Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Dyfrig Wynn Jones a Eric M. Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd John
Wyn Williams fuddiant personol, yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C16/1556/18/LL) oherwydd bod ei gyfnither a nith yn byw cyfagos. Roedd yr Aelod o’r
farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y
drafodaeth ar y cais. (b) Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr fuddiant personol yn eitem 5.3 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/1430/44/LL) oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd a’i deulu. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd
y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (c) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Elfed Williams,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/0367/18/LL); ·
Y Cynghorydd Sion Wyn Jones,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.2 a 5.5 ar y
rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C16/1406/18/LL a C16/1524/18/LL); ·
Y Cynghorydd Selwyn Griffiths,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/1430/44/LL); ·
Y Cynghorydd Jason Humphreys,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/1472/44/LL); ·
Y Cynghorydd R. Hefin Williams
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/1556/18/LL); ·
Y Cynghorydd R. H. Wyn
Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1571/39/LL); ·
Y Cynghorydd Lesley Day, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/1614/99/LL); ·
Y Cynghorydd June Marshall,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/1675/11/LL); ·
Y Cynghorydd Mair Rowlands,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/1675/11/LL). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2017
fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C16/0367/18/LL - Tir ger Capel Maes y Dref, Clwt y Bont, Deiniolen PDF 295 KB Cais llawn i godi 12 tŷ ynghyd â chreu mynedfa a lôn stad. AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Wyn Williams Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i godi 12 tŷ ynghyd a chreu mynedfa a lôn
stad. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei
glustnodi yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) ar gyfer datblygiad preswyl (tai ar gyfer angen cyffredinol
a’r farchnad agored) a bod Briff Datblygu wedi ei
ddarparu ar gyfer y safle i
gyd fynd â’r dynodiad. Ymhelaethwyd
y byddai’r bwriad yn golygu codi
4 tŷ 3-llofft (tai fforddiadwy),
4 tŷ 2-lofft (farchnad
agored) ynghyd â 4 tŷ 3-llofft (farchnad agored). Nodwyd bod y bwriad o ddarparu elfen o dai fforddiadwy
ynghyd â darparu cymysgedd o wahanol dai ar y safle hwn yn cyd-fynd ac amcanion
polisi’r CDUG a Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn(CDLL) . Eglurwyd er nad oedd y CDLLwedi ei fabwysiadu roedd bellach yn ystyriaeth
cynllunio berthnasol o ran rheolaeth datblygu. Ymhelaethwyd bod polisi
cenedlaethol yn datgan ei fod yn bwysig cael cyfuniad o dai gwerth y farchnad a
thai fforddiadwy angen lleol ynghyd â’r angen i
ddarparu gymaint â phosibl o dai fforddiadwy ar draws yr ardal. Nodwyd o ran y materion trafnidiaeth a mynediad,
bioamrywiaeth a llifogydd roedd yr amodau a argymhellir yn gwneud y cais yn
dderbyniol. Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno asesiad hyfywdra a
oedd yn datgan na fyddai’r datblygiad yn hyfyw pe roddir cyfraniad addysgol a
chyfraniad o ran llecynnau agored o werth adloniadol i ymateb i’r gofynion
