Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 434301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Dyfrig
Jones, Peter Read (aelod lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a)
Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a
nodir: ·
Y Cynghorydd Owain Williams yn Eitem 5 ar y rhaglen –
Ceisiadau Cynllunio (Cais Cynllunio Rhif C15/1072/34/LL oherwydd ei fod yn
gyn-berchennog y safle. ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams yn Eitem 5 ar y rhaglen –
Ceisiadau Cynllunio (Cais Cynllunio Rhif C15/1072/34/LL oherwydd ei fod yn fab i gyn-berchennog
y safle. Roedd
yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd John Wyn Williams (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.4 ar y rhaglen (cais cynllunio C15/1115/25/LL); ·
Y Cynghorydd E. Selwyn Griffiths (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.5 ac 5.6 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio C15/1128/44/LL a C15/1181/44/LL); ·
Y Cynghorydd Gwen Griffith (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau
5.7 a 5.9 ar y rhaglen (ceisiadau cynllunio C15/0348/16/11
ac C15/1208/16/LL); ·
Y Cynghorydd Simon Glyn (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.8 ar y rhaglen (cais cynllunio C15/1139/46/LL) Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd
eitemau brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2015, fel rhai cywir (copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd
2015 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATAD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. (copi ynghlwm) Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd
ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau
ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
CAIS RHIF: C15/0215/40/LL - TIR GER TAN YR EGLWYS, ABERERCH PDF 643 KB Adeiladu 9 ty annedd newydd a fydd yn cynnwys 3 annedd fforddiadwy ynghyd a ffurfio ffordd fynediad fewnol a llwybr cerdded AELOD LLEOL: Cynghorydd
Peter Read Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu 9 tŷ annedd newydd a fydd yn cynnwys
3 annedd fforddiadwy ynghyd â ffurfio ffordd fynediad mewnol a llwybr
cerdded. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod y tai arfaethedig o fewn ffin datblygu Abererch a’r safle
wedi ei ddynodi o fewn Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ar gyfer tai
newydd. Gall y safle ymdopi gydag
oddeutu 9 o unedau preswyl gydag oddeutu 35% ohonynt yn dai fforddiadwy. Esboniwyd y byddai’r tai yn gymysgedd o dai unllawr a
deulawr, gyda 2 lecyn parcio o fewn eu cwrtil. Nodwyd bod rhes o dai sydd tua’r gogledd o’r safle wedi eu cofrestru fel
adeiladau rhestredig. Tynnwyd sylw
bod llwybr cyhoeddus yn mynd drwy ran
o’r safle a byddai’r bwriad yn amharu ar gwrs y llwybr ac o’r herwydd byddai’n
rhaid trefnu ei wyro’n ffurfiol. Nodwyd
ymhellach bod rhan o’r safle tua’r dwyran yn gorwedd o fewn parth llifogydd C1. Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r
ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus fel amlinellir yn yr adroddiad. Yng nghyd-destun materion ieithyddol, ni dderbyniwyd datganiad cymunedol
gan yr ymgeisydd hyd yma ond pe’i dderbynnir ac os yn
dderbyniol gellir ystyried bod y bwriad yn unol â
pholisi A2 o’r CDUG. Datganwyd bryder gan y swyddogion cynllunio ynglŷn â gosodiad y tai
deulawr sydd ar y ffin isaf oherwydd y byddent yn ormesol a dominyddol ar eiddo
Pen y Don. Er bod newidiadau i’r
cynlluniau, roedd y swyddogion yn parhau’n bryderus am leiniau 4-7 ac wedi
argymell y byddai’n well edrych ar holl osodiad y safle er gweld os byddai tai
deulawr yn well wedi eu lleoli ar ran arall o’r safle. Cyflwynwyd datganiad cefnogol gan yr asiant
yn egluro bod y gosodiad wedi ei wneud yn y ffordd yma er osgoi effaith ar yr
ardal cadwraeth a gosodiad adeiladu rhestredig. Er nad oes gwrthwynebiad i’r nifer o dai, ystyrir bod modd cael gosodiad
gwell i’r tai deulawr ac felly roedd y swyddogion o’r farn
nad oedd y bwriad yn cydymffurfio á’r briff ac maen
prawf polisi CH1 nac ychwaith B22 gan nad yw’r gosodiad yn parchu’r safle o ran
