach yn angenrheidiol o ystyried na fyddai gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol unrhyw ffordd o’i orfodi, oherwydd y gwahaniaeth mewn perchnogaeth.

 

Nid yw’r amod sy’n cyfyngu defnydd adeilad ‘The Cottage’ dim ond fel uned breswyl mewn cysylltiad ag eiddo Rhiwenfa fel ac y mae'n sefyll heddiw yn cwrdd â gofynion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014. Am y rheswm hwn nid oes unrhyw gyfiawnhad rhesymol i gadw’r amod.

 

(b)        Yn manteisio ar yr hawl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

CAIS RHIF: C15/1281/11/LL - Coach House, Belmont Road, Bangor pdf eicon PDF 953 KB

Cais i ddymchwel tŷ presennol ynghyd a chodi tŷ newydd yn ei le (Cynllun Diwygiedig) (Ail gyflwyniad o gais C15/1027/11/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd  Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i ddymchwel presennol ynghyd a chodi newydd yn ei le (Cynllun Diwygiedig) (Ail gyflwyniad o gais C15/1027/11/LL)

 

(a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod hwn yn ail gyflwyniad o gais llawn a wrthodwyd y llynedd ar gyfer dymchwel byngalo gromen a modurdy presennol ac adeiladu newydd deulawr yn eu lle. Byddai’r newydd o faint a swmp sylweddol fwy na'r adeilad presennol gyda lefel y to yn codi o 5.5m i  7.2m. Bydd ne prif gyfeiriadedd yr adeilad yn newid yn ogystal gan droi'r brif echel drwy oddeutu 45˚. Prif newidiadau rhwng y cynllun hwn a'r cynllun a wrthodwyd ydyw bod cyfeiriadedd yr adeilad wedi ei droi. 

 

Amlygywd mai prif ystyriaeth polisi yn yr achos yma oedd Polisi CH13 sy’n ymwneud ag ystyried cynigion i ddymchwel ac ailadeiladu tai mewn pentrefi gwledig ac yng nghefn gwlad. Rhoddwyd ystyriaeth i feini prawf y polisi hwnnw ac mewn egwyddor, nodwyd  bod y cynnig yn gydnaws â’r polisi.

 

Dengys y cynlluniau y bwriedir cael tair ffenestr yn llawr cyntaf yr edrychiad gogleddol a fyddai â'r potensial i or-edrych gardd Ashbrook gerllaw. Nodwyd fodd bynnag fe fyddai gan ddwy o'r ffenestri hyn wydr afloyw ac fe fyddai'r ffenestr llofft ym mhen gorllewinol y . O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’n achosi gor-edrych uniongyrchol annerbyniol o rannau preifat o gwmpas tŷ’r cymdogion. Yn ogystal, ni fyddai ffenestr yn llawr cyntaf yr edrychiad dwyreiniol sy'n wynebu tuag Ashbrook.

 

Yn yr un modd, ni ystyriwyd y byddai'r ddwy ffenestr do sydd yn y llethr gogleddol yn creu problemau gor-edrych gan nad oedd bwriad wedi ei ddatgan i ddefnyddio'r gofod to fel ystafell drigiannol. Fe gredwyd y byddai'n rhesymol gosod amod i atal unrhyw waith i ymestyn y to e.e. trwy osod ffenestr gromen, a fyddai'n angenrheidiol er galluogi defnyddio'r gofod to fel ystafell drigiannol. Trwy hynny fe ellid sicrhau rheolaeth dros unrhyw berygl gor-edrych yn y dyfodol.

 

Fe godwyd pryderon gan wrthwynebydd ynghylch effaith y system draenio arfaethedig ar eiddo cyfagos, ond fe ymgynghorwyd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a'r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ac ni godwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r bwriad gan unrhyw un o'r sefydliadau hyn ac felly ystyrir fod y cais yn gyson gyda pholisi CH18 y CDU.

 

Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol, nodwyd bod yr egwyddor o godi o faint a dyluniad cyffelyb i'r hyn a fwriedir yn y lleoliad hwn yn dderbyniol. Nodwyd hefyd bod y newidiadau a wnaethpwyd i ddyluniad a lleoliad y arfaethedig wedi goresgyn mwyafrif o’r gwrthwynebiadau a bod y cynnig diwygiedig yn dderbyniol dan bolisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd.

 

(b)        Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd

 

(c)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:

           Nad oedd gwrthwynebiad mewn egwyddor i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.