polisi. Cyfeiriwyd at asesiad yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd o’r wybodaeth a
gyflwynwyd. Nodwyd ar sail asesiad yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd ei fod yn
glir na fyddai’r datblygiad yn hyfyw pe bod angen y cyfraniadau. Nodwyd bod
polisi cenedlaethol yn nodi, cyn belled a bod yr
isadeiledd a oedd ei angen ar gyfer gwireddu’r datblygiad wedi ei warchod,
darparu tai fforddiadwy ddylid cael blaenoriaeth. (b)
Gwnaed cais i rannu
lluniau, nodwyd na ellir eu
rhannu yn y cyfarfod ond fe
ellir eu cyflwyno i’r Gwasanaeth
Cynllunio. Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod problemau o ran llifogydd yn bresennol
yn yr ardal; ·
Bod y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn edrych ar ddatrysiad
i’r problemau ac fe fyddai caniatáu’r
cais hwn yn ei atal
rhag mynd yn ei flaen; ·
Y byddai’r bwriad yn gwaethygu’r
sefyllfa o ran problemau llifogydd. (c)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod pryderon o ran llifogydd ar dir
cyfagos a bod y Cyngor a
CNC wedi asesu’r sefyllfa; ·
Bod rhaid cadw’r ffoes er
mwyn i’r bwriad fod yn
dderbyniol gan yr Uned Bioamrywiaeth; ·
Nid oedd trafodaeth wedi cymryd lle efo’r
perchennog o ran defnyddio’r
tir dan sylw
fel rhan o’r datrysiad i’r
problemau llifogydd; ·
Safle’r cais wedi ei glustnodi
fel safle tai; ·
Bod trafodaethau
wedi eu cynnal
o ran dyluniad a draenio tir, roedd y materion
wedi eu cyfarch. |
|
Cais Rhif C16/1406/18/LL - Tir tu cefn i Capel Bethel, Bethel PDF 372 KB Codi 4 tŷ fforddiadwy, creu ffordd stâd newydd a mynedfa cerbydol newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Sion Wyn Jones Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
4 tŷ fforddiadwy, creu ffordd stad newydd a mynedfa gerbydol newydd. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y bwriad yn golygu creu
estyniad i’r ffordd stad gyda
man troi a gosod pedwar tŷ ar ffurf para deulawr. Nodwyd bod polisi CH7 o’r CDUG yn caniatáu
cynigion am dai
fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig addas sy’n
union ar ffin pentrefi neu ganolfannau.
Tynnwyd sylw bod ochor ddeheuol y safle yn ymylu’r
ffin datblygu ger stad Bron
Gwynedd ac o’r agwedd yma, fe
all y safle fod yn safle eithrio
gwledig. Ymhelaethwyd bod y
polisi ond yn caniatáu datblygiadau
am dai fforddiadwy
lle'r oedd yr angen wedi
ei brofi. Adroddwyd y derbyniwyd sylwadau gan Uned
Strategol Tai'r Cyngor yn cydnabod
yr angen am y math yma o dai fforddiadwy
yn yr ardal
a chopi o lythyr gan Grŵp Cynefin
yn dangos bwriad i brynu’r
tai. Nodwyd yr ystyrir bod y bwriad yn bodloni gofynion
polisi CH7 a’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer
tai fforddiadwy. Adroddwyd bod nifer fawr o’r
gwrthwynebiadau a dderbyniwyd
yn cyfeirio at wrthodiadau blaenorol ar gyfer datblygiad
preswyl ar y safle ac ar apêl.
Eglurwyd bod y cais a wrthodwyd ar apêl
(3/18/384E) yn gais am ganiatâd amlinellol ar gyfer datblygu’r
cae i gyd
ar gyfer datblygiad preswyl ac roedd yr ystyriaethau
polisi yn wahanol. Nodwyd yr ystyrir bod
y datblygiad yma yn dderbyniol mewn
egwyddor ar sail polisïau’r CDUG a hefyd o fewn y CDLL felly nid oedd cyfiawnhad i wrthwynebu’r bwriad ar sail polisi. Amlygwyd bod yr Arolygydd Cynllunio o’r farn nad
oedd modd cael mynediad derbyniol
i’r safle ac nad oedd traffig
ychwanegol oddi ar Bron Gwynedd yn dderbyniol o ran datblygiad a fyddai’n darparu tua 12 i 25 o dai. Nodwyd bod yr
Uned Drafnidiaeth o’r farn y byddai’r
cynnydd fyddai’n deillio o 4 tŷ ychwanegol ddim yn sylweddol ac yn gallu bod yn
dderbyniol heb achosi niwed i