graddfa a maint ac yn debygol o gael effaith ar eiddo cyfagos. Nodwyd hefyd bod y tirlunio a gynigir yn annigonol oherwydd bod y ffensys yn anaddas o
ran dull o amgáu’r safle ac yn groes i bolisïau perthnasol. Nodwyd bod materion trafnidiaeth, llwybrau, llifogydd, dŵr wyneb,
bioamrywiaeth yn dderbyniol trwy amodau
priodol. Daw’r swyddogion i’r casgliad
bod y bwriad arfaethedig fel y’i cyflwynwyd yn groes i bolisïau CH1 a B22
oherwydd ei osodiad ac effaith weledol, B27 oherwydd y ffensys anaddas, a B23
oherwydd effaith i fwynderau. O’r
herwydd, argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais am y
rhesymau hyn. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- · nad oedd yr ymgeisydd wedi derbyn cais am ddatganiad cymunedol tan 22 Rhagfyr er i’r cais cynllunio gael ei gofrestru ym mis Mawrth 2015 ac felly nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
CAIS RHIF: C15/1072/34/LL - ERW WEN LLANLLYFNI PDF 564 KB Cais ôl-weithredol ar gyfer
codi un rhes o paneli solar mewn cae. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Owain Williams Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
ôl-weithredol ar gyfer codi un rhes o baneli solar mewn cae. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan nodi bod y paneli solar domestig wedi eu gosod yn eu
lle. Lleolir y safle yng nghefn gwlad
agored rhwng Tai’n Lôn a Nasareth ac o fewn Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol. Nodwyd bod arwynebedd y
paneli oddeutu 66m sgwâr, ac yn mesur 22m wrth 3.3m o uchder ac yn creu 10kw o
bŵer. Nodwyd mai pwrpas ceisiadau
ôl-weithredol ydoedd rheoli’r datblygiad a chyfeiriad at bolisi cenedlaethol
sy’n datgan yn glir y dylid atgyweirio’r sefyllfa ac nid cosbi’r unigolion sydd
yn torri rheolau a rhaid ystyried y cais ar ei rinweddau ei hun. Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r
ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.
Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Prif ystyriaethau’r cais ydoedd effaith gweledol y datblygiad ar yr AHNE a
derbyniwyd sylwadau hwyr gan Uned AHNE yn datgan gan fod y datblygiad yn fychan
ac er yn weladwy o rai mannau gerllaw, ni ystyriwyd ei fod yn amharu’n
annerbyniol ar yr AHNE ond efallai y byddai’n fuddiol plannu rhagor o goed i
sgrinio’r datblygiad o’r llwybr cyhoeddus. Gydag amodau perthnasol i sicrhau bod y ceblau yn dan-ddaearyddol, ystyrir
bod y cais yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio perthnasol. Cydnabyddai cynnwys yr adroddiad yr effaith
ar ddefnyddwyr y llwybr cyhoeddus ac roedd y swyddogion cynllunio o’r farn ei
fod yn dderbyniol a dim ond yn effeithio darn bychan iawn o’r llwybr ac felly
ddim angen amodau tirweddu. Argymhellir
i ganiatáu’r cais yn unol â’r amodau amlinellwyd yn yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y datblygiad yn ffurfio rhan o welliannau
parhaus i Erw Wen ·
Pan
brynwyd yr eiddo bod ganddo un o’r sgoriau gwaethaf o ran perfformiad ynni a
chyfraddiad effaith amgylcheddol ac erbyn hyn bod y sgôr perfformiad wedi codi
ac yn cydymffurfio â gofynion
amgylcheddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 ·
Bod lleoliad y paneli solar yn bwysig o ran
cydymffurfio â chanllawiau llywodraeth leol ynghyd a chydbwyso anghenion yr
amgylchedd a’r ardal ·
Bod gosodiad y paneli bron yn adlewyrchu ongl y
bryn a’u bod wedi eu gosod mewn man isel yn y cae ·
Bod
rhan isaf y cae ynghyd â’r coed aeddfed yn cael effaith powlen naturiol wrth
sgrinio'r paneli o’r gogledd, y dwyrain a’r gorllewin. I’r de, ceir dwy res o goed sydd yn creu
gwelediad lleiaf posibl o’r paneli ·
Bwriedir
plannu coed yn y rhan isaf o’r cae rhwng y paneli a buarth yr eiddo yn ogystal
â phlannu gwrychoedd ar ffin y llwybr troed ·
Ni fyddai newid i ddefnydd y tir ac y byddai da byw
yn gallu pori hyd at y ffens terfyn ·
Bod
y bwriad yn un bychan domestig a fydd yn caniatáu i unrhyw weddill ynni fedru
dychwelyd i’r grid cenedlaethol er budd eraill
(c) Atgoffwyd y Pwyllgor bod yr Aelod Lleol wedi datgan diddordeb ac wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
CAIS RHIF: C15/1109/08/LL - BWTHYN BACH GWYN, PANT, PENRHYNDEUDRAETH PDF 727 KB Cais rhannol ôl-weithredol