ddiogelwch ffyrdd. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod yr adroddiad yn rhoi
arweiniad clir i’r Pwyllgor; ·
Bod y cais wedi ei ddiwygio
i ymateb i bryderon o ran mwynderau, ail-luniwyd y fynedfa, darperir man troi a diwygiwyd y ddarpariaeth parcio i ymateb i
sylwadau’r Uned Drafnidiaeth; ·
O ran draenio tir, bod datrysiad mewn egwyddor wedi
ei gytuno efo Dŵr Cymru; ·
Y byddai’r datblygiad yn cyfrannu
at darged y Cyngor o ran darparu tai fforddiadwy; ·
Bod Grŵp Cynefin yn dangos
bwriad i brynu’r tai. (c) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:- · Bod y safle tu allan i’r ffin datblygu ac nid oedd y tir yn cael ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C16/1430/44/LL - Tir hen Laethdy Moelwyn, Ffordd Penamser, Porthmadog PDF 355 KB Codi tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd â gosod tanc septig, a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Grifffiths Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd a
gosod tanc septig, a chreu mynediad cerbydol a ffordd fynediad newydd. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli tu allan i’r ffin
datblygu ddiffiniedig ar gyfer ardal Porthmadog ac oherwydd hynny fe’i hystyrir fel safle yng nghefn gwlad. Nodwyd bod paragraff 4.3.1 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6
‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy’ yn nodi mai un o’r ychydig
sefyllfaoedd ble gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl
newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fod angen llety i
alluogi gweithwyr amaethyddol neu fenter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n
agos ato. Ymhelaethwyd y byddai p’un a yw hyn yn hanfodol ai peidio mewn unrhyw
achos penodol yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar
ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r unigolion cysylltiedig. Amlygwyd bod cyfeiriad yn y cais, yn benodol o fewn y
Datganiad Dylunio a Mynediad yn ogystal â llythyrau o gefnogaeth, at ddefnydd
amaethyddol presennol y tir yn ogystal â chynllun busnes arfaethedig i newid
defnydd y tir ar gyfer busnes cynaliadwy newydd a defnydd o ran o’r tir gan
wasanaeth achub mynydd lleol. Nodwyd ni chyflwynwyd gwybodaeth yn cadarnhau yn
union sut fath o fusnes a fwriedir i’r Gwasanaeth Cynllunio. Nodwyd serch hyn, ei fod yn ymddangos fod defnydd
amaethyddol sefydledig ar y tir, ac felly yn unol â gofynion NCT 6, pe byddai’r
cais ar gyfer tŷ i weithiwr amaethyddol neu fenter wledig llawn amser,
byddai angen cyflwyno gwybodaeth sy’n ymwneud a’r profion swyddogaethol, amser,
ariannol ac anheddau amgen er mwyn profi angen a chyfiawnhad am godi tŷ
yng nghefn gwlad agored. Nodwyd hefyd na ellir ystyried y tŷ i fod yn
dŷ fforddiadwy am y rhesymau a amlygwyd yn yr adroddiad. Nodwyd y derbyniwyd llythyrau o gefnogaeth gan unigolion
lleol ac eraill i’r bwriad, rhoddwyd sylw llawn i’r holl faterion cynllunio
perthnasol a nodwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd. Tynnwyd sylw bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno ymholiad
ffurfiol cyn cyflwyno cais ar gyfer y bwriad fel y dangosir o dan gyfeirnod
Y16/000248. Cadarnhawyd mewn ymateb ffurfiol ar y pryd y byddai bwriad o’r fath
yn groes i ofynion polisïau perthnasol ac na fyddai’r Awdurdod o ganlyniad, yn
gallu cefnogi’r cynnig. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod rheidrwydd i’r tŷ fod
ar y safle yma i reoli’r
fferm sefydledig gyda 90 erw o dir; ·
Bod paragraff 4.5.1 o NCT
6 yn nodi y gall fod yn briodol
a’i fod yn
angenrheidiol i’r tŷ fod ar
y safle er mwyn rheoli’r fferm
ar ei ffurf
bresennol a menter wledig arall; ·
Bod y bwriad yn dderbyniol o ran paragraffau 4.5.3 a 4.6 o NCT 6; ·
Bod adfail yn bresennol ar
safle’r cais; ·
Nad oedd risg llifogydd ar y safle; · Y byddai’r bwriad yn darparu cartref i deulu a sicrhau parhad busnes teuluol gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C16/1472/44/LL - 1 Llys y Porth, Porthmadog PDF 335 KB Cais llawn i newid defnydd
tŷ preswyl presennol i dŷ mewn aml ddeiliadaeth. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Jason Humphreys Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i newid defnydd tŷ preswyl presennol i
dŷ mewn aml ddeiliadaeth. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod yr adeilad wedi ei leoli o fewn ffin
datblygu tref Porthmadog. Eglurwyd nad oedd y bwriad, yn ôl y cynlluniau a
gyflwynwyd, yn newid gosodiad mewnol presennol yr adeilad nag ychwaith yn bwriadu
cynnal unrhyw newidiadau allanol i’r adeilad. Nodwyd bod polisi CH14 o’r CDUG yn caniatáu cynigion i newid defnydd tai
i’r perwyl hyn os na fyddai’r datblygiad yn creu gorddarpariaeth o’r math hwn o
lety mewn stryd neu ardal benodol ble mae’r effaith gronnus yn cael effaith
negyddol ar gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol y stryd neu’r ardal, neu’n
debygol o wneud hynny. Ni chredir fod adeilad arall yn y cyffiniau cyfagos yn
cael ei ddefnyddio fel tŷ mewn aml ddeiliadaeth ac felly ni chredir y byddai’n
arwain at effaith gronnol annerbyniol o fewn yr ardal
benodol yma. Roedd y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor. Nodwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais o ganlyniad i’r ymgynghoriad
cyhoeddus gyda phryder wedi ei amlygu o safbwynt effaith niweidiol y defnydd
arfaethedig (a honnir oedd eisoes wedi dechrau) ar fwynderau preswyl cyfagos
o’i gymharu gyda defnydd cyfreithiol presennol y safle. O ystyried defnydd
cyfreithlon presennol yr eiddo fel eiddo preswyl 5 llofft a’r effeithiau mwynderol a fyddai’n gallu codi o’r defnydd hwnnw, ni
ystyrir byddai newid arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth o ganiatáu’r
datblygiad dan sylw. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn
yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y defnydd fel tŷ aml
ddeiliadaeth wedi cychwyn ers blwyddyn; ·
Bod ymddygiad gwrthgymdeithasol o flaen y tŷ yn peri
gofid iddi hi a’i theulu; ·
Bod lle parcio yn gyfyng
wrth ymyl y safle gyda mwy
o geir yn parcio o flaen y tŷ yn dilyn
at gweryla; ·
Nad oedd y tŷ yn agored
i bobl leol
fel llety, fe ddylai fod; ·
Bod y bwriad yn golygu colli
tŷ teuluol. (c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Nad oedd yn ymwybodol bod ymddygiad gwrthgymdeithasol o flaen y tŷ ac nid oedd yn
gweld y bobl broffesiynol a oedd yn byw yn
y tŷ yn ymddwyn fel yma
; ·
O ran parcio, nid oedd unrhyw
breswylwyr yn berchen car ac nid oedd bwriad iddynt
chwaith; ·
Mai llety ar gyfer nyrsys
arbenigol dementia a oedd yn gweithio yng
Nghartref Preswyl y Pines yng Nghricieth ydoedd; ·
Bod y bwriad yn galluogi’r
Cartref Preswyl i ddarparu gofal
i bobl leol. (ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Ei fod yn ymwybodol ac yn
gwerthfawrogi’r angen am lety ar gyfer nyrsys; ·
Na all y drefn drwyddedu tai aml ddeiliadaeth ddelio efo’r holl faterion
a fyddai’n codi o’r datblygiad; · Bod problemau parcio yn yr ardal ac fe fyddai’r bwriad yn gwaethygu’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C16/1524/18/LL - Warws ger Maes yr Haf, Bethel PDF 316 KB Dymchwel yr warws presennol a chodi 2 dŷ deulawr. AELOD LLEOL: Cynghorydd Sion Wyn Jones Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