ar gyfer addasu adeilad allanol i dŷ. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Thomas Dolen i'r dogfennau cefndir
perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais rhannol ôl-weithredol ar gyfer addasu
adeilad allanol i dŷ. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod y cais ar gyfer trosi adeilad deulawr a fu gynt yn adeilad
amaethyddol ar gyrion tref Penrhyndeudraeth yn dy annedd deulawr. Darparir
llecyn parcio oddi ar y stryd o flaen yr adeilad. Nodwyd bod trosi’r adeilad
eisoes wedi cychwyn a’r cais wedi ei gyflwyno yn dilyn gweithrediad gan Uned
Gorfodaeth y Gwasanaeth Cynllunio. Nodwyd bod y safle ynghanol ardal breswyl, o fewn Ardal Gwarchod y Tirlun
ac o fewn ffin datblygu Penrhyndeudraeth. Cyfeiriwyd at y polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r
ymatebion / gwrthwynebiadau i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at y prif bolisïau wrth asesu’r cais sef C4 ac CH11 a chredir
bod yr addasiadau sydd eisoes wedi eu gwneud yn cydymffurfio â gofynion y polisïau
uchod. Derbyniwyd gwrthwynebiadau yn nodi bod y newidiadau allanol yn effeithio ar
gymeriad yr ardal. Fodd bynnag roedd
nifer o newidiadau wedi eu gwneud i’r adeilad yn hanesyddol ac ystyriwyd bod yr
eiddo wedi colli llawer o’i gymeriad yn barod.
Nodwyd bod ail-ddefnyddio’r adeilad yn cynnig ei ail-dacluso, ei
ddiogelu a’u hatal rhag dirywiad pellach.
Ystyrir y byddai defnydd busnes yn hytrach na’r defnydd blaenorol yn
welliant ac yn cael llai o effaith o safbwynt ymyrraeth a sŵn. Tynnwyd sylw bod yr adeilad wedi ei leoli
ddigon pell o dai eraill i sicrhau na fyddai effaith ar breifatrwydd eiddo
cyfagos. Cadarnhawyd bod materion trafnidiaeth a bioamrywiaeth yn dderbyniol. Ystyrir bod datblygiad o dŷ newydd ar y safle hwn yn dderbyniol ac ni
ystyrir y byddai’n cael effaith niweidiol andwyol ar fwynderau’r ardal na’r
trigolion cyfagos. Yn ogystal, ystyrir
bod lleoliad, dyluniad, gorffeniad a ffurf y datblygiad yn dderbyniol ac yn
cydweddu â chyd-destun ei leoliad.
Argymhellir felly i ganiatáu’r cais yn unol â’r
amodau perthnasol fel amlinellir yn yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Pan brynwyd yr eiddo gan
y perchennog roedd dan yr argraff
o’r disgrifiad ei fod yn
dŷ o safon ·
Bod y gwaith wedi dechrau ar
yr adeilad, fe stopiwyd y gwaith
a chyflwynwyd cais cynllunio ·
Bwriad yw gwneud defnydd
o hen adeilad oedd wedi dirywio ·
Er
bod rhai sylwadau negyddol wedi ei
gyflwyno nid oedd y rhain yn
berthnasol i faterion cynllunio megis roedd un yn cyfeirio
at y waliau wedi cael eu plastro
ond tynnwyd sylw bod rhan fwyaf
o’r tai yn y cyffiniau wedi eu plastro a’u
paentio ·
Bod
y safle wedi ei amgylchynu yn
bennaf gan dŷ annedd a gwasanaethir yr eiddo gan ffordd
ddi-ddosbarth ·
Bod
cais amlinellol am dŷ newydd gyferbyn â’r safle
wedi ei ganiatáu
yn Hydref 2015 ·
Bod y safle wedi ei leoli
oddi fewn ffin datblygu Penrhyndeudraeth a’r swyddogion cynllunio yn gefnogol
i’r cais ·
Bod
y cais yn cydymffurfio a’r polisïau cynllunio perthnasol ac apeliwyd i’r Pwyllgor ystyried
y cais yn ffafriol a’i gymeradwyo (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
CAIS RHIF: C15/1115/25/LL - GOETRE UCHAF, ODDI AR FFORDD PENRHOS, BANGOR PDF 960 KB Addasiad rhannol i 174 o dai preswyl fel
a ganiatawyd o dan gyfeirnod C12/1347/25/LL trwy gynyddu cyfanswm y tai o 245 i
266 gan gynnwys tai ar wahan, tai par a fflatiau gydag unedau fforddiadwy (35%) a llecynnau parcio a gerddi cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd
John Wyn Williams Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasiad
rhannol i 174 o dai preswyl fel y caniatawyd o dan gyfeirnod C12/1347/25/LL
trwy gynyddu cyfanswm y tai o 245 i 266 gan gynnwys tai ar wahân, tai pâr a
fflatiau gydag unedau fforddiadwy (35%) a llecynnau parcio a gerddi
cysylltiedig. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch SwyddogRheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi mai diwygiad o’r caniatâd presennol i gynyddu cyfanswm y tai
ar y safle o 245 i 266 oedd gerbron, sef 21 tŷ ychwanegol trwy ddarparu
mwy o unedau un a dwy lofft.
Pwysleisiwyd nad oedd y cynllun yn golygu ehangu maint y safle na newid
gosodiad ffyrdd mewnol o fewn y safle.
Tynnwyd sylw bod y caniatâd gwreiddiol wedi ei weithredu gyda’r gwaith
yn parhau ar y safle gyda 50 o’r tai eisoes wedi eu meddiannu. Cyflwynwyd y
cais mewn ymateb i newid yn y farchnad dai ers i’r cais gwreiddiol ei ganiatáu
gyda’r bwriad o ddarparu tai deulawr a fflatiau. Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at bwynt 1.6 o’r adroddiad a oedd
yn cyfeirio at apêl sy’n mynd rhagddo ar y safle. Er yr apêl, nodwyd bod y cais hwn wedi ei
gyflwyno er mwyn cyflwyno gwybodaeth ychwanegol angenrheidiol ar y cais
blaenorol gyda’r gobaith i osgoi’r apêl os rhoddir caniatâd cynllunio cyn
dyddiad yr apêl. Er hynny, rhaid rhoi
ystyriaeth lawn i’r cais gerbron a’i ystyried ar ei haeddiant. Lleolir y safle o fewn ffin datblygu dinas Bangor sydd
wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd
â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau a dderbyniwyd.
Derbyniwyd dau lythyr o wrthwynebiad ychwanegol ers darparu’r adroddiad
ac wedi eu nodi. Nodwyd bod egwyddor o sefydlu’r tai eisoes wedi ei
dderbyn yn y caniatâd gwreiddiol a’r safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai yng
Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac fe noda’r briff datblygu y gall y safle
ymdopi gyda 270 o unedau preswyl yn seiliedig ar ddwysedd datblygu o 30 uned yr
hectar. Tynnwyd sylw bod y cais gerbron
yn cyfrannu’n well tuag at dargedau tai'r Cyngor na’r caniatâd presennol ac
oherwydd hyn roedd y swyddogion cynllunio o’r farn bod y nifer o unedau a
gynigir fel rhan o’r cais yn dderbyniol.
Caniatawyd y cais blaenorol gydag amod i sicrhau datblygiad cam wrth gam ac y
byddai’n rhaid ail-osod yr amod pe caniateir y cais er mwyn ymateb i’r nifer
uwch o dai. Nodwyd bod y cais yn cynnig 7 tŷ fforddiadwy ar ben yr 86 sydd
wedi’u caniatáu yn barod ac yn cadw’r ddarpariaeth o 35% o dai fforddiadwy. Fel rhan o’r cais blaenorol derbyniwyd cyfraniadau
ariannol sylweddol i drafnidiaeth ac
addysg ond nid oes cyfiawnhad i ofyn am gyfraniadau pellach. Derbyniwyd asesiad diwygiedig trafnidiaeth ac ni ragwelir
y bydd unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad. Yn ogystal, derbyniwyd asesiad
ieithyddol diwygiedig a oedd yn nodi y byddai’r datblygiad yn bositif i
sefyllfa’r iaith drwy ddarparu tai yn unol â gofynion y CDUG ac anghenion a adnabuwyd
yn yr Arolwg o Anghenion Tai Lleol. Tynnwyd sylw bod angen mwy o wybodaeth gan Dŵr Cymru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
CAIS RHIF: C15/1128/44/LL - CAE EITHIN, MORFA BYCHAN ROAD, MORFA BYCHAN PDF 679 KB Cais i godi 4 byngalo dormer
deulawr newydd. AELOD LLEOL:
Cynghorydd E. Selwyn Griffiths Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i
godi 4 byngalo dormer ddeulawr newydd. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod y cais o fewn safle ehangach sydd eisoes wedi derbyn
cymeradwyaeth amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl o 9 o dai. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau
cyhoeddus. Derbyniwyd un llythyr o
wrthwynebiad hwyr oddi wrth unigolyn sydd eisoes wedi mynegi pryderon ac roedd
yr adroddiad yn ymateb i’r pryderon hynny.