y warws presennol a chodi 2 dŷ deulawr. (a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod safle'r cais wedi ei
leoli mewn ardal anheddol a oedd yn weddol
gyson o safbwynt natur dyluniad yr anheddau, gan
eu bod ar y cyfan yn dai
deulawr sengl neu bâr (gydag
ambell fyngalo) mewn gerddi eithaf
sylweddol. Nodwyd mewn cymhariaeth gyda gweddill yr
ardal fe
fyddai'r tai a fwriedir o ddyluniad gwbl estron i'r lleoliad,
gyda tho metel, un-llethr, na fyddai'n gweddu
o gwbl gydag unrhyw dai eraill
yn lleol. Yn ogystal fe
fyddai'r datblygiad allan o gymeriad gyda dwysedd y patrwm datblygu lleol gyda dim ond un rhimyn bychan
o dir 10m2 ar gyfer mwynderau'r trigolion yn y cefn a llecyn parcio
ar y blaen. Pwysleisiwyd nad oedd
y ddarpariaeth parcio ynghlwm â’r datblygiad
yn cwrdd gyda gofynion Canllawiau
Parcio Cymru (2008). (b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y bwriad yn cyd-fynd â’r
ardal leol ac yn cadw at yr
adeilad presennol; ·
Y darperir man parcio pwrpasol ar gyfer bob tŷ; ·
Byddai llai o draffig o gymharu â’r defnydd blaenorol
fel warws; ·
Bod cymdogion yn gefnogol i’r
bwriad ac o’r farn y byddai’n gwella’r safle; ·
Bod y safle o fewn ffin datblygu’r
pentref. (c) Cefnogwyd y cais gan yr
aelod lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol
ganddo:- ·
Bod yr adeilad mewn cyflwr
gwael ac fe fyddai’r bwriad yn welliant; ·
O ran diffyg llefydd parcio,
roedd llecyn parcio ar y briffordd dros y ffordd i’r safle gyda lle ar gyfer 6
car; ·
Bod y safle o fewn ffin datblygu’r
pentref; ·
Bod llythyrau cefnogaeth gan gymdogion lleol yn nodi nad oedd problemau traffig nac ychwaith diffyg
lle parcio. (ch) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion: ·
Bod datblygu’r safle yn
dderbyniol o ran egwyddor ond efallai mai ond lle i un tŷ oedd ar y safle; ·
Nad oedd y dyluniad presennol
yn cyfiawnhau dyluniad tebyg; ·
Bod modd addasu’r dyluniad i
foddhau yr ochr diogelwch ffyrdd, yn debygol byddai’n rhaid newid yr ol-troed; ·
Bod rhaid i’r llecynnau parcio
fod yn benodol i’r safle a ddim ar y stryd. (d) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Nododd yr eilydd o ran cysondeb gyda phenderfyniad
ar gais blaenorol
lle'r oedd y dyluniad yn ymdebygu
i sied y dylid caniatáu’r cais. Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr
na ddylid
eilio cynnig er mwyn cychwyn
trafodaeth fe ddylid ond eilio
pan fo’r aelod o’r farn yna.
Nododd aelod ei fod
yn anodd cynnig neu eilio
cyn i drafodaeth
gychwyn os oedd aelod yn
ansicr. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr
yn unol â’r
rheolau gweithdrefn roedd rhaid gwneud
cynnig a’i eilio cyn cynhelir
trafodaeth, os oedd aelod yn
ansicr ni
ddylai gynnig neu eilio. Yn ystod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C16/1556/18/LL - Ty Gwyn, Waun, Penisarwaun PDF 339 KB Trosi adeiladau presennol yn dair uned wyliau hunan-wasanaeth. AELOD LLEOL: Cynghorydd R Hefin Williams Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Trosi
adeiladau presennol yn dair uned wyliau hunanwasanaeth. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod y cais yn cwrdd â gofynion polisïau C4 a D15 o’r CDUG ac felly yn dderbyniol
mewn egwyddor. Cydnabuwyd ei fod yn anorfod y byddai peth sŵn ac ymyrraeth
yn deillio o'r safle ond, o ystyried bod y safle ar gyrion clwstwr o 21 tŷ
presennol, ni ystyrir y byddai'r ymyrraeth a fyddai’n deillio o dair uned