O safbwynt pryderon am or-edrych ac effaith ar
y tai yn y cefn, eglurwyd bod y byngalos yn rhai unllawr
gyda’r ffenestri yn y to ar lefel uchel. Nodwyd bod yr Uned Trafnidiaeth yn gefnogol i’r cais ac yn dilyn ystyriaeth
o’r holl faterion perthnasol yn ogystal â hanes cynllunio i’r safle, ystyrir
bod y cais i godi pedwar byngalo dormer yn dderbyniol ac argymhellir i
ganiatáu’r cais. Nodwyd ymhellach bod
cyfraniad o 33% yn dai fforddiadwy ar y safle ac felly nid oedd angen gofyn am
gyfraniad pellach. (b)
Nododd
yr Aelod Lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn): ·
Ei
fod yn gefnogol
i’r cais yn wyneb y ffaith
bod cais amlinellol wedi ei ganiatau
eisoes ·
Ei
fod yn gyfle
ar gyfer tai i bobl ifanc lleol ·
Pryder
am uchder y byngalos yn seiliedig ar
y gair “dormer”
(c)
Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu, o ran y dyluniad
bod gofod yn y to gyda llofftydd ond nid oes
ganddynt y ffenestri gromen ac y byddai modd cynnwys amod
nad oes unrhyw
newidiadau i’r to yn y dyfodol. Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Penderfynwyd: Caniatáu’r cais yn unol â’r amodau canlynol ynghyd á’r
amod ychwanegol amlinellwyd gan y swyddog yn (c) uchod: 1. Amser 2.
Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Deunyddiau/llechi 4. Tirlunio 5. Priffyrdd 6. Draenio 7. Manylion lefelau lloriau
gorffenedig 8. Nodyn wal rannol 9. Dim newidiadau i’r toeau cefn |
|
CAIS RHIF: C15/1181/44/LL - BRYN HYFRYD, 25 HEOL MERSWY, BORTH Y GEST PDF 655 KB Cais i ddymchwel modurdy a chodi anecs cysylltiol yn ei le. AELOD LLEOL: Cynghorydd
E. Selwyn Griffiths Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i ddymchwel modurdy
a chodi anecs cysylltiol yn ei le. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod yr eiddo yn dŷ ben teras gyda thrac mynediad yn rhedeg
wrth ei ochr a heibio ei gefn er mwyn darparu mynediad cerbydol i dai eraill tu
cefn. Saif y modurdy presennol yng
nghefn pellaf cwrtil yr eiddo, ac mae gan dai eraill yn y teras yr un math o
drefniant. Golyga’r bwriad i ddymchwel y modurdy presennol a chodi adeilad newydd ar
yr un ôl-troed i ffurfio anecs cysylltiol i’r prif
eiddo fydd yn darparu ystafell gardd, ystafell
ymolchi, ynghyd ag ystafell sbâr ar gyfer defnydd fel ystafell
wely/swyddfa. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd á’r
ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus. Tynnwyd sylw bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Borth y
Gest ac er nad oes cysylltiad ffisegol rhwng y prif dy a’r anecs,
yr unig ffordd i mewn i’r anecs yw drwy ardd y prif
eiddo, sydd o fewn yr un berchnogaeth. Ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol ac yn ffordd addas a chynaliadwy o
ddarparu ystafelloedd ychwanegol heb danseilio polisïau cynllunio’r Cynllun
Datblygu Undebol Gwynedd, ac yn cydymffurfio a gofynion y polisïau cynllunio
perthnasol. Tynnwyd sylw bod perchnogion yr eiddo drws nesaf wedi gwrthwynebu yn seiliedig ar ffenestr ystafell ymolchi
sydd wedi ei leoli ar yr edrychiad deheuol sy’n edrych dros lwybr sy’n darparu
mynediad i ardd yr eiddo drws nesaf. Ni
ystyrir y byddai’r ffenestr yn debygol o achosi goredrych
sylweddol nac annerbyniol yn yr achos hwn. Nodwyd bod Uned Trafnidiaeth y Cyngor yn fodlon gyda’r trefniant parcio
presennol ac nad oedd gwrthwynebiad ar sail diogelwch ffyrdd. Argymhellir y swyddogion cynllunio i ganiatáu’r cais oherwydd ni ystyrir
nad oedd y bwriad arfaethedig yn groes i bolisïau perthnasol. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd y gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol: ·
Pryder
y gall yr anecs gael ei ystyried
fel uned breswyl ar wahân ·
Bod yr anecs yn or-ddatblygiad
o’r safle ·
Nad oedd unrhyw gyswllt
rhwng y prif eiddo a’r anecs
dim ond mynediad
yn unig drwy
giât ar yr
ochr o'r
ffordd sydd heb ei
mabwysiadu ·
Bod
cwympiad serth o 3-4m rhwng ardal y tŷ a’r modurdy a dim mynediad i’r
tŷ ·
Bod yr
adroddiad yn datgan nad oedd unrhyw gysylltiad ffisegeol
gyda’r prif annedd a’r anecs – felly yn atgyfnerthu y
byddai’r anecs yn uned ar wahân ·
Bod yr adroddiad yn datgan na ddylai’r anecs weithredu ar wahân o’r prif annedd gan y byddai hyn
yn risg o isrannu’r annedd i’r dyfodol ac yn nodi ymhellach bod yr anecs yn darparu uned hunangynhwysol - felly gall yr uned
gael ei werthu ar wahân i’r dyfodol ·
Bod llawer
iawn o fflatiau mewn dinasoedd o’r un maint yn darparu llety parhaol · Bod 20 eiddo gydag adeiladau ynghlwm ar y ffordd sydd heb ei mabwysiadu sydd yn addas i’w trosi - byddai caniatau’r cais yn creu cynsail ar gyfer ceisiadau cyffelyb ac o’r herwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
CAIS RHIF: C15/0348/16/LL - CYN FAES PARCIO, PANT YR ARDD, TREGARTH, BANGOR PDF 776 KB Codi adeiladu
deulawr newydd i'w defnyddio fel
siop dosbarth A1, gyda gwaith cysylltiol
gan gynnwys addasu mynedfa bresennol a chreu llecynnau parcio AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gwen Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi adeilad deulawr newydd
i’w defnyddio fel siop dosbarth A1, gyda gwaith cysylltiol gan gynnwys addasu
mynedfa bresennol a chreu llecynnau parcio. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod y safle presennol yn ffurfio rhan o faes parcio sy’n gysylltiol
â thŷ tafarn presennol ochr arall i’r ffordd cyhoeddus gyfochrog ac yn
cynnwys llecyn sydd yn cael ei ddefnyddio fel gardd gwrw / safle picnic i un rhan a’r rhan arall gwelir
gyfleuster ailgylchu cymunedol. Tynnwyd sylw bod y safle yn ymylu yn uniongyrchol gyda ffin ddatblygu
pentref Tregarth. Ymhelaethwyd ar y bwriad a chyfeiriwyd at y polisïau
perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau
cyhoeddus. Derbyniwyd gwrthwynebiad o safbwynt effaith sŵn ac ysbwriel ond cred y
swyddogion cynllunio bod modd rheoli’r pryder gydag amodau perthnasol. Ysytir bod y bwriad i godi adeilad
er mwyn darparu siop yn dderbyniol ac yn bodloni holl faterion perthnasol gan
gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenhedlaethol. (b)
Nododd
yr Aelod Lleol (a oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol: ·
Nad
oedd siop yn Nhregarth ers
nifer o flynyddoedd a hyderir y bydd yn fusnes hyfyw
a llwyddiannus ·
Bod
edrychiad yr adeilad yn fwy
debyg i dŷ na siop a rhaid
bod yn wyliadwrus o’i ddefnydd i’r
dyfodol ·
Bod
y safle wedi ei ddefnyddio fel
llecyn chwarae a phryderwyd am ddiogelwch plant (c) Mewn ymateb i’r uchod, nododd
yr Uwch Reolwr
Gwasanaethau Cynllunio pe byddir yn
derbyn cais mewn blynyddoedd i ddod i newid defnydd
y siop, byddai modd bryd hynny
ymdrin â’r cais ac nad oedd
modd gosod amod i glymu’r adeilad i ddefnydd busnes. Ychwanegwyd oherwydd bod y tir tu allan
i’r ffin ni fyddai’r polisi
perthnasol yn caniatáu tai marchnad agored ar y math yma o safle. Esboniwyd ymhellach bod y trefniant ail-gylchu tu allan i drefniadaeth
cynllunio ac yn fater i’r Adran
Fwrdeistrefol a Phriffyrdd. Cadarnhawyd y byddai’r ardd gwrw a’r
llecyn chwarae yn cael eu
diddymu. (ch) Esboniodd yr Uwch
Beiriannydd Rheolaeth Datblygu
mewn ymateb i bryder ynglyn a cholli’r llecyn parcio, bod cyfleoedd barcio heb gyfyngiadau ar gael ar