wyliau yn achosi niwed arwyddocaol ychwanegol i fwynderau trigolion. Nodwyd nad oedd gan y Cyngor Cymuned wrthwynebiad i’r bwriad
ond eu bod yn amlygu eu pryder bod y ffordd at y safle yn gul a gall rhagor o
drafnidiaeth creu problemau. Tynnwyd sylw bod yr Uned Drafnidiaeth yn derbyn,
er byddai'r datblygiad yn debygol o arwain at ychwanegiad mewn lefelau traffig
ar y rhwydwaith ffordd leol, ni fyddai'r cynnydd hwnnw yn gynnydd afresymol nag
yn niweidiol i ddiogelwch y rhwydwaith ffyrdd. Nodwyd y derbyniwyd cryn ohebiaeth gan wrthwynebydd yn
dangos tystiolaeth o ddigwyddiadau llifogydd hanesyddol yn yr ardal gan gynnwys
honiadau nad oedd y system garthffosiaeth leol yn ddigonol i ymdopi ag unrhyw
gynnydd mewn defnydd. Adroddwyd bod Dŵr
Cymru wedi cadarnhau bod capasiti yn y system
garthffos gyhoeddus i gymryd carthffosiaeth o dair uned ychwanegol ar yr amod
nad oedd dŵr wyneb neu ddŵr draenio tir yn llifo i'r system. Tynnwyd
sylw nad oedd gan CNC na Adran Draenio Tir Ymgynghoriaeth
Gwynedd wrthwynebiad i'r datblygiad. Cadarnhawyd na fyddai estyniadau i'r
adeiladau a byddai wyneb yr ardaloedd parcio o lechi mâl rhydd ac felly ni
fyddai cynnydd yn yr arwyneb caled ar y ddaear, o'r herwydd nid fyddai’r
datblygiad yn debygol o waethygu problemau draenio dŵr mewn unrhyw ffordd. Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd. Roedd y datblygiad yn dderbyniol
o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Pryderon o ran diogelwch ffyrdd; ·
Fe fyddai’r bwriad yn effeithio
ar hawliau dynol y trigolion a warchodir gan Erthyglau
2 a 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau
Dynol (ECHR); ·
Bod cais wedi ei wrthod
oddeutu 30 mlynedd yn ôl oherwydd
bod y ffordd yn rhy gul; ·
Ei fod yn gwrthwynebu’r balconi oherwydd y byddai gor-edrych. (c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bwriad y cais oedd defnyddio’r adeiladau ar gyfer
busnes cynaliadwy i alluogi ei
blant ddychwelyd i’r ardal; ·
Eu bod am fanteisio ar y farchnad gwyliau
gwyrdd a darparu llecyn tir bywyd
gwyllt ar y safle; ·
Bod yr Uned Drafnidiaeth o’r farn na
fyddai cynnydd sylweddol o ran traffig; ·
Bod y bwriad yn darparu 8 lle
parcio ar y safle a’i fod
yn barod i greu man pasio
newydd; ·
Y byddai’r
cais yn sicrhau
defnydd economaidd o’r adeiladau fferm. (ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif C16/1571/39/LL - Cyn Banc Natwest, Abersoch PDF 259 KB Newid defnydd o Banc (A2) i Siop (A1) a parlwr hufen ia a chaffi (A3) ar y llawr daear gyda lle eistedd a gweinyddu i’r cefn a fflat hunan gynhaliol (C3) ar y llawr cyntaf ynghyd â chodi estyniad ac addasiadau i’r adeilad. AELOD LLEOL: Cynghorydd R H Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid
defnydd o Fanc (A2) i Siop (A1) a pharlwr hufen ia a chaffi (A3) ar y llawr
daear gyda lle eistedd a gweinyddu i'r cefn a fflat hunan cynhaliol (C3) ar y
llawr cyntaf ynghyd â chodi estyniad ac addasiadau i'r adeilad. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod yr eiddo mewn lleoliad amlwg ar bwys
Stryd Fawr, Abersoch. Nodwyd bod y bwriad yn fodd i sicrhau defnydd priodol o
adeilad segur mewn lleoliad amlwg yn y pentref. Tynnwyd sylw bod yr ymgeisydd wedi datgan ei fodlonrwydd i
dderbyn amod ar unrhyw ganiatâd yn cyfyngu oriau agor a chau'r eiddo i’r oriau
penodol ynghyd ac amod yn atal ehangu'r defnydd parlwr hufen iâ i fwyty llawn
neu unrhyw weithgareddau ehangach o fewn dosbarth defnydd A3. Nodwyd y byddai’n
anodd cyfiawnhau amod ar y caniatâd yn cyfyngu ar oriau agor a defnydd yr eiddo