y stryd ac nad oedd yn ystyriaeth o bryder i’r Uned
Trafnidiaeth. Cynigwyd ac eiliwyd
i ganiatau’r cais. Penderfynwyd: Caniatáu’r cais yn unol â’r amodau canlynol: 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Deunyddiau ( gan gynnwys llechi naturiol ) 4. Cyfyngu defnydd yr adeilad i ddefnydd
manwerthu A3 yn unig 5. Cyflwyno manylion unedau awyru. 6. Cyfyngu lleoliad cadw gwastraff 7. Priffyrdd 8. Dwr Cymru 9. Llygredd 10.
Cyfyngu amseroedd agor 11.
Rheoli’r safle ail-gylchu 12.
Tirlunio 13
.Cytuno ar gynllun goleuo |
|
CAIS RHIF: C15/1139/46/LL - GLANRAFON FAWR, LLANGWNADL PDF 694 KB Ymestyn safle carafannau teithiol i gae cyfochrog gan ail leoli un uned a creu 10 llain deithiol newydd a gwelliannau amgylcheddol AELOD LLEOL: Cynghorydd
Simon Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymestyn
safle carafanau teithiol i gae cyfochrog gan ail
leoli un uned a chreu 10 llain deithiol newydd a gwelliannau amgylcheddol. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi bod y safle yng nghefn gwlad ac fe’i
gwasanaethir gan ffordd sirol wledig dosbarth 3 a thrac fferm. Nodwyd bod y safle carafanau ar fymryn o
lethr, tu ôl i res aeddfed o goed sy’n ffinio ag afon Pen y Graig sydd islaw
mewn pant ger y tŷ fferm a’r adeiladau fferm. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol
ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus. Tynnwyd sylw bod y cynlluniau wedi
newid o’r hyn gyflwynwyd yn wreiddiol, gyda mwy o welliannau, tirlunio wedi eu cynnig ar ôl trafodaethau
gyda swyddogion. Bwriedir plannu planhigion
cymysg naill ochr i fynedfa’r cae, plannu rhagor o goed yma thraw o amgylch y safle a chodi cloddiau a gwrychoedd
bychain fel sgrin ar ben y rhes. Nodwyd
ymhellach bod y safle yn gymharol
guddiedig ac anymwthiol yn y tirlun. Gweithredir y safle presennol rhwng
1 Mawrth a 31 Hydref a byddai’r un cyfnod yn berthnasol
i’r unedau newydd. Mae’r dystysgrif defnydd cyfreithlon yn rhoddi hawl i storio
8 o’r carafanau ar eu lleiniau yn
barhaol, ac fel rhan o’r gwelliant gofynnwyd i’r ymgeisydd ystyried symud y carafanau storio dros
gyfnod y gaeaf i gornel fwy cuddiedig. Nodwyd bod cymdogion agosaf led cae
i ffwrdd o’r safle sydd yn bellter rhesymol i sicrhau bod preifatrwydd a mwynderau’r cymdogion yn cael eu gwarchod. O safbwynt materion trafnidiaeth a
mynediad, datganwyd bryder yn wreiddiol am y cynnydd
mewn traffig ar y lon oherwydd bod mannau pasio yn brin ond nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnig creu man pasio
ychwanegol ac o ganlyniad tynnwyd gwrthwynebiad
yr Uned Drafnidiaeth yn ôl. Yn seiliedig
ar sylwadau’r Uned Drafnidiaeth ystyrir
bod y bwriad yn dderyniol yn amodol bod y man pasio
yn cael ei ddarparu i gydymffurfio
a gofynion sy’n ymwned a diogelwch ffyrdd. Argymhelliad
y swyddogion ydoedd caniatau’r cais yn unol ag amodau
perthnasol. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Mai cais syml oedd gerbron
i deulu lleol i ychwnaegiad o 10 llain deithiol ynghyd a gwelliannau amgylcheddol a chreu man parcio newydd ·
Bod y bwriad arfaethedig ar gyfer uwchraddio’r safle i safonau modern ·
Er mwyn lliniaru’r pryderon ynglyn a diogelwch ffyrdd, bod y perchennog wedi cynnig gwneud man pasio ychwanegol ·
Bod y safle yn guddiedig iawn (c)
Nododd
yr Aelod Lleol (a oedd yn
Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) gefnogaeth i’r cais a’i
fod yn cydymffurfio
gyda’r holl bolisïau perthnasol ac apeliwyd i’r Pwyllgor
ei ganiatáu. Cynigwyd ac eiliwyd
i ganiatau’r cais. Penderfynwyd: Caniatáu’r cais yn unol â’r amodau
canlynol: 1.
5 mlynedd 2.
Unol â’r cynlluniau diwygiedig 3.
Cyfyngu
niferoedd i 28 uned deithiol 4.
Gosod yr
holl garafanau ar eu lleiniau rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref 5.
Gwyliau
yn unig 6.
Cadw
cofrestr 7. Storio'r 8 garafán yn y lleoliad a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |
|
CAIS RHIF: C15/1208/16/LL - CHWAREL PENRHYN, BETHESDA PDF 604 KB Cais i ddiwygio amod 2 o ganiatad C15/0276/16/LL er mwyn ail leoli’r
adeilad a man glanio’r zip bychan a newidiadau i’r trefniadau parcio AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gwen Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Is-gadeirydd gymryd y
gadair ar gyfer y cais uchod oherwydd bod y Cadeirydd yn gorfod gadael i
fynychu cyfarfod arall. Cais i ddiwygio amod 2 o ganiatâd C15/0276/16/LL er
mwyn ail-leoli’r adeilad a man glanio’r zip bychan a
newidiadau i’r trefniadau parcio. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan nodi ers i’r cais blaenorol gael ei benderfynu bod
ymchwiliadau pellach wedi darganfod nad oedd y safle a ganiatawyd yn hyfyw i
allu adeiladu arno oherwydd dyfnder y craigwely a bod y cwmni angen newid
lleoliad yr adeilad er mwyn achub y prosiect. Gofynnir hefyd am fân addasiadau
eraill i ddyluniad yr adeilad, trefniadau parcio a man glanio’r zip bychan. Cyfeiriwyd
at y polisïau perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r
ymgynghoriadau cyhoeddus. Ers
cyhoeddi’r adroddiad derbyniwyd sylwadau gan yr Uned Bioamrywiaeth yn datgan nad oedd ganddynt wrthwynebiad. Atgoffwyd
y Pwyllgor bod yr egwyddor eisoes wedi ei ganiatau.
Ni ystyrir yr angen am Ddatganiad Ieithyddol a Chymunedol pellach i’r hyn
gyflwynwyd yn flaenorol. Ni ystyrir bod y bwriad yn debygol o gael effaith
andwyol ar fwynderau unrhyw eiddo nac unigolyn cyfagos
nac ar y dirwedd ac argymhellwyd i ganiatau’r cais yn
unol ag amodau perthnasol. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y cais yn debyg i’r
cais a ganiatawyd yn wreiddiol ond
bod rhaid newid lleoliad yr adeiladau ·
Bod yr adeilad wedi newid
ychydig ond bod y bwriad ac edrychiad ‘run fath ·
Bod menter Zip World yn tyfu ac yn
awyddus i ddechrau ar y gwaith uchod (c)
Nododd
yr Aelod Lleol (a oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei bod yn
gefnogol i’r cais ac yn croesawu’r
fenter gan fod y cwmni yn
cyflogi pobl leol ac y byddai’r adeilad arfaethedig yn fodd i gynnig
cyfleusterau hwylus i ddefnyddwyr. Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Penderfynwyd: Caniatáu’r
cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
Amodau: 1.
Unol â’r cynlluniau 2.
Unol ag amodau cais C12/0276/16/LL (5 mlynedd, defnydd, bioamrywiaeth, deunyddiau a gorffeniadau a
thirweddu) Dechreuodd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben
am 4.00 p.m. Cadeirydd |