mewn sefyllfa o’r fath oherwydd bod y safle yn meddiannu lleoliad yng nghanol y
pentref ble saif amrywiaeth o fusnesau lleol fel siop, bwyty, modurdy a
thŷ tafarn. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor hwn), amlygodd bryder trigolion tai cyfagos a gofynnodd a
fyddai’n bosib gosod amod bod y busnes yn cau am oddeutu 10.00pm - 11.00pm. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio ei bod yn anghyfforddus
gosod amod o ran oriau cau o ystyried
nad oedd
defnydd tebyg eiddo eraill yn
yr ardal yn cael ei
reoli. Ychwanegodd y gellir gosod
amod atal defnydd takeaway neu ddefnydd ehangach
o fewn A3. Nododd aelod y dylid gosod amod o’r
fath er mwyn
lleihau’r aflonyddwch ar drigolion cyfagos. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd i ddechrau
gwaith 2. Llechi ar do'r adeilad cefn 3. Gorffeniad cerrig yr estyniad
cefn i gyd
weddu gyda’r prif adeilad 4. Gosod y system echdynnu aer o fewn y simdde bresennol yn unol â
chynlluniau dyddiedig 13 Ionawr 2017 cyn dechrau’r defnydd a ganiateir. 5. Unol â
chynlluniau. 6. Atal
defnydd takeaway neu ddefnydd ehangach o fewn A3. |
|
Cais Rhif C16/1614/99/LL - Bryn Llifon, Ffordd Meirion, Bangor PDF 351 KB Newid defnydd adeilad o gartref nyrsio i lety myfyrwyr gyda 31 ystafell wely a cyfleusterau rheoli. AELOD LLEOL: Cynghorydd Lesley Day Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid
defnydd adeilad o gartref nyrsio i lety myfyrwyr gyda 31 ystafell wely a
chyfleusterau rheoli. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli
mewn ardal defnydd cymysg o Fangor
Uchaf, oddeutu 250m o brif adeilad Prifysgol Bangor gyda Stiwdio Bryn Meirion y
BBC gerllaw a neuaddau preswyl y Brifysgol gyferbyn. Cyfeiriwyd at wrthwynebiad Cyngor Dinas Bangor i’r bwriad oherwydd y
byddai’n gor-ddatblygiad o'r safle, bod cyfleusterau tebyg
eisoes yn y cyffiniau ac fe fyddai’n cynhyrchu rhagor o drafnidiaeth, sŵn
ac ymyrraeth i drigolion. Eglurwyd nad oedd polisi penodol yn y CDUG yn ymdrin gyda datblygiad o’r
math penodol yma ond roedd polisi C4 yn cefnogi cynlluniau i addasu adeiladau
i’w hail-ddefnyddio at ddibenion addas. Nodwyd bod yr adeilad wedi ei ddefnyddio, tan Chwefror 2016, fel cartref
henoed ar gyfer 31 preswylydd ac wrth ystyried bod defnydd o'r fath olygu cryn
symudiadau traffig o safbwynt staff, teuluoedd a chefnogaeth feddygol, gan
gynnwys gweithgarwch gyda'r nos, ni ystyrir y byddai defnydd gan fyfyrwyr yn
arwyddocaol wahanol o safbwynt symudiadau ceir neu oriau ymyrraeth. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod yr
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi asesu’r
Datganiad Ieithyddol ac yn nodi ar
y cyfan, ystyrir bod natur Bangor, o ran maint y boblogaeth, patrwm ieithyddol y dref, yr amrywiaeth o wasanaethau a’r cyfleusterau ar gael yno yn
golygu na ddylai’r datblygiadau gael effaith andwyol
sylweddol ar yr iaith Gymraeg. Roedd y datblygiad yn dderbyniol
o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y cwmni teuluol efo nifer
o lety myfyrwyr ym Mangor ac wedi
ystyried yn fanwl os mai
dyma’r defnydd gorau o’r adeilad; ·
Bod canran isel o’r galw
yn cael ei
ddiwallu o ran llety o’r fath ym
Mangor; ·
Y bwriedir llunio cynllun rheolaeth ar gyfer
y safle; ·
Byddai’r bwriad yn lleihau’r
pwysau o ran troi tai yn dai mewn
aml ddeiliadaeth; ·
Byddai’r bwriad yn diogelu’r
adeilad ac fe fyddai llai o fynd
yn ôl ac ymlaen o ystyried defnydd blaenorol y safle; ·
Bod les mewn bodolaeth o ran llefydd parcio i staff y BBC ar y safle ac nid
oedd bwriad i newid y trefniant
yma. (c) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:- ·
Bod y safle wedi ei leoli mewn
ardal breswyl ac fe fyddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol ar yr ardal; ·
Bod gorddarpariaeth o lety
myfyrwyr yn ward Garth; ·
Pryder o ran gwastraff ac ail-gylchu gyda phroblemau’n bodoli eisoes yn yr ardal a’i bod
wedi cyflwyno Rhybudd o Gynnig i gyfarfod y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth 2017 yng
nghyswllt y mater; · Bod canran sylweddol o deuluoedd Cymraeg iaith gyntaf yn yr ardal ac fe fyddai’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |
|
Cais Rhif C16/1675/11/LL - Coed Menai, Menai Avenue, Bangor PDF 335 KB Newid defnydd tŷ presennol (dosbarth defnydd C3) yn lety gwely a brecwast / gwesty (dosbarth defnydd C1). AELODAU LLEOL: Y Cynghorwyr
June E. Marshall a Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd tŷ presennol (dosbarth defnydd C3) yn llety gwely a brecwast/gwesty
(dosbarth defnydd C1). (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod polisi D14 o’r CDUG yn cymeradwyo
cynigion i addasu adeiladau presennol yn llety
gwyliau gwasanaethol o safon uchel ar
yr amod, yn achos datblygiad
o fewn ffin ddatblygu, bod y datblygiad yn addas o ystyried
y safle, y lleoliad a'r anheddiad dan
sylw. Nodwyd bod y safle o fewn ffin ddatblygu
dinas Bangor ac, er bod Rhodfa Menai
yn anheddol yn bennaf, saif
y safle gerllaw safle'r Ffriddoedd, gyda llawer o gyfleusterau'r
Brifysgol megis neuaddau preswyl a chyfleusterau cymdeithasol a hamdden ac felly roedd cryn weithgarwch yn yr ardal. O ystyried natur y safle a'r ardal o gwmpas credir bod egwyddor y
datblygiad yn cwrdd gyda gofynion y polisi. Cydnabuwyd er y gall fod peth cynnydd yn nifer y
bobl a ddefnyddiai'r adeilad, wrth ystyried natur defnydd gwesty gyda'r prif
weithgarwch am gyfnodau byr o'r dydd yn unig, fe all y tebygolrwydd o ymyrraeth
i drigolion cyfagos leihau o'r math yma o ddefnydd. Nodwyd
yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle
a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a
nodwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Byddai’r bwriad yn cael
effaith negyddol ar ei chartref
gydag effaith ar ei mwynderau
o ran sŵn; ·
Pryder o ran y ddarpariaeth
parcio; ·
Bod y safle mewn ardal breswyl
ac o fewn yr Ardal Gadwraeth ac fe fyddai’r
bwriad yn amharu ar y cymeriad
yma ac felly fe ddylid ei wrthod. (a)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn uchelgais iddi
hi a’i phartner i sefydlu busnes
lletygarwch o safon; ·
Bod diffyg o’r math yma o ddarpariaeth yn yr ardal; ·
Y byddai’r eiddo’n cael ei
wasanaethu ac er nad oeddent yn
byw ar y safle byddai gan
y gwesteion gyswllt ffôn 24 awr gyda
nhw; ·
Y byddai’r bwriad yn cyfrannu
at yr economi leol. (ch) Gwrthwynebwyd y cais gan y Cynghorydd June Marshall, aelod lleol (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:- ·
Y byddai’n cael effaith
negyddol ar yr Ardal Gadwraeth gan golli gwyrddni i wneud lle parcio; ·
Bod y defnydd masnachol yn
groes i’r defnydd preswyl yn yr ardal; ·
Bod y bwriad yn golygu colli
stoc tai parhaol. Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan y Cynghorydd Mair Rowlands, aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod pryder yn lleol o ran
graddfa a natur y datblygiad a’r effaith ar fwynderau’r ardal; ·
Bod y bwriad yn golygu colli
stoc tai parhaol gan greu cynsail a all arwain at grynhoad o ddatblygiadau
tebyg yn yr ardal; ·
Y byddai’n achosi niwed i’r
Ardal Gadwraeth. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.9